Tyfu bwyd, hel fy nhamaid, a'r byd o nghwmpas i, 700 troedfedd uwchben lefel y môr.

21.12.23

Rhestr Nadolig

Annwyl Sion Corn, tybed fyddech chi’n ystyried danfon ambell un o’r rhain i mi eleni?

Haul ydi fy nghais gynta’. Yn ôl gwefan Omniglot, mae dros 40 ffordd o ddisgrifio glaw yn Gymraeg, a ‘Glaw Stiniog’ yn un ohonyn nhw. Glaw trwm ydi’r ystyr yn ôl y wefan, a phwy ydw’i i daeru efo’r ‘online encyclopedia of writing systems and languages’?  Fel un o drigolion y Blaenau mae’n anodd dadlau efo hynny a’r wythnos hon wedi bod yn sobor o wlyb!

Byddai diwrnod neu ddau o haul gaeafol yn dderbyniol iawn, er mwyn cael mynd i grwydro’r ffriddoedd, a llosgi ychydig o galorïau cyn dechrau’r gor-fwyta nadoligaidd. 

 

 

Tydi partridge in a pear tree ddim yn apelio ata’ i!  

Heblaw efallai ym Môn, mae’n anhebygol y gwelwch betrisen wyllt yn y gogledd; mae’n aderyn sy’n llawer mwy cyffredin fel un a ollyngir gan dirfeddianwyr, efo petris coesgoch a ffesantod, ar gyfer eu saethu. 

A’r goeden gellyg? Tydi’r un sydd yn yr ardd acw’n ddim byd ond sgerbwd noeth, di-ffrwyth a di-ddail yn y gaeaf, felly diolch, ond dim diolch!


 

O ran ail ddiwrnod y Nadolig, mi fyddwn wrth fy modd yn cael gweld dau durtur, y two turtle doves sydd yn y gân. Ond hyd yn oed pan oedd y rheini’n fwy cyffredin, yma i fagu yn yr haf oedden nhw, ac wedi hen adael am lefydd cynhesach cyn y nadolig, felly yn yr achos yma, dwi’n hapus i gymryd IOU tan yr haf! Yn ôl Cymdeithas Adaryddol Cymru, aderyn prin fu’r durtur yng Nghymru erioed, heb unrhyw gofnodion o nythu ers 2011 (2009 yn y gogledd, yn sir Ddinbych). Bu gostyngiad o 99% -do mi welsoch hwnna’n gywir, naw-deg-naw y cant, yn eu niferoedd ar ynysoedd Prydain ers 1960 ac mae’r IUCN -yr Undeb Rhyngwladol dros Gadwraeth Natur- yn rhestru’r durtur fel aderyn dan fygythiad trwy’r byd. Mi fyddai gweld adferiad yn eu niferoedd yn anrheg werth chweil.

Does gen’ i ddim lle i gadw’r three French hens sydd yn y gân, ond mi fyddai mwy o ieir bach yr haf, glöynod byw, yn werth eu gweld yma yn y gwanwyn a’r haf. Mae rhai yn awgrymu fod yr ieir Ffrengig yn y gân yn cynrychioli ffydd, gobaith, cariad, felly ia, mi gymrai hynny hefyd. Byddai’n braf cael ffydd a gobaith fod arweinwyr y byd yn ddidwyll yn eu hymrwymiad i gytundeb diweddaraf COP28...

O ran y four calling birds, mae teulu o ditws cynffon hir yn dod heibio’r ardd acw yn achlysurol, ac mae eu parablu prysur wrth chwilio am bryfaid o gangen i gangen yn llenwi’r aer ac yn llonni calon. Hir oes i’r pompoms bach hyfryd pinc a llwyd. 

Os ga’i fod yn ddigywilydd am eiliad Santa, tydw i heb gael cyfle i fynd i Lysfaen hyd yma i edrych am aderyn harddaf y gaeaf, cynffon sidan (waxwing). Mae mwy na’r arfer ohonyn nhw wedi mudo yma o Sgandinafia a Rwsia eleni: tybed fedri di yrru rhai ohonyn nhw i lawr ffordd hyn am ddiwrnod neu ddau i mi gael cipolwg ar eu plu trawiadol? Yn y cyfamser, dwi’n gaddo plannu mwy o goed criafol ac aeron eraill ar gyfer y gaeafau i ddod gan obeithio am fewnlifiadau mawr eto, fel yr un dros aeaf 1989/90 welodd yr adar ymhob un o hen siroedd Cymru heblaw tair, gan gynnwys ia, Meirionnydd!

Dwi’n weddol hawdd fy mhlesio, felly byddai’r uchod yn ddigon i gadw’r ba hymbyg rhag dod i’r wyneb. Efallai y cawn drafod y flwyddyn nesa sut mae cael chwe gwydd i ddodwy ganol gaeaf, ac mi awn ryw dro arall i weld saith alarch yn nofio. A dweud y gwir, efallai yr a’i yfory -os bydd gosteg yn y glaw- i weld yr haid o elyrch y gogledd (whooper swans) sy’n pori caeau Pont Croesor bob gaeaf.

Ond am y 5 modrwy, y morwynion sy’n godro, a’r dawnswyr a’r neidwyr, a’r drymwyr aballu: mi gewch chi rannu’r rheini efo plant da eraill Cymru.

Diolch Sion Corn. Diwrnod byrra’r flwyddyn hapus i chi a phawb arall gyda llaw. Mae’r 21ain o Ragfyr yn drobwynt pwysig yn y gaeaf; ac mi gawn edrych ymlaen at ychydig funudau yn fwy o olau dydd bob wythnos nes y bydd hi’n wanwyn eto!
- - - - - - - - - - - - - 

Ymddangosodd yn wreiddiol* yng ngholofn Byd Natur Yr Herald Cymraeg (Daily Post), 21ain Rhagfyr 2023.

*Dan y bennawd "Rhestr i Sion Corn".

LLUN- 12 Diwrnod gan Xavier Romero-Frias, oddi ar Comin Wici dan drwydded by-sa 3.0


30.11.23

Apus Dyrfa

Tua diwedd Gorffennaf eleni, fel can Gorffennaf o’r blaen, mentrodd cyw gwennol ddu (swift, Apus apus) i olau dydd, a gollwng ei hun o’i nyth uchel, dan do hen adeilad yn ‘Stiniog, ac ymestyn ei adenydd am y tro cyntaf i ymuno efo’i deulu uwchben y dref. Mae’r cyw hynnw dal yn yr awyr rwan, rywle yng Ngweriniaeth y Congo. Tydi o heb lanio o gwbl! Mae o’n bwyta, yfed a chysgu yn yr awyr, a chredwch neu beidio, mi fydd yn haf 2025 cyn iddo gyffwrdd â’r ddaear eto.

Mi fydd yn dychwelyd i Gymru ganol Mehefin -tua mis ar ôl ei rieni- ar ôl bod yn haf hemisffer y de trwy’n misoedd oer ni, ond bydd blwyddyn gron arall wedyn cyn glanio i fagu cywion ei hun.

Llun Ben Stammers

Er bod wythnosau ers i’r wenoliaid duon adael ar eu taith hir tua chanol Affrica, daeth llond ystafell o bobl i Blas Tan-y-bwlch wythnos diwethaf i glywed y diweddaraf am yr ymdrechion i warchod yr adar anhygoel yma. Clywsom gan Ben Stammers o Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru bod yr arolwg adar blynyddol ym Mhrydain yn dangos gostyngiad dychrynllyd yn eu niferoedd. Yng Nghymru bu dirywiad syfrdanol o 75% rhwng 1995 a 2021, ac maen nhw bellach ar y rhestr goch o adar dan fygythiad. Meddyliwch: collwyd tri chwarter y gwenoliaid duon mewn chwarter canrif!

Llun YGNC

Er yn weddol anodd eu cyfri’n fanwl, wrth wibio heibio ar frys a phlethu ymysg ei gilydd blith draphlith, mae’r niferoedd a welaf o’n gardd wedi gostwng o flwyddyn i flwyddyn. Bob mis Awst, mae diwrnod yn dod pan dwi’n sylweddoli -mwya’ sydyn- nad ydw i wedi eu gweld na’u clywed ers tro a dwi’n hiraethu’n syth am eu sgrechian byrlymus wrth hela pryfaid fel haid o grymanau neu bwmerangs tywyll yn hollti trwy’r awyr i bob cyfeiriad ar ddiwrnod braf.  Mae’n ddychrynllyd dychmygu y gallwn weld hafau yn y dyfodol heb eu tyrfa’n cadw twrw llon uwchben.

O edrych ar eu llun, mae’n amlwg fod pob gewyn a phluen wedi esblygu’n berffaith i fyw yn y gwynt, a’u traed cwta o’r golwg yn y plu tra’n hedfan, dim ond mewn defnydd wrth lanio yng ngheg y nyth. Ystyr yr enw gwyddonol Apus mae’n debyg ydi ‘heb draed’!

Difyr oedd clywed Ben yn dweud wrth y gynulleidfa:

“Yn wahanol i’r arfer, tydi enw Cymraeg yr aderyn yma ddim yn well na’r enw Saesneg, oherwydd tydi o ddim yn wennol, a tydi o ddim yn ddu ‘chwaith!”.
Er bod ganddo gynffon fforchog sy’n nodweddiadol o wenoliaid, mae’n perthyn yn agosach at y troellwr mawr (nightjar) ac hyd yn oed deulu’r sïednod (hummingbirds). Brown tywyll ydi lliw’r plu, ac mae ganddyn nhw ên goleuach hefyd.

Llun Ben Stammers

Tybir fod llawer peth yn cyfrannu at eu trafferthion; newid ym mhatrymau tywydd a’r tymhorau oherwydd newid hinsawdd, neu golli cynefin yn Affrica er enghraifft. Roedd colli safleoedd nythu wrth i bobl adnewyddu tai yn bryder mawr ar un adeg, ond mae blychau nythu arbennig yn hawdd eu cael a chymharol hawdd eu gosod erbyn hyn -rhai yn allanol ar hen adeiladau, ac eraill i’w ymgorffori o fewn waliau adeiladau newydd- ac yn profi’n llwyddiant mawr mewn sawl ardal. Mae ymchwil yn dangos erbyn hyn fod diffyg bwyd yn bwysicach na diffyg safleoedd nythu, ac elfen allweddol ydi’r gostyngiad torcalonnus sydd wedi bod yn yr un cyfnod mewn niferoedd pryfetach o bob math- maes arall efo ystadegau brawychus. 

Hawdd ydi digalonni, ond be fedrwn ni wneud i helpu’r wennol ddu? Wel, os nad oes gennych wal uchel, addas, be am noddi blwch i’w osod ar adeilad cyhoeddus -mae cannoedd wedi eu gosod ar draws y gogledd eisoes. Gofalwch nad oes nythod cyn llenwi tyllau mewn waliau a dan eich bondo, neu holwch am gyngor. 

