Tyfu bwyd, hel fy nhamaid, a'r byd o nghwmpas i, 700 troedfedd uwchben lefel y môr.

22.3.23

Moliannwn oll yn llon!

Daeth cyhydnos y gwanwyn, ac efo pob wythnos newydd mae’r goedwig leol yn prysuro.

Mae brigau’r coed helyg ar y cyrion yn llenwi ar hyn o bryd efo blagur tewion sy’n ffrwydro fesul dipyn yn haid o gywion gwyddau, eu blodau gwlanog. Blodau sy’n hynod werthfawr fel ffynhonell neithdar i bryfaid y gwanwyn; gall helygen fod yn ferw o wenyn a chacwn ar ddiwrnod braf ddiwedd Mawrth ac Ebrill.

Ond cân yr adar sy’n denu heddiw a phedwarawd o ditws sydd fwyaf amlwg ymysg y coed derw. Y titw mawr a’r titw tomos las wrth gwrs, a’r penddu sydd -i ‘nghlust i- yn ail-adrodd enw ei deulu o chwith: tw-tî, tw-tî, tw-tî! Ond y mwyaf croch ydi’r criw o ditws cynffon hir sy’n gweithio’u ffordd o gangen i gangen; o goeden i goeden i chwilio am fwyd, yn parablu ar draws eu gilydd wrth fynd, fel dwsin o blant cynhyrfus.

Mae ceiliog bronfraith yn canu ar gangen uchel yn y pellter a’i gân yn brydferth ac amrywiol ei nodau. Gallwn aros yno’n gwrando’n hir iawn. Adra, bu ceiliog mwyalchen yn canu ei gân hyfryd yntau gyda’r nosau yn ddiweddar hefyd, ond dwrdio mae hwnnw heddiw gan hedfan i ffwrdd ar frys wrth i mi ei styrbio tra’n hel mwsog er mwyn clustogi ei nyth.

Yn gefndir i’r cwbl mae robin goch yn canu’r felan fel tae o’n hiraethu am yr haf, ond daw’r holl ganu i ben yn ddisymwth am gyfnod byr, wrth i mi ddychryn cyffylog o’r mieri ar lawr y goedwig a hwnnw’n dianc yn drwsgl braidd trwy’r tyfiant ac ô’r golwg i ddiogelwch.

Mewn llannerch agored, mae nifer o goed cyll, pob un efo cawod o gynffonau ŵyn bach. Miloedd o flodau hirion melynwyrdd yn chwifio’n ysgafn yn y gwynt. Yn wahanol i helyg, lle ceir y blodau gwrywaidd a’r blodau benwyaidd ar wahanol goed, mi welwch o graffu’n fanwl, fod y ddau flodyn efo’u gilydd ar ganghennau’r gollen. 

Blodyn gwrywaidd ydi’r gynffon gyfarwydd; hwn sy’n rhyddhau cymylau ysgafn o baill ar y gwynt ac o’i daro efo bys, ond edrycha’n ofalus am flaguryn bach siâp ŵy, yn noeth ar y brigyn, efo seren fach goch yn ymwthio o’i flaen. Dyma’r blodyn benywaidd cynnil. Efallai ei fod yn ddi-sylw a di-nod o bell, ond dan chwydd-wydr mae cystal ag unrhyw dahlia; cyn hardded ag anemoni gloyw mewn pwll glan-môr.

Tu draw i derfynnau’r goedwig, mae pyllau dŵr a ffosydd lle dwi’n gweld y grifft llyffant cyntaf bob blwyddyn. Roedd yn hwyrach yn ymddangos eleni ac ers y dodwy cyntaf mae’r twmpathau grifft wedi dioddef dau gyfnod oer iawn, gan gynnwys rhew ac eira ail wythnos mis Mawrth. Mae cyfran ohonyn nhw wedi eu lladd gan yr oerfel, ond eto’i gyd mae’r penabyliaid mân cyntaf yn nofio’n rhydd o’u pelen jeli ac mewn rhan arall o’r pwll, twmpath newydd o grifft mwy diweddar. I gyd yn awgrym o’r sicrwydd - er gwaethaf y barrug a phob ysglyfaethwr fydd raid iddyn nhw eu hwynebu- y daw cenhedlaeth arall o lyffaint eto eleni.

Rho fis arall ac mi fydd rhai o ymfudwyr yr haf- telor yr helyg a’r siff-saff wedi cyrraedd y goedwig; wedyn daw telor y coed a’r dingoch, pob un yn ychwanegu at gôr y coed efo’u caneuon nodweddiadol. Efallai bod y rhain -a’r gog a’r gwenoliaid- yn haeddu’r sylw maen nhw’n gael pan ddon’ nhw, ond am rwan mae’r adar sydd yma trwy’r gaeaf yn ddigon i godi calon, ac atgoffa fod y rhod yn troi a bod ‘arwyddion dymunol o’n blaenau’.
- - - - - - - - - -

Ymddangosodd yn wreiddiol yng ngholofn Byd Natur Yr Herald Cymraeg, yn y Daily Post, 22ain Mawrth 2023 (Y bennawd siomedig 'Gwanwyn yn ei ôl' a roddwyd ganddyn nhw).

helyg   willow   Salix sp
titw mawr   great tit
titw tomos las   blue tit
titw penddu   coal tit
titw cynffon hir   long-tailed tit
bronfraith   song thrush
mwyalchen   blackbird
robin goch   robin
cyffylog   woodcock
cyll   hazel   Corylus avellana
llyffant   common frog
telor yr helyg   willow warbler
siff-saff   chiff-chaff
telor y coed   wood warbler
tingoch   redstart
gog   cuckoo
gwenoliaid   swallows

1.3.23

Calchfaen Bryn Pydew

Mae’r tywydd bob tro’n well yn Llandudno a Phenrhyn y Creuddyn nag ydi o adra yn yr ucheldir dri-chwarter awr i lawr yr A470, ac wrth barcio ger mynedfa gwarchodfa Bryn Pydew mae’r drain duon eisoes yn blodeuo ganol y mis bach.

