Tyfu bwyd, hel fy nhamaid, a'r byd o nghwmpas i, 700 troedfedd uwchben lefel y môr.
Showing posts with label gwsberins. Show all posts
Showing posts with label gwsberins. Show all posts

28.5.17

Llifbryfaid

Mae'r diawlad yn eu holau!

Mi suddodd fy nghalon pan welais y ddeilan dyllog gynta.


 Mewn ychydig ddyddiau, os ga'n nhw lonydd, mae'r larfau yn bwyta a thyfu, a bwyta mwy...

 ...gan droi dail yn sgerbydau gweigion.

Gallan nhw droi llwyn cyfa yn llanast mewn wythnos. Mae'n talu i gadw golwg ym mis Mai.

Degllath oddi wrth y coed cyrins cochion a'r gwsberins sy'n cael eu cnoi, mae nythiad o gywion titws, a'r iar a'r ceiliog yn ôl a blaen trwy'r dydd efo lindys a phryfaid i'w bwydo nhw. Biti ar y naw na fysen nhw'n hel y larfau llifbryf sydd o dan eu trwynau. Blas gwael arnyn nhw mae'n rhaid.

Dim byd amdani felly ond gwasgu'r diawlad rhwng bys a bawd. Gwaith ffiaidd braidd, ond gwae unrhyw beth sy'n bygwth fy ngwsberins!


2.8.14

Jam a Jeribincs

Dwi wedi bod at fy nghlustiau mewn ffrwythau.


Mae'r rhewgell yn orlawn rwan, o gyrins cochion a chyrins duon. Roedd yn rhaid hel yr olaf o'r gwsberins, ac roedd hi'n amser hel llus eto. Mae'r cnwd olaf o riwbob yn galw am sylw hefyd, ond bydd yn rhaid i hwnnw aros lle mae o am rwan. Diolch i'r drefn mae dim ond fesul llond llaw mae'r mafon a'r mefus yn cochi yma.

 Mi fuodd hi'n farathon yma echnos, efo jam gwsberins a jam llus ar y popdy; a 'chydig o lus yn stiwio 'run pryd, i'w fwynhau efo iogyrt neu hufen ia dros y dyddiau nesa. O'n i hefyd yn jyglo, wrth aros i'r jam ferwi, efo paratoi fodca llus a brandi cyrins duon.


'Mond tair wythnos sydd ers i mi wneud jam efo'r cnwd gynta o gwsberins, a hwnnw'n goch gloyw. Erbyn hyn, roedd y ffrwythau wedi aeddfedu'n biws, a'r jam yn dywyllach o lawer. Fel llynedd, roedd yn ddiawl o job cael y jam llus i setio. Ond dwi'n gobeithio bod yr ymdrech wedi gweithio er mwyn medru cadw un pot, a chael ei agor ganol y gaeaf ac ogleuo, a blasu'r haf eto.

Braidd yn siomedig oedd y fodca rhiwbob wnes i flwyddyn a hanner yn ôl, felly dwi wedi mynd yn ôl at hen ffefryn: llus gwyllt o'r mynydd*.

Mi fues i allan efo 'Nhad a'r Fechan yn hel, gan ddefnyddio'r grib eto, a chael pum pwys mewn awr a hanner. Tua pwys bob un i 'nghyfaill y Rybelwr a finna wneud fodca, a thri i wneud jam.

Roedd y ffrwyth a'r siwgwr yn mynd i mewn i'r fodca, a'r cwbl yn cael ei droi a'i ysgwyd yn ysgafn.
700ml fodca; 400g llus; 350g siwgr.


Bydd angen ei gynhyrfu bob hyn a hyn, a'i guddio mewn cwpwrdd am fis, wedyn hidlo'r gwirod nol i'r botel wreiddiol a gadael iddo aeddfedu mor hir ag y gallwn heb ymdrybaeddu.

Dilyn rysait rhywun arall ydw i efo'r brandi, ac mae hwnnw'n awgrymu trwytho'r ffrwyth yn y gwirod am fis, ac wedyn ychwanegu siwgwr. A bod yn onest, dwi ddim balchach o frandi, ond gawn ni weld sut beth fydd hwn at yr hydref.


Y Pobydd wedi bod yn arbrofi hefyd; wedi cael eirin gwlanog o'r siop ac wedi tynnu'r croen a chwalu pedwar ohonynt er mwyn ei gymysgu efo gwin pefriog i wneud belini blasus iawn.