Un weithred hawdd iawn, ydi dechrau wrth ein traed a garddio heb bla-laddwyr a meithrin planhigion sydd o fudd i bryfed amrywiol, ac annog eich cyngor i wneud yr un peth yn eich parc lleol ac ar leiniau glaswellt eich cymuned a’ch priffyrdd. Pan ddaw’r wenoliad duon yn ôl ym mis Mai, gallwn i gyd fwynhau eu cri uwchben eto ac am flynyddoedd i ddod gobeithio, tra’n ymhyfrydu mewn gardd, neu barc llawn blodau a gwenyn a glöynnod.

- - - - - - - - - - - 

Gyda diolch i Ben Stammers a'r YGNC am gael defnyddio eu lluniau

Ymddangosodd yn wreiddiol* yng ngholofn Byd Natur Yr Herald Cymraeg (Daily Post), 30 Tachwedd 2023


*O dan y bennawd siomedig a di-ddychymyg 'Gwenoliaid Duon'..!

9.11.23

Digon i’w wneud

Castanwydden bêr -sweet chestnut- yn Wrecsam ydi coeden y flwyddyn yng ngwledydd Prydain eleni! Bydd y goeden 480 oed rwan yn ‘cystadlu’ yn erbyn coed eraill trwy Ewrop. Dyna reswm da dros fynd am dro i Barc Acton y penwythnos hwn. Cyfle i biciad i lecyn lleol i hel y cnau blasus i’w rhostio ar y tân dros y gaeaf hefyd!

Os ydych yn chwilio am weithgareddau amgylcheddol eraill, mae llawer iawn ar y gweill: mae rhai o’r isod ar gyfer aelodau, ond bydd croeso i chi fynd i gael blas cyn penderfynu ymaelodi wedyn os hoffech.

Mae Cymdeithas Edward Llwyd yn cynnal dwy daith gerdded yn y gogledd bob wythnos. Cymdeithas “i naturiaethwyr Cymru” ydi hi, “cyfle i werthfawrogi a dysgu am y byd o’u cwmpas drwy gyfrwng yr iaith Gymraeg". Yr wythnos hon (Sadwrn 11eg), mae taith y gorllewin yn dilyn rhan o Lwybr y Pererin, o Dalysarn i Glynnog. Cychwyn am 10.30 o faes parcio Talysarn, er mwyn mwynhau 'Hanes a natur... ar ffyrdd a llwybrau cefn gwlad, cyffredinol hawdd, ambell allt, gwlyb mewn mannau. 7-8 milltir’. Yn y dwyrain mae taith ‘ar ochr ogleddol pentre Diserth, yr hen linell rheilffordd a’r Graig Fawr. Tua 5m’. Cyfarfod wrth y clwb bowlio. Ewch i wefan y gymdeithas am fwy o fanylion a rhaglen Tachwedd.

Os ydych yn teimlo’n fwy anturus, mae gan Glwb Mynydda Cymru -sy’n "hyrwyddo mynydda drwy gyfrwng y Gymraeg" raglen o deithiau hefyd. Y Sadwrn yma mae taith sy’n cychwyn trwy ddal bws o Fetws y Coed am 8:05 i Ben y Gwryd, a cherdded ‘nôl dros gopa Moel Siabod. Disgrifir y llwybr fel un ‘eithaf garw efo peth sgramblo hawdd dros gerrig mawr. ...ond cerdded hawdd ar y cyfan. Tua 12.5 milltir, 7-8 awr’. Eto, cewch fanylion ar eu gwefan.

Un ffordd o gyfrannu at wella’r amgylchedd ydi gwneud gwaith gwirfoddol, ac mae digonedd o gyfleoedd ar gael. Er enghraifft, mae Cymdeithas Eryri yn cynnal diwrnod o glirio eithin ddydd Gwener y 10fed (10-3) ar safle siambr gladdu hynafol yng Nghwm Anafon yn y Carneddau, a chyflwyniad i’r hanes gan archeolegydd. Yn fy ngholofn dair wythnos yn ôl soniais am y frân goesgoch, ac mae cyfle i chi ymuno efo swyddog o’r Gymdeithas Warchod Adar rhwng 3 a 5 bnawn Mawrth (14eg) ym Mwlch Sychnant i’w cyfri a dysgu mwy amdanynt. Ewch i wefan Cymdeithas Eryri er mwyn cadw lle, a gweld gweddill eu rhaglen wirfoddoli, teithiau tywys, a sgyrsiau amrywiol.

Efallai mae Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru sydd brysuraf yr wythnos yma, gan gychwyn efo sgwrs ar-lein nos Iau, am blanhigion gardd sydd â’r potensial i fod yn ymledol; Taith dywys dwy raeadr yn Abergwyngregyn ddydd Gwener (£2), rhwng 10 a 2 er mwyn ‘darganfod adar, aeron, hanes lleol a golygfeydd anhygoel’. Mae’r Ymddiriedolaeth yn dathlu ei phenblwydd yn 60 yn eu cyfarfod blynyddol ddydd Sadwrn, ac mae’r ddarlith ‘Siarc! Siwrnai i Gymru Tanddwr’ yn llawn gyda’r nos. Ewch i’w gwefan am raglen lawn o weithgareddau.

Mae Cynhadledd Flynyddol Cofnod, Gwasanaeth Gwybodaeth Amgylcheddol Gogledd Cymru, hefyd yn llawn ar y 18fed, ond maen nhw fel arfer yn rhoi recordiadau o’r siaradwyr gwadd ar eu sianel YouTube wedyn. Eleni, gallwn edrych ymlaen at glywed am ‘heriau gwarchod planhigion gwyllt’; ‘Dyfod y gylfinir yng Nghymru’; a’r diweddaraf ar afancod yng Nghymru, a llawer mwy!

Os ydi’r tywydd yn ddiflas galwch yn Storiel Bangor, lle mae arddangosfa ‘Moroedd Byw’ yn tynnu sylw at ryfeddodau ein moroedd, a swyddog ar gael ambell ddiwrnod i sgwrsio am waith cadwraeth môr yng Nghymru. Er fod Yr Ysgwrn wedi cau tan y gwanwyn, gall grwpiau drefnu i ymweld ag arddangosfa ‘Geiriau Diflanedig’ yno, sy’n ddathliad o’r cysylltiad cyfoethog rhwng byd natur ac iaith.

Digon o weithgareddau difyr ar y gweill felly, a dwi’n sicr bod mwy ar gael hefyd. Mwynhewch!

- - - - - - - - - - - 

Ymddangosodd yn wreiddiol yng ngholofn Byd Natur Yr Herald Cymraeg (Daily Post), 9 Tachwedd 2023


19.10.23

Brain Arthur a Pharacîts

Brân goesgoch. Argraffiad cyfyngedig* gan Lleucu Gwenllian
Yn y niwl, rywle yn y pellter, mae Ynys Enlli. Dwi wedi dod efo’r teulu ar bererindod i weld yr ynys a chrwydro Uwchmynydd; ond ychydig iawn sydd i’w weld wrth inni gyrraedd. ‘Does yna fawr o wahaniaeth yn lliwiau’r môr a’r awyr, a’r un llygedyn o liw ydi Maen Melyn Llŷn; carreg sy’n edrych o un ongl fel llaw enfawr yn pwyntio dros y dŵr at ynys y seintiau. Nid y garreg ei hun sy’n felyn, ond gorchudd o gen oren -neu i roi enw arall iddo, cen baw aderyn... Dyma’r cen sy’n gyffredin ar doeau tai lle mae gwylanod yn clwydo ac yn gwrteithio’r teils. 

 

Mae Comisiwn Henebion Cymru yn cofnodi enw ‘Maen Melyn Lleyn’ yn 1898 ond mae’n siwr fod yr enw’n hŷn na hynny hefyd. Dychmygaf fod adar wedi clwydo yma ers canrifoedd, yn dyst i filoedd o bererinion oedd yn mynd gam ymhellach na ni heddiw, dros y Swnt i Enlli. Hawdd ydi meddwl ei fod yn faen hir a osodwyd yno gan ein hynafiaid yn niwloedd amser i gyfeirio teithwyr at Enlli, ac yn ôl yn ddiogel i’r tir mawr, ond mae Ymddiriedolaeth Archeoleg Gwynedd yn mynnu mae carreg naturiol ydi hi. Un peth sy’n sicr ydi fod y tirlun yma, o Drwyn Maen Melyn i ben y Mynydd Mawr ac Anelog yn frith o olion hanesyddol.

Ond yr hyn sy’n dwyn ein sylw wrth anelu’n ôl at y car ydi haid o 20 i 30 o frain coesgoch yn plethu ymysg eu gilydd, yn chwarae ar y gwynt sy’n codi o’r môr dros y clogwyni islaw, ac ambell un yn mewian wrth fynd drosodd. Welais i erioed cymaint efo’u gilydd cyn hyn. 

Fesul dau a phedwar maen nhw’n glanio fan hyn fan draw er mwyn gwthio’u pigau cam coch i’r pridd i hela pryfetach; mae’r glaswellt cwta, wedi ei bori gan ddefaid a chwningod, yn gynefin perffaith iddyn nhw. Yn ôl cynllun rheoli ardal cadwraeth arbennig Glannau Aberdaron ac Ynys Enlli, mae tua 14 pâr yn nythu ar yr arfordir. Daw mwy yma i dreulio’r gaeaf, rhai ohonyn nhw efallai wedi nythu yn y chwareli llechi ‘nôl adra, er bod hynny’n brinach rwan na’r gorffennol. Yn ôl campwaith Cymdeithas Adaryddol Cymru, ‘The Birds of Wales, Adar Cymru’ (2021) tydi brain coesgoch ddim dan fygythiad yn rhyngwladol, ond yn fregus (‘vulnerable’) yng ngwledydd Prydain. Dyfarnwyd statws ‘amber’ iddyn yng Nghymru ac mae llawer o ymdrech wedi mynd i’w monitro yn y gogledd. Yn ôl y llyfr mae heidiau o 90 i’w gweld weithiau yn ardal Uwchmynydd. 

Cyn gadael mae’r niwl yn codi am ennyd i ddatgelu ynys hudol Enlli ac mae’r haul yn disgleirio ar ddyfroedd du y môr. Mi ddown ar bererindod eto yn sicr!

