Tyfu bwyd, hel fy nhamaid, a'r byd o nghwmpas i, 700 troedfedd uwchben lefel y môr.

12.12.24

Hau'r Gwynt

Wyddoch chi y medrwch chi awgrymu enw ar gyfer stormydd?

Na finna’ chwaith; tan rwan. Eisau gwybod oeddwn pam bod nifer o enwau Gwyddelig ar y stormydd, ac enwau Cymraeg yn brin, felly mi drois at wefan y MetOffice. Yno mae’n egluro eu bod nhw -ar y cyd efo swyddfeydd tywydd Iwerddon a’r Iseldiroedd, yn rhoi rhestr at ei gilydd bob mis Medi.

Éowyn fydd enw’r ddrycin nesaf, a Floris, Gerben, a Hugo ddaw wedyn. Peidiwch a dal eich gwynt am enw Cymraeg yn y gyfres yma; ‘does yna ddim un. Wrth ateb y cwestiwn ‘Sut mae dewis enw?’ dywed y Met bod yr enwau yn ‘adlewyrchu amrywiaeth y deyrnas gyfunol, Iwerddon a’r Iseldiroedd’. A dyna ni: debyg mae rhywun yn Llundain sy’n penderfynu pa enwau sy’n adlewyrchu gwledydd Prydain! Ond, medden nhw, maen nhw’n croesawu awgrymiadau am enwau i stormydd y dyfodol, a ffurflen bwrpasol ar eu gwefan -chwiliwch am eu tudalen ‘UK Storm Centre’. Dwi’n pendroni ai doniol ynta’ poenus a rhwystredig fysa gweld gohebwyr tywydd yn ceisio dweud Storm Rhydderch neu Lleuwen, ond ewch ati i gynnig enwau ar gyfer y flwyddyn nesa beth bynnag!


 

Bron union flwyddyn yn ôl, daeth storm Elin a gwyntoedd o 81 milltir yr awr i Gapel Curig a thros 4” o law yn Eryri. Hi oedd yr unig storm efo enw Cymraeg yng nghyfres 2023-24. Mi oedd Owain ar restr 2022/23 ond dim ond dwy ddrycin gafwyd y tymor hwnnw, a dim ond stormydd A a B welodd olau dydd!

Enwyd saith storom y flwyddyn cyn hynny, ond pwy fedr anghofio’r cyntaf ohonyn nhw, sef Arwen, ddiwedd Tachwedd 2021?  Gwn am ambell lecyn lle mae’r coed a chwalwyd dros nos gan Arwen yn dal blith draphlith ar draws llwybrau cyhoeddus, cymaint oedd y llanast annisgwyl oherwydd fod y gwynt yn hyrddio o’r gogledd.

Yn anffodus wnaeth y stormydd ddim cyrraedd y llythyren H yn nhymor ‘20-21. Mi fyddai Storm Heulwen wedi swnio’n rhyfedd iawn i glustiau Cymraeg dwi’n siwr.

Wrth yrru hwn i’r wasg, mae rhai o drigolion a busnesau’r gogledd, a “degau o filoedd... yn Sir Gâr a Cheredigion” -yn ôl gwefan Newyddion S4C- yn dal i aros i gael eu trydan yn ôl yn dilyn gwyntoedd Darragh ar Ragfyr y 6ed. Gobeithio y bydd adfer buan i bawb.

Rhaid cyfaddef imi gysgu trwy’r cyfnod rhybudd coch, heb glywed dim. Welsom ni ddim llawer o ddifrod yn ein rhan ni o Stiniog trwy’r rhybudd oren ychwaith a dweud y gwir, ond mi barhaodd yr hyrddio yn hir trwy ddydd Sadwrn a’r Sul hefyd. Do, mi amharwyd ar drefniadau wrth gwrs. Canslwyd diwrnod allan hir-ddisgwyliedig efo cyfeillion, a bu’n rhaid danfon y ferch i Gaer ddydd Llun oherwydd diffyg trenau yn y gogledd, ond dwi’n cyfrif bendithion nad effeithwyd fi a’r teulu’n fwy na hynny.

Y tirlithriad uwchben Llyn Y Ffridd

Credaf i ni gael mwy o law yn Stiniog ychydig ddyddiau cyn Darragh, nag a fu yn ystod y rhybuddion tywydd garw. Roedd yn dymchwel glaw dros nos ar y 4ydd/5ed. Wedi stido bwrw cymaint nes bod y cadwyn mynyddoedd sy’n bedol am dref y Blaenau yn llawn ffrydiau a nentydd newydd, ac mi fu tirlithriad bychan ar lethrau Ffridd y Bwlch. Mi fum yn crwydro’r ffridd bnawn Sul er mwyn cael gwell golwg, ac mae’n ymddangos fod yr holl ddŵr wedi gwneud y dywarchen mor drwm fel bod y pridd tenau wedi llithro oddi ar y graig lefn oddi tano a chludo tunelli o fwd a cherrig i lawr efo fo. 

Mae prosesau daeareg yn dal i siapio’n tirlun ni ers miloedd o flynyddoedd, ond mae’n ymddangos fod tirlithriadau yn digwydd yn amlach ar hyn o bryd. 

Wrth achosi newid hinsawdd, rydym ni wedi hau’r gwynt ac rwan yn medi’r corwynt, yn llythrennol.

Mi ges i lyfr yn anrheg yn ddiweddar: ‘100 Words For Rain’ a difyr iawn ydi o hefyd, efo rhestr fer o eiriau Cymraeg fel brasfwrw, curlaw, sgrympiau ac ati. Ond prin gyffwrdd â’r eirfa ydi hynny. Mae Geiriadur Prifysgol Cymru yn cynnwys ‘Glaw Stiniog’ yn eu rhestr; cymysgedd o falchder a siom i mi fel un o’r trigolion sydd, yn ôl cerdd Gwyn Thomas ‘wedi eu tynghedu i fod yn wlyb’!
Cadwch yn sych a chynnes tan y tro nesa’ gyfeillion.
- - - - - - - 

Ymddangosodd yn wreiddiol yng ngholofn Cynefin Yr Herald Cymraeg (Daily Post), 12 Rhagfyr 2024 (Dan y bennawd 'Enwi'r Stormydd')

 

Ambell erthygl am y glaw yn Stiniog, yn Llafar Bro, papur misol Stiniog a'r cylch.

21.11.24

Pawb a’i fys

Roedd yr olygfa yn syfrdanol. Annisgwyl. Sefais am gyfnod yn edmygu a rhyfeddu.

Anaml iawn mae coedwig gonwydd yn cynhyrfu’r synhwyrau. Coedwigoedd masnachol, tywyll; miloedd ar filoedd o goed sbriws yn tyfu’n rhesi tynn. Prin dim golau’n cyrraedd y llawr, a dim byd yn tyfu oddi tanynt. 

Ond roedd y tro hwn yn eithriad. Ar ôl gwthio a stryffaglu trwy ardal drwchus dyma synnu o ddod i lecyn agored a golau, efo coed gweddol aeddfed, y cnwd wedi ei deneuo’n sylweddol dros y blynyddoedd. A hithau’n ddiwrnod hydrefol braf, ac ychydig o darth y bore yn dal i godi, roedd yr haul yn isel yn yr awyr, a’i belydrau yn tywynnu trwy’r coed. Mi anghofiais am ychydig funudau lle oeddwn i, yn gwylio’r bysedd haul yn hollti’r goedwig! Un o’r achlysuron hynny pan mae rhywun yn y lle iawn ar yr adeg iawn.

Ond nid dyna’r unig beth gwerth ei weld. O bell, ar fonyn hen goeden wedi torri yn ei hanner, ‘roedd rhywbeth gwyn yn tynnu’r sylw, ac o’i gyrraedd, gweld mae llwydni llysnafeddog oedd o. Slime mould yn Saesneg. Teulu ydi hwn o organebau nad yw’r byd gwyddonol dal ddim yn gwybod y cwbl amdanyn nhw. 

Ddim yn anifail (er ei fod yn medru symud); ddim yn blanhigyn ychwaith. Dim hyd yn oed yn ffwng, er taw mycolegwyr -pobol ffwng- sy’n ei astudio yn bennaf. Y mwyaf dwi’n ddarllen am lwydni llysnafeddog, y mwyaf dwi’n ryfeddu. Mae’n byw fel organeb meicrosgopaidd, un gell, yn annibynol nes mae nifer ohonyn nhw’n dod at eu gilydd i greu’r llysnafedd er mwyn medru crwydro i chwilio am fwyd. O fewn oriau gall fod wedi aeddfedu, sychu, a chynhyrchu sporau sy’n gwasgaru ar y gwynt, a’r rheiny wedyn yn datblygu’n organebau un gell eto i ail-ddechrau’r cylch. 

Dan amodau labordy, mae gwyddonwyr wedi dangos fod y llysnafedd yn medru gweithio ei ffordd trwy labyrinth i ganfod uwd, yn medru cofio, synhwyro goleuni ac yn medru blasu, gan ymddwyn fel un creadur efo ymenydd er nad oes ganddo’r fath beth... Ew, mae byd natur yn fwy diddorol a dyrys nag unrhyw greadigaeth sci-fi!

Er gwaethaf dirgelwch y peth diarth yma ar y goeden, mae o’n tu hwnt o hardd o edrych yn fanwl! Ia, ‘wn i: mae hardd yn ansoddair rhyfedd iawn ar gyfer rhywbeth a elwir yn lwydni ac yn llysnafedd. Tydi fy llun i ddim yn gwbl eglur mae gen’ i ofn, ond mae’r miliynau o gelloedd wedi trefnu eu hunain fel rhesi o glystyrau byseddog gwyn, yn atgoffa rhywun o anemonïau môr, neu gwrel. Eto, dim ond lwc oedd i mi gyrraedd pan wnes i. Mae’n anhebygol y byddai wedi bod yno y diwrnod cynt na wedyn, yn y ffurf trawiadol yma. Llysnafedd cwrel (coral slime, Ceratiomyxa fruticulosa) oedd hwn mae’n debyg -un o’r rhywogaethau sy’n cynhyrchu ‘corff’ mawr fel hyn. Llysnafedd chŵd ci ydi un arall sydd i’w gael yng Nghymru, ac yn werth ei weld er gwaetha’r enw anghynnes.