* Bysa fiw i mi ddeud wrthoch chi yn lle fuo ni'n hel llus, ond doedd o ddim yn bell o gartrefi yr esgob William Morgan, Tŷ Mawr Wybrnant, a'r newyddiadurwr Elis o'r Nant, sy'n rhoi cyfle i mi roi plyg i lyfr newydd yr hen ddyn. Y rhai sy'n ddigwilydd sy'n ddigolled!


Ond cofiwch, ffeindiwch lefydd eich hunain i hel llus!



10.7.14

Gwsberins

Yn wahanol i'r coed gwsberins yn yr ardd gefn, mae'r ddwy sydd ar y rhandir yn ffrwythlon iawn. Wel, maen nhw wedi cael eu plannu yn y ddaear fel y dylian nhw, tra bod y rhai yn yr ardd yn sownd mewn pwcedi bwyd defaid ers tair blynedd, yn dioddef diffyg lle i ymestyn gwraidd, a phrinder maeth a chwarae teg.


 A deud y gwir, mae'r rhai ar y rhandir yn gwegian dan bwysau'r ffrwyth, a'r canghennau'n sgrechian am ryddhad. Felly dwi wedi hel ychydig ohonynt; tua un ym mhob pedwar ffrwyth, a chael dau bwys, er mwyn gwneud jam sydyn.



Ychydig iawn o drafferth ges i efo'r llifbryf ar y gwsberins a'r cyrins cochion eleni. Mi dalodd i ddal ati i wasgu a rhwbio y llynedd. Job anghynes braidd, ond angenrheidiol os am fwynhau ffrwyth.

21.5.12

Cas bethau, hoff bethau, rhif 2


Dwi wedi bod yn chwilio’n selog ers tua phythefnos, ac fel oeddwn yn dechrau ymlacio a meiddio meddwl na welwn i mo’r diawled bach, dyma weld y tyllau mân, nodweddiadol ar ddeilen gwsberan ddoe. Lindys y llifbryf ydi cas beth heddiw.  Goosberry sawfly  -dyna sydd dan y lach.
Lindysyn (larfa i fod yn dechnegol gywir) llifbryf ym mhob un o'r tyllau...
Ddwy flynedd yn ôl mi gafodd y ddwy goeden gwsberins a’r goeden gyrins coch eu troi yn sgerbydau di-ddail, ac mi gawsom ni flwyddyn sâl iawn o ran ffrwythau'r llynedd. Dwi’n benderfynol na chaiff hynny ddigwydd eto.
Hyd yma, un ddeilen gwsberan oedd wedi’i chael hi ddoe, a dwy ddeilen heddiw ar yr un llwyn, efo’r llall yn glir ar hyn o bryd. Mi ges i siom heddiw i weld eu bod ar un ddeilen cyrins coch.
 Mi fydd yn frwydr ddyddiol rŵan, am nad ydw i’n fodlon defnyddio cemegau i’w difa. Tydi dŵr a sebon yn dda i ddim yn fy mhrofiad i, felly’r unig ddewis ydi eu tynnu a’u bwydo i’r titws, neu eu gwasgu rhwng bys a bawd! Mae’n bosib mae’r pryf sydd yn y llun yma o’r 12fed ydi’r oedolyn.


Moron




 Mae Derec Tywydd wedi deud heno y gallwn ddisgwyl “a taste of summer” am weddill yr wythnos. Nosau braf y gwanwyn ydi fy hoff beth ar hyn o bryd. Medru eistedd allan yn yr ardd gefn efo paned yn gwrando ar y gwenoliaid duon yn sgrechian uwchben wrth hela gwybed, a chrwydro’r ardd yn sylwi ar y planhigion yn newid o ddydd i ddydd. Mae’r rhesi o lysiau yn egino a dangos addewid –o’r diwedd. Melys moes mwy.







Mae’r rhandir yn edrych yn well hefyd...

Yn y gwely pellaf, mae deg o goed mafon. Yn y nesa’ mae dwy goeden gwsberins ac un goeden cyrins duon. Buddsoddiad at y flwyddyn nesa a’r blynyddoedd i ddod ydi’r dair yma, ac maen nhw’n ddigon bach ar hyn o bryd imi wasgu dwsin o blanhigion ffa melyn (broad) i mewn bob ochr iddynt. Hyn yn sicrhau rhyw fath o gynnyrch o’r gwely eleni. Mwy o ffa melyn -un arall o fy hoff bethau yn y byd i gyd- a dwy res o bys sydd yn y gwely nesa. Yn y gwely olaf, i’r dde o’r lleill, mae tair wigwam o ffa dringo (runner), a digon o le ar gyfer rhes o ffa Ffrengig, ac india corn, pan fydd y rheiny’n barod i’w trosglwyddo o’r tŷ gwydr. Efallai y rho’i bwmpen yn eu canol hefyd.
Cyrins duon a gellyg daear sydd yn y twbiau gwyn a’r potiau pridd; tatws yn y sach; origano yn y pot du; a mwy o doriadau cyrins duon ar gyfer creu gwrych ohonynt ar hyd un o derfynau’r plot.

