Tyfu bwyd, hel fy nhamaid, a'r byd o nghwmpas i, 700 troedfedd uwchben lefel y môr.

26.2.15

Chwyn da!

Mae mwy o groeso i ambell chwynnyn. Un o'r planhigion cyntaf i dyfu ar bridd noeth dechrau'r flwyddyn ydi berwr chwerw.

Aelod bach o deulu mawr y bresych. Ac aelod blasus hefyd.


Salad gwyllt cynta'r flwyddyn.



21.2.15

Rhiwbob 1

Coesau cochion y rhiwbob cynta' yn tyfu mewn tywyllwch ar hyn o bryd.


Mae nhw'n hwyrach na'r llynedd; roeddwn wedi codi'r pedwar coesyn cynta' yr adeg yma llynedd. Ta waeth, mae yna hen edrych ymlaen acw..




16.2.15

Mynydd yr Olewydd

Gweithred o ffydd, gobaith, a chariad gan y Pobydd naw mlynedd yn ôl oedd prynu coeden olewydd ifanc, a llusgo'r gr'aduras o'r ganolfan arddio ar arfordir mwyn Conwy, bob cam yma i ochr y mynydd, fel anrheg penblwydd priodas i mi.

Thyfodd hi fawr ddim o ran taldra yn y blynyddoedd ers hynny (y goeden 'lly, dim y Pobydd), ond mae golwg digon iach arni hi, ac mae hi'n cael y lle gorau yn yr ardd acw. Caiff fod yn llygad yr haul ac yn dynn wrth wal y tŷ, rhwng Mai a Hydref; wedyn yn y tŷ gwydr trwy'r gaeaf, efo carthen ysgafn pan mae'n rhewi tu allan.

Doedden ni ddim yn disgwyl i'r goeden wneud fawr mwy nag edrych yn dda a thyfu'n hen efo ni a deud y gwir, ond daeth ffrwythau bach arni ddiwedd haf y llynedd. Disgwyl i'r rheiny ddisgyn ymhell cyn aeddfedu oedden ni.


Ond mae hanner dwsin wedi duo yn y tŷ gwydr dros y gaeaf!

Iawn, dwi ddim yn mynd i fedru cael hanner salad efo nhw, ond pwy ddu'dodd bod Stiniog ddim yn lle braf?!  Bananas amdani eleni....


8.2.15

Eira, rhew, haul a gwres

Cafwyd trwch o eira yn ddirybudd dros nos wythnos yn ôl, nes bod ysgolion Stiniog i gyd wedi cau ddydd Llun. Bu hen ddathlu yn y bore wrth inni gadw'r hen draddodiad o aros i Radio Cymru rannu'r newyddion da o lawenydd mawr efo'r genedl!

Ar ôl hynny, 'da ni wedi cael rhes o ddyddiau hyfryd braf. Pob man a phob dim wedi rhewi'n gorn cofiwch, ond yr awyr yn las. Mae'r eirlysiau wedi agor a hwyliau pawb yn well dwi'n meddwl!

Dwi wedi gorfod gwarchod y lafant bob nos trwy'r wythnos. Syniad gwirion: trio tyfu planhigion môr y canoldir ar ochr mynydd... Efallai caf gyfle i fwydro am hynny tro nesa'.

Ta waeth roedd hi'n dywydd mediteranaidd heddiw; yn gynnes braf a'r awyr yn glaer las, ac mi gawsom ni baned al fresco cynta'r flwyddyn fel gwobr am hollti a chadw'r coed tân fues i'n llifio dydd Sul d'wytha.

Buan iawn bydd hi'n amser ystyn yr hamog eto!



1.2.15

Torri coed a chrwydro

Dwi wedi bod yn hel coed tân, fan hyn-fan draw trwy'r gaeaf, ond heb gael y tywydd na'r awydd i wneud llawer mwy na thaflu'r canghennau dros y gwrych i'r ardd gefn. Ond roedd pnawn heddiw'n braf felly allan a fi i lifio.

Llun prin o'r garddwr swil

Roedd hi'n weddol oer erbyn i'r haul suddo tu ôl i'r Moelwynion, ond dwi wedi torri cefn y gwaith, ac yn edrych ymlaen -trist, dwi'n gwbod- i fynd ati i'w hollti a'u tasu, yn barod ar gyfer y gaeaf nesa! Bu'r gwaith bron a thorri 'nghefn innau hefyd: finna heb wneud llawer o waith efo'r lli' gadwyn ers misoedd, a'r bonion yn dew a thrwm. Taw a swnian Wilias, mi wnaiff les ar ôl yr holl stwffio dros y Dolig.

Onnen ydi dipyn golew ohoyn nhw, ac mae hwnnw'n goedyn sy'n llosgi'n dda pan mae o'n wlyb, ond yn cynhyrchu mwy o wres a llai o leithder yn y simdda ar ôl sychu.

Roedd yn braf cael cwmni'r Arlunydd. Mi fuodd hi'n cario a chlirio, a thynnu lluniau. Does yr un o'r ddau ohono' ni'n cofio pryd fuodd hi'n helpu yn yr ardd ddwytha! Mae hi ynghanol cyfres o gyfweliadau prifysgol ar hyn o bryd, a chymysgedd o gyffro, balchder, a phryder wrth iddi hi baratoi i adael y nyth eleni.

O'r diwedd, dwi wedi rhoi blwch nythu newydd ar ochr y cwt, ar gyfer y titws. Roedd y llall wedi bygwth disgyn yn dipiau ers tro.

Mi ges i gwmni'r Pry' Llyfr ddoe, ac roedd hynny'n braf iawn hefyd. Mae hi'n dathlu penblwydd yr wythnos hon ac wedi gofyn am gael beic. Ar ôl codi'r beic o Landudno, mi fuo ni'n beicio ar Lon Las Ogwen, ar ôl i'r gwyntoedd cryfion ein dychryn i ffwrdd o'r arfordir.

Mae'r Fechan wedi bod wrth ei bodd efo'r ychydig eira gawsom ni. Gyrrwyd hi adra o'r ysgol ddydd Iau ac mi fuodd hi'n hel mopins (gair yn Stiniog, a Meirionnydd am beli eira) yn barod i'w taflu ata' i! Mae hi wedi mopio hefyd efo'r rhew yn y bwcedi.


Cymaint dwi'n trysori cwmni'r genod, mi gafodd y Pobydd a finnau ddianc wythnos yn ôl i Gaeredin, am dridiau di-blant. Teithio trwy eira trwchus Yr Alban a'n traed i fyny ar y trên, a chael hoe haeddianol a hwyl garw yn cymowta a chrwydro o siop goffi i dafarn, o amgueddfa i sesiwn werin, ac o fwyty i glwb jazz! Dilyn ein trwynau a gwneud fel y mynnon.

Ymysg y pethau wnaeth y trip yn gofiadwy oedd bwyty llysieuol David Bann (does 'run ohono ni'n llysieuwyr, ond roedd hwn yn brofiad gwych); cwrw porter Black Isle; grisiau Y Scotsman; y planhigion ucheldir ar do estyniad newydd yr Amgueddfa Genedlaethol; a'r arddangosfa am hanes Yr Alban tu mewn.