Ffwng go iawn ydi’r tyfiant melyn sydd yn y llun gyda llaw. Corn carw melyn (yellow stagshorn fungus, Calocera viscosa), un oedd yno cyn i’r llysnafedd ymgasglu o’i gwmpas mwy na thebyg. 

Y cyrn melynion yma oedd yr ychydig bethau welais yn tyfu ar lawr di-haul y goedwig wrth wthio fy ffordd yn ôl trwy’r tyfiant i gychwyn am adref ar ôl bore gwell na’r disgwyl!
- - - - - - - 

Ymddangosodd yn wreiddiol yng ngholofn Cynefin Yr Herald Cymraeg (Daily Post), 21 Tachwedd 2024 (Dan y bennawd 'Rhyfeddod Natur')



31.10.24

Crwydro a Mwydro

Hen bethau digon sâl am gadw cysylltiad ydi dynion fel arfer, ond dwi’n falch o gael cyfarfod criw bach o ffrindiau coleg bob blwyddyn i gerdded Llwybr Arfordir Cymru. Mae ein teithiau hydrefol ni yn fwy o fwydro nac o grwydro a dweud y gwir, gan ein bod yn rhoi’r byd yn ei le a cherdded yn boenus o araf gan amlaf. Rydym wedi chwerthin ers talwm y cymer hi dros 80 mlynedd i ni gwblhau’r llwybr i gyd!

Dyma’r llwybr cenedlaethol cyntaf yn y byd i ddilyn arfordir cyfan unrhyw wlad- ac mae Wicipedia yn dweud ei fod yn 870 milltir o hyd, o Gas-gwent i Saltney. 

O’r Borth i Aberystwyth oedd taith eleni; gwta saith milltir o gerdded, ond taith braf iawn, efo Ynys Enlli ar un pen i orwel pell Bae Ceredigion, a bryniau Preseli ar y pen arall. Mae daeareg trawiadol Trwyn Pellaf, Carreg Mulfran, a Chraig y Delyn, yn werth ei weld, a phlygiadau a haenau’r graig olaf yna yn debyg iawn i siap a thannau telyn. Braidd yn uchel oedd y llanw wrth inni gyrraedd Sarn Cynfelyn, ond roedd clawdd enwog Cantre’r Gwaelod yn amlwg iawn serch hynny. 

Roedd bilidowcars yn niferus ar hyd y glannau, nid dim ond ar Garreg Mulfran, a dwsin o frain coesgoch fel petaen nhw’n ein dilyn bob cam.

Diwrnod ardderchog arall efo cyfeillion hoff gytûn, yn gorffen fel pob blwyddyn efo pryd da o fwyd, peint neu ddau, a llawer o hwyl a hel atgofion. Dyma edrych ymlaen at tro nesa’.

Difyr darllen colofn Angharad Tomos am swydd Efrog ddechrau’r mis lle cyfeiriodd at Gatraeth ac Aysgarth, gan i minnau ymweld â rhaeadrau hynod Aysgarth ym mis Medi hefyd. Mae cerdd arwrol Y Gododdin o Lyfr Aneirin yn son yn bennaf am frwydr Catraeth, ond mae pennill arall yn fwy o hwiangerdd sy’n son am dad plentyn yn hela ceirw, a grugieir o’r mynydd, a physgod o ‘rayadyr derwennyd’. Mae’r gwybodusion yn dweud mae Lodore Falls yn Derwent Water ydi fanno (a hawdd deall pam oherwydd tebygrwydd yr enw Derwent), ond gan fod Ays yn hen air am dderw (a garth yn golygu ardal o dir, fel gardd yn Gymraeg), mae’n haws gen i gredu mae Rhaeadr Aysgarth ydi Derwennyd y gerdd. Dim ond deunaw milltir o Gatraeth ydi Aysgarth, tra bod Lodore yn 76 milltir... Mae’n ddifyr damcaniaethu ond pwy a ŵyr ‘nde!

Mi fues i yn ôl yn y de-ddwyrain y mis hwn hefyd, a’r tro yma wedi cael crwydro glannau Afon Wysg, a chamlas Mynwy-Brycheiniog. Mae pont ddŵr Brynich, lle mae’r gamlas yn croesi’r afon yn werth yr ymdrech i’w chyrraedd, a pheirianwaith y lociau gerllaw yn rhyfeddol i’w wylio’n gweithio hefyd. 


Uchafbwynt arall oedd coed yw syfrdanol o hardd Eglwys Llanfeugan ger pentref Pencelli. Er yn iau o dipyn nag ywen wych Llangernyw, tybir fod y rhain o leiaf ddwy fil o flynyddoedd oed, ac fel mewn nifer o fynwentydd eraill trwy Gymru, yn dynodi safle bwysig i’n hynafiaid ers cyn dyfodiad cristnogaeth ac ymhell cyn codi’r eglwys. Efallai fy mod yn hygiwr coed, ond byddai angen hanner dwsin o bobl eraill i fedru amgylchynu’r mwyaf o’r rhain. Hyfryd serch hynny oedd eu gweld a’u cyffwrdd, a dychmygu’r hanes aeth heibio tra oedden nhw’n tyfu. 

Yn gynharach, roeddwn ychydig filltiroedd i ffwrdd yn darllen llyfr ‘Y Castell ar y Dŵr’ (Rebecca Thomas, 2023) ar fainc ar lan Llyn Syfaddan, lle seilwyd y nofel hanesyddol. Awr fach o ddihangfa o’r byd prysur, yn dychmygu’r cymeriadau oedd yn byw yma ganrifoedd yn ôl, a gwylio cwtieir a bilidowcars ar ymylon y crannog -yr unig enghraifft o dŷ amddiffynol ar ynys mewn llyn yng Nghymru.

Ar ddiwrnod arall mi ges i grwydro Gwarchodfa Gwlyptiroedd Casnewydd, i chwilio am ditws barfog -eu hunig safle magu yng Nghymru, ond aflwyddianus oeddwn i, a dod oddi yno’n siomedig! Ond o leiaf ges i gerdded dwy filltir arall o Lwybr Arfordir Cymru wrth chwilota yno, a chael bod ychydig bach yn nes at gwblhau’r 870 milltir!
- - - - - - -  

bilidowcar: mulfran, cormorant, Phalacrocorax carbo
brân goesgoch: chough, Pyrrhocorax pyrrhocorax
ywen: yew, Taxus baccata
cwtiar: coot, Fulica atra
titw barfog: bearded tit, Panurus biarmicus
- - - - - - - 

Ymddangosodd yn wreiddiol yng ngholofn Cynefin Yr Herald Cymraeg (Daily Post), 31 Hydref 2024 (Dan y bennawd 'Crwydro Arfordir')

10.10.24

Glannau Brenig ac Eirin Dinbych

Mae’r gwynt yn chwythu’n oer ar draws wyneb y llyn wrth inni gerdded i lawr o Nant Criafolen, a’r haul yn wan ac isel mewn awyr lwydlas denau. Ond mae’n sych, a hynny’n hen ddigon i’n denu o’r car cynnes i fynydd agored Hiraethog ar ddechrau mis Hydref. 

Fferm wynt sydd amlycaf yma; a chronfa ddŵr enfawr Llyn Brenig. Ar y gorwel, planhigfeydd o goed conwydd. I gyfeiriad arall, rhostir eang a reolwyd ar gyfer saethu adar. Ar dir is, ambell gae glas o borfa rhygwellt, wedi’i hawlio o dir gwyllt trwy aredig, hadu, a gwrtheithio. ‘Does yna ddim byd yn naturiol am y tirlun hwn. 

Bu pobl yn dylanwadu ar dirlun Hiraethog ers miloedd o flynyddoedd. Lle mae’r llyn rwan -yn ôl gwefan ardderchog Archwilio ("Cronfa ddata o wybodaeth archaeolegol a hanesyddol")- cofnodwyd cyllyll fflint o’r oes efydd; blaen saeth; beddi, carneddi, a mwy. Ac mae digonedd o henebion ar y glannau hefyd, a Dŵr Cymru yn hyrwyddo’r llwybr yng ngogledd ddwyrain y llyn fel Llwybr Archeolegol, efo paneli gwybodaeth da ar ei hyd.

Dafliad bwyell o’r maes parcio mae Boncyn Arian, twmpath amlwg ar lan y llyn: bedd o’r oes efydd (tua 4,000 o flynyddoedd yn ôl) a thystiolaeth o ddefnydd 2,000 o flynyddoedd cyn hynny yno hefyd. Gerllaw mae carnedd gylchog -cylch o gerrig- ac olion cylch arall o fonion coed yn ei amgylchynu.

A’r gwynt yn chwipio o’r de-orllewin, mae tonnau gwynion yn corddi wyneb y llyn ac yn bwyta’r dorlan o dan y safleoedd hanesyddol yma. Er fod y cwmni dŵr yn amlwg wedi ymdrechu i warchod y lan efo rhes o feini mawrion, mae’r erydiad i’w weld yn parhau i fygwth yr archeoleg yn y tymor hir.
Gyferbyn, ar lan bellaf y llyn mae sgwariau yn rhostir Gwarchodfa Gors Maen Llwyd yn dyst i’r gwaith torri grug gan Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru er mwyn cael lleiniau o dyfiant o wahanol oedran ar gyfer grugieir.

Wrth droi cornel daw Hafoty Sion Llwyd i’r golwg, mewn pant braf allan o afael y gwaethaf o’r gwynt. Yn gefnlen i’r hen dyddyn mae llechwedd llawn rhedyn. Hanner y planhigion wedi crino’n goch a’r gweddill dal yn wyrdd am y tro, a’r cwbl yn siglo’n donnau sychion yn yr awel, fel ton Fecsicanaidd yn symud trwy dorf mewn stadiwm. Uwchben y llethr mae cudull coch yn hongian ar y gwynt; ei gorff yn gwbl llonydd a’i ben ar i lawr yn llygadu tamaid, tra bod ei adenydd main yn brysur gadw fo yn ei unfan i aros am yr eiliad perffaith i daro. A thu ôl iddo: llafnau hirion y melinau gwynt yn troi’n ddistaw a di-stŵr, dim ond swn gwynt trwy ddail melyn sycamorwydden wrth dalcen yr hafod i’w clywed yma.