Hoff bethau eraill ar hyn o bryd: 
1. Cywion mwyalchen. Mae'r iar a'r ceiliog yn cario bwyd i dri chyw ar hyn o bryd. 
2. Cwrw! Wedi bod yng ngwyl Cwrw ar y Cledrau dydd Sadwrn, lle oedd ganddynt 64 gwahanol gwrw, fel 'Brenin Enlli'; 'Mwnci Nel'; 'Carmen Sutra'; a llawer iawn mwy. Rhai yn hyfryd a rhai yn uffernol. Cwrw Da, cwmni da, a'r Moniars...wel dau allan o dri ddim yn ddrwg nac'di.
3. Y tymor beicio wedi cyrraedd eto, a'r Giro d'Italia ar y bocs.
4. Rhiwbob. Llwythi ohono acw ar hyn o bryd, ond does byth digon i'w gael. Y Pobydd wedi gwneud pwdin blasus dydd Sul.


9.5.12

Plannu o’r diwedd!


Ddaeth y glaw ddim tan hwyr yn y bore, felly mi ges i ddwyawr dda ar y rhandir.
Mae heddiw’n ddiwrnod mawr! O’r diwedd, dwi wedi plannu’r planhigion gyntaf yno! Roeddwn i wedi mynd a choed gwsberins (Hinnomaki coch, Hinnomaki gwyrdd), mafon (Polka), a’r cansenni newydd i lawr yno efo’r car echnos, ac wedi cerdded yno heddiw efo rhaw, llinyn, a chyllell boced!
Ar ôl plannu’r ffrwythau, a gosod ffrâm o gansenni yn barod ar gyfer pys, a wigwam ar gyfer y ffa dringo, mi fues i’n cario ychydig o gompost ychwanegol o’r twmpath sydd wrth giât y safle. Dyma’r llwybr fu’n rhaid gwthio’r ferfa ar ei hyd: mae o fel pwdin, ac yn waith diangen o galed. (Ar y dde ar ôl y cortyn gwyn mae fy lluarth i). Hwn ydi un o brif lwybrau’r safle. Yn llwybr ar gyfer naw rhandir.


Cyn rhuthro adra o’r glaw, mi es i am dro o amgylch y safle i fusnesu be’ sy’n digwydd. Mae 23 rhandir ar y safle, (pob un wedi’i osod, a rhestr aros hefyd). O’r 23 plot, roedd naw neu ddeg ohonynt heb -neu brin wedi- eu cyffwrdd, ac rydym wedi cael goriad i’r safle ers wythnosau bellach. Roedd dau arall wedi cael diwrnod o sylw efallai. Mae hynna’n hanner y rhandiroedd yn segur! O’r plots yma, mae pump neu chwech ohonynt ar hyd y llwybr difrifol uchod. Mae’n anodd beio pobl am ddigalonni. Mae prynhawn o weithgareddau yno ddydd Sul, er mwyn ceisio annog y deiliaid i weithio’r plots. Dyn a’n helpo os bydd y glaw ‘ma yn para’ tan hynny!

Wrth docio cyrins duon ddwy flynedd yn ôl, mi stwffiais ddwsin o’r toriadau mewn potiau efo deilbridd, ac mi gydiodd bob un ohonynt. Byddaf yn plannu pedwar o’r rheiny efo’r gwsberins os caf ddychwelyd yno cyn diwedd yr wythnos. Erbyn hynny, bydd y pys a’r ffa wedi caledu digon i’w plannu allan efallai.

Llun o'r ardd gefn i orffen:

Hefinwydden, Amelanchier. Y Moelwynion yn y cefndir. Gobeithio cael aeron o'r llwyn yma am y tro cyntaf eleni.