Tu draw i’r giât mae’n fyd cwbl wahanol hefyd. Yn fy milltir sgwâr, mae asgwrn y graig sy’n freichled i dref Stiniog (i arall-eirio’r bardd Gwyn Thomas) yn folcanig a chaled a’r pridd yn sur a di-faeth. Ar y cyfan mae’r botaneg yn anniddorol yno. Ym Mryn Pydew ar y llaw arall, ar y garreg galch, mae’r planhigion yn amrywiol iawn a llawer ohonyn nhw’n ddiarth iawn i mi.

A dwi yn fy elfen yn chwilota a thynnu lluniau, wrth i’r haul g’nesu ‘nghefn ar ddiwrnod i’r brenin. Yn wybebu’r ymwelydd ar ddechrau llwybrau’r safle mae llwyni meryw (juniper) a chrafanc yr arth ddrewllyd (stinking hellebore) fan hyn-fan draw.  Wedyn daw’r coed yw (yew) a rhedyn tafod yr hydd (hart’s tongue) yn eu cysgod. Y cwbl, a mwy wedyn, yn blanhigion sy’n ffynnu mewn pridd calchog.

Palmentydd calch ydi prif atyniad y safle i mi, a’i gasgliad arbennig o blanhigion, er bod canol Chwefror wrth reswm yn rhy fuan i weld gwir gyfoeth y lle. Dyma gynefin prin iawn yng Nghymru, lle mae calchfaen yn brigo i’r wyneb, a miloedd o flynyddoedd o law -yn enwedig y glaw asid ers y chwyldro diwydiannol- wedi ei dreulio a’i erydu i greu cyfuniad o holltau, tyllau, a blociau yn batrwm cymleth di-drefn o graig a gofod, a phlanhigion yn brwydro am le mewn pridd tenau rhwng y cerrig.

Ymweliad â Pharc Cenedlaethol Bhoirne (y Burren) yng ngorllewin Iwerddon wyth mlynedd yn ôl oedd y tro dwytha i mi fwynhau rhyfeddodau palmentydd calch a gallwn fod wedi treulio wythnos gyfan yn gwerthfawrogi’r tegeiriannau a blodau gwyllt anghyfarwydd, a glöynod byw, gwenyn a phryfetach y lle hudol hwnnw. Dwi’n cywilyddio braidd fy mod i wedi anwybyddu’r cynefin yma adra yng Nghymru, ond mi af eto i Fryn Pydew yn y gwanwyn a’r haf eleni, er mwyn gwylio’r graig a’r glaswelltir calchog yn dod yn fyw efo bywyd a lliw.

O gymharu efo ehangder mawr palmentydd Swydd Clare, bychan iawn ydi maint y cynefin ym Mryn Pydew, ac mae llawer o dystiolaeth yma o’r gwaith parhaol sydd ei angen i’w warchod rhag crebachu ymhellach. Bu chwarel yma ryw dro, ond daeth cloddio’r gorffennol i ben; rhywbeth arall sy’n bygwth erbyn heddiw. Yma ac acw mi welwch olion torri coed a chlirio prysgwydd er mwyn datgelu mwy o’r graig ac agor y glaswelltir. Ardaloedd a gollwyd dan dyfiant trwchus oherwydd diffyg pori: mae bob man heblaw’r mynyddoedd uchaf yn ysu i droi’n goedwig petai ond yn cael hanner cyfle. Da o beth mewn rhai amgylchiadau, ond nid ymhob un!

Mae rheoli coed cynhenid fel y gollen a’r onnen yn un peth, ond mae yma elyn didrugaredd arall i gyfoeth y safle hefyd, sef planhigion anfrodol, sy’n lledaenu i bob twll a chornel gan arwain at ddirywiad ym maint ac ansawdd y cynefinoedd prinach yr ydym yn eu gwerthfawrogi. Planhigion fel y derw bythwyrdd (holly oak), a’r cotoneaster a’i frigau’n ymestyn fel esgyrn pysgod noeth yr adeg hyn o’r flwyddyn, eu hâd wedi’u gwasgaru o erddi’r cyffiniau gan adar. Braf oedd gweld olion rheoli ar y rhain hefyd wrth grwydro llwybrau’r ardal.

Mae titw penddu’n (coal tit) canu nerth ei ben am gymar wrth i mi adael y safle, ac wrth ochr y ffordd dafliad carreg i ffwrdd, mae’r haul a blodau llachar melyn mahonia -llwyn gardd arall- wedi denu brenhines cacynen gynffon lwydfelyn (buff-tailed bumblebee) allan yn gynnar. 

Arwydd nid yn unig o hin fwynach yr iseldir o’i gymharu ag adra, ond hefyd o’r newid hinsawdd sy’n bygwth mwy na dim ond cynefinoedd lleol. Mae’r gacynen hon, yn ne Prydain o leiaf, yn parhau’n effro a gweithgar trwy’r gaeaf erbyn hyn. Gwnawn y pethau bychain ar Ddydd Gŵyl Dewi, ond rhaid hefyd wrth ymdrech sylweddol a hir-dymor i warchod ein byd.
- - - - - - - - -

Ymddangosodd yn wreiddiol yn Yr Herald Cymraeg ar Ddydd Gŵyl Dewi 2023 (dan y bennawd 'Bywyd Tir Calchog')