 

Ddechrau’r mis, mi fues i mewn ardal wahanol iawn: Lerpwl, ac er mwyn dianc o brysurdeb y ddinas, mi es i am dro i barc Sefton am y pnawn. Mae lôn goed drawiadol yn eich arwain i ganol y parc, efo rhes o goed derw aeddfed ar y dde, a rhes o goed planwydd mawr ar y chwith, a changhennau’r ddwy res yn cyfarfod uwchben. Dau greadur estron oedd fwyaf amlwg yno: wiwerod llwyd, a’r parot lliwgar -a swnllyd- hwnnw, y paracît torchog, neu’r ring-necked parakeet. Mae effaith y wiwerod yn hysbys i bawb, ond mae’r paracît yn gymharol ddiarth tu allan i Lundain. Dywed yr RSPB bod nifer fechan ohonyn nhw yn magu yn Lerpwl ers y saithdegau ond bod poblogaeth fwy yno yn ddiweddar. Yn wreiddiol o India, mae miloedd ohonyn nhw yn Llundain, ond gan fod ymchwil wedi dangos nad ydyn nhw’n lledaenu’n bell o flwyddyn i flwyddyn, ymddengys fod adar Lerpwl wedi eu rhyddhau yn annibynol ‘i’r gwyllt’ ac heb gyrraedd dan eu stêm eu hunain.

Dywed llyfr ‘Birds of Wales’ fod adar unigol wedi eu cofnodi ym mhob un o siroedd Cymru erbyn hyn hefyd, ac er bod ychydig wedi magu dros y blynyddoedd, nad oedd tystiolaeth (2021) fod y boblogaeth yn medru cynnal ei hun. Er yn hardd iawn yn eu plu gwyrdd, gawn ni weld os fydd hwn yn rywogaeth arall fydd yn cystadlu efo adar cynhenid yn y dyfodol.


Cen oren:              common orange lichen (teulu Xanthoria)
brân goesgoch:     red-billed chough (Pyrrhocorax pyrrhocorax); brân Arthur, brân Cernyw yn enwau eraill.

- - - - - - - - 

Ymddangosodd yn wreiddiol yng ngholofn Byd Natur Yr Herald Cymraeg (Daily Post), 19 Hydref 2023 dan y bennawd'Brain a pharacîts'.


* "24 print wedi eu hargraffu â llaw ar bapur handmade Zerkall, mewn tair haen efo inc speedball a schmincke". Creuwyd ar gyfer codi arian at Banc Bwyd Blaenau Ffestiniog yn 2021. Mwy o waith Lleucu ar instagram: @studio.lleucu

 

28.9.23

Araf Deg Mae Mynd Ymhell

Bob tro mae unrhyw un yn fy holi am lwybrau ar warchodfa neu ar ochr mynydd, byddaf yn awgrymu mae’r ffordd orau i werthfawrogi unrhyw le ydi ‘yn araf’. Clywais y cwestiwn “faint o amser gymerith hi i gyrraedd y copa?” filoedd o weithiau. Rhywbeth fel hyn maen nhw’n gael yn ôl: 

Wel, mi fedri di roi dy ben i lawr a rhuthro yno mewn dwyawr os taw cyrraedd yno sy’n bwysig i ti... Ar y llaw arall, galli di fynd yn bwyllog, dow-dow a mwynhau’r olygfa, rhyfeddu at ddaeareg y lle, gwrando’r adar yn canu, a gwerthfawrogi’r amrywiaeth o flodau gwyllt o dy gwmpas.

Peidiwch a rhuthro am y copa!

Ar ddyddiau hir, araf, heb frys yn y byd, dwi wedi mwynhau uchafbwyntiau fydd yn aros efo fi am byth: fel gwylio iâr a cheiliog tinwen y garn yn erlid carlwm yn swnllyd dro ar ôl tro, rhwng meini sgri lle’r oedden nhw wedi nythu, a llwyddo (dros dro o leiaf) i warchod yr wyau neu’r cywion cuddiedig. Rydw i wedi bod yn ddigon ffodus i weld ffwlbart yn cario’i chnafon ifanc fesul un gerfydd sgrepan eu gwar i loches newydd, a chael y wefr o wylio ceiliog boda tinwen yn troi a throelli dan awyr las mewn dawns garwriaethol, yn denu iâr i ymuno efo fo o’r grug trwchus, a throsglwyddo bwyd iddi yn yr awyr. 

Anghofia’i fyth ychwaith sefyll ar Drwyn Maen Melyn yn synfyfyrio am Ynys Enlli (ddim yn bell o lun Angharad Tomos yn Yr Herald wythnos d’wytha) a chael andros o fraw wrth i golomennod ddod o du cefn i mi yn ddirybudd a’r gwynt dan eu hadennydd yn ffrwydro heibio’n swnllyd i darfu ar yr hedd. Eiliad wedyn- hebog tramor yn eu dilyn ar wib gan gymryd llwybr isel o nghwmpas i, a chodi mwya’ sydyn i daro colomen yn ei brest efo clep dwfn. Cauodd ei grafangau ar ei ysglyfaeth a disgyn i’r ddaear gerllaw ac mi sefais fel delw yn gwylio’r ddefod o bluo’r gloman druan.

Sŵn sy’n denu sylw weithiau wrth ymlwybro’n araf a distaw. Tra’n crwydro llwyfandir gogledd y Rhinogydd ryw dro, clywais sŵn crafu yn y grug ar lan pwll corsiog: gwas neidr glas oedd yn gwasgu ei hun allan o hollt yn hen groen ei larfa. Ond cyn i’w adenydd ymestyn, gorfod ceisio dianc yn drwsgl oddi wrth haid o forgrug oedd wedi dringo ar ei hyd ac yn benderfynol o’i ddatgymalu a’i gario’n ôl i’w nyth. Wrth bendroni a ddyliwn ymyrryd neu beidio, sylwi fy mod ynghanol deoriad mawr o weision neidr! Cannoedd o larfau mursen werdd wedi dringo bron pob brwynen allan o’r dŵr, a phob cam arall o’r metamorffosis gwyrthiol yn y golwg yno hefyd. Plisgyn gwag degau o larfau cynharach wedi glynnu ar yr hesg, y pryfaid ifanc wrthi’n deor ac eraill yn fregus newydd-anedig. Yn goron ar y cwbl, dwsinau o fursennod gloyw hardd yn hedfan blith-draphlith o nghwmpas, yn barod i ganfod cymar ac ail-gychwyn y cylch rhyfeddol. Pnawn cofiadwy iawn, ac yno fues i’n hir; wnes i ddim cyrraedd pendraw gwreiddiol y daith y diwrnod hwnnw! 

Dro arall, yng Nghwm Cau ar lethrau Cadair Idris, clywed swn gwichian o ardal redynnog a mynd ar fy mhedwar i ganfod nifer o chwilod oren-a-du trawiadol yn brysur dyllu twll yn y pridd o amgylch corff llŷg. Dyma’r chwilen gladdu -saxton beetle- creadur sy’n medru arogli llygod ac adar meirwon, wedyn yn eu claddu ac yn dodwy wyau ar y celanedd, fydd yn fwyd i’w larfâu nhw. Roedd y chwilod yn berwi efo pryfed gwiddon bach ar eu cefnau, ond er gwylio’r claddu yn hir, wyddwn i ddim hyd heddiw be’ oedd yn gwichian!

Ia, yn araf deg mae mynd ymhell. Araf bach mae dal iâr hefyd medden nhw. A gweld ceiliog. Mwynhewch y crwydro hamddenol.

Sêr y lamp gwyfynnod. Chwilen gladdu; pryf sgorpion; cacynen barasitig; tarianbryf pigog.

Mi addewais adrodd ‘nôl ar fy ail gynnig ar osod y lamp gwyfynnod ddechrau’r mis: Un o’r chwilod claddu oedd yr uchafbwynt y bore hwnnw, a dyna ysgogodd yr atgofion uchod. 

tinwen y garn      wheatear
carlwm     
stoat
ffwlbart      polecat
boda tinwen      hen harrier
hebog tramor      peregrine falcon
gwas neidr glas      common hawker dragonfly
mursen werdd      emerald damselfy
chwilen gladdu      sexton beetle

- - - - - - - - - - -

Ymddangosodd yn wreiddiol yng ngholofn Byd Natur Yr Herald Cymraeg (Daily Post)28ain Medi 2023.

'Trysori arafwch' roddwyd fel pennawd gan y golygydd.

 

7.9.23

Dal gwyfynod

Tri-deg mlynedd yn ôl ‘roeddwn yn beiriannydd yn Atomfa Trawsfynydd, yn gwylio’r cloc a chyfri’r oriau ar shifftiau nos hir. Erbyn hynny, roedd y ddau adweithydd wedi eu diffodd a’r prysurdeb arferol wedi gostegu, y gorchwylion dyddiol yn llai beichus ac o’r herwydd roedd amser yn llusgo’n arw rhwng machlud a chodiad haul! Un o’r pethau fyddwn yn wneud rhag diflasu’n llwyr ar adegau felly fyddai treulio ambell egwyl yn crwydro’r adeiladau ac agor ffenestri. Doedd pwerdai ddim yn rhoi fawr o ystyriaeth i arbed trydan a diffodd goleuadau ar ddechrau’r nawdegau, felly roedd y lle yn oleuadau llachar bedair awr ar hugain y dydd. 

O adael ambell ffenest yn gilagored -mewn lleoliadau penodol- ar ddechrau shifft, gallwn wedyn grwydro eto fel oedd y dydd yn gwawrio, yn ôl i’r llefydd hynny i weld pa wyfynod (moths) oedd wedi mentro i mewn i glwydo. 

Gwyfynod fel yr emrallt mawr (large emerald), yn lliw gwyrdd golau hyfryd, a rhes o doeau-bach goleuach ar draws yr adain fel pwythau sidan i’w dal at ei gilydd; y gem pres gloyw (burnished brass) a’i adenydd yn rhesi euraidd neu’n wyrdd metalig, yn dibynnu ar ongl y goleuni arnyn nhw. Neu’r gwyfyn llenni crychlyd (angle shades) a’i siap unigryw a dau driongl haenog, lliw khaki a phinc budr ar ganol y blaen adenydd yn creu croes amlwg iawn pan mae’n gorffwys. 

Siom oedd yn fy nisgwyl yn aml wrth gymowta fel hyn, a dim ond ambell i wyfyn brown di-sylw wedi dod i’r fei, ond yn achlysurol roedd yr helfa’n cynnwys rhai trawiadol iawn, fel y blaen brigyn (buff tip) -ei enw Cymraeg yn disgrifio sut mae o’n dynwared yn gelfydd iawn cangen wedi torri er mwyn osgoi cael ei fwyta, neu’r ermin gwyn (white ermine) fel aelod o lys y tywysogion, yn torri cyt yn ei glogyn ffwr claer-wyn.  Creaduriaid dirgel ag enwau gwych a ysgogodd awydd ynof fi i ddeall mwy am fywyd gwyllt fy mro.

Pan gauodd yr atomfa mi ges i gyfle i newid cyfeiriad a dilyn fy niddordeb mewn byd natur a gyrfa newydd yn y maes hwnnw, a chael defnyddio offer pwrpasol fel lampau gwyfyn i’w denu at oleuadau cryf neu uwch-fioled, a pheromonau i ddenu gwyfynod sy’n hedfan liw dydd. O gymharu a ffenestri, mae cael moth-trap, fel y’i gelwir, fel cael dyrchafiad i chwarae mewn cynghrair uwch, a llwyth o wyfynod yn cael eu dennu i un lle, a’u dal yno tan y bore. 