Diwrnod i’r brenin; wythnos yn yr ardd


Am y tro cynta erioed, dwi wedi ffeindio fy hun efo gormod o wyliau yn sbâr, ac yn gorfod eu cymryd cyn y 15fed o Fai, neu eu colli. Sefyllfa ddiarth iawn i mi: ‘does yna ddim digon o wyliau i’w cael fel arfer. Y broblem eleni oedd yr oriau hir, ychwanegol fu’n rhaid i mi eu gweithio ym misoedd cyntaf 2012, er mwyn gorffen joban benodol. Tydyn nhw ddim yn talu am oriau ychwanegol, felly rhaid cymryd yr oriau i ffwrdd pan fo’r pwysau gwaith yn llai. Mae’r dyddiau gwyliau wedi mynd heb eu cyffwrdd ers misoedd felly.
Mi ges i ddeuddydd i ffwrdd yr wythnos d’wytha, ac oherwydd yr ŵyl banc ddoe, a fy mod i ar streic (i warchod y pensiwn) ddydd Iau, dwi adra trwy’r wythnos! Cyfle da i weithio ar yr ardd a’r rhandir, ar gyfnod allweddol. Alla’i ddim cwyno!
blodau ceirios
Wedi bod i’r dre’ (neu “i’r stryd” fel ‘da ni’n ddeud yn Stiniog ‘ma) y bore ‘ma, i dalu biliau, nôl ‘chydig o neges, wedyn eistedd efo paned, gwrando rhywfaint o gerddoriaeth a darllen papur; a chyn troi rownd, roedd hi’n amser cinio, a finnau heb gyffwrdd y rhestr hir o bethau i’w gwneud yn yr ardd, a hithau’n sych! Oer uffernol: ond sych. Dim esgus.



Allan a fi felly ar ôl mwynhau wy wedi’i ferwi, bara cartra’, a phedwaredd baned y dydd...
Methu canolbwyntio rhyw lawer oedd yr hanes wedyn hefyd: twtio’r tŷ gwydr; codi Montbretia sy’n lledaenu i’r llwybrau; symud hwn a’r llall o un lle i le arall, a thindroi. Mi lwyddais i wneud ambell beth oeddwn i wedi bwriadu gwneud, fel rhoi rhwydi dros y gwelyau llysiau i gadw’r bali cathod oddi arnynt. Mae’r anifeiliaid anwes yma ar restr fer cas bethau'r mis. Yr eiliad mae rhywun yn chwynnu a phalu darn o dir, mae’r diawled yn dod, o lech i lwyn, i gachu ymysg y rhesi. 
Mi fues i’n rhoi haen o redyn crin ar y rhesi mefus hefyd. Mae hwn llawn cystal â gwellt fel ‘mulch’ ac i gadw’r ffrwyth oddi ar y pridd -ac wrth gwrs, mae o am ddim! Ma o’n creu compost da hefyd. Dwi’n hel sacheidiau ohono bob blwyddyn, ynghyd â llwyth o ddail yn yr hydref, i wneud deilbridd.
Roedd hi wedi dechrau t’wyllu erbyn i mi fynd ‘nôl allan i dynnu llun.
Deilbridd ydi gair J.E.Jones (‘Llyfr Garddio’, Llyfrau’r Dryw, 1969) am compost, ond mae’r gair yn gweddu orau ar gyfer leafmould dwi’n meddwl. Dwi’n hoff iawn o air arall sy’n ymddangos yn y llyfr hefyd, sef Lleuarth, neu Lluarth (y ddau sillafiad yn cael eu defnyddio). Dyma’r hen enw ar yr ardd lysiau, fel ceir perllan ar gyfer ffrwythau. Mae’r blog Asturias yn Gymraeg yn trafod hyn ymhellach yma.
Mae’r goeden afal Enlli a’r goeden geirios yn llawn blodau ar hyn o bryd, a finne’n glafoerio am yr hyn sydd i ddod. Cafodd y Pobydd goeden eirin Dinbych y llynedd i ddathlu pen-blwydd. Dau flodyn yn unig sydd wedi bod ar honno, ond tydi rhywun ddim i fod i adael i goeden ddod a ffrwyth yn y flwyddyn gyntaf mae’n debyg. Mae yna addewid am gnwd da o gyrins duon; cyrins coch a gwsberins, a dwi’n edrych ymlaen. 
 