Yn ôl ar lan y llyn mae clamp o gacynen dinwen hwyr yn mynnu hedfan sawl gwaith at gôt las fy nghyd-gerddwr, er mawr digrifwch i ni. Yn ôl ei maint, brenhines newydd ydi hon, naill ai yn chwilio am gymar, neu’n manteisio ar yr ychydig haul i hel neithdar cyn gaeafu.

Uwchben mae deg neu fwy o wenoliaid y bondo yn hedfan ar wib am y de, ac mae’n amser i minnau droi am adra hefyd. Fues i erioed ar lannau Llyn Brenig o’r blaen, ond efo canolfan ymwelwyr, caffi, a nyth gweilch y pysgod ar ochr ddeheuol y llyn, mae digon yma i’m denu fi’n ôl yn yr haf.

Wedi bod yng Ngŵyl Eirin Dinbych oedden ni. Marchnad grefftau a bwyd digon difyr, ond heb lawer o son am y coed eirin enwog, a dim ond ychydig o gynnyrch eirin lleol ar gael, oherwydd tymor tyfu sâl mae’n debyg. Mae fy nghoeden Eirin Ddinbych i yn yr ardd acw, yn 13 oed eleni. Tri haf ar ddeg heb yr un ffrwyth. Dim un cofiwch! Dwi wedi bygth ei llifio sawl gwaith ac wedi dadlau efo’r feithrinfa nad ydi hi, fel maen nhw’n honni, yn hunan-ffrwythlon ar safle 700 troedfedd uwch y môr! Ta waeth, rwy’n dal i gredu; dal i aros, efallai y caf eirin y flwyddyn nesa a theithio’n ôl dros fynydd Hiraethog i ddathlu.

grugiar, grouse
rhedynen ungoes, bracken. Pteridium aquilinum
cudull coch, kestrel. Falco tinnunculus
cacynen dinwen, white-tailed bumblebee. Bombus lucorum
gwennol y bondo, house martin. Delichon urbica
- - - - - - - - - - - - 

Ymddangosodd yn wreiddiol yng ngholofn Cynefin Yr Herald Cymraeg (Daily Post), 10fed Hydref 2024 (Dan y bennawd 'Glannau Brenig')

 

19.9.24

Melys Moes Mwy

Ychydig iawn o bethau sy’n brafiach nag eistedd allan yn yr ardd yn gwylio’r machlud efo diod oer. Gwylio’r gwenyn a’r cacwn yn hel neithdar a phaill o’r blodau cyn i’r haul suddo. 

Bach ydi’n gardd ni, felly does dim lle i gael pwll bywyd gwyllt, a chors. Dim lle i gael dôl flodeuog, a choed, a chorneli gwyllt a phob cynefin posib. Ond does dim raid cael y cwbl! Mae gerddi pawb yn wahanol: rhai yn dwt ac yn llawn rhesi syth; eraill yn llawn mieri, heb eu cyffwrdd ers talwm; a phob dim arall rhwng y ddau yna. Rhowch pob un at ei gilydd ac mae gennych chi amrywiaeth mawr o sefyllfaoedd gwahanol sy’n cynnig rhywbeth i lawer iawn o fywyd gwyllt.

Dywedir fod dros filiwn o aceri o erddi yng ngwledydd Prydain, a hynny’n ardal sy’n fwy na chyfanswm y gwarchodfeydd natur. Mae yn bosib felly i bawb gyfrannu at gynnig cynefinoedd i bryfetach ac adar a mamaliaid ac ati, ac mae hynny’n rhoi boddhad mawr i mi wrth roi fy nhraed i fyny ar ôl diwrnod o arddio.

Dim byd i gymharu efo, er enghraifft Great Dixter, gardd sydd yn y premier league o erddi yr ynysoedd yma. Gardd gafodd arian Loteri er mwyn cynnal arolygon manwl o fywyd gwyllt y safle. Cofnodwyd 130 math o wenyn gwahanol yno; ac 16 allan o’r 24 cacynen (bumblebee) sydd i’w cael ym Mhrydain; 32 rhywogaeth o löyn byw, a dros 400 gwyfyn (moth). Mae yno 220 math o bry copyn hefyd! Rhwng y rhain a blodau gwyllt, cen a mwsog, ac amffibiaid ac ati, mae dros 2300 rhywogaeth wedi eu canfod yno. Rhai ohonyn nhw’n brin iawn. Cofiwch, mae gan Dixter lawer mwy o dir na fi, yn cynnwys pwll mawr a pherllan a choedwig a dolydd a gwrychoedd..! 

Fi: cenfigennus? Ydw, siwr iawn! Ond serch hynny, dwi’n ddigon bodlon ar y cyfan yn ein gardd fach drefol ni, rhwng dwy ardd arall ac ar gyrion coedwig dderw. Yn fodlon bod gwerth i bob gardd -gardd fechan neu erddi enfawr- wrth gynnal bio-amrywiaeth.

Mae gwenyn mêl (honey bee, Apis mellifera) wedi bod yn amlwg iawn yn y blodau yma yn ddiweddar. Nid pryfaid gwyllt ydi gwenyn mêl ar y cyfan heddiw, er syndod mawr i lawer. Pan mae rhywun yn cadw cychod gwenyn mewn ardal (a dwi’n cyffredinoli a gor-symleiddio sawl peth yn y golofn y tro hwn cofiwch), gall hynny fod yn newyddion drwg i’r peillwyr gwyllt lleol. Mae degau o filoedd o wenyn mêl yn medru bwyta cryn dipyn! A hynny’n gystadleuaeth i’r gwenyn, cacwn, a glöynnod byw am y bwyd sydd ar gael. 

Wedi dweud hynny, gwn fod poblogaeth o wenyn mêl yn byw yn wyllt yn lleol, ac mae’n debyg fod y wenynen fêl dywyll, Gymreig, ar yr ynysoedd hyn ers miloedd o flynyddoedd. 

Tair blynedd yn ôl, wrth grwydro yn un o’r coedwigoedd lleol, daeth fy nhad ar draws boncyff coeden oedd wedi disgyn mewn gwynt y noson flaenorol. Roedd y goeden yn amlwg wedi marw ers cryn amser a’r rhuddin yn ei chanol hi wedi pydru’n dwll mawr. Llenwyd y twll hwnnw -pan oedd y goeden yn dal ar ei thraed- efo crwybrau (honeycomb) gwenyn mêl. 

 

Erbyn i mi fynd yno ddau ddiwrnod wedyn, roedd bron y cwbl wedi mynd. Wedi bod yn wledd felys iawn i fochyn daear (badger, Meles meles) mwy na thebyg. Os lwyddodd y frenhines i ddianc, mi fyddai hi -efo’i gweithwyr- wedi heidio i dwll mewn coedon arall i gychwyn eto!

 

Wyddwn i ddim lle yn union maen nhw’n byw bellach, ond mae croeso iddyn nhw ddod i hela neithdar acw, cyn belled a bod peillwyr eraill yn dal i ddod hefyd! Yn y cyfamser, mi fues i yn Ffair Fêl Conwy ddydd Gwener d’wytha, fel pob blwyddyn ar y 13eg o Fedi, yn blasu a phrynu potiau euraidd o’u cynnyrch melys gwych. Mi fydd y ffair ar ddydd Sadwrn y flwyddyn nesa, efallai y gwela’i chi yno!
- - - - - - - - - - - - - -

Ymddangosodd yn wreiddiol yng ngholofn Byd Natur Yr Herald Cymraeg (Daily Post), 19eg Medi 2024 (dan y bennawd 'Y Wenynen Fêl')

 

5.9.24

Gwybodaeth ydi’r trysor pwysicaf!

"Gwybodaeth ydi’r trysor pwysicaf!" -Dyna ddywed Bil Jones, sy’n arwain y cloddio archeolegol ar safle Llys Dorfil yng Nghwmbowydd, pan soniodd rhywun mor braf fysa darganfod trysor ar y safle!

Ar ôl bwlch yn y cloddio yn 2023, mae mor braf cael ail-afael ynddi eleni, a’r criw o wirfoddolwyr lleol yn croesi bysedd bob wythnos y bydd Dydd Llun, Dydd Iau, a Dydd Gwener yn sych, er mwyn cael teithio i waelod y cwm, tynnu’r tarpolin glas yn ôl, a bwrw iddi eto efo’n tryweli bychain a’n brwsh a rhaw. 

Crafu canrifoedd o bridd a mawn, fesul haen yn ofalus, nes datgelu sylfeini adeiladau neu feddi posib. Y gobaith ydi ychwanegu at y cyfoeth o wybodaeth sydd eisoes wedi ei hel am y safle aml-gyfnod arbennig hwn. 

Cloddio yn Llys Dorfil, a thref y Blaenau yn y cefndir

Wrth gwrs, yn ddistaw bach, mae pawb yn breuddwydio am ganfod blaen saeth sy’n filoedd o flynyddoedd oed, neu geiniog arian o oes y tywysogion efallai. Nid am eu gwerth ariannol cofiwch, ond am eu gwerth fel tystiolaeth am weithgaredd y safle yn y gorffennol. Pawb yn awyddus i gyfrannu at ddysgu mwy am hanes ein bro.

Ein hanes ni sy’n cael ei ddatgelu yn Llys Dorfil; bywydau pobol Bro Ffestiniog fu yma o’n blaen ni. A’r gwaith yn gyfan gwbl yng ngofal pobl leol: enghraifft arall, fel gwelwn yn aml iawn ym Mro Stiniog -efo Antur Stiniog, Cwmni Bro, Seren, ac ati- o’r gymuned arbennig hon yn mynd ati i wneud rhywbeth dros ei hun, yn hytrach nag aros am gymorth gan y sir, neu lywodraeth neu asiantaeth o’r tu allan!  