Gwalch-wyfyn heboglys a'i lyndys; y lamp yn yr ardd; ac un o'r plant yn helpu cofnodi

Ac am amrywiaeth gwych! Oes, mae dal angen palu trwy ddwsinau o bethau-bach-brown weithiau, pob un yn edrych fel ei gilydd, ond mae’n werth yr ymdrech er mwyn canfod y divas lliwgar yn eu mysg. Gwalch-wyfyn helyglys (elephant hawkmoth) er enghraifft, sy’n llawn mor brydferth ag unrhyw löyn byw, ei liwiau’n fy atgoffa o goesyn rhiwbob -rhyw frown/wyrdd a phinc bendigedig. Mae lindysyn hwn yn edrych yn hynod hefyd, yn drwch bawd ar ei anterth, pigyn dychrynllyd yr olwg, a llygaid ffug i roi braw i adar! On’d ydi Natur yn wych!

Er fod lamp gwyfynod da iawn acw gen’ i (cynllun Robinson: bwced mawr crwn efo golau cryf mewn twmffat ar ei ben) tydw i ddim yn ei ddefnyddio hanner digon. Roedd yn bleser rheolaidd pan oedd y plant yn ifanc a llawn brwdfrydedd. Pawb yn ysu i godi’r ceuad yn y bore a methu’n glir ag aros i weld pa drysorau oedd wedi eu dennu iddo dros nos; fel yr hir-ddisgwyl cynhyrfus, cyffrous cyn agor parseli ar fore’r nadolig! Hwyl wedyn wrth ryddhau bob un yn ofalus mewn llwyn, neu adael iddyn nhw hedfan o flaen bys i ganfod lloches eu hunain am y diwrnod.

Unwaith yn unig eleni dwi wedi ei osod yn yr ardd acw -y tywydd anwadal sy’n cael y bai yr haf hwn- ac ychydig iawn o uchafbwyntiau gafwyd. Braidd yn hwyr yn y tymor ydi hi rwan, er inni gael nosweithiau braf a chynnes o’r diwedd, ond mae’r lleuad dal yn rhy olau ar hyn o bryd. Efallai y rho’i gynnig arni at ddiwedd yr wythnos, ac adrodd ‘nôl y tro nesa’.

- - - - - - - - - - -

Ymddangosodd yn wreiddiol yng ngholofn Byd Natur Yr Herald Cymraeg (Daily Post)7fed Medi 2023

17.8.23

Gwyddor y bobol

Aeth hi’n ben set arna’i eto eleni efo’r arolwg glöynnod byw -y ‘Big Butterfly Count’ blynyddol, sydd dan ofal cymdeithas Butterfly Conservation; gawsoch chi gyfle i gymryd rhan? Dyma mae’n debyg yr arolwg fwyaf yn y byd o ieir bach yr haf, ac yn ffordd ymarferol a hawdd i unrhyw un gyfrannu at ymchwil i hynt a helynt y pryfaid hardd yma. 

Citizen science: hwnna ydi o! ‘Gwyddor y bobl’ efallai yn Gymraeg..?

Yn arwynebol, mae’n hawdd meddwl am haf braf 2022 fel blwyddyn dda i greaduriaid sy’n ddibynol ar yr haul, ond mewn gwirionedd roedd y sychdwr wedi golygu bod planhigion wedi dioddef yn arw mewn nifer o ardaloedd. Planhigion sy’n fwyd i lindys ac yn ffynhonell neithdar i löynnod. Mae astudiaethau wedi dangos fod y blynyddoedd a ddilynodd hafau poeth 1976 a 1995 wedi bod yn gyfnodau tlawd o ran glöynnod byw. Dyna sy’n gwneud arolwg eleni yn arbennig o werthfawr, ac roedd y gymdeithas, gyda chymorth rhai o selebs byd natur fel Chris Packham, a rhaglenni teledu fel Countryfile wedi bod yn annog cymaint â phosib ohonom i dreulio chwarter awr yn yr haul yn cyfri’ a chofnodi glöynnod byw rhwng canol Gorffennaf a’r 6ed o Awst. 

Mi fum ar wyliau yn ystod hanner cynta’r cyfnod yma (yn mwynhau gwres a glöynnod gwlad arall fel soniais yn fy erthygl ddwytha’) ac yn hytrach na manteisio ar y cyfleoedd cyntaf i gymryd rhan ar ôl cyrraedd adra, mi adewais i hi tan y dyddiau olaf. Roedd yn rhaid croesi bysedd am ychydig o wres a haul ar adeg cyfleus... Ond chwalodd y tywydd fy nghynllun! Mi fu’n oer neu’n wlyb bob dydd bron -ac yn aml iawn yn gyfuniad o’r ddau. 

O’r diwedd fe ddisgynnodd popeth i’w le ychydig cyn amser cinio ar y 3ydd yn ddigon hir i dreulio’r chwarter awr angenrheidiol yn yr haul. Mi rois i gadair yn un o rannau mwyaf blodeuog yr ardd acw, ac eistedd yn eiddgar yn llygad yr haul, efo panad a phapur a phensel; ac aros... 

Yn anffodus, un glöyn yn unig welais i! Siomedig efallai, a rhwystredig hefyd, ond ddim yn syndod mawr os ydw i’n onest. Dim ond 16.6 gradd oedd y tymheredd yn y cysgod, ac er fod yr haul allan dros y cyfnod dan sylw, mi oedd hi’n gymylog ar y cyfan. ‘Roedd hi wedi bod yn bwrw’n ysgafn y bore hwnnw (ac mi ddychwelodd y glaw yn fuan wedyn hefyd!) felly roedd hi’n dalcen caled cyn cychwyn, ac yn wirion braidd disgwyl rhestr hir.

Er bod pryfaid eraill yn fodlonach eu byd yn yr amodau hynny -roedd gwenyn mêl (honeybees), tair rhywogaeth o gacwn (bumblebees), a thri math o hofrynnod (hoverflies) yn gwledda ar ein blodau- dim ond un glöyn gwyn mawr (large white) oedd gen’ i i’w gofnodi yn arolwg mawr y glöynnod eleni.

Wythnos ynghynt, roeddwn wedi gweld saith rhywogaeth wrth grwydro un o ddolydd llawrplwyf Trawsfynydd, ond wnes i ddim cofnodi’r rheiny yn ôl trefn yr arolwg (chwarter awr mewn un lleoliad, yn cyfri’ niferoedd yn ogystal â mathau). Ta waeth. Mewn ymchwil wyddonol mae canlyniadau gwael llawn mor bwysig a chanlyniadau da ar gyfer y data ehangach, a gallaf edrych ymlaen i gymharu y flwyddyn nesa rwan. P’run bynnag, mi ges i eistedd yn yr haul am ennyd efo panad yn mwynhau’r myrdd o liwiau sydd yn yr ardd ar hyn o bryd, a gwerthfawrogi sgrechian hiraethus deuddeg o wenoliaid duon (swifts) oedd yn plethu rhwng eu gilydd yn uchel uwch fy mhen, yn llenwi eu boliau efo gwybaid a pharatoi am y daith hir at dywydd gwell ynghanol Affrica. Mae eu dychweliad y flwyddyn nesa yn rywbeth arall i edrych ymlaen ato.

Ewch i wefan Butterfly Conservation am fwy o wybodaeth am yr arolwg glöynnod byw; mae ganddyn nhw adnoddau Cymraeg i’w lawr-lwytho, ac yn haeddu’n cefnogaeth.

- - - - - - - - - - -

Ymddangosodd yn wreiddiol yng ngholofn Byd Natur Yr Herald Cymraeg (Daily Post)17eg Awst 2023 dan y bennawd 'Gloynnod byw'.

 

27.7.23

Cerdyn Post o Fan Gwyn Man Draw

Dan haul tanbaid a gwres o 40°C, mewn dolydd blodeuog lliwgar iawn a channoedd lawer o wenyn a chacwn a glöynnod byw, allwn i ddim bod mewn lle mwy gwahanol i Gymru, ond eto’i gyd mae yna debygrwydd yn ambell i beth.

Ymysg y myrdd o blanhigion diarth, mae llawer o flodau sydd ar yr un pryd yn gyfarwydd. Nid o ddolydd a gweirgloddiau Cymru; mae’r rheiny -yn amlach na pheidio- yn brin iawn eu blodau erbyn hyn adref. Nage, yr hyn sy’n tynnu’r sylw ydi fod gen’ i flodau yn yr ardd acw yr ydw i wedi talu pres da amdanyn nhw, sy’n tyfu ‘fel chwyn’ yn fan hyn!

Ar lwyfandir Vitačevo, ychydig filltiroedd i’r gogledd o’r ffin fynyddig rhwng Groeg a Macedonia, mae llyn bychan bas Done Popov a’i lannau yn berwi efo llyffaint bychain sy’n neidio llathan i’r dŵr o’n blaenau wrth i ni agosáu, a gweision neidr bach a mawr yn codi o’r brwyn a’r hesg o’n cwmpas. Er ei fod ar uchder o 920 metr uwchben lefel y môr (tebyg iawn i uchder Crib Goch yr Wyddfa), mae cyfoeth y lle yma yn drawiadol. 

Gallwn dreulio oriau yn gwylio a cheisio adnabod y blodau gwyllt a’r pryfetach, ond rhaid ystyried diddordebau’r anwyliaid sydd efo fi yn y lle arbennig yma hefyd! Prif bwrpas yr ymweliad â rhan yma’r byd ydi dod i weld ein merch hynaf, sy’n byw yn un o drefi deheuol Macedonia, ac sydd, efo’i gŵr wedi trefnu teithiau ar ein cyfer i nifer o lefydd arbennig iawn yn y wlad.

O’r llwyfandir, rydan ni’n crwydro ymhellach i’r de, i Mihajlovo, rhyw fath o Lan-llyn neu Langrannog i genedlaethau o blant Macedonia, a cherdded ymhell i mewn i’r goedwig ucheldir o ffawydd a choed conwydd ar y llethrau serth er mwyn ‘mochel o’r haul. 

Hyd yn oed ar uchder o 1460m mae’r planhigion ‘gardd’ yn dal yn amlwg. Blodau fel bysedd y cŵn melyn (llun gyferbyn), lili martagon (uchod), lluglys gwridog (isod) a milddail melyn ymysg llawer mwy, a gwenyn mawr trawiadol o liw gwyrdd metalig, a du-las rhyfeddol yn gwledda ar eu neithdar.

