Tyfu bwyd, hel fy nhamaid, a'r byd o nghwmpas i, 700 troedfedd uwchben lefel y môr.

16.1.26

Wyt Ionawr yn oer

Annisgwyl a hyfryd oedd yr eira mawr ddaeth dros nos ar y 4ydd o Ionawr yn’de..! 

Na? Digon teg: nid pawb sy’n gwirioni ‘run fath. Dwi’n gwerthfawrogi nad ydi nifer ohonoch yn croesawu’r tywydd oer, ac yn gobeithio y llwyddoch chi i gadw’n glyd a chynnes. Buan daw’r dadmer.


Mae dyddiau gaeafol caled o awyr las, ac eira ar y Moelwyn yn dod ag atgofion am frwydrau mopins hwyliog efo ffrindiau bore oes; wedyn am greu dynion (ac anifeiliaid) eira, a sledio efo ‘mhlant fy hun. Rwan, mae’n gyfle i fynd am dro yn ein cynefin godidog a dychwelyd adra am banad wrth danllwyth o dân.

Be’ ar y ddaear fysan ni’n wneud heb y tywydd i’w drafod dwad?

Un o’r addunedau wnes i flwyddyn yn ôl oedd cymryd mwy o ddiddordeb yn ein tywydd. Chwilio am dystiolaeth i fedru ateb y beirniaid diflas hynny sy’n mwydro am ein glaw yn Stiniog! Felly mi brynais orsaf dywydd i’w gosod yn yr ardd. Gorsaf ‘hobi’ ydi hi cofiwch, nid un o’r rhai drudfawr sy’n rhoi cofnodion manwl iawn, ond mae’n ddigon da i roi syniad ac i ddilyn patrymau yn ein tywydd dros y blynyddoedd i ddod. 

Ac am flwyddyn oedd hi i ddechrau cadw cofnodion! Yn ôl y Met Offis, 2025 oedd y flwyddyn fwyaf heulog, a’r cynhesaf ers iddyn nhw ddechrau cofnodi (hynny ydi, ar draws gwledydd Prydain... Mae gwahaniaethau rhwng y gwledydd unigol). Rhywbeth arall oedd yn nodedig oedd ei bod yn sychach na’r arfer hefyd, efo ambell le yn cael llai na hanner y glawiad arferol yn y cyfnod Mawrth i Awst. 

Roedd Medi, Tachwedd a Rhagfyr ar y llaw arall yn fisoedd efo mwy o law nag arfer -yng Nghymru’n arbennig- a’r rhain ddaeth a’r cyfartaledd yn nes at yr arferol, efo Cymru’n cael 97% o’r glaw arferol dros y flwyddyn, er bod ein cymdogion dros Glawdd Offa yn sychach eto, ac ambell ardal yn dal i rincian dannedd yn bryderus am ddiffyg dŵr yn eu cronfeydd.


Be’ oedd uchafbwyntiau tywydd y Blaenau ta? 

Er fod y 1af o Ionawr 2025 yn wlyb a diflas, daeth barrug ac awyr las ar yr 2il, ac eira ar y 3ydd a’r 4ydd, er ei fod wedi meirioli’n gyflym. Yn ystod Ionawr y llynedd oedd tymheredd isaf 2025 yn Stiniog, sef -4°C.

Mis Mawrth 2025 oedd y sychaf ers 1944 (Met), ac er inni gael fwy o law yn Stiniog na’r cyfartaledd Cymreig, roedd 16 diwrnod yn y mis heb ddiferyn o law yma, a 3 arall efo llai nag 1mm! Hwn oedd y mis sychaf trwy 2025, a bu pla o greithio ar y ffriddoedd o’r 16eg ymlaen, gan barhau yn Ebrill hefyd- y cyfnod gwaethaf posib oherwydd tymor nythu’r adar. Roedd 11 diwrnod cyntaf Ebrill yn sych, a’r tridiau olaf hefyd. Ar ôl hynny parhaodd yn sych am 11 diwrnod cyntaf Mai, er inni gael glaw bob dydd yn yr wythnos olaf. 

