Tyfu bwyd, hel fy nhamaid, a'r byd o nghwmpas i, 700 troedfedd uwchben lefel y môr.
Showing posts with label gwely. Show all posts
Showing posts with label gwely. Show all posts

21.4.17

'Nôl i'r gwely

Ddwy flynedd yn ôl mi fues i'n newid coed dau wely yn yr ardd gefn, gan feddwl gwneud dau arall yn 2016. Aeth hi'n ddoe arna'i yn gwneud hynny o'r diwedd.


Roedd coed llus -blueberry- yn y gwely triongl, ond doedden nhw ddim yn hoff o'u lle, felly maen nhw wedi mynd i rywle arall. Mae'r mefus alpaidd bach a'r cenin syfi oedd yno hefyd wedi eu symud.

Yn ogystal â phreniau newydd, mae'r pridd wedi'i adnewyddu yn y triongl hefyd, ac mi es i hel meddyliau am un o glasuron Trigger ar Only Fools & Horses  lle mae o'n canmol fod ei frwsh llawr yn 20 oed.   Er ei fod wedi newid y pen 17 o