Yn achlysurol mae’r llwybr yn cyrraedd ymyl ceunant a’r olygfa yn agor o’n blaenau i ddangos haen ar ôl haen o fryniau a chribau a mynyddoedd, pob un yn mynd yn llai eglur efo pellter oherwydd y tes a goleuni llachar haul y pnawn. Mae’r goedwig yn teneuo efo uchder, trwy ardal o brysgwydd ac yna glaswelltir a chreigiau ar y copaon. Collwyd y ‘tree-line’ naturiol yng Nghymru ganrifoedd yn ôl dan law dyn ond mae’n amlwg yma o hyd. Mae ambell awgrym o fwg yn y pellter hefyd; mi fu tanau gwyllt mawr yng nghoedwigoedd yr ardal y llynedd, ac maen nhw’n disgwyl mwy eleni eto. Wrth fynd i’r wasg, mae newyddion dychrynllyd yn dod o ynysoedd Groeg, ac eto mae rhai yn dal i wadu newid hinsawdd yn wyneb pob tystiolaeth.

Wrth ymlwybro’n ôl i lawr at y car, mewn tocyn o goed derw a helyg, dwi’n dal fy ngwynt a chynhyrfu wrth i un o’r criw ysu ar bawb i edrych ar löyn byw mawr hardd lle oedd pelydrau’r haul wedi treiddio i’r llawr: mantell borffor! Waw: y purple emperor cyntaf erioed i mi ei weld, ac am fraint! Mae niferoedd bach yn ne Lloegr ond yn anodd iawn ei weld gan ei fod yn treulio’i amser ym mrig y coed. Darfu’r eiliad megis seren wib felly ches i ddim llun, ond mae’n werth i chi edrych amdano ar y we os nad ydych yn gyfarwydd.  

O ffin Groeg, rydym yn teithio i’r gorllewin am ychydig ddyddiau ar lan Llyn Ohrid, sydd ar y ffin efo Albania. Mae’r llyn yma’n anferth yn ôl safonau Cymru, ac yn safle Treftadaeth y Byd Unesco oherwydd ei ecoleg unigryw. Fel mae colofnwyr eraill Yr Herald Cymraeg yn dweud o dro i dro: dwi’n ysu i gael mynd yn ôl yno! Ac os caf ddychwelyd ryw dro yn y flwyddyn neu ddwy nesa, mi sgwenna’i am fanno yng ngholofn Byd Natur hefyd efallai.
- - - - - - - - - - - -

Ymddangosodd yn wreiddiol yng ngholofn Byd Natur Yr Herald Cymraeg (Daily Post) 27ain Gorffennaf 2023.  

'Man gwyn tramor' oedd y bennawd a roddwyd gan y golygydd.

6.7.23

Rhyfeddod y Gweision Neidr

Mae llawer wedi’i ddweud yn ddiweddar am gyflwr dyfroedd Prydain, ond wrth eistedd ar garreg ynghanol un o afonydd Meirionnydd mae’n hawdd cael fy nhwyllo i feddwl fod popeth yn iawn yn y byd.

Dan haul braf rhwng cawodydd, mae’r awyr o nghwmpas yn llawn o weision neidr, clêr a gwybed. Ar wyneb y dŵr mae chwilod bach chwrligwgan (whirlygig beetle, un o rywogaethau Gyrinus) yn rhuthro mewn cylchoedd fel petaen nhw ddim yn cofio am be maen nhw’n chwilio, a rhiain ddŵr (pond-skater, rh. Gerris) yn troedio’n ysgafn ar flaenau ei thraed heb grych na thon ar wyneb y pwll.

Ddegllath i ffwrdd mae pysgodyn yn torri’r dŵr efo plop distaw wrth godi at damaid o ginio, a gadael dim ond cylch o gynnwrf byrhoedlog ar wyneb yr afon. Dyma baradwys!

Gwas neidr eurdorchog (golden-ringed dragongly, Cordulegaster boltonii) ydi’r amlycaf o’r pryfed sydd yma; yn hongliad mawr o beth dychrynllyd yr olwg efo’i gylchoedd melyn a du! Hwn ydi’r mwyaf o wesynod ucheldir Cymru (75mm), ac yn ôl yr ystadegau diweddaraf, i’w weld o ogledd Affrica hyd y cylch Arctig (Atlas of Dragonflies in Britain and Ireland, 2014 -campwaith sydd ar gael yn ail law bellach am rywbeth rhwng £30 a £270!). Maen nhw’n gyffredin yn nentydd Cymru ac yn hawdd iawn i’w hadnabod oherwydd eu lliw amlwg. Mynd a dod mae un o’r rhain o nghwmpas i, yn cymowta o bwll i bwll ar batrôl barhaol yn gwylio’i gynefin. Yn gwibio’n fygythiol at bob pry’ digywilydd sy’n crwydro i’w ddarn o o’r afon, cyn rhodio ‘nôl a ‘mlaen eto’n ddi-flino.

Er mor hardd ydi’r eurdorchog, mae un arall o deulu’r odonata -y gweision neidr- sy’n hedfan o nghwmpas i yn rhagori yn fy marn i. 

 

Un tipyn llai (45mm), ond llawn mor drawiadol, sef y forwyn dywyll (beautiful demoiselle, Calopteryx virgo). Anodd ydi disgrifio lliwiau gwych y rhain, a phrin maen nhw’n aros yn llonydd mewn un lle imi fedru craffu’n ddigon hir... corff gwyrddlas gloyw sydd gan y gwryw, a’i adenydd naill ai’n las neu’n borffor, yn dibynnu sut mae’r goleuni yn eu taro. Mae adenydd yr iar fel copor yn disgleirio yn yr haul, a dwi yn fy elfen ymysg ugain a mwy ohonyn nhw: pencampwyr acrobateg, yn medru hofran yn eu hunfan, a hedfan am yn ôl hefyd gan droi eu pedair adain i wahanol gyfeiriadau. Magu mewn nentydd ac afonydd carregog mae’r rhain, o gymharu efo’r rhywogaeth arall yng Nghymru, y forwyn wych (banded demoiselle, C.splendens) a geir mewn dyfroedd arafach efo mwd neu raean mân yn wely.

Tri arall sy’n cadw cwmpeini i mi ar yr afon ydi’r picellwr pedwar nod (four-spotted chaser, Libellula quadrimaculata), mursen fawr goch (large red damselfly, Pyrrhosoma nymphula) a mursen asur (azure damselfly, Coenagrion puella). Cyfoeth yn wir, ond er mor hyfryd ydi’r lleoliad, tydi popeth ddim yn iawn. Sythwydd rhannau o’r afon; carthwyd meini a cherrig allan ohoni; cyfyngwyd ambell ddarn rhwng dau arglawdd i gadw’r dŵr o’r caeau; rhoddwyd carthion, sbwriel, gwrtaith ynddi. Ond mae’n araf adfer, diolch i’r drefn.

Tua deunaw mlynedd yn ôl mewn drama ysgytwol -DW2416- gan Dewi Prysor, mae’n son am y Gwyddelod yn canu ‘Only our rivers run free’, ond nad oedd hynny’n wir yng Nghymru:

“Mae na dair afon yn tarddu o’r un mynydd a fi... Afon Prysor yn llifo i Llyn Traws, i gael ei hatal gan argae ac i hongian yn ddu dros hen ffermydd a wagiwyd. Wedyn ma Afon Cain yn llifo drwy ranges Traws. Heibio olion aelwydydd gwag hen deuluoedd yrrwyd o’u ffermydd i neud lle i Brydain Fawr ymarfar ei chrefft o ladd a dinistrio. Yn ola', mae dŵr Tryweryn yn gorwadd fel carrag fedd uwchben pentra Capel Celyn”.

Yn ardal Traws gallwch ychwanegu Afon Gau, Nant y Graigddu, ac afonydd Crawcwellt a’r Eden: Dwynwyd cyfran sylweddol o’u llif ers y 1960au gan gamlas goncrid sy’n cludo dŵr ers pan ehangwyd Llyn Traws ar gyfer yr atomfa. Erbyn hyn mae’n dda deall bod ymchwil ar y gweill i weld sut gellid gwella’r llif naturiol. Mae’n hafonydd yn haeddu cael eu gwarchod.

Mae’n Wythnos Gwas y Neidr fel mae’n digwydd bod, felly ewch allan i chwilio -os gawn ni haul eto! Dilynwch y nod #DragonflyWeek23 ar y we am newyddion a dolenni, a chofiwch yrru eich cofnodion i’r Ganolfan Gofnodi Biolegol lleol, Cofnod.

- - - - - - - - - - - -

Ymddangosodd yn wreiddiol yng ngholofn Byd Natur Yr Herald Cymraeg (Daily Post) 6ed Gorffennaf 2023 dan y bennawd 'Gweision y neidr'.

 

15.6.23

Cerrig Calch a Cherrig Duon

Mae’n talu weithiau i fod yn anghymdeithasol, a mynd allan o’ch ffordd i chwilio am lefydd distaw er mwyn osgoi’r dorf. Dwi’n sicr yn berson y Rhinogydd yn hytrach na’r Wyddfa; Cwm Teigl yn hytrach na Chwm Idwal; a gwell gen i Fetws Garmon na stryd fawr Betws y Coed ar unrhyw adeg o’r flwyddyn!

Hawdd ydi mynd i rigol o grwydro’r un llefydd am eu bod yn gyfleus ac yn gyfarwydd. Pen y Gogarth er enghraifft: lle arbennig iawn i grwydro os nad ydych am ymuno â gweddill y teulu yn stryd fawr Llandudno. Gwir bod modd canfod llecynnau distaw ar y llethrau, a’r rheiny’n ardaloedd cyfoethog eu blodau gwyllt yn aml iawn -fel Gwarchodfa Maes y Facrell- ond eto’i gyd, fyddwch chi ddim yn hir cyn gorfod rhannu’r lle efo tyrfa o bobol eraill, a chŵn a sbwriel. 

Nid felly frawd bach y Gogarth, ar ben arall traeth hir prysur Llandudno, sef Rhiwledyn neu Drwyn y Fuwch.

Llandudno a Phen y Gogarth, o ben Rhiwledyn. Llun PW

‘Does dim parcio hwylus yma, ac mae’r llwybrau’n serth mewn ambell le, ond mae’n werth gwneud yr ymdrech yn y gwanwyn a’r haf cynnar, er mwyn cael mwynhau’r wledd o flodau gwylltion yno. Calchfaen ydi’r graig yma, fel Pen y Gogarth (a Bryn Pydew y soniais amdano ym mis Mawrth) ac ar ddiwedd Mai pryd oeddwn i yn Rhiwledyn, roedd miloedd o flodau melyn gwych y cor-rosyn cyffredin yn britho’r glaswelltir, teim gwyllt yn glustogau porffor fan hyn fan draw, a thrionglau pinc hardd y tegeirian bera mewn ambell le yn goron ar y cwbl. 