Cyrhaeddodd y tymheredd dros 30°C ar Fehefin y 19eg a’r 20fed. Bu cyfnodau braf a chynnes iawn ym mis Gorffennaf, a thymheredd ucha’r flwyddyn yn 32.8°C ar y 12fed (35.8 gradd oedd yr uchaf trwy Brydain, yng Nghaint). Daeth pedwaredd ton wres -heatwave- y flwyddyn ym mis Awst, ac er i’r 4ydd fod y diwrnod gwlypaf o’r flwyddyn bryd hynny, efo 67mm o law (dros ddwy fodfedd a hanner), roedd cyfanswm o 20 diwrnod sych trwy’r mis a dim ond 5 diwrnod efo mwy nag 1mm.

Roedd yn haf cofiadwy iawn, a llawer yn lleol yn ei ganmol fel un oedd yn brafiach hyd yn oed na 1976.

Trodd y rhod i raddau ym Medi gan ddechrau tymor gwlyb iawn yn yr hydref. Dim ond dau ddiwrnod oedd heb unrhyw law ym mis Tachwedd, a chyfanswm glawiad y mis dros 500mm -ia, dros hanner metr (20 modfedd)! Cafwydd barrug/rhew ar foreau’r 19-20-21ain.

Digon ansefydlog oedd Rhagfyr: ambell ddiwrnod braf, llawer o ddyddiau budr; daeth gwyntoedd efo storm Bram ar y 9fed-10fed (85 milltir yr awr yng Nghapel Curig, a rheilffordd Dyffryn Conwy wedi cau oherwydd i goeden ddisgyn ar y cledrau- yn wahanol i’r esgus rhwystredig arferol o ‘lifogydd’). Daeth y flwyddyn i ben efo cyfnod sych iawn: wyth diwrnod sych grimp rhwng yr 20fed a Nos Galan, a 4 arall efo llai nag 1mm. Doedd yna ddim Nadolig gwyn, ond roedd barrug ar y ddaear ar y 26ain ac roedd wedi rhewi’n galed ar fore ola’r flwyddyn.


Efallai bod anthem Anweledig ‘Dawns y Glaw’ yn gor-ddweud wrth fynnu ei bod yn ‘braf o hyd ym Mlaenau Ffestiniog’, ond mae’r dystiolaeth yn eglur iawn nad ydi hi’n bwrw glaw yma trwy’r amser ychwaith!

Sut flwyddyn gawn ni yn 2026 ta? Amser a ddengys, ond dwi’n edrych ymlaen yn arw i ddilyn y tymhorau eto eleni.

- - - - - - 

Darn ar gyfer Llafar Bro, papur bro cylch Stiniog, Ionawr 2026

Darn Tywydd Titw Tomos

 

25.10.25

Rhyferthwy Rhoscolyn

Daeth yn amser i gyfarfod y 'criw coleg' eto am ychydig o grwydro a mwydro -a be gewch chi'n well na cherdded Llwybr yr Arfordir yn ystod gwyntoedd cryfa'r flwyddyn!

Amy oedd yr enw roddwyd ar storm gynta'r tymor (3-4ydd Hydref) ac er ei bod hi ar ei chryfaf yn yr Alban, roedd gwynt o 85 mya wedi'i gofnodi yng Nghapel Curig, ac Ynys Cybi yn ei dannedd hi hefyd ar y bore Sadwrn, wrth i ni gychwyn cerdded yn y glaw o draeth cysgodol Borthwen ar waelod deheuol yr ynys.

Os oedd y tonnau'n drawiadol yn fanno yng nghysgod Ynys Defaid, roedd nerth y gwynt yn hynod wrth i ni rowndio'r pentir a dod i olwg y môr mawr agored! Efo Eryri a Llŷn o'r golwg yn y cwmwl, yn gosod cefndir llwyd i'r olygfa, roedd creigiau a goleudy bach Ynysoedd Gwylanod yn drawiadol o dywyll a bygythiol, a thonnau gwyllt y môr yn chwalu dros y cwbl. Fel gwylio poster enwog goleudy La Jument, Llydaw, yn fyw o flaen ein ll'gadau (er nad ydw i wedi llwyddo i ddal hynny yn y llun isod).