Pleser llwyr ydi cael bod yn rhan o griw diwyd a difyr Cymdeithas Archeolegol Bro Ffestiniog. Mae tynnu coes a rhoi’r byd yn ei le yn rhan bwysig o’r gwaith, ac mae llawer iawn o hwyl i’w gael yno, y cwbl yn digwydd yn naturiol Gymraeg. Dim ond un diwrnod yr wythnos ydw i’n medru ymuno, ond mae nifer yn mynd dair gwaith yr wythnos os ydi’r tywydd yn caniatâu. 

Ar ddydd Gwener olaf Mehefin, roeddwn i a Dafydd yn archwilio beddi posib, hanner ganllath o’r prif safle; Alan yn torri tywyrch ar leoliad newydd a chwilio efo’r metal detector; Rhian, Linda, a Buddug yn datgelu waliau a llawr yr adeilad diweddaraf, a Bil a Mary yn cloddio a rhannu eu hamser yn cynghori a gofalu bod pawb yn iawn ac edrych yn fanwl a thrafod canfyddiadau posib. 

Er ei bod wedi ryw bigo bwrw’n achlysurol trwy’r dydd, roedd pawb yn falch o fod wedi cyfrannu at ddiwrnod o waith difyr eto. Ond fel dywed Dafydd, sydd ei hun wedi rhoi cannoedd o oriau o waith gwirfoddol yno dros y blynyddoedd, tydi gwaith Bil a Mary ddim yn gorffen pan rown y tarpolin yn ei ôl dros yr olion. Maen nhw wedyn yn didoli’r canfyddiadau, eu harchwilio ymhellach, cofnodi’r eitemau’n fanwl, gyrru samplau i ffwrdd ar gyfer eu dyddio, ac ysgrifennu adroddiadau ar y gwaith.
Diolch iddyn nhw a’r criw i gyd am eu hymroddiad. Am wella ein dealltwriaeth o’n gorffennol yn y cilcyn hwn o ddaear.
- - - - - - - - 

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Gorffennaf-Awst 2024 Llafar Bro

29.8.24

Dilyn Afon

Pa le gwell i ddianc oddi wrth yr holl ymwelwyr gŵyl banc na’r Migneint! Ardal enfawr o waundir agored, gwyllt. Lle anial, di-liw, a pheryglus yn ôl rhai, ond tirlun arbennig efo chwedlau gwych a natur rhyfeddol i’m llygaid i!

Ehangder mawr agored Y Migneint; edrych tua Llyn Conwy

Chwilio oeddwn i y tro hwn am darddiad pellaf y dŵr sy’n llifo tua’r gorllewin i Afon Dwyryd, a’r môr ar arfordir gorllewin Cymru. Yr hyn dwi’n obeithio ei wneud yn y pendraw ydi dilyn y dŵr hwnnw o’i darddiad i’r aber. Egin brosiect, heb unrhyw bwrpas mawr gwyddonol nac athronyddol, heblaw rhoi difyrrwch a boddhad i mi! Syniad sydd wedi bod yn troelli yn fy mhen ers darllen ‘Rivers of Wales’ gan Jim Perrin ddwy flynedd yn ôl, yn benodol ei bennod am afonydd Cynfal, Dwyryd a Glaslyn. Syniad sydd -tan rwan- ddim ond wedi ei fyw a’i ddilyn ar fap ar fwrdd y gegin, neu o bell trwy ffenest y car wrth deithio dros y mynydd i Benmachno neu’r Bala!

O be wela’ i, mae llond llaw o lecynnau posib yn y gystadleuaeth ddychmygol hon, ar nentydd uchaf Afon Cynfal (mi ddof yn ôl rywbryd eto efallai at yr afonydd niferus eraill sy’n bwydo’r Ddwyryd): mae blaen pellaf Nant y Pistyll-gwyn, ac un o ganghennau’r Afon Gam yn dechrau -yn ôl mapiau’r Arolwg Ordnans o leiaf- dros y ffin yn sir Conwy. Dyna sy’n codi’r rhain i’r dosbarth cyntaf o ran diddordeb a blaenoriaeth. Mae’r ail yn fwy difyr fyth gan fod pen pellaf Afon Gam o fewn tafliad carreg o ben uchaf Nant yr Ŵyn (hynny ydi, os medrwch daflu carreg 250 metr... sy’n anhebygol iawn i fod yn onest, gan mae dim ond 121m ydi’r record yn ôl llyfr mawr Guiness am sgleintio neu sgimio carreg ar ddŵr. Ond dwi’n siwr eich bod yn deall be sydd gen’ i!). Mae Nant yr Ŵyn yn llifo i’r cyfeiriad arall, i’r dwyrain i Afon Serw, yna Afon Conwy, sy’n llifo wrth gwrs i arfordir y gogledd! 

Ymhellach i’r de, yr ochr draw i Lyn y Dywarchen, mae Nant y Groes, ddim yn bell o’r man lle mae plwyfi Stiniog, Maentwrog ac Eidda yn cwrdd. Mae hynny’n ychwanegu at apêl mynd i fanno hefyd i edrych am hen gerrig terfyn. O groesi’r B4391 wedyn, mi ddowch at y chwaer-nentydd Afon Goch ac Afon Las. Y rhain ydi’r uchaf o’r llednentydd, o gwmpas y 510m, ond yn sicr yn yr ail ddosbarth o ran pellter dwi’n tybio.

 

Edrych tuag at Craig Goch Gamallt. Hyd yn oed llefydd anghysbell ddim yn rhydd o felltith y sbriws...

Mi lwyddais i ddarganfod tarddiad Nant y Pistyll-gwyn, sydd heb os yn sir Conwy, trwy gerdded ar draws y rhos a thrwy’r gors i gyfeiriad Craig Goch Gamallt am rhyw hanner milltir o Ffynnon Eidda, safle hen dafarn Tŷ Newydd y Mynydd, a tharddle arall i Afon Conwy. Gweld lle mae’r dŵr yn llifo yn yr agored cyntaf ydi’r nod. Mae’r dŵr dan yr wyneb ymhellach na hynny hefyd. 

Ond fel bob tro -ac mae’n ddihareb yn ein teulu ni- mi ddenodd pethau eraill fy sylw hefyd! Toreth o lus coch er enghraifft (cowberry, Vaccinium vitis-idea); llawer mwy o ffrwythau na welais i ers talwm iawn. Trueni nad oedd hen dwb hufen ia gen’ i er mwyn hel rhywfaint; ond mae jam lingonberry (enw arall ar y ffrwyth) yn un o’r unig bethau sy’n ei gwneud yn werth ymweld â’r siopau dodrefn mawr glas-a-melyn Swedaidd yna, yn fy marn i! Roedd y llus coch yn tyfu ochr-yn-ochr â choed llus (bilberry, Vaccinium myrtillus) ac wrth gwrs, mi fues i’n pigo a bwyta’r rheiny wrth fynd gan eu bod yn felysach na’u cefndryd cochion, ac hefyd yn tyfu yno oedd creiglus (crowberry, Empetrum nigrum) er nad oedd ffrwythau ar y rhain.

Llus cochion

Tra’n chwilio’n hir am aelod arall o deulu’r llus, sef llugaeron (cranberry, Vaccinium oxycoccos) er mwyn cwblhau’r bedwarawd, daeth ambell ddiferyn o law i wneud i mi edrych i fyny a sylwi fod niwl enwog y Migneint yn dechrau hel. Pingiodd y ffôn i rybuddio am fatri isel yn fuan wedyn, a’r peth doeth i’w wneud oedd anelu’n ôl am y car ac adra am banad. Mi gewch glywed am anturiaethau’r Migneint ac Uwchafon gyda lwc yn Yr Herald Cymraeg dros y misoedd nesa!
- - - - - - - - - - - - - - -

Ymddangosodd yn wreiddiol yng ngholofn Byd Natur Yr Herald Cymraeg (Daily Post),29ain Awst 2024 (dan y bennawd 'Dilyn Cwrs Afon')

8.8.24

Mae mistar ar fistar Mostyn medden nhw

Rai blynyddoedd yn ôl roeddwn wedi trefnu cael cwmni i dowlyd coed llarwydd (larch) ar gyrion un o warchodfeydd de Meirionnydd, er mwyn adfer coedwig dderw ar y safle. Cwmni arbenigol oedd hwn, yn llifio’r coed efo llaw a thynnu’r bonion allan efo ceffyl, er mwyn creu cyn lleied o lanast a phosib ar lawr y goedwig ac i fedru gweithio ar lethr serth. Roedden nhw wedyn yn llifio’r coed ar felin symudol -yn y fan a’r lle- a’r styllod newydd yn cael eu gosod fel cladin ar waliau estyniad newydd i adeilad ugain llath i ffwrdd.

Pleser pur oedd gwylio’r cob hardd a’i pherchennog yn gweithio, y ddau’n deall eu gilydd i’r dim, a boddhaol oedd gwella cyflwr y goedwig dderw, tra hefyd yn cael defnydd cynaliadwy o’r llarwydd a dorrwyd. Anodd cael deunyddiau mwy lleol na hynny ar gyfer joban adeiladu!

Cwmni arall oedd yn gweithio ar yr estyniad; criw hwyliog o adeiladwyr cydnerth a gwydn, ond un pnawn yn gwbl ddi-rybudd rhedodd un ohonyn nhw i ffwrdd gan floeddio a rhegi er digrifwch a dryswch i bawb arall... Roedd o wedi dod wyneb yn wyneb â phryf oedd wedi ei ddenu yno gan yr oglau coed wedi eu llifio, ac ar ôl i mi orffen chwerthin, mi eglurais wrtho nad oedd y creadur yn beryglus iddo fo, er mor ddychrynllyd ei olwg!


Mae dau enw ar hwn yn Saesneg: giant wood wasp ydi’r mwyaf cyffredin ohonyn nhw dwi’n meddwl, a Geiriadur yr Academi yn cynnig ‘cacynen y coed’. Ond nid wasp mohono, er fod y melyn a’r du yn amlwg iawn arno, nid yw’n gacynen o unrhyw fath. Un o deulu’r llifbryfed (sawflies) ydi o mewn gwirionedd ac mae ‘Llyfr Natur Iolo’ (Iolo Williams a Bethan Wyn Jones, 2007) yn cynnig llifbryf mawr y goedwig, neu corngynffon, fel enwau gwell o lawer. Greater horntail ydi’r ail enw yn yr iaith fain ar y pryfyn trawiadol yma. A hwythau dros fodfedd o hyd, a’r lliwiau’n fygythiol, does ryfedd fod gan bobl eu hofn nhw, yn enwedig o sylwi a’r y ‘corn’ sydd ar y gynffon hefyd! Mae’r prif lun yn dangos un benywaidd, ac mae ganddi hi ail bigyn ar ei thin, sy’n hirach ac yn edrych yn beryclach fyth!