Cor-rosyn cyffredin, Rhiwledyn. Llun PW

Yn hedfan o flodyn i flodyn oedd gweirloynod bach y waun, glöyn byw sy’n hawdd ei adnabod, yn wahanol i’r glöyn glas oedd yn gwibio’n brysur a chyflym yn-ôl-ac-ymlaen, gan fethu’n glir a phenderfynu ar ba flodyn i lanio, fel plentyn ar fore’i benblwydd yn methu dewis pa anrheg i’w agor gyntaf. Er dilyn y glöyn efo’r camera ar y llethrau am gyfnod, wnaeth o ddim aros yn ddigon hir i mi fedru tynnu ei lun na’i adnabod; efallai ei bod yn rhy gynnar i’r glesyn serennog prin, bydd rhaid dychwelyd felly!

Mae sêr ar gyrion y Berwyn hefyd wrth imi fynd ar ddechrau Mehefin i ddilyn Afon Cwm yr Aethnen i’w tharddiad, dafliad carreg o gopa Pen y Cerrig Duon. Mae llethrau dwyreiniol y cwm diarffordd yma dan orchudd trwchus o goed conwydd masnachol, ond ar ochr orllewinol y nant fach mae ffridd agored serth a hyfryd. Roedd blodau’r coed criafol a’r drain gwynion yn sioe odidog dan awyr las, a’r cwm bron fel petai’n crynu gan sŵn yr holl wenyn a chacwn oedd wrth eu gwaith yn hela paill a neithdar.
Mewn pant gwlyb, cysgodol mae carped o flodau hyfryd y tormaen serennog: pump o betalau claer-wyn efo dau smotyn melyn ar bob un, a phump o’r deg brigeryn (stamen) yn daclus amlwg rhwng pob petal gan roi gwedd drawiadol iawn o edrych yn fanwl. 

 

Tormaen serennog, Cwm yr Aethnen. Llun PW

Wrth ddringo’n uwch, mae’r grug yn t’wchu ac yno mi ges i gwmni seren y dydd- cacynen y llus. Dyma wenynen sy’n arbenigo ar y cynefinoedd mynyddig ac efo mwy na hanner ei abdomen yn goch, mae’n werth ei gweld bob tro.

O Flaen Cwm yr Aethnen, lle mae’r dŵr yn codi o’r ddaear trwy drwch o figwyn a cherrig llaid tywyll, mae’n werth oedi i edrych yn ôl i lawr y cwm a mwynhau’r olygfa. Dyffryn lle welais i neb arall trwy’r pnawn, ac er edmygu coed amrywiol, gan gynnwys ambell i fedwen trawiadol o hen, syndod a siom oedd sylweddoli nad oedd yr un aethnen ar gyfyl y lle. Mae eu lliaws o ddail yn dawnsio yn y gwynt yn medru eich dal mewn syn-fyfyrdod braf am hir iawn. 

Oni bai fod ystyr arall i enw’r cwm (mae enwau llefydd wedi’r cwbl yn faes hynod ddifyr a dyrys yn aml) mae’n siwr bod y coed aspen wedi tyfu yma yn y gorffennol pan enwyd y lle. Pwy a ŵyr fydden nhw’n tyfu yma eto yn y dyfodol, ar ôl i’r sbriws gael eu cynaeafu efallai? Mi fydd yn sicr yn werth dychwelyd dro ar ôl tro i fan hyn hefyd.

- - - - - - - - - - - -

Ymddangosodd yn wreiddiol yng ngholofn Byd Natur Yr Herald Cymraeg (Daily Post) 15fed Mehefin 2023 dan y bennawd 'Osgoi'r torfeydd'.

 

cor-rosyn cyffredin    common rock-rose
teim gwyllt        wild thyme
tegeirian bera        pyramidal orchid
gweirloyn bach y waun    small heath butterfly
glesyn serennog    silver studded blue butterfly
criafolen        rowan
draenen wen
        hawthorn
tormaen serennog    starry saxifrage
grug            heather
cacynen y llus
        bilberry bumblebee
bedwen        birch
aethnen        aspen

25.5.23

Dathlu'r haf a dynwared gog!

Oes yna unrhyw beth hyfrytach na chân ehedydd mewn awyr las? Go brin. Gall rhywun ymgolli’n llwyr yn y parablu byrlymus, hir. Dyma un o’r gwobrau dwi’n fwynhau ganol Mai wrth grwydro i’r mynydd. 

Ar gyrion y dre’ mi ges wylio mursennod cochion yn hedfan mewn tandem dros ffos, a’r un fanw yn rhoi ei chynffon i mewn ac allan o’r dŵr i ddodwy ŵyau ar ddail dan yr wyneb. Ymhen ychydig wythnosau bydd ambell un o’r gweision neidr mwy yn magu yma hefyd.

mursen fawr goch -large red damselfly. Llun PW

Wrth anelu am y ffridd mae ceiliog gog yn galw o ddraenen wen gyfagos, o’r golwg yn y trwch o flodau gwynion. Am fy mod yn dynwared ac ail-adrodd deunod y gog (mwy o “Ow-ŵ” na “Gw-cŵ”) mewn llais ffalseto, mae’n gadael ei gangen a hedfan tuag ataf er mwyn dod i weld pwy ydi’r ceiliog newydd digywilydd sydd wedi mentro i’w diriogaeth o! Buan mae’r cr’adur yn cael ei erlid gan ddau gorhedydd y waun er mwyn ceisio sicrhau na fydd y cogau yn dewis eu nyth nhw i ddodwy ynddo.
Rhwng adfeilion hen chwarel a’i thomen lechi mae siglen lwyd yn gwibio heibio mewn fflach o felyn a glanio ar lan nant gerllaw gan roi cyfle i mi edmygu’r lliw lemon llachar ar ei fol a’i ben ôl, a sylwi cymaint yn hirach ydi ei gynffon, na’i gefndryd du-a-gwyn ar lawr gwlad, y siglen fraith neu’r sigl-di-gwt cyffredin. Pen ac ysgwyddau’r siglen lwyd sy’n rhoi’r enw iddo a hwnnw’r un ffunud a lliw llechi enwog Stiniog.

Ymlaen, ac yn uwch a fi, wedi cyfarch pâr o gigfrain yn troelli ar yr awel uwchben gan grawcian wrth fynd, ac aros am gyfnod i wylio iar a cheiliog tinwen y garn yn dilyn a rasio’u gilydd o garreg i garreg, ac ymaflyd mewn dawns garwriaethol ar ôl eu taith ryfeddol i Gymru fach o ganol Affrica. Gwrandewais yn hir a breuddwydiol ar yr ehedydd yn fan hyn, yn diolch am y cyfle i ddathlu’r haf unwaith eto a hel atgofion am anwyliaid sydd wedi’n gadael. Yna symud ymlaen at gyrchfan y dydd, Llynnau Barlwyd.

Llyn Mawr Barlwyd yn wag. Llun PW

Bum yma yn rheolaidd efo ffrindiau ysgol, yn pysgota trwy’r dydd ac i’r nos, nes i’r gwybaid bach ein gyrru’n benwan. Dyddiau hirfelyn o nofio yn Llyn Fflags neu Llyn Foty ar ein ffordd i Barlwyd, y cyntaf yn gronfa fach ond dwfn at ddibenion y chwarel, a’r ail yn hen dwll chwarel wedi llenwi efo dŵr. “Nofio gwyllt” ydi’r eirfa ffasiynol heddiw, ond dim ond nofio oedd o i ni bryd hynny siwr iawn, er bod rhybuddion ein rhieni’n clochdar yn ein clustiau i beidio meiddio mentro i’r fath lefydd!

Does dim dŵr yn Llyn Mawr Barlwyd erbyn hyn; canlyniad efallai i’r angen cyfreithiol am gynnal a chadw costus ar bob argae sy’n dal dros 10,000 metr ciwb o ddŵr. Er bod twll yn argae’r Llyn Bach hefyd, mae yno serch hynny lyn o hyd, a hwnnw’n disgleirio dan yr awyr las a’r heulwen heddiw. Sgrechiodd Wil Dŵr arnaf yn bigog am darfu ar ei heddwch, a hedfan ar frys i’r lan bellaf. Dyma enw’r sgotwrs lleol ar bibydd y dorlan, aderyn sy’n symud o’r arfordir i nythu ar y mynydd bob gwanwyn. Mae dau wydd Canada yn nofio i’m cyfeiriad yn hamddenol a dau gyw melyn yn eu canlyn. O’u cwmpas ymhob man mae pryfaid yn deor a physgod yn codi i’w hela; y naid pnawn fel oedden ni’n ddweud tra’n pysgota llynnoedd ucheldir Stiniog ‘stalwm.

Llyn Bach Barlwyd. Llun PW

Wrth droi’n ôl tuag adra’ mae’r gwcw’n galw eto a dwi’n chwerthin yn ddistaw wrth fy hun wrth gofio fel oedd y plant wrth eu boddau efo’r gamp o ddynwared a denu gog i’r agored pan oedden nhw’n ifanc. Ond wrth dyfu’n hŷn, roedd y fath gastiau yn fwy o embaras nac o ryfeddod iddyn nhw a bu’n rhaid ymatal! Rwan fod fy nghywion i wedi gadael y nyth, a llai o awydd ganddynt i grwydro efo’u tad, mae’n braf peidio poeni am wneud ffŵl ohonof fy hun yn dynwared adar ar ochr y mynydd a chanu tiwn gron fy hun wrth fynd, ‘Daw hyfryd fis Mehefin cyn bo hir...
- - - - - - - - - - - -

Ymddangosodd yn wreiddiol yng ngholofn Byd Natur Yr Herald Cymraeg (Daily Post) 25ain Mai 2023 dan y bennawd 'Yr haf ar ei ffordd'.

Yn dilyn cais, dwi'n cynnwys enwau Saesneg isod ar gyfer y creaduriaid dwi'n son amdanynt yn yr ysgrif:

ehedydd   skylark
mursen goch   large red damselfly
gog   cuckoo
corhedydd y waun   meadow pipit
siglen lwyd   grey wagtail
siglen fraith   common wagtail
cigfran   raven
tinwen y garn   wheatear
bibydd y dorlan   common sandpiper
gwydd Canada   Canada goose
 


11.5.23

Tynnu nyth cacwn

Maen nhw’n dod nôl bob gwanwyn yn selog. Erbyn hyn, dwi’n gwybod i chwilio am yr arwyddion yn ddigon buan, unwaith mae’r dyddiau’n cynhesu.  Bob yn ail diwrnod rwan, dwi’n mynd i’r cwt i weld os oes cylch nodweddiadol o bapur llwyd wedi ymddangos ym mrig y to. Dyma sylfaen nyth y wenynen feirch. Cacwn i rai, picwn i eraill; wasp yn Saesneg wrth gwrs.