Wrth wthio ymlaen ymlaen tua'r gogledd efo'n pennau i lawr, mae'r gwynt yn chwipio diferion o frig y tonnau i bigo'n hwynebau, fel cenllysg mân. Ac i gadw efo'r gymhariaeth aeafol, roedd yn rhaid cerdded trwy lluwchfeydd o ewyn gwyn yn hedfan ar y gwynt fel clapiau mawr o blu eira gwlyb.

Mae dringo i lawr y grisiau cerrig i ffynnon y Santes Gwenfaen yn rhoi pwt o gysgod am ychydig funudau cyn mentro dros graig gul Porth Gwalch a'n cefnau at un o'r waliau cerrig trawiadol sy'n cadw'r gwartheg yn y caeau a'r cerddwyr allan!

Y Bwa Gwyn. Yn bendant ddim yn saff i sefyll ar ei ben yn y fath wynt!

Y Bwa Gwyn a'r Bwa Du, heb os, ydi sêr yr arfordir syfrdanol yma, ac uchafbwyntiau unrhyw daith ar y cymal yma o'r llwybr cenedlaethol. Tystion trawiadol i nerth y tonnau a rhyferthwy'r môr. 

 

Er bod rhywfaint o awyr las rwan, llai deniadol ydi'r tirlun ar ein llaw dde wrth nesáu at Drearddur; y carafannau a chabannau gwyliau yn boenus o hyll, ond mae'r creigiau -sydd ymysg yr hynaf yng Nghymru- a'r mân ynysoedd, yr hafnau, a'r meini ar ein llaw chwith yn dal i gyfareddu. Allan ar y môr aflonydd du, mae honglad o fferi, wedi cychwyn efallai o harbwr cysgodol Dulun, ond erbyn hyn dwi'n siwr, yn llawn o deithwyr anfodlon iawn, yn aros i weld os fydd hi'n ddiogel i'r llong ddocio yng Nghaergybi, ynta' oes raid siglo a simsanu ar y don am oriau. Craduriaid!

Mae cyrraedd Trearddur yn golygu y cawn fwynhau peint sydyn cyn ail-gydio yn y cerdded am ychydig filltiroedd eto. Ac er bod talpiau o'r darn yma ar balmant a tharmac, ac olion o gyfoeth afiach yn nifer o'r tai Grand-designaidd, mae Porth yr Afon, Porth y Pwll, a Phorth y Corwgl yn werth eu gweld.

Ar ôl ychydig oriau o grwydro tirwedd gwych, mewn tywydd dychrynllyd ond cyffrous iawn, mae'n braf cyrraedd pen y daith ar dywod Porth Dafarch, a chroeso cynnes a chwrw da Bragdy Cybi'n galw. 

Diolch eto am gael rhoi'r byd yn ei le, ac atgoffa'n hunain ein bod yn byw mewn lle gododog!

 

 

27.9.25

Mis y cnau, mis cynhaeaf

Rhan o golofn olygyddol rhifyn Medi Llafar Bro, papur misol cylch Stiniog  

A dyna ni: rhifyn arall o’n papur bro wedi’i gwblhau!

Oherwydd y broses gysodi, argraffu, a dosbarthu, dwi’n dyrnu’r geiriau yma i’r cyfrifiadur wythnos gron cyn i chi eu darllen, ac ar ôl gwthio’r atalnod llawn olaf ar waelod y golofn yma -ar ôl bod yn sownd wrth y sgrîn dros y penwythnos- byddaf yn mynd i’r ardd i hel tunell o ffa dringo, i’w piclo, a’u rhewi, a’u coginio! Mae ffa yn un cynhaeaf y medraf ddibynnu arno waeth sut haf gawn ni yn Stiniog! (Gwilym R Tilsley sydd pia’r bennawd y tro ‘ma gyda llaw; o’i englyn ‘Mis Medi’).

