Tyfu bwyd, hel fy nhamaid, a'r byd o nghwmpas i, 700 troedfedd uwchben lefel y môr.

30.8.14

Fel huddug i botas

Mae llwyth o bethau wedi digwydd yn yr ardd a'r rhandir, ond rhwng pob peth, ches i ddim cyfle i'w cofnodi. Yn bennaf oherwydd hyn:





Nid y fi, ond Y Pobydd druan: wedi torri ei choes ar ymweliad a cherrig llithrig Pistyll Rhaeadr.




Oherwydd gwario (cyndyn, ond angenrheidiol) ar ddwy ffenast fawr a tho newydd ar y cwt, gwyliau adra oedd y cynllun eleni. Diwrnod ar Ynys Llanddwyn, un arall yn Sw Gaer ac yn rinc sglefrio (!) Glannau Dyfrdwy, ymweliad a'r sinema, gerddi Bodnant, ac yn y blaen.


Ar y diwrnod y clywodd y Pobydd grac swnllyd yn ei fibula chwith, roedden ni wedi llwyddo i ymweld ag eglwys Pennant Melangell, ac ar ein ffordd i ddrysfa ger y Trallwng -maze y bu'r Fechan yn ysu i'w weld ers wythnosau.

Ond, ar ol yr ymweliad tyngedfennol a rhaeadr uchaf Cymru, dim ond ystaflelloedd aros a phelydr X yng Nghroesoswallt a Bangor welson ni wedyn. Que sera sera.

Mae o'n wyliau na fyddwn yn anghofio fyth!
Bodnant

Llanddwyn o'r gogledd, a'r tir mawr yn y cefndir

Yn ol ar y rhandir, roedd y gwely lasagne yn fethiant yn ei flwyddyn cynta'. Roedd y slygs yn amlwg wrth eu boddau efo'r gwellt yn y gwely, ac mi gawson nhw wledd o datws. Mwy mewn ffaith na'r tatws oedd yn werth eu cadw! Ta waeth, mi fydd y gwellt wedi pydru erbyn y flwyddyn nesa' gyda lwc.

Bwyd slygs


Dros yr ychydig ddyddiau na fedrwn i ymweld a'r rhandir, mi ffrwydrodd y tyfiant ar y ffa dringo, nes bod rhai ohonyn nhw wedi tyfu'n fwy na fyddwn fel arfer yn ganiatau.

Cael yr had wnes i gan gyfaill oedd wedi symud i dy newydd, efo polytunnel yn yr ardd, a ffa 2013 yn dal yno wedi sychu ar y planhigion. Dwi ddim yn gwybod be ydi'r variety felly, ond dwi'n siwr eu bod yn fath o ffa yr oedd y cyn-berchennog yn tyfu i'w dangos mewn sioeau. Beth bynnag am hynny, maen nhw'n ffa blasus iawn wedi eu hel yn ddigon bach.



15.8.14

D'yn ni ddim yn mynd i Birmingham

Mae gen i aduniad ysgol ym mis Medi, a dwi'n edrych ymlaen i ddal i fyny efo cyd-ddisgyblion alltud, 40  30* mlynedd ar ol i bawb ddilyn llwybrau a gorwelion gwahanol.

Ond mynd a dod fydd y rhan fwyaf y noson honno: mi fydd yn hyfryd eu gweld yn ol yn y fro, fel gwennoliaid yn y gwanwyn. Ond mynd maen nhw drachefn.

Adar o'r unlliw: y Peiriannydd, y Warden, a'r Dyn X-ray, ar Faen Esgob
Mae'r dryw bach, y robin goch a'r deryn to yma trwy'r flwyddyn. E'lla na weli di nhw bob dydd, na'n rheolaidd bob wythnos, ond galli di ddibynnu arnyn nhw pan ti angen diwrnod i'r brenin. Mae rhai yn byw ymhellach na'u gilydd, ond mae ychydig o ymdrech yn arwain at lwyddiant yn amlach na pheidio.


Rhai felly ydi ffrindiau bore oes; rhai sydd wedi cadw cysylltiad, ac yn parhau i gadw oed mewn tafarn ac ar fynydd, er mwyn hel atgofion a rhoi'r byd yn ei le, bob hyn-a-hyn. Efo criw felly fues i ddydd Sadwrn yn crwydro ardal ddiarth.