Dwi’n gweld brenhinesau yn rheolaidd yn yr ardd ar dywydd braf yn y gwanwyn, ac er yn gwybod y bydden nhw’n boen yn achlysurol wrth i ni fwyta allan dros yr haf, dwi’n eu croesawu serch hynny. O fewn rheswm. Tydi mynd i mewn ac allan a gweithio yn y cwt ddim yn bosib os oes haid o wenyn meirch yn hawlio’r lle hefyd! Felly, bob blwyddyn, pan welaf egin nyth yn y cwt -hyd at faint pêl golff- dwi’n gwybod mae dim ond y frenhines sydd wrthi, ac mae modd ei pherswadio i symud ymlaen i sefydlu nyth yn rhywle arall. 


Hi yn unig sy’n adeiladu’r nyth ar y cychwyn, gan gnoi pren oddi ar bostyn cyfagos a gosod y stwnsh fesul cegiad mewn haenau i greu sylfaen, celloedd a chragen gron allanol. Dyma’r adeg orau i ddefnyddio coes brwsh llawr i daro’r belen fach oddi ar y to.

Y tro cyntaf i ni gael nyth yma, mae’n amlwg i mi fethu talu sylw digonol am wythnosau, a’r frenhines wedi cael llonydd i ddodwy dau ddwsin o wyau yn y celloedd meithrin cyntaf, oedd o fewn wythnos yn aeddfedu’n weithwyr. Y rheiny wedyn wedi mynd ati i hel pren i helaethu’r nyth fel bod y frenhines yn cael canolbwyntio ar ddodwy wyau a magu mwy o’i phlant. Buan iawn fydd nyth yn faint pêl-droed a miloedd o wenyn yn y boblogaeth! Mae’r strwythur papur yn werth ei weld erbyn hynny; y gweithwyr wedi hel pren o wahanol ffynonellau ac amrywiaeth o liwiau rwan yn gwahanu’r haenau. Mae’r patrymau yn fy atgoffa o haenau daearegol cymhleth creigiau hynafol arfordir Môn, neu’r poteli hynny o dywod amryliw sy’n cael eu gwerthu i ymwelwyr ar eu gwyliau mewn gwledydd poeth.
Er mor hardd a rhyfeddol, roedd yn rhaid cael dyn y cyngor sir i mewn i waredu’r nyth hwnnw, gan nad oedd y gwenyn yn fodlon rhannu’r cwt efo fi, na’r ardd efo’r teulu.


Trist, oherwydd yn wahanol i’r hen gred, mae lle gwerthfawr i wenyn meirch yn y byd ac mae’n well o lawer gen i gyd-fyw efo nhw cymaint a phosib. Yn ein gardd ni, y nhw sy’n bennaf gyfrifol dwi’n tybio, am beillio’r coed gwsberins. Hel neithdar maen nhw, ac yn sgîl hynny’n symud paill o flodyn i flodyn, o lwyn i lwyn. Eu cymwynas arall (er wrth reswm nid yma i wasanaethu dynol ryw maen nhw) ydi hela lindys a phryfed gwyrddion sy’n medru bod yn bla yn yr ardd. Cario’r rhain yn ôl i’r nyth maen nhw i fwydo’r larfâu sy’n datblygu.

Tua deunaw mlynedd yn ôl, mwy efallai, wrth baratoi i ail-agor arddangosfa un o warchodfeydd natur Meirionnydd ar ôl y gaeaf, mi ddois ar draws nythiad o wenyn meirch uwchben y drws. Fel elfen o fywyd gwyllt y lle mi benderfynais yn fy naïfrwydd i geisio cyd-fyw efo nhw a thynnu sylw at eu gweithgaredd. Ond wrth i’r haf dynnu ‘mlaen, mynd yn fyw a mwy blin wnaethon nhw a dechrau plagio’r pobol oedd yn ymweld, felly’n anffodus, rhaid oedd gwaredu’r nyth hwnnw hefyd.

Tynnodd rhywbeth fy sylw, ac ar ôl gyrru ambell un o’r gwenyn i arbenigwr, cael deall mae rhywogaeth ddiarth oedden nhw, gwenyn meirch Sacsoni. Yn wahanol i’r rhai cyffredin (Vespula vulgaris) a welir o ddydd i ddydd, Dolichovespula saxonica, oedd y rhain a dim ond unwaith oedden nhw wedi eu cofnodi o’r blaen yng ngogledd Cymru. Son am deimlo’n euog! Ond, oherwydd newid hinsawdd, mae’r ‘saxon wasp’ yn un o lu o rywogaethau sy’n ymledu o’r cyfandir. Cofnodwyd nhw gyntaf yng ngwledydd Prydain yn yr wythdegau ac fe’u gwelwyd mewn sawl rhan o Gymru erbyn hyn ac mor bell a’r Alban.
Mi gan nhwythau groeso yn yr ardd hefyd, cyn bellad a ‘mod i’n medru mynd a dod fel mynnwn i nghwt fy hun!
- - - - - - - - - -

Ymddangosodd yn wreiddiol yng ngholofn Byd Natur Yr Herald Cymraeg, yn y Daily Post, 4ydd Mai 2023

Unwaith eto, gwrthodwyd fy mhennawd i a defnyddio 'Croeso i Frenhines' yn y papur.




13.4.23

Coch y berllan

Mae’r covid wedi cyrraedd ein tŷ ni o’r diwedd -fel huddug i botas- a finna wedi cymryd wythnos i ffwrdd o’r gwaith, yn llawn cynlluniau ac uchelgeisiau am gael crwydro a garddio a gwylio natur.
Diolch byth am ddyddiau braf wythnos gyntaf y Pasg, oedd yn caniatau i mi o leiaf grwydro i waelod yr ardd efo panad ar ôl syrffedu ar y soffa! 

Dros ddau brynhawn cynnes mi ges i gyfri pedwar glöyn byw (mantell paun, y trilliw bach, mantell goch a mantell garpiog), gwenynen unigol (un o deulu’r torwyr dail), gwenyn mêl, gwenyn meirch, hofrynnod, a phedair rhywogaeth o gacwn (bumblebees). Edrychwch ar y gwefannau cymdeithasol ac mae’r rhestr yma’n un fer iawn o gymharu a rhai ardaloedd ond bu’n hen ddigon i godi ‘nghalon i.

Mi ddof yn ôl i drafod cacwn eto’n fuan, ond yn y cyfamser os hoffech wybod mwy, mae llawer o wybodaeth ar wefan yr Ymddiriedolaeth Cadwraeth Cacwn -Bumblebee Conservation Trust- a rhywfaint ohono’n ddwyieithog. Maen nhw’n cyflogi swyddog yng Nghymru sy’n weithgar iawn yn trefnu hyfforddiant ar-lein ac yn y maes i unrhyw un sydd â diddordeb, ac yn cydlynu gwaith cofnodi ac arolygon gan wirfoddolwyr brwd. Chwiliwch ar y we am ‘Skills for Bees Cymru’.

Testun llawenydd arall ar y dyddiau braf hynny oedd croesawu coch y berllan yn ôl i’r ardd. Rhyngthoch chi a fi, dwi wedi bod rhwng dau feddwl dros y blynyddoedd ai dathlu ‘ta diawlio’r aderyn trawiadol yma ddyliwn wneud, gan eu bod yn bwyta blagur a blodau ar fy nghoed ffrwythau! Mewn gwirionedd dwi’n fwy na bodlon rhannu ‘chydig o betalau efo’r adar hardd a phrin yma; mae’n fraint cael eu gwylio a’u gweld yma bob gwanwyn. Y tro hwn, yn wahanol i bob tro o’r blaen, roedd dau bâr yma. Dau geiliog bolgoch penddu, a dwy iar efo nhw, a’r cwbl yn gwledda o flagur i flagur ar frigau’r hefinwydden (Amelanchier). 

 

Dyma goeden sy’n hardd iawn deirgwaith y flwyddyn: yn lluwch rhyfeddol o flodau gwynion hir-betalog o ganol Ebrill; yn frith o aeron bach cochion ym mis Mehefin (sydd yn flasus iawn ond mae hwythau hefyd yn hynod boblogaidd gan adar y fro); wedyn yn ddail amryliw hardd wrth grino yn yr hydref.

Ceiliog coch y berllan. Llun LMW
Fel bob blwyddyn -wrth i’r bobol tywydd addo eira eto- mae’r blodau ar ein coeden eirin yn dechrau agor, a gwell o lawer bod cochion y berllan yn cael eu bodloni ar yr hefinwydden er mwyn cadw’r garddwr yn hapusach! Ystyrir yr adar yma’n bla mewn perllanoedd masnachol ac maen nhw’n defnyddio rhwydi i orchuddio’r canghennau, ac anodd credu y buon nhw’n eu saethu a’u dal nhw hefyd i warchod eu coed. 

Yn ôl cymdeithas adar y BTO, mae poblogaeth coch y berllan ar yr ynysoedd hyn wedi gostwng yn arw ers y 1970au, ac er bod rhywfaint o adfer wedi bod yn Lloegr, maen nhw’n parhau ar y rhestr goch yng Nghymru. Yn ardaloedd Bangor, Conwy a’r Wyddgrug maen nhw wedi eu cofnodi amlaf yn y gogledd yn ôl mapiau Cofnod -y ganolfan gofnodion amgylcheddol leol, ond maen nhw i’w gweld ym mhob man mewn niferoedd bach.

Mae gwaelod ein gardd ni ar gyrion coedwig, a dyma’n union gynefin coch y berllan, lle gallen nhw wibio o’r coed i ganghennau’r hefinwydden heb dynnu fawr o sylw. Argian maen nhw’n swil; buan iawn maen nhw’n dianc wrth i mi geisio symud yn nes i gael llun. O gadw pellter caf lonydd i wylio ac edmygu un o’r ceiliogod: stwcyn o aderyn golygus a lliwgar yn neidio o frigyn i frigyn yn pigo’r blagur blodau efo’i big cwta tew, yn gollwng mwy na mae o’n fwyta. Bob ychydig eiliadau mae o’n codi’i ben i edrych o’i gwmpas, yn cadw golwg gofalus am y gwalch glas, a mwya sydyn mae o, a’r triawd arall ar eu ffordd yn ôl i’r coed, eu penolau gwynion yn fflachio dan awyr las braf Ebrill.
- - - - - - - - - -

Ymddangosodd yn wreiddiol yng ngholofn Byd Natur Yr Herald Cymraeg, (Daily Post) 13eg Ebrill 2023 -'Aderyn trawiadol' oedd y bennawd roddwyd gan y golygydd.

mantell paun   peacock
trilliw bach   small tortoiseshell
mantell goch   red admiral
mantell garpiog   comma
coch y berllan   bullfinch
hefinwydden   juneberry   Amelanchier sp
 




22.3.23

Moliannwn oll yn llon!

Daeth cyhydnos y gwanwyn, ac efo pob wythnos newydd mae’r goedwig leol yn prysuro.