Bu’n haf gwell na’r arfer i arddwyr eleni, ac yn haf ardderchog i ymweld â’r safleoedd gwych sydd ar y Map Mannau Gwyrdd a gyhoeddwyd yn lleol fis Awst. Mae’r rhifyn yma’n llawn i’r ymylon o newyddion ein mentrau cymunedol a’r gweithgaredd rhyfeddol sy’n mynd ymlaen ym Mro Ffestiniog. Does ond angen i chi edrych ar y Calendr Bro yn y rhifyn yma i weld y wledd o ddigwyddiadau sydd o’n blaenau yn y ddau fis nesa’.

Dim ond un o nifer o fentrau sy’n gwneud gwahaniaeth mawr yn lleol ydi Antur Stiniog, ac mae eu hymdrechion nhw a Chwmni Bro Ffestiniog, i adfer a rheoli adeiladau er budd ein cymuned yn codi calon ar adeg pan mae’r difrod i Westy’r Queens wedi bod yn ergyd i’r Stryd Fawr. 

Ond mae’n dal yn anodd peidio codi aeliau ac edrych yn genfigennus i gyfeiriad Llanberis, sydd wedi cael cyfanswm o £24 Miliwn i ail-ddatblygu’r Amgueddfa Lechi yno. Ia, dauddeg-a-phedair miliwn o bunnau! £5.8miliwn gan Lywodraeth Cymru; £6.2miliwn gan Lywodraeth San Steffan; a £12miliwn gan y loteri hefyd! 

Clawr ffug!

Cenfigen, neu ddireidi wnaeth i mi greu tudalen flaen ffug i’w rhannu ar ffesbwc ym mis Awst, am ychydig o hwyl, ond mi gafodd dipyn o ymateb gan y rhai a’i gwelodd! Be ydych chi’n feddwl?

P’run bynnag, dwi’n gobeithio y bydd pawb yn cael mwynhad o ddarllen y dudalen flaen go iawn, a gweddill y rhifyn yma! Cofiwch y bydd rhifyn Hydref yn nodi 50 mlynedd ers cyhoeddi’r rhifyn cyntaf, felly bydd hwnnw’n rifyn arbennig! 

13.8.25

‘Pwy ni chwardd pan fo hardd haf?’

Rhan o golofn olygyddol rhifyn Gorffennaf-Awst Llafar Bro, papur misol cylch Stiniog 

Hmm, tybed oedd yr hafau yn fwy dibynadwy o braf yn nyddiau Dafydd ap Gwilym? Roeddwn yn gofyn ar ddechrau’r golofn olygyddol union flwyddyn yn ôl, os oes pwrpas cwyno am y tywydd? A dyma fi eto -a’r niwl at y drws cefn- yn croesi bysedd y cawn ni ‘hardd haf’ eleni.

Mi ges i eiliad gwan ryw dro dros y gaeaf a chymryd rhandir ar safle’r Gors Fach wrth droed hen ysgol Glan’pwll, ac roedd y sgwaryn o dir ges i yn wlyb doman a’r pridd fel pwdin dan draed. Fel petai hen gynefin y safle yn gwrthod gollwng gafael; er gwaetha’r miloedd tunelli o lechi a roddwyd yno wrth dirlunio tomen Glan-y-don yn y saithdegau. Er gwaetha’r cannoedd o dunnelli o dywod roddwyd yno ar ôl clirio prom y Bermo ar ôl storm tua dechrau’r mileniwm. 

Ac er gwaethaf degawdau o dyfiant helyg a rhododendron a drain a mieri... Mae’r lle dal fel cors pan mae’n bwrw glaw!

Serch hynny mae ambell un o’r lleiniau yn werth eu gweld, ac mi wnaf innau fy ngorau i dyfu ychydig o gyrins duon, gwsberins, a rhiwbob, os gawn ni ychydig o ddyddiau sych i balu!