Wyddodydd (ovipositor) ydi hwn, sef pigyn efo dannedd mân (sy’n rhoi’r llif yn enw’r teulu) er mwyn drilio a dodwy wyau mewn pren. Bydd y larfa yn cnoi twnneli trwy’r pren am ddwy flynedd a mwy cyn deor yn oedolyn ei hun i ail-ddechrau’r cylch rhyfeddol.

Er mor ddiniwed ydi’r corngynffon felly, roedd ei olwg yn ddigon i yrru’r adeiladwr druan ar ffo! Ond, mae mistar ar fistar Mostyn ‘ndoes... Tydi larfau’r llifbryf mawr ddim bob tro yn cyrraedd pen eu taith, gan fod pryfyn arall dychrynllyd yr olwg yn eu hela. 


Y tro hwn, wasp ydi hi. Yn yr ail lun mae cledd-gacynen neu sabre wasp. Un o’r cacwn ‘ichneumon’ neu gacwn parasitig -yn wir y mwyaf ohonyn nhw yng ngwledydd Prydain- ac er fod hon eto’n gwbl ddiniwed i bobl, mae ei chylch bywyd tipyn mwy arswydus. Mi welwch ei maint hi ar fy mawd i yn y llun- mae corff hon dros fodfedd o hyd hefyd, ond efo’r wyddodydd hir, mae’r fenyw yn mesur dwy fodfedd drawiadol iawn! Gall y gledd-gacynen arogli larfa corngynffon yn ddwfn yn y pren, ac mae’n tyllu twll newydd a gwthio’i wyddodydd hir i lawr i’r twnnal i ddodwy ŵy ar y larfa druan. 

Bydd cynrhonyn y gledd-gacynen wedyn yn bwyta larfa’r corngynffon o’r tu mewn, gan adael yr organau allweddol tan y diwedd er mwyn cadw ei fwyd yn fyw mor hir a phosib! 

Cofiwch, gall larfa cledd-gacynen fod yn damaid blasus i gnocell yn ei thro hefyd, a dyna sut mae’r byd yn troi. Tydi natur yn rhyfeddol? 

Coedwig gonwydd ydi cynefin naturiol y ddau bryf rhyfeddol yma, ond gallwch ddenu creaduriaid hardd fel y rhain trwy adael twmpathau o goed yn eich gardd ar gyfer bywyd gwyllt. Ewch ati os oes lle gennych.
- - - - - - - - - - - - - - -

Ymddangosodd yn wreiddiol yng ngholofn Byd Natur Yr Herald Cymraeg (Daily Post),8fed Awst 2024 (dan y bennawd 'Pryfed Arswydus')

 

18.7.24

Cyfri' Glöynnod

Oes yna unrhyw beth yn well na rhannu eich diddordebau efo rhywun brwdfrydig tybed? Tydi fy nghroen i ddim digon trwchus i fod yn athro, ond mae’n hyfryd cael cyfle i rannu ychydig o wybodaeth o dro i dro on’d ydi. 

Mae ein merch ‘fengaf adra rhwng tymhorau prifysgol ar hyn o bryd a syndod braf yr wythnos dwytha oedd ei bod hi eisiau gwybod enwau glöynnod byw. A ninnau’n cael haf difrifol arall o ran y tywydd, doedd ei hamseru hi ddim yn arbennig o dda, ond feiddiwn i ddim taflu gormod o ddŵr oer ar ei huchelgais newydd! Trwy ryfedd wyrth roedd yn ddiwrnod sych (er nad yn arbennig o heulog, a’r tymheredd yn bendant ddim yn addawol) felly mi aethom ni am dro dros ginio i un o’r dolydd lleol.

Roedd yn amlwg wrth gyrraedd na fyddai’n rhestr ni yn un hir, a’r cymylau’n hel a bygwth glaw eto fyth. Ond roedd yn amlwg hefyd nad oedd ein siwrna’n wag. Uwchben y glaswellt hir oedd pedwar neu bump o löynnod duon, yn hedfan yn herciog ac aflonydd, yn ymddangos yn gyndyn iawn i lanio, felly mi aeth y fyfyrwraig ati’n syth i redeg ar eu hôl dan chwerthin, a chwifio rhwyd i geisio dal un. Doniol oedd yr olygfa am gyfnod, wrth iddi fethu pob ymgais, nes llwyddo a dathlu’n groch!

Rhoi’r glöyn wedyn yn ofalus mewn pot clir er mwyn cael archwilio. Gweirlöyn y glaw (ringlet, Aphantopus hyperantus) ydi’r glöyn ‘du’ yma; enw addas iawn, gan ei fod yn un o’r glöynnod sydd ar yr adain pan nad oes haul ac yn hedfan mewn glaw ysgafn hefyd, ei liw -brown tywyll mewn gwirionedd- yn cynhesu’n gynt na glöynnod gwynion mae’n debyg. Mae elfen ‘gweirlöyn’ ei enw’n disgrifio ei hoff gynefin, sef glaswelltir, a’i lindys yn bwyta gweiriau amrywiol. Cyfeirio at y cylchoedd ar ei adenydd mae’r enw Saesneg, ringlet, a’r rhain yn fwyaf amlwg o dan ei adenydd pan mae’n gorffwys, neu’n glanio ar flodyn ysgall neu fwyar duon i fwydo ar y neithdar.

Ar ôl rhyddhau’r pili-pala cyntaf yma, i ffwrdd â ni efo’r rhwyd eto yn awchus i ddysgu mwy! Glöyn arall sy’n rhannu’r cynefin yma, a’r gallu i hedfan pan nad yw’r haul yn tywynnu, ydi gweirlöyn y ddôl (meadow brown, Maniola jurtina), ac mi ddaliwyd un o’r rheiny ymhen hir a hwyr. Tynnu llun, astudio, trafod; ac yna rhyddhau’r creadur i fwrw ymlaen efo’i fywyd heb fwy o ymyrraeth. A ninnau yn ôl at ein gwaith a’n paneidiau aballu. Gobeithio cawn fynd eto!

Does gen i fawr o ddiddordeb mewn tennis. Ond dwi’n mwynhau bythefnos Wimbledon am fy mod yn cael darllen gyda’r nos heb deimlo’n anghymdeithasol, gan fod aelodau eraill y teulu’n dilyn y gemau yn ddyddiol. Un o’r llyfrau gafodd sylw oedd ‘Silent Earth’ gan Dave Goulson, sy’n gofnod brawychus iawn o’r dirywiad a fu yn amrywiaeth a niferoedd pryfetach o bob math, a’r cynefinoedd y maen nhw’n ddibynnu arnynt. Mae’r ystadegau yn wirioneddol ddychrynllyd, ond fel mae is-deitl y llyfr ‘Averting the insect apocalypse’ yn awgrymu, nid newyddion drwg yn unig sydd ganddo, gan fod chwarter ola’r llyfr yn rhannu syniadau ymarferol ar sut fedr llywodraethau ac asiantaethau ac unigolion fel chi a fi newid trywydd y byd ac anelu am ddyfodol gwyrddach, glanach a gwell! 

Hyd yma, bu’n flwyddyn sobor o sâl am löynnod byw, ac mae tywydd Meirionnydd yn parhau’n siomedig wrth i’r ysgrif yma fynd i’r wasg, ninnau bellach ynghanol Cyfrifiad Mawr y Glöynnod, neu’r ‘Big Butterfly Count’ blynyddol. Mae gennym ni hyd at ddydd Sul, 4ydd Awst i gymryd rhan yn yr arolwg pwysig yma.

Ewch i wefan butterfly-conservation.org i lawrlwytho taflen adnabod -yn Gymraeg, Saesneg, neu Gaeleg, a’r cwbl sydd angen ei wneud wedyn ydi gobeithio am diwrnod digon braf a dewis lleoliad i eistedd am chwarter awr yn nodi pa löynnod welwch chi, a’u niferoedd. Gallwch wneud hyn yn eich gardd, mewn parc, mewn cae, neu ar ben mynydd os hoffech. Yn wir, mae croeso i bawb wneud mwy nag un safle. Rhoi’r wybodaeth i’r wefan (neu ap ar y ffôn) a dyna ni, byddech chi wedi cyfrannu at ymchwil hir-dymor gwerthfawr iawn. Croeswn ein bysedd am haul rwan!
- - - - - - - - - - - - - -

Ymddangosodd yn wreiddiol yng ngholofn Byd Natur Yr Herald Cymraeg (Daily Post),18fed Gorffennaf 2024

27.6.24

Adar o’r unlliw...

Os ydw i’n onest, wnes i ddim talu sylw i’r adar to a’r piod a’r titws mawr yn y parc; mae digon o’r rheiny adra! Gobeithio gweld adar gwahanol ydw i, felly i be’ a’i i wastraffu fy amser ar bethau mor gyffredin?

Rydw i yn Seoul, prifddinas De Corea, lle mae un o’n merched ni’n gweithio, ac wedi edrych ymlaen at gael blas ar fywyd gwyllt pen arall y byd. ‘Dwi ddim ond yma am bythefnos a phrin ydi’r cyfle i grwydro ymhell o’r ddinas fawr, felly dim ond blas fydd o.

Ar yr olwg gyntaf mae’n ymddangos yn ddinas ddigon tlawd o ran bywyd gwyllt -a pha ryfedd- mewn metropolis enfawr sy'n ymestyn am filltiroedd i bob cyfeiriad, ac er ei bod wedi tyfu ar lethrau wyth mynydd, mae'n concrete jungle go iawn! Ar y llaw arall, mae'r ddinas yn frith o safleoedd hanesyddol, a’r rhain yn cynnig cyfleoedd da i wylio ychydig o natur.