Merlod y Carneddau, grug, a Phen-y-gogarth yn gwthio i'r mo^r


Er bod ambell i ditw a bran ar goll o'r haid arferol, roedd yn ddiwrnod hwyliog, yn cerdded dan haul braf, trwy ffriddoedd o rug ac eithin, piws a melyn, o Fwlch Sychnant, uwchben tref Conwy. Heibio Llyn Gwern Engan, a godrau Craigyfedwen; trwy Penffriddnewydd, Maen Esgob, a chylch cerrig Cefn Llechen; heibio murddun Tyddyn Grasod a'i gorlan arbennig; Cefn Maen Amor wedyn, a maen hir Maen Penddu, a hen chwarel lechi Tal-y-fan. Oedi i edmygu waliau cerrig sych y Ffriddlys, ardal o fynydd garw gafodd ei amgau rywbryd gan breswylwyr optimistig Tan-y-graig...  murddun ydi hwnnw hefyd heddiw.

Yna cyrraedd copa Tal-y-fan. Blewyn yn uwch na dwy fil o droedfeddi; 610 metr uwchben y mor glas islaw i'r gogledd, ac felly'n mynnu'r hawl i gael ei alw'n fynydd!

Roedd ein llwybr yn dilyn rhan o Daith Pererin y gogledd sy'n anelu am Enlli. Ond pererindod gwahanol iawn oedd gennym ni dan sylw, gan fynd ar ein pennau am weddill y dydd i dafarn Yr Albion yng Nghonwy. Mi fuon ni'n chwilio am esgus i ymweld a'r dafarn yma ers ei agor ddwy flynedd yn ol, gan bedwar bragdy lleol. Ac roedd yn werth aros amdano.


Syniad oedd yn plesio yn yr Albion: gwerthu tri traean peint am deirpunt, er mwyn cael blasu'r amrywiaeth o gwrw lleol oedd ar gael. Cwrw Clogwyn gan fragdy Conwy oedd fferfryn pawb.

Maen Penddu
Un cwyn oedd gen' i braidd. Os gawsom ni'n swyno gan enwau hardd, hynafol, Cymraeg, yr ardal, roedd Seisnigrwydd y dref yn siom.

Un o gorlannau didoli nodweddiadol y Carneddau, ger Tyddyn Grasod. Pawb yn hel y defaid o'r mynydd, a'u rhannu wedyn i ddwsin o wahanol gelloedd, yn ol eu perchennog.                 Afon Conwy yn y cefndir.

Ond fel arall, diwrnod i'r brenin go iawn. Diolch 'ogia.

Fel mae o'n wneud ar gychwyn pob taith i ni rannu ers yr wythdegau, atgoffodd y Peiriannydd ni trwy ddyfynu'r Tebot Piws nad oedden ni'n mynd i Birmingham, a phawb yn rowlio llygaid a chwerthin, gan ddiolch ein bod yn mynd i le brafiach o lawer.

Erbyn saith roedd yn amser i bawb wasgaru i bedwar cyfeiriad, ac wrth gerdded dros Afon Conwy er mwyn dal y tren ola' adra o Gyffordd Llandudno, trodd fy sylw i at y daith nesa'...


Cyn belled bod y cwmni'n dda, a'r cwrw'n flasus, dim ots lle fyddwn ni.



* diolch i'r peiriannydd am gywiro'r mathemateg a'r cof gwael!

13.8.14

Cnwd

Wedi bod rhwng cawodydd heno i nôl pys a ffa ac ati o'r rhandir.

Y farchysgall ola' hefyd, gan fod y blagur sydd ar ôl yn bethau bychain i gyd, heblaw'r un sydd i'w weld ar orwel y Manod Bach yn y llun. Mae'r petalau piws wedi dechrau gwthio trwy gragen hwnnw rwan.


Cnwd o dunelli o ffa melyn a ffa dringo ar ei ffordd, nes bydd pawb wedi syrffedu eto! Ond heno, mi wnaeth y Pobydd goginio risotto hafaidd efo nhw. Ffa melyn pod hir sydd yma eleni, am na ches i afael ar hadau Wizard- y ffefrynnau. Masterpiece ydyn nhw, ac maen nhw'n talu am eu lle yn dda iawn hyd yma.


Mae'r planhigyn pwmpen las yn dal i altro. Yn blodeuo'i hochr hi, nes bod yn rhaid i mi docio'r blaen dyfiant, er mwyn canolbwyntio ar dwchu tair neu bedair pwmpen. Un ges i llynedd, ac roedd hi'n andros o flasus. Mi gadwis i hadau ohoni, a'u hau eleni.