Ar ddechrau penwythnos y golygu, mi wnes i ddianc oddi wrth y cyfrifiadur am awran neu ddwy ac ymweld â Pherllan Gymunedol Pant yr Ynn am y tro cyntaf. Pob clod i’r Cynghorwyr Tref, roedd yn agoriad llygad; mae yna waith caled a llafur cariad wedi mynd i’r datblygiad. Ges i sgwrs ddifyr efo Medwyn oedd yno’n cynnal a chadw, ac eistedd ar un o’r feinciau wedyn i ymlacio yn swn y nant. 

O fanno, mi es i draw i Ardd Fywyd Gwyllt Gymunedol Tanygrisiau, ger Bont Tŷ’n Ddôl, a mwynhau hanner awr yn crwydro ac edymygu gweledigaeth arbennig criw Y Dref Werdd a’u gwirfoddolwyr diwyd yn fanno hefyd.

Mae galwadau am gymorth i ddatblygu gardd ffrwythau gymunedol yn ardal Tabernacl, ac mae'r Ardd Lysiau Gymunedol Maes y Plas yn ffynnu. Gwyddwn wrth gwrs am Erddi Seren, tu ôl i Fryn Llywelyn yn y Llan. Rhowch y rhain efo’r gwelyau blodau lliwgar ym mharc y Blaenau; perllan fach y Ganolfan Gymdeithasol; coed ffrwythau Cae Bryn Coed, Llan; perllan gymunedol Plas Tanybwlch (dwi’n siwr fod eraill nad wyf yn eu cofio yn fy mrys i gael Llafar Bro i’w wely) -mae yna gyfoeth o erddi cyhoeddus yma.

Os fedr Dolwyddelan gynnal diwrnod ‘Gerddi Agored’ llwyddiannus, mi fysa Bro Stiniog yn medru efelychu hynny, dwi’n sicr. Rhywbeth i’w ystyried ar gyfer Gŵyl y Glaw y flwyddyn nesa’ efallai? Ac er cwyno am y glaw, fysa’n gerddi ni ddim hanner mor wyrdd a gwych hebddo!


20.7.25

Cynefin Gaza

Yn ogystal â'r effaith erchyll ar fywydau pobol, a chymdeithas Balesteinaidd yn gyffredinol, mae'r rhyfel yn Gaza, a'r dwyn tir ar y Llain Orllewinol, yn effeithio ar fywyd gwyllt ac amgylchedd y wlad hefyd.

Mae'n anodd cael llawer o ffeithiau am y sefyllfa, ond mae'r Rhwydwaith Amgylcheddol Balesteinaidd a Chyfeillion y Ddaear, yn adrodd bod y rhyfel a'r meddianu tir wedi 'difrodi pob gwedd ar amgylchedd Gaza, ac wedi dinistrio amaeth a bywyd gwyllt yn llwyr.' 

Yn ôl Sefydliad Bioamrywaieth a Chynaliadwyedd Palesteina, 'mae dinistrio cynefinoedd naturiol wedi arwain at golled sylweddol mewn bioamrywiaeth.' Ac mae Cymdeithas Fywyd Gwyllt Palesteina yn bryderus iawn am ddyfodol natur yno, gan gynnwys eu blodyn cenedlaethol -gellesg Faqqua (Iris haynei), cymaint y mae eu niferoedd wedi dirywio. 

Mae arbenigwyr wedi galw'r dinistr amgylcheddol yn 'ecoladdiad' bwriadol (ecocide) ac y dylid ei drin fel trosedd ryfel arall. 

Drudwy Tristram (Tristram’s starling, neu grackle. Onychognathus tristramii) ym Mhalesteina. Llun gan Linda Graham, un o fy nghyd-gloddwyr yng Nghymdeithas Archeoleg Bro Ffestiniog.

Prin ddwy flynadd a hanner sydd ers i mi ddechrau sgwennu colofn i'r Herald Cymraeg. 

