Tyfu bwyd, hel fy nhamaid, a'r byd o nghwmpas i, 700 troedfedd uwchben lefel y môr.

25.5.17

Mis Mai ar odrau'r mynydd

Mae wedi wyth o'r gloch. Bu'n ddiwrnod heulog, chwilboeth, ac mae'r awyr las di-gwmwl yn parhau, er i'r haul suddo dros orwel garw Craig Nyth y Gigfran hanner awr a mwy yn ôl.

Wrth fy ochr, yn yr ardd gefn, mae un o'r genod yn darllen, yn ôl ei harfer, ac un arall yn strymio alaw newydd ar hen iwcaleili. Mae teulu drws-nesa i'r chwith yn bwyta eu swper a sgwrsio am ddigwyddiadau'r dydd, a'r cymdogion ar y dde yn chwarae ar drampolîn, a chwerthin yn braf. A'r cwbl mewn Cymraeg naturiol a llafar. Rhywbeth yr ydym ni yma yn ucheldir Gwynedd yn ei gymryd yn ganiatáol. Rhywbeth dwi'n mawr obeithio fydd yn par'a am byth... 

Ar dalcen y cwt mae nythiad o gywion titw yn galw'n eiddgar am ddychweliad eu rhieni, a'r gwenoliaid duon yn sgrechian wrth blethu 'mysg ei gilydd ar ras, yn uchel uwch ein pennau. Bob hyn-a-hyn daw cacynen heibio a chreu cynnwrf am ychydig eiliadau, cyn symud yn ei blaen at flodyn arall. Mae'r siff-saff yn galw ei diwn gron yn y wernen, a'r ceiliog mwyalchen yn trydar ei weddi hir nosweithiol.

Ac mae'r awyr yn un lluwch o hadau helyg; peli bychain o wadin pluog gwyn, yn hongian ar yr awel ysgafna', a chyrraedd pob twll a chornel, ymhell o'r cywion gwyddau a'u gollyngodd.


Dyma'r cyfnod euraidd pryd mae hi'n ddigon cynnes i eistedd allan yn yr ardd am ddwyawr hamddenol wedi'r machlud. A mwy weithiau. Dwy neu dair wythnos hyfryd cyn i'r gwybaid mân ddod i'n poeni a'n cosi! Adeg i eistedd 'nôl a mwynhau'r ardd. Ei synau a'i harogleuon. A gwerthfawrogi be' sy'n bwysig mewn bywyd.

Dwi'n caru mis Mai. Dwi' caru 'Stiniog!


No comments:

Post a Comment

Diolch am eich sylwadau