Ar ôl anwybyddu’r adar cyffredin yn y parciau, mi sylweddolais i un bore fod rhywbeth ddim yn tycio… Mae’r piod yma’n debyg iawn i'n piod ni, ond yn swnio ‘chydig yn wahanol; yn hytrach na’r swn cras rhinciog arferol, maen nhw’n swnio’n debycach i jac-do. Pioden y dwyrain (oriental magpie, Pica serica) ydi hwn, ac o edrych yn fanylach mae’r plu ar ei adenydd a’i gefn yn fwy glas ac yn hardd iawn. 

Dyma aderyn cenedlaethol Corea- un o’r ychydig bethau mae’r gogledd a’r de yn cytuno arno! Mae’n aderyn sy’n dod a lwc, a hwn ydi tylwyth teg y dannedd i blant bach y wlad!

Doedd rhywbeth ddim yn iawn am yr adar to ‘chwaith. Syndod a gwefr oedd sylwi mwya’ sydyn mae golfan y mynydd (tree sparrow, Passer montanus) oedden nhw. Aderyn prin iawn yng Nghymru, ond yn gyffredin yma.

Roedd yn rhaid edrych eto ar y titws mawr wedyn: Er fod ganddynt gân amrywiol iawn adra, roedd canu’r rhain yn wahanol eto ac mae’n debyg mae titw mawr y dwyrain sydd yma (oriental tit, Parus minor).

A dyna ddysgu gwers i mi beidio cymryd pethau cyffredin yn ganiataol!

Mae pyllau lilis dŵr ym mhob un o’r palasau hanesyddol, ac un math o was neidr yn amlwg yma. 

Gwesyn du a gwyn trawiadol: y picellwr brith (pied skimmer, Pseudothemis zonata). 

Gallwn wylio hwn yn patrolio’i filltir sgwâr am oriau, mae bron yn hypnotig, ond yn rhwystredig hefyd nad ydi o’n glanio byth, i mi gael tynnu llun!

Fel arall, tlawd iawn ydi’r casgliad o bryfetach, a’r amrywiaeth glöynnod byw, gwenyn a phryfed hofran yn enwedig o llwm ynghanol Seoul.

Adar bwlbwl clustwinau (brown-eared bulbils, Hypsipetes amaurotis) ydi’r adar eraill sy’n amlwg yn y ddinas, er ein bod wedi gweld ambell gopog (hoopoe, Upupa epops), pioden adeinlas (azure-winged magpie, Cyanopica cyana), a thurtur y dwyrain (eastern turtle dove, Streptopelia orientalis), ac ambell un arall ar y cyrion.  

Ond tomen sbwriel y ddinas ydi’r lle gorau i wylio bywyd gwyllt! I fod yn fanwl gywir, yr hen domen, sydd bellach wedi ei gorchuddio efo pridd a choed, a chynefinoedd blodeuog wedi eu creu ar y plateau llydan. Uwchben Afon Han mae Parc Haneul yn dipyn o baradwys! Efo dolydd blodau lliwgar fel cosmos, pabi coch, a glas yr ŷd (a bresych oddi-tanynt ar gyfer glöynnod gwynion) mae’r lle yn berwi efo pryfaid a gwenyn, cacwn a gweision neidr, ac yn werth yr ymdrech o ddringo elltydd a 425 o risiau i gyrraedd yma!


Er bod golygfeydd o’r metropolis i bob cyfeiriad, dyma’r unig le lle nad ydi sŵn traffig a choncrid yn teyrnasu! Mae sŵn y gwynt yn chwythu trwy weiriau tal a’r bwlbilod yn parablu wrth hel ffrwythau merys (mulberries); mae cnocell yn drwmio yn y cefndir a chriciedi’n canu grwndi o’r gwair ac o ganghennau’r coed. 

Ac i goroni’r cwbl, roedd gog yno hefyd. Welais i mohono (mae’n ddigon anodd gweld y gog adra tydi!) ond mae llond dwrn o wahanol gogau yma, ac hwn yn sicr efo ‘acen’ wahanol i’w ddeunod, felly pwy a ŵyr pa un oedd o! Fydda’i ddim yn cymryd yn ganiataol fyth eto fod adar o’r unlliw yn hedfan i’r unlle!

- - - - - - - - - - - - 

Ymddangosodd yn wreiddiol yng ngholofn Byd Natur Yr Herald Cymraeg (Daily Post),27ain Mehefin 2024

Cerdyn Post o Seoul

 

 



22.6.24

Cerdyn Post o Seoul

Mae byw mewn dinas wedi apelio ataf o dro i dro dros y blynyddoedd. Cael mwynhau'r parciau a'r gerddi cyhoeddus, amgueddfeydd ac orielau liw dydd, a manteisio'n llawn ar fwrlwm gweithgareddau'r nos; cyngherddau, chwaraeon, bwyta allan ac ati.

Mewn bywyd blaenorol bron, yn yr wythdegau hwyr, treuliais ddwy flynedd yn hyfforddi i fod yn beiriannydd efo'r bwrdd trydan yng ngogledd Llundain. Yn Cockfosters, ym mhen pellaf un llinell Piccadilly ar y tiwb, roedd y ganolfan mewn ychydig aceri o dir coediog braf, a dros y ffordd o Barc Gwledig Trent a’r ‘green belt’ enwog. Dyma lle oeddwn i pan darodd storm fawr Hydref 1987 a gweld rhywfaint o’r dinistr a wnaed i filiynau o goed hynafol de-ddwyrain yr ynysoedd yma. 

Y cyrion gwyrdd oedd fanno, ond eto'n ddigon agos i biciad i mewn am flas o'r bywyd dinesig, a mynd bob nos Fercher i'r West End i gyfarfod Dewi 'mrawd, a chriw difyr o Gymry'r ddinas, Cnwc, Pedr Pwll Du, a Geraint a Mogos. 'Sgwn i lle mae'r tri cymeriad olaf yna heddiw?

Yn y nawdegau cynnar, mynd 'nól-a-mlaen at ffrindiau i Abertawe a mwynhau'r cyferbyniad rhwng y ddinas brysur a llwybrau troed a beic i'r Mwmbwls a Phenrhyn Gŵyr; ac ugain mlynedd yn ddiweddarach, dod i werthfawrogi Caerdydd fel prifddinas fach fyrlymus a chyffrous, ond yn ddigon agos atoch yr un pryd, pan oedd dwy o'n genod ni yno yn y brifysgol.

Mynydd Namsan o'r ddinas


Erbyn hyn, mae un o'r merched hynny yn gweithio yn Seoul, prifddinas De Corea, ers dwy flynedd a hanner, ac yno ydw i wrth 'sgwennu hyn, yn 'mochel o'r gwres llethol mewn caffi braf, yn aros amdani hi ac un o'i chwiorydd sydd wedi teithio yma efo fi.

Ar ôl gweld y smog wrth lanio wythnos yn ôl, roeddwn yn ofni'r gwaethaf am dreulio amser mewn dinas o 10 miliwn o bobl. (Mae'r ardal ehangach a elwir Seoul Capital Area yn gartref i dros 50 miliwn!) Ond mae'n ddinas lân a chroesawgar, ac ystyrir hi yn ddiogel iawn i deithwyr. All Cymru ond breuddwyddio am rwydwaith mor wych ac effeithlon a rhad o drenau a metro tanddaearol a bysus.

Maen nhw’n deud am ardaloedd trefol tydyn, nad ydych chi fyth mwy na ‘chydig fetrau oddi wrth lygoden fawr. Welson ni ddim un llygoden i fod yn deg, ond yn Seoul gallwch ddweud yn reit saff nad ydych chi fyth mwy nag ychydig fetrau oddi wrth beiriant cymysgu sment! Mae’r metropolis yn ddi-ddiwedd. I bob cyfeiriad! Ac mae’n amlwg yn dal i dyfu.

Mi fyddai’n rhestru ychydig o’r adar aballu sydd yma yng ngholofn Byd Natur Yr Herald Cymraeg wsos nesa, ond digon ydi dweud nad oes fawr o fio-amrywiaeth yn y ddinas fel y gallwch ddychmygu oherwydd diffyg cynefin naturiol ymysg yr ardaloedd datblygedig. Neu’n bwysicach efallai -gan ei bod yn ddinas eithaf coediog ar y cyfan, ac ynddi lawer o barciau cyhoeddus, a phump safle treftadaeth y byd- ydi’r diffyg cysylltedd rhwng yr ardaloedd gwyrdd a'u gilydd, ac efo’r cefn gwlad tu hwnt i’r metropolis.


Ardal o diroedd Palas Gyeongbokgung, un o safleoedd treftadaeth y byd Unesco

Ambell bioden a brân; crëyr glas, a chrëyrod gwynion. Nifer fach o hwyaid hefyd, gan gynnwys efallai y chwadan fach ddelia sy’n bod, sef yr hwyaden gribog, neu’r hwyaden mandarin (Aix galericulata). Yn y dwyrain pell mae ei gynefin cynhenid, ond mae wedi sefydlu yn y gorllewin ar ôl dianc o gasgliadau adar. Fel mae’n digwydd, ym Mharc Trent Cockfosters welais i’r rhain gyntaf, dros 30 mlynedd yn ôl.

'Da ni wedi cael ymweld â sawl safle hanesyddol, gan gynnwys Palas Gyeongbokgung, a hynny mewn gwisg draddodiadol pan oedd hi’n 32 gradd C! Mi fuon ni yn yr amgueddfa genedlaethol hefyd, ac yn cerdded waliau hanesyddol y ddinas.

Un uchafbwynt oedd cael mwynhau, am y tro cyntaf erioed, noson arbennig o bêl-fas, a’r tîm cartref Eirth Doosan yn colli o 5 i 7 rhediad, mewn diweddglo cyffrous iawn yn erbyn y Changwon Dinos. Ar ôl treulio chwarter awr yn ymchwilio’r rheolau yn y pnawn, mi hedfanodd tair awr a chwarter yn gyflym iawn gyda'r nos ym mwrlwm ac angerdd y cefnogwyr cartref.