Amrantiad i gymharu efo cyfraniadau Bethan Gwanas ac Angharad Tomos, ond rydw i wedi mwynhau bob eiliad! Hyd yn oed ar adegau pan oedd hi'n ben-sét ar y deadline, a finna heb unrhyw syniad beth fyddai testun y golofn. Neu os oeddwn yn ansicr sut ymateb fyddai rhywbeth lled-ddadleuol yn gael. Nac wrth boeni'n ddi-hyder nad oedd unrhyw un yn darllen yr erthyglau beth bynnag..!

Bu'n fraint cael rhannu fy angerdd am fywyd gwyllt gogledd-orllewin Cymru a thu hwnt. Er fy mod yn un o olygyddion papur bro cylch Stiniog, ac yn cyfrannu erthyglau a newyddion i hwnnw yn rheolaidd, tydw i ddim wedi ystyried fy hun yn 'awdur' neu'n 'sgwennwr' erioed, ond roedd y profiad -a'r cyfrifoldeb- o geiso diddanu darllenwyr Yr Herald Cymraeg a Dail y Post bob tair wythnos yn wirioneddol werth chweil.

Ond efallai bod ambell un o ddarllenwyr Yr Herald wedi sylwi na fu colofn gan Bethan, Angharad, na finna yn y tri rhifyn diwethaf.  

Roedd Bethan wedi gyrru ei herthygl hi yn brydlon ar gyfer rhifyn y 3ydd o Orffennaf, ond chyhoeddwyd mohoni. Doedd neb wedi cysylltu â hi, a doedd dim eglurhad yn y papur 'chwaith. A phan gysylltodd yr awdur â'r golygyddion deallodd eu bod wedi gadael y golofn allan am fod Bethan yn son am erchyllterau zeioniaeth ym Mhalesteina. Roedd y tîm golygyddol yn amlwg ofn trwy eu tinau ar ôl stŵr darllediad y BBC o Glastonbury.

Mae Bethan erbyn hyn wedi dychwelyd at gylchgrawn Golwg fel colofnydd, a dwi'n edrych ymlaen i ddilyn ei hynt a'i hanesion yn fanno.

Gan nad oedd eglurhad nac ymddiheuriad gan olygyddion cwmni Reach yn y rhifyn dilynol, am sensro erthygl Bethan, mi ydw i wedi ymuno efo hi ac Angharad yn eu penderfyniad i beidio bod yn golofnwyr iddyn nhw mwyach.

Corff arbenigol, rhyngwladol, annibynol sy'n hyrwyddo rhyddid y wasg a gwarchod gallu newyddiadurwyr i adrodd y newyddion yn ddiogel ydi'r CPJ (Committee to Protect Journalists), ac mewn adroddiad ar 16eg Gorffennaf maen nhw'n datgelu bod 'o leiaf 178 o newyddiadurwyr Palesteinaidd wedi eu lladd' ers dechrau'r cyfnod diweddaraf yma o ryfela yn Gaza, llawer ohonyn nhw yn cael eu hystyried yn dargedu bwriadol ac yn lofruddiaethau. Mae eraill wedi dioddef ymosodiadau; 89 wedi eu harestio, dau ar goll, a llawer wedi gadael yr ardal mewn ofn.

Mae'n allweddol bwysig felly fod newyddiadurwyr yr ynysoedd yma yn gadarn eu hegwyddorion wrth adrodd y gwir am yr hyn sy'n digwydd yn nhiroedd Palesteina.

Nid Kneecap ydi'r stori. Nid Bob Vylan -nac artistiaid eraill sy'n galw am ddiwedd i'r erchyllterau yn Gaza a'r Llain Orllewinol- ydi'r stori. 

Hil-laddiad ac apartheid -ac ecoladdiad- ydi'r stori. Rhaid ei hadrodd yn agored a gonest!

 

Llun gan John Rowlands (wedi'i gipio o'i fideo a rannwyd ar facebook). Addaswyd y slogan gwreiddiol -Cofiwch Llechwedd- ar gwt weindio un o inclêns Stiniog gan rywun tua dechrau'r mis.