Mae'r ffrwythau eleni yn oleuach, ac efo streips amlycach, felly mae'n debyg bod fy mhlanhigyn i wedi croesi efo pwmpen arall ar y rhandir llynedd i gynhyrchu hadau croes.
Dwi'n edrych ymlaen i weld sut bethau fydden nhw.




7.8.14

Waw! Be 'di hwn?

Yn wahanol i'w chwiorydd, does gan y Fechan ofn dim!


Yno i helpu gwella'r llwybrau ar y rhandir oedd hi i fod, ond roedd y llyffaint; a'r chwilod; a'r gloynod byw; a'r lindysyn anferthol yma, i gyd yn fwy diddorol!

Dwi wedi defnyddio'r llun yma o'r blaen. Gwalchwyfyn yr helyglys (elephant hawk-moth) ydi o: creadur doniol a rhyfeddol fel lindysyn, ond hardd iawn fel gwyfyn.




2.8.14

Jam a Jeribincs

Dwi wedi bod at fy nghlustiau mewn ffrwythau.


Mae'r rhewgell yn orlawn rwan, o gyrins cochion a chyrins duon. Roedd yn rhaid hel yr olaf o'r gwsberins, ac roedd hi'n amser hel llus eto. Mae'r cnwd olaf o riwbob yn galw am sylw hefyd, ond bydd yn rhaid i hwnnw aros lle mae o am rwan. Diolch i'r drefn mae dim ond fesul llond llaw mae'r mafon a'r mefus yn cochi yma.

 Mi fuodd hi'n farathon yma echnos, efo jam gwsberins a jam llus ar y popdy; a 'chydig o lus yn stiwio 'run pryd, i'w fwynhau efo iogyrt neu hufen ia dros y dyddiau nesa. O'n i hefyd yn jyglo, wrth aros i'r jam ferwi, efo paratoi fodca llus a brandi cyrins duon.


'Mond tair wythnos sydd ers i mi wneud jam efo'r cnwd gynta o gwsberins, a hwnnw'n goch gloyw. Erbyn hyn, roedd y ffrwythau wedi aeddfedu'n biws, a'r jam yn dywyllach o lawer. Fel llynedd, roedd yn ddiawl o job cael y jam llus i setio. Ond dwi'n gobeithio bod yr ymdrech wedi gweithio er mwyn medru cadw un pot, a chael ei agor ganol y gaeaf ac ogleuo, a blasu'r haf eto.

Braidd yn siomedig oedd y fodca rhiwbob wnes i flwyddyn a hanner yn ôl, felly dwi wedi mynd yn ôl at hen ffefryn: llus gwyllt o'r mynydd*.

Mi fues i allan efo 'Nhad a'r Fechan yn hel, gan ddefnyddio'r grib eto, a chael pum pwys mewn awr a hanner. Tua pwys bob un i 'nghyfaill y Rybelwr a finna wneud fodca, a thri i wneud jam.

Roedd y ffrwyth a'r siwgwr yn mynd i mewn i'r fodca, a'r cwbl yn cael ei droi a'i ysgwyd yn ysgafn.
700ml fodca; 400g llus; 350g siwgr.


Bydd angen ei gynhyrfu bob hyn a hyn, a'i guddio mewn cwpwrdd am fis, wedyn hidlo'r gwirod nol i'r botel wreiddiol a gadael iddo aeddfedu mor hir ag y gallwn heb ymdrybaeddu.

Dilyn rysait rhywun arall ydw i efo'r brandi, ac mae hwnnw'n awgrymu trwytho'r ffrwyth yn y gwirod am fis, ac wedyn ychwanegu siwgwr. A bod yn onest, dwi ddim balchach o frandi, ond gawn ni weld sut beth fydd hwn at yr hydref.


Y Pobydd wedi bod yn arbrofi hefyd; wedi cael eirin gwlanog o'r siop ac wedi tynnu'r croen a chwalu pedwar ohonynt er mwyn ei gymysgu efo gwin pefriog i wneud belini blasus iawn.



* Bysa fiw i mi ddeud wrthoch chi yn lle fuo ni'n hel llus, ond doedd o ddim yn bell o gartrefi yr esgob William Morgan, Tŷ Mawr Wybrnant, a'r newyddiadurwr Elis o'r Nant, sy'n rhoi cyfle i mi roi plyg i lyfr newydd yr hen ddyn. Y rhai sy'n ddigwilydd sy'n ddigolled!


Ond cofiwch, ffeindiwch lefydd eich hunain i hel llus!