Bydd yn rhaid iddi g'nesu gynta wrth gwrs, gan ei bod mor uffernol o oer o hyd. 'Da ni'n dal i gynnau tân gyda’r nos ar hyn o bryd. Un o’r pethau gorau wnaethom ni efo’r tŷ oedd gosod y stôf llosgi coed, ond fel arfer, mae o’n segur erbyn mis Mai. Mi fydda'  i’n sicr yn colli’r coffi ffresh o’r pot ar y tân pan ddaw tywydd gwell, ond galla' i fyw heb hwnnw achos mae’n hen bryd iddi gynhesu wir dduw er mwyn i bethau ddechrau tyfu -ac mae'r coed yn prinhau yn y cwt! 
Maen nhw'n gaddo iddi biso bwrw dydd Mercher, felly paned a phapur fydd hi beryg...

11.4.12

Gwrychoedd

Mi gawson ni ddiwrnod gweddol sych ddoe, a'r joban gafodd flaenoriaeth oedd gosod paneli ffens newydd rhwng yr ardd a drws nesa. Pan brynson ni'r tŷ yma, gwrych privet anferthol oedd ar y terfyn rhwng y ddwy ardd. Yn fylchog oddi tani, yn rhy uchel o lawer, ac yn dwyn o leia’ metr o ymyl yr ardd, roedd yn rhaid iddo fynd! Yn yr ail wanwyn yma, roeddwn wedi gorffen y rhan fwya’ o’r gwaith yn y tŷ, ac yn barod i wneud rhywbeth efo’r gors llawn montbretia allan yn y cefn. Cytunodd C, y cymydog, i fynd i’r afael â’r gwrych efo fi. Cafodd y privet glec, ac mi fuon ni’n chwysu i godi’r gwreiddiau styfnig. Roedden ni wedi cytuno i osod ffens yno o bolion concrit. Wedyn rhoi paneli chwe throedfedd o feather boards rhyngthyn nhw, am eu bod yn rhatach na dim byd arall. Wrth gwrs, mae hynny’n golygu eu bod yn salach na phopeth arall hefyd, ond doedd C a fi ddim isio gwario mwy nag oedd rhaid. Twyllo’n hunain oedd hynny. Pryn rad, pryn eilwaith yn ‘de, felly dyma ni saith mlynedd yn ddiweddarach yn gorfod prynu stwff gwell yn eu lle. Yr unig beth oedd yn cymhlethu’r gwaith oedd y coed a’r tair weiren sydd ar ein hochr ni o’r ffens: lelog Califfornia (Ceonothus) a gwyddfid yn y pen agosa’ i’r tŷ, coeden afal Enlli wedi’i thyfu fel espalier blêr, ceiriosen morello wedi’i thyfu fel ffan, mafon, a rhosyn anhysbys.

Cawodydd gafwyd heddiw, felly mi  es i’r rhandir i ymuno yn yr ymdrech i blannu gwrych o amgylch y safle. Pan oeddwn yn blentyn, cors oedd yno, ac roeddem yn hel penabyliaid a genau goeg yno. Ym 1975 roedd yn ffasiwn i ‘dirlunio’ ardaloedd diwydiannol yng Nghymru, ac fe dynnwyd tomen lechi Glan-y-don i lawr, gan lenwi cyfres o gorsydd yn y fro, gan obeithio denu cwmnïau newydd i sefydlu ar y tiroedd newydd. Taenwyd ychydig bridd a gwrtaith ar ben y llechi, ac roedd yna oglau cachu iar neu mochyn cofiadwy iawn yn y dref am gyfnod!
Ta waeth, mae’r olwyn fawr yn troi tydi, ac mae fy sgwaryn i o randir yn ymddangos fel cors eto. ‘Dim ond reis a watercress fedri di dyfu’n fan hyn’, medd un o’r plant ar ein hymweliad cynta’! Mi welwch o’r llun faint o ddŵr sy’n sefyll ar yr wyneb yno. 
Dwi wedi prynu cansenni mafon a choed gwsberins, ond dwi wedi digalonni efo’r amodau braidd, a ddim yn fodlon rhoi dim yn y ddaear nes dwi wedi gwneud rhywbeth am y draeniad gwael.
Dwi wedi eu rhoi dros dro felly mewn hen dwbiau plastig porthiant defaid. Felly hefyd ambell i beth arall dwi’n tyfu fel arbrawf, fel gellyg y ddaear (jerusalem artichokes), a rwbath o’r enw oca, perthynas i’n blodyn suran y coed ni, o’r Andes, sy’n cynhyrchu cloron blasus medden’ nhw. Mae’n tyfu mewn pridd sâl (check), mewn ardaloedd glawog (check), ond angen haf hir, di-farrug (damia! Wel, amser a ddengys yn de).