Tua 2 bwys oeddwn yn medru hel mewn awr efo bys-a-bawd dwi'n meddwl.
Efo'r grib: tua 20 munud. Dyfarniad: ia-hw, pam na ddefnyddiais o cyn hyn?
Anfantais y teclyn ydi bod angen ll'nau y dail a'r brigau a'r ffrwythau anaeddfed o'r helfa.
Ond, ti'n medru gwneud hynny yn y gegin, efo Sian James** yn gwmni, ymhell o gyrraedd y gwybed bach!
Pedwar pwys- dim digon i wneud jam a tharten hefyd. Anodd curo tartan dda, ond mae jam yn ymestyn y mwynhad am gyfnod hirach tydi...
Mae Mam yn cadw un cacan blât lus yn y rhewgell tan y Nadolig.
Does dim byd gwell na blas yr haf ynghanol gaeaf. Dyna pam dwi'n derbyn pob gwahoddiad am ginio dydd San Steffan yno bob blwyddyn!
Jam wnes i yn y diwedd, a rhywfaint o stiw ffrwyth i'w gael efo iogwrt a hufen ia. Mmmm..
Mae byw mewn ardal fynyddig yn achosi mwy nag un poen, ond mae cnwd blynyddol y llus -cynnyrch hael ac am ddim gan y fam ddaear- yn lleddfu llawer o'r anawsterau.
* mi wnes i son am y grib hel aeron gynta yn fan hyn flwyddyn yn ol.
**neu CD o'ch dewis chi wrth reswm..er, byddai croeso i Sian James ddod acw am bot o jam unrhyw bryd.
Tybed a allwn i ddefnyddio dy grib (wel, nid dy grib di, wrth reswm) ar gyfer y cwrens duon? Yr unig broblem fyddai colli ffrwythau anaeddfed gan nad ydynt i gyd yn barod 'run pryd.
ReplyDeleteia, mi fyddai'n anfantais bod rhai'n anaeddfed. Ond yn werth trio hel yr olaf o'r ffrwythau bob blwyddyn efallai?
ReplyDeleteDwi weithiau'n torri canghennau cyrins duon i'w pigo yn y ty, gan fod angen tocio'r llwyni beth bynnag.