Stadiwm Jamsil

Mae’r tywydd wedi bod yn chwilboeth bob dydd hyd yma, a’r gwres trymaidd yn mygu weithiau, ond
mae’n anodd curo camu allan o fwyty neu gaffi sy’n oer braf efo ‘air-con’, i awyr mwyn y nos. Profiad unigryw ar wyliau! Ar noson fel’na gawson ni fwynhau gwylio’r machlud dros byllau a phalas hynafol Wolji, a phont wych Woljeonggyo, yn ninas Gyeongiu yn ne-ddwyrain penrhyn Corea. Gwibdaith hyfryd o ddeuddydd a hanner allan o’r brifddinas; taith tair awr a hanner gyffyrddus iawn ar fws inter-city moethus.


Pont Woljeonggyo

Un o’r llefydd gorau i weld ehangder Seoul, a’r mynyddoedd sy’n codi o’r gwastadeddau concrit, fel copaon Eryri uwchben haen o gwmwl, ydi’r tŵr cyfathrebu ar fynydd Namsan, er ei fod yn safle prysur braidd. Gallwch ddringo’r grisiau neu ddal gar cebl at droed y tŵr, ac yna dalu i deithio mewn lifft i’r ystafell banoramig ar ei ben, 700 troedfedd i fyny, a gweld golygfa gron gyfa' o’r ddinas. Hyfryd oedd gwylio’r machlud yn fanno hefyd, ar ôl pryd blasus o fwyd yng ngwaelod y tŵr (y bwyd yn boenus o ddrud yn y top, fel y gallwch feddwl!)


Y ddinas (rhan fach ohoni o leiaf) o fynydd Namsan

Rydan ni wedi bwyta fel brenhinoedd yma, yn kimchi a bibimbab a stiws a nwdls; wedi ffrio ein cigoedd ein hunain ar olosg ynghanol bwrdd ac wedi gwledda ar bingsu, sef desglad o shafins llefrith wedi rhewi, efo hufen a ffrwythau neu siocled a bisgedi!



Dwi’n gobeithio ychwanegu at y rhestr adar yn fy nyddiau olaf yma, ac ymestyn mwy ar orwelion a phrofiadau, ond ar y cyfan, er bod Seoul yn lle arbennig, a bod cyfnodau mewn dinas yn andros o hwyl -mae’n well gen i fyw mewn tref fechan yng nghefn gwlad Cymru wedi'r cwbl!

- - - - - - - - -


*Rydw i'n teipio ar chromebook, ac heb feistroli'r bali peth yn iawn, felly maddeuwch os ydi'r fformatio yn dod allan yn rhyfedd ar eich sgrîn.
Cam sam ni da.


Adar o'r unlliw..


6.6.24

Trysorau'r Cwm

Cyffrous iawn oedd cael ymuno efo Cymdeithas Archeolegol Bro Ffestiniog wrth i’w tymor cloddio ddechrau eto. Prin ugain munud o waith cerdded o’r tŷ acw ydi safle Llys Dorfil, yng ngwaelod Cwmbowydd, ond mae’n daith sy’n mynd a fi trwy gyfres o gynefinoedd.

Ceiliogod siff-saff (chiffchaff) sydd amlycaf yn rhan gynta’r llwybr, yn ailadrodd eu henw eu hunain efo pob cam dwi’n gymryd trwy’r goedwig dderw. Dwi’n falch o gael cipolwg o wybedog brith (pied flycatcher) hefyd, yn mynd i dwll yn uchel ar foncyff lle maen nhw’n nythu’n flynyddol.

Wrth groesi Afon Cwmbowydd ar lawr y dyffryn mae dryw bach (wren) yn fy nghyfarch efo’i dwrw brysiog sydd bob tro’n swnio fel rhywbeth ddaw o geg aderyn bedair gwaith yn fwy! Dros wal gerrig sych mae cwningen yn swatio’n llonydd rhwng dau dwmpath twrch daear (mole) cyn rhuthro i dwll dan y wal, ganllath i ffwrdd. Mae’r cae yn llawn blodau menyn (buttercup) a chnau daear (pignut) ac yn werth ei weld. Enw arall ar gnau daear ydi bywi, a dyna sy’n rhoi’r elfen bowydd yn enw’r cwm medden nhw.

Edrych yn ôl i fyny Cwmbowydd o Lys Dorfil

Mae’r afon yn rhedeg mewn caeau amaethyddol glas ar y chwith i mi ond mae’r tir dal yn eithaf gwyllt ar y dde. Rhwng llethrau creigiog Cefn Trwsgl a’r llwybr mae cyfres o gorsydd a rhosydd gwlyb a’r rhain yn frith o blu’r gweunydd (cotton-grass) ar hyn o bryd, a’r ddwy rywogaeth gyffredin yma, un efo pen unigol o gotwm ar frig ucha’r coesyn, a’r llall efo tri neu bedwar blodyn yn hongian o amgylch ei ben, a’r cwbl ohonyn nhw’n chwifio’n braf yn yr awel. Yn gyffredin iawn o danyn nhw mae dail llafn y bladur (bog asphodel) -yn hawdd eu hadnabod oherwydd eu siap, sy’n rhoi’r enw inni, a fydd hi ddim yn hir nes bydd eu blodau melyn trawiadol yn amlwg iawn ar y tiroedd gwlyb. Yma ac acw mae gwlithlys (sundew) a’i sudd gludiog yn disgleirio yn yr haul fel perlau mân, yn barod i ddal pryfed, a phlanhigyn arall sydd wedi addasu at fywyd mewn cors sur, di-faeth, trwy fod yn barasit ar wreiddiau planhigion eraill, sef melog y cŵn (common lousewort). 

gwlithlys

Bydd y tir gwlyb yma’n llawn o degeirian brych y rhos (heath spotted orchid) yn fuan iawn hefyd, ac wrth ddod i gloddio bob wythnos, caf weld lliwiau’r gors yn datblygu trwy’r haf.

Mae llawer o hwyl a thynnu coes i’w gael ar y safle archeolegol ac mae’n bleser cael ymuno efo’r criw, pob un ohonyn nhw yn bobol leol, yn ymfalchïo yn eu treftadaeth. Amhosib fyddai rhoi disgrifiad teilwng i chi o waith y Gymdeithas ar y safle hanesyddol ddifyr yma heb ddwblu hyd y golofn, ond mi soniodd Rhys Mwyn yn Yr Herald am y cloddio yno yn 2018, ac os chwiliwch chi ar y we am Llys Dorfil mi gewch gyfoeth o wybodaeth, y mwyaf diweddar ar wefan Llafar Bro, y papur bro lleol.
Mi fuon ni’n gwamalu’n hwyliog am ganfod aur a thrysor dros ginio, cyn cytuno a chwerthin efo Bill Jôs yr arweinydd mai gwybodaeth ydi’r peth pwysicaf sy’n cael ei ddatgelu yno! Cofiwch chi, mae nifer o eitemau diddorol iawn wedi dod i’r golwg yno, ond i mi y diwrnod hwnnw, y pethau mwyaf gwerthfawr oedd cael bod dan awyr las yn gwneud rhywbeth sydd o ddiddordeb i mi, a’r ehedydd (skylark) a’r gog yn gwmpeini tan gamp hefyd. 

larfa pry' teiliwr (dadi longlegs) dwi'n meddwl

Ar ben hynny a’r planhigion gwych, cael gweld ambell ‘drysor’ hardd arall fel chwilod coch-a-bonddu (garden chafer beetle) yn deor o’r glaswellt a hedfan yn ddiog o nghwmpas, yn hanner a hanner lliw efydd gloyw a gwyrdd metalig; neu’r chwilen ddaear borffor (violet ground beetle) yn drawiadol wrth ruthro ar hyd y llawr, a mursen las gyffredin (common blue damselfly), er mor fach, yn odidog o dlws ar gefndir gwyrdd dail rhedynen.

A son am fursennod... rhaid imi ymddiheuro: yn y golofn dair wythnos yn ôl mi soniais am fursen fach goch (small red damselfly). Mursen fawr goch (large red damselfly) oedd gen’ i dan sylw, ond yn fy mrys i yrru’r erthygl i mewn mi wnes i lithriad di-ofal. Petawn i wedi gweld y rhai bach -sy’n ofnadwy o brin- mi fyswn i wedi dathlu llawer iawn mwy!

- - - - - - - - - - - - 

Ymddangosodd yn wreiddiol yng ngholofn Byd Natur Yr Herald Cymraeg (Daily Post),6ed Mehefin 2024





17.5.24

Sêr y Rhostir Gwlyb

Cynefin digon anodd i gerdded ynddo ydi rhostir gwlyb, neu weundir, yn enwedig ardal sydd heb ei phori ers cyfnod. Mae glaswellt y gweunydd (purple moor-grass neu Molinia) yn tyfu’n dwmpathau tal, trwchus, sy’n aml iawn yn cuddio rhwydwaith o hen ffosydd a thyllau corsiog, gan wneud cerdded yn heriol ar y gorau!

Dyma’r unig laswellt yng Nghymru sy’n gollddail, yn marw’n ôl yn y gaeaf a chrino nes ei fod bron yn wyn, ac mewn gwyntoedd gaeafol mae’r dail hirion yn hedfan a throelli yn yr awyr, ac yn addurno ffensys a choed drain fel hen rubannau gweddi. Mae ardaloedd eang iawn o laswelltir Molinia yng Nghymru, a phan mae o mewn cyflwr da mae’n werth ymweliad. 

Mi ges i gyfle i grwydro yn yr haul wythnos d’wytha, ar warchodfa lle mae gwaith cadwraeth ar y gweill ers blwyddyn i geisio adfer ardal o’r cynefin hwn i dyfiant mwy amrywiol. Ar y cyrion, rhwng dau gae, cododd corhedydd y coed (tree pipit) o frig coeden afalau surion (crab apple) a chanu wrth hedfan yn hamddenol i’r ddaear rhwng y twmpathau gwellt. 

Hyd yma dim ond un neu ddau o flodau sydd wedi ymddangos ar y goeden -un o’r rhai mwyaf y gwyddwn i amdanyn nhw, a hynny ar y canghennau sy’n wynebu’r haul. Cyn hir bydd hon yn wledd o flodau gwynion. Mae olion rhai o’r miloedd afalau bychain a dyfodd arni llynedd yn dal ar lawr, wedi eu hanwybyddu gan y merlod mynydd Cymreig sy’n pori yma, a phwy all eu beio am osgoi eu surni caled! 

Un o sêr pori cadwriaethol ar diroedd gwlyb Meirionnydd

Y merlod yma ydi’r prif arf wrth adfer y cynefin. Defaid fu’n pori yma gynt ac wrth reswm eu tuedd nhw oedd cadw at y lleiniau sych efo glaswellt mwy blasus. Ond mae’r ceffylau gwydn yma’n fodlon pori’r gweiriau bras yn yr ardaloedd gwlyb, a hynny, dros amser yn gwanhau y glaswellt a chaniatâu i flodau dyfu ymysg y twmpathau (ac yn creu llwybrau ffeindiach i mi eu dilyn!).

Roedd ceiliog gog (cuckoo) yn brysur iawn tra oeddwn yno, yn ddyfal alw am gymar efo’i ddau nodyn enwog. Gyferbyn, o’r golwg ynghanol tocyn o goed helyg a mieri, troellwr bach (grasshopper warbler) yn canu ei drydar hir rhyfedd. Tydw i ddim yn gyfarwydd efo sŵn tröell, pwy sydd erbyn hyn, felly mae’r enw Saesneg yn nes ati i ddisgrifio’r gân sy’n debyg i’r sŵn rhincian mae sioncyn y gwair (neu geiliog rhedyn) yn ei wneud.

Wrth fwrw ymlaen mi ges i fraw wrth i gïach (snipe) ffrwydro o’r tyfiant ac hedfan igam-ogam yn swnllyd ac ar frys oddi wrthyf. Braf meddwl y gallen nhw fod yn nythu yma gan eu bod nhw wedi prinhau. 

Mae nifer o hen ffosydd ar y safle, yn dyst yn yr achos hwn mai ofer oedd ceisio sychu tir corsiog lle mae dros chwe troedfedd o fawn mewn ambell le! Erbyn hyn mae’r ffosydd wedi eu cau gan adael pyllau sy’n berwi efo penabyliaid, a’r dyddiau heulog wedi denu llawer o fursennod mawr* coch (large red damselfly) i ddringo’r brwyn o’r dŵr a deor yn bryfaid hardd iawn. Gyda lwc bydd mwy o weision neidr yn dilyn yn yr wythnosau nesa.

Mursen fawr goch, a'r phlisgyn gwag y larfa ar frwynen

Er imi fwynhau gwylio glöynnod byw gwyn blaen oren (orange tip butterfly) yn dodwy ar y blodau llefrith (blodau’r gog, cuckoo flower), a rhyfeddu at deimlyddion mawr pluog a sgleiniog ar wyfyn y rhos (heath moth), y seren y tro hwn oedd y pili-pala bach ond godidog, brithribin werdd (green hairstreak). 


Mae wyneb uchaf ei adenydd yn frown, a dyna sydd amlycaf wrth iddo wibio o le i le, ond pan mae’n glanio daw’r gwyrdd bendigedig sydd o dan yr adenydd i’r golwg. Mae ‘Butterflies of Gwynedd’ (Whalley, 1998) yn dweud eu bod yn "fairly common" ac yn nodi 28 cofnod ym Meirionnydd ar ôl 1975, ond mae adroddiad ‘The State of UK Butterflies’ (Butterfly Conservation, 2022) yn son am ddirywiad yn eu niferoedd ac yn y lleoliadau y confodwyd nhw rhwng 1976 a 2019 felly maen nhwythau angen cymorth i adfer cynefinoedd hefyd.

Dwi’n edrych ymlaen yn arw i ddilyn hynt a helynt y safle yma dros y blynyddoedd i ddod, a gyda lwc gallaf adrodd ar gyfres o lwyddiannau yn Yr Herald Cymraeg.

- - - - - - - - - - - - 

Ymddangosodd yn wreiddiol yng ngholofn Byd Natur Yr Herald Cymraeg (Daily Post),16eg Mai 2024 (dan bennawd Bywyd y Rhostir).

*Cywiriad: roeddwn wedi rhoi mursennod bach coch yn yr erthygl. Llithriad di-ofal wrth deipio oedd hynny; mae'r rheiny'n brinnach o lawer ac mi fyddwn wedi gwneud llawer iawn mwy o ddathlu petawn wedi eu gweld nhw!!

26.4.24

Drama Byd Natur

Gall fod yn weddol anodd gwybod sut i lenwi colofn Byd Natur yn y gaeaf. Problem wahanol iawn sydd yn y gwanwyn, gan fod bob math o bethau’n digwydd, a saith cant o eiriau ddim hanner digon i drafod yr holl ddatblygiadau cyffrous sy’n mynd ymlaen o’n cwmpas!

Mi ges i droi’r newid mân yn fy mhoced wrth glywed y gog (cuckoo, Cuculus canorus) am y tro cyntaf ar Gors-wen Trawsfynydd ar yr 22ain, ac wedi dathlu fod gwenoliaid (swallow, Hirundo rustica) wedi dychwelyd i’n bro wythnos ynghynt. Roedd tinwen y garn (wheatear, Oenanthe oenanthe) yn brysur yn y sgri uwchben Llyn Teyrn ger llwybr y mwynwyr ar yr Wyddfa ar y 16eg, a’r fwyalchen (blackbird, Turdus merula) yn adeiladu nyth yn yr ardd ers dechrau’r mis.

Wrth i mi ddechrau meddwl am be’ i’w gynnwys yn y golofn y tro hwn, rydw i wedi pendroni pam nad ydw i’n mwynhau rhai o gyfresi mawreddog y BBC fel ‘Mammals’ sy’n darlledu ar hyn o bryd, a ‘Planet Earth’ ac ati. Maen nhw’n tu hwnt o boblogaidd wrth gwrs, a heb os, mae’r ymchwil yn rhyfeddol a’r gwaith camera yn wych. Da gweld hefyd fod neges amgylcheddol David Attenborough yn cryfhau o’r diwedd. Ond, rhyw deimlo ydw i eu bod yn or-ddibynnol ar greu dramâu bach ffug trwy bwytho gwahanol glipiau at ei gilydd i edrych fel un ffilm o rywbeth yn cael ei hela, a ninnau ar bigau drain yn dilyn yr erlid a’r rasio... ond o drwch blewyn mae’n llwyddo i ddianc ar yr eiliad olaf!
Y drwg ydi, dwi wedi canfod fy hun yn gwneud rhywbeth tebyg yn ddiweddar. 

Golygfa un: iâr mwyalchen yn dwrdio a dweud y drefn ar ôl iddi hi a’i chymar fod ‘nôl a ‘mlaen am ddyddiau yn adeiladu nyth mewn sgubor. 

Golygfa dau: be’ ydi’r creadur acw yn cerdded ar un o’r trawstiau dan do’r sgubor? Carlwm! (Stoat, Mustela erminea).  

Golygfa tri: distawrwydd a dim gweithgaredd yn amlwg wedyn am ddyddiau. A lwyddodd y carlwm i ddal y ceiliog, neu i ddwyn wyau o’r nyth? 

Epilog: naddo, fel mae’n digwydd, fi sydd wedi’ch camarwain trwy newid yr amserlen i weddu i’r stori. 

Mi soniais yma yn Ionawr fy mod wedi gosod camera maes mewn sgubor ar un o warchodfeydd Meirionnydd, yn bennaf ar gyfer ceisio cael llun o dylluan yno. Mi dynnais y camera o’r adeilad ar Ebrill 17eg er mwyn archwilio’r cerdyn cof. Ar ôl cyfnod o ddim byd, daliwyd y carlwm mewn tri llun a chlip deg eiliad o ffilm ar fore y 24ain o Chwefror. Yn ddifyr iawn, roedd rhywfaint o gôt wen aeafol y carlwm dal yn amlwg, ac roedd yn wych i gael y lluniau, ond welwyd mo’r carlwm ar ôl hynny. Dim ond wedyn ddechreuodd y pâr mwyalchod ddod yn amlycach yn y lluniau wrth godi nyth yno.

Hyfryd oedd gweld ymysg y cannoedd o luniau, un ystlum (bat) ac un siglen fraith (pied wagtail, Motacilla alba yarrellii) -ond testun llawenydd a seren y lluniau oedd tylluan wen.

 

Rhwng un a thri o’r gloch y bore ar Fawrth 29, mae cyfres o luniau a chlipiau byr yn dangos tylluan wen yn yr adeilad yn eistedd ar un o’r trawstiau, yn astudio’r adeilad o’i chwmpas. Daeth yn ôl am ychydig funudau tua 8 gyda’r nos. Ers hynny, bu yn ôl ddwsin o weithiau, ambell un gyda’r nos, ond yn bennaf yng ngolau dydd, ond fyth am fwy nag ugain munud. Y lluniau olaf ohoni ydi’r unig rai i’w dangos efo bwyd, llygoden bengron dwi’n tybio. Mae’n braf cael cadarnhau bod tylluan wen yn defnyddio’r warchodfa i hela, ond mi gaiff lonydd gan y camera rwan.

Mi gofiwch efallai i mi son am gamera arall mewn blwch nythu yn yr ardd. Bu drama digon rhyfedd yma hefyd. Ar Fawrth 16eg daliodd y camera ei lun cyntaf o ditw tomos las (blue tit, Parus caeruleus). Treuliodd hwnnw dair wythnos, i mewn ac allan, yn pigo’r pren efo’i big a sgubo’r llawr efo’i adenydd, cyn dod a blewyn o fwsog i mewn; cafwydd dyddiau wedyn o gludo gweiriach, trefnu ac ail-drefnu, ond erbyn Ebrill 18fed mae wedi gadael y nyth ar ei hanner. Dirgelwch! Gawn ni weld os daw rhywbeth eto.

- - - - - - - - - -

Ymddangosodd yn wreiddiol yng ngholofn Byd Natur Yr Herald Cymraeg (Daily Post),25ain Ebrill 2024.

Cyfoeth Naturiol Cymru sydd bia hawlfraint lluniau'r sgubor.