Mae brigau’r coed helyg ar y cyrion yn llenwi ar hyn o bryd efo blagur tewion sy’n ffrwydro fesul dipyn yn haid o gywion gwyddau, eu blodau gwlanog. Blodau sy’n hynod werthfawr fel ffynhonell neithdar i bryfaid y gwanwyn; gall helygen fod yn ferw o wenyn a chacwn ar ddiwrnod braf ddiwedd Mawrth ac Ebrill.

Ond cân yr adar sy’n denu heddiw a phedwarawd o ditws sydd fwyaf amlwg ymysg y coed derw. Y titw mawr a’r titw tomos las wrth gwrs, a’r penddu sydd -i ‘nghlust i- yn ail-adrodd enw ei deulu o chwith: tw-tî, tw-tî, tw-tî! Ond y mwyaf croch ydi’r criw o ditws cynffon hir sy’n gweithio’u ffordd o gangen i gangen; o goeden i goeden i chwilio am fwyd, yn parablu ar draws eu gilydd wrth fynd, fel dwsin o blant cynhyrfus.

Mae ceiliog bronfraith yn canu ar gangen uchel yn y pellter a’i gân yn brydferth ac amrywiol ei nodau. Gallwn aros yno’n gwrando’n hir iawn. Adra, bu ceiliog mwyalchen yn canu ei gân hyfryd yntau gyda’r nosau yn ddiweddar hefyd, ond dwrdio mae hwnnw heddiw gan hedfan i ffwrdd ar frys wrth i mi ei styrbio tra’n hel mwsog er mwyn clustogi ei nyth.

Yn gefndir i’r cwbl mae robin goch yn canu’r felan fel tae o’n hiraethu am yr haf, ond daw’r holl ganu i ben yn ddisymwth am gyfnod byr, wrth i mi ddychryn cyffylog o’r mieri ar lawr y goedwig a hwnnw’n dianc yn drwsgl braidd trwy’r tyfiant ac ô’r golwg i ddiogelwch.

Mewn llannerch agored, mae nifer o goed cyll, pob un efo cawod o gynffonau ŵyn bach. Miloedd o flodau hirion melynwyrdd yn chwifio’n ysgafn yn y gwynt. Yn wahanol i helyg, lle ceir y blodau gwrywaidd a’r blodau benwyaidd ar wahanol goed, mi welwch o graffu’n fanwl, fod y ddau flodyn efo’u gilydd ar ganghennau’r gollen. 

Blodyn gwrywaidd ydi’r gynffon gyfarwydd; hwn sy’n rhyddhau cymylau ysgafn o baill ar y gwynt ac o’i daro efo bys, ond edrycha’n ofalus am flaguryn bach siâp ŵy, yn noeth ar y brigyn, efo seren fach goch yn ymwthio o’i flaen. Dyma’r blodyn benywaidd cynnil. Efallai ei fod yn ddi-sylw a di-nod o bell, ond dan chwydd-wydr mae cystal ag unrhyw dahlia; cyn hardded ag anemoni gloyw mewn pwll glan-môr.

Tu draw i derfynnau’r goedwig, mae pyllau dŵr a ffosydd lle dwi’n gweld y grifft llyffant cyntaf bob blwyddyn. Roedd yn hwyrach yn ymddangos eleni ac ers y dodwy cyntaf mae’r twmpathau grifft wedi dioddef dau gyfnod oer iawn, gan gynnwys rhew ac eira ail wythnos mis Mawrth. Mae cyfran ohonyn nhw wedi eu lladd gan yr oerfel, ond eto’i gyd mae’r penabyliaid mân cyntaf yn nofio’n rhydd o’u pelen jeli ac mewn rhan arall o’r pwll, twmpath newydd o grifft mwy diweddar. I gyd yn awgrym o’r sicrwydd - er gwaethaf y barrug a phob ysglyfaethwr fydd raid iddyn nhw eu hwynebu- y daw cenhedlaeth arall o lyffaint eto eleni.

Rho fis arall ac mi fydd rhai o ymfudwyr yr haf- telor yr helyg a’r siff-saff wedi cyrraedd y goedwig; wedyn daw telor y coed a’r dingoch, pob un yn ychwanegu at gôr y coed efo’u caneuon nodweddiadol. Efallai bod y rhain -a’r gog a’r gwenoliaid- yn haeddu’r sylw maen nhw’n gael pan ddon’ nhw, ond am rwan mae’r adar sydd yma trwy’r gaeaf yn ddigon i godi calon, ac atgoffa fod y rhod yn troi a bod ‘arwyddion dymunol o’n blaenau’.
- - - - - - - - - -

Ymddangosodd yn wreiddiol yng ngholofn Byd Natur Yr Herald Cymraeg, yn y Daily Post, 22ain Mawrth 2023 (Y bennawd siomedig 'Gwanwyn yn ei ôl' a roddwyd ganddyn nhw).

helyg   willow   Salix sp
titw mawr   great tit
titw tomos las   blue tit
titw penddu   coal tit
titw cynffon hir   long-tailed tit
bronfraith   song thrush
mwyalchen   blackbird
robin goch   robin
cyffylog   woodcock
cyll   hazel   Corylus avellana
llyffant   common frog
telor yr helyg   willow warbler
siff-saff   chiff-chaff
telor y coed   wood warbler
tingoch   redstart
gog   cuckoo
gwenoliaid   swallows

1.3.23

Calchfaen Bryn Pydew

Mae’r tywydd bob tro’n well yn Llandudno a Phenrhyn y Creuddyn nag ydi o adra yn yr ucheldir dri-chwarter awr i lawr yr A470, ac wrth barcio ger mynedfa gwarchodfa Bryn Pydew mae’r drain duon eisoes yn blodeuo ganol y mis bach.

Tu draw i’r giât mae’n fyd cwbl wahanol hefyd. Yn fy milltir sgwâr, mae asgwrn y graig sy’n freichled i dref Stiniog (i arall-eirio’r bardd Gwyn Thomas) yn folcanig a chaled a’r pridd yn sur a di-faeth. Ar y cyfan mae’r botaneg yn anniddorol yno. Ym Mryn Pydew ar y llaw arall, ar y garreg galch, mae’r planhigion yn amrywiol iawn a llawer ohonyn nhw’n ddiarth iawn i mi.

A dwi yn fy elfen yn chwilota a thynnu lluniau, wrth i’r haul g’nesu ‘nghefn ar ddiwrnod i’r brenin. Yn wybebu’r ymwelydd ar ddechrau llwybrau’r safle mae llwyni meryw (juniper) a chrafanc yr arth ddrewllyd (stinking hellebore) fan hyn-fan draw.  Wedyn daw’r coed yw (yew) a rhedyn tafod yr hydd (hart’s tongue) yn eu cysgod. Y cwbl, a mwy wedyn, yn blanhigion sy’n ffynnu mewn pridd calchog.

Palmentydd calch ydi prif atyniad y safle i mi, a’i gasgliad arbennig o blanhigion, er bod canol Chwefror wrth reswm yn rhy fuan i weld gwir gyfoeth y lle. Dyma gynefin prin iawn yng Nghymru, lle mae calchfaen yn brigo i’r wyneb, a miloedd o flynyddoedd o law -yn enwedig y glaw asid ers y chwyldro diwydiannol- wedi ei dreulio a’i erydu i greu cyfuniad o holltau, tyllau, a blociau yn batrwm cymleth di-drefn o graig a gofod, a phlanhigion yn brwydro am le mewn pridd tenau rhwng y cerrig.

Ymweliad â Pharc Cenedlaethol Bhoirne (y Burren) yng ngorllewin Iwerddon wyth mlynedd yn ôl oedd y tro dwytha i mi fwynhau rhyfeddodau palmentydd calch a gallwn fod wedi treulio wythnos gyfan yn gwerthfawrogi’r tegeiriannau a blodau gwyllt anghyfarwydd, a glöynod byw, gwenyn a phryfetach y lle hudol hwnnw. Dwi’n cywilyddio braidd fy mod i wedi anwybyddu’r cynefin yma adra yng Nghymru, ond mi af eto i Fryn Pydew yn y gwanwyn a’r haf eleni, er mwyn gwylio’r graig a’r glaswelltir calchog yn dod yn fyw efo bywyd a lliw.

O gymharu efo ehangder mawr palmentydd Swydd Clare, bychan iawn ydi maint y cynefin ym Mryn Pydew, ac mae llawer o dystiolaeth yma o’r gwaith parhaol sydd ei angen i’w warchod rhag crebachu ymhellach. Bu chwarel yma ryw dro, ond daeth cloddio’r gorffennol i ben; rhywbeth arall sy’n bygwth erbyn heddiw. Yma ac acw mi welwch olion torri coed a chlirio prysgwydd er mwyn datgelu mwy o’r graig ac agor y glaswelltir. Ardaloedd a gollwyd dan dyfiant trwchus oherwydd diffyg pori: mae bob man heblaw’r mynyddoedd uchaf yn ysu i droi’n goedwig petai ond yn cael hanner cyfle. Da o beth mewn rhai amgylchiadau, ond nid ymhob un!

Mae rheoli coed cynhenid fel y gollen a’r onnen yn un peth, ond mae yma elyn didrugaredd arall i gyfoeth y safle hefyd, sef planhigion anfrodol, sy’n lledaenu i bob twll a chornel gan arwain at ddirywiad ym maint ac ansawdd y cynefinoedd prinach yr ydym yn eu gwerthfawrogi. Planhigion fel y derw bythwyrdd (holly oak), a’r cotoneaster a’i frigau’n ymestyn fel esgyrn pysgod noeth yr adeg hyn o’r flwyddyn, eu hâd wedi’u gwasgaru o erddi’r cyffiniau gan adar. Braf oedd gweld olion rheoli ar y rhain hefyd wrth grwydro llwybrau’r ardal.

Mae titw penddu’n (coal tit) canu nerth ei ben am gymar wrth i mi adael y safle, ac wrth ochr y ffordd dafliad carreg i ffwrdd, mae’r haul a blodau llachar melyn mahonia -llwyn gardd arall- wedi denu brenhines cacynen gynffon lwydfelyn (buff-tailed bumblebee) allan yn gynnar. 

Arwydd nid yn unig o hin fwynach yr iseldir o’i gymharu ag adra, ond hefyd o’r newid hinsawdd sy’n bygwth mwy na dim ond cynefinoedd lleol. Mae’r gacynen hon, yn ne Prydain o leiaf, yn parhau’n effro a gweithgar trwy’r gaeaf erbyn hyn. Gwnawn y pethau bychain ar Ddydd Gŵyl Dewi, ond rhaid hefyd wrth ymdrech sylweddol a hir-dymor i warchod ein byd.
- - - - - - - - -

Ymddangosodd yn wreiddiol yn Yr Herald Cymraeg ar Ddydd Gŵyl Dewi 2023 (dan y bennawd 'Bywyd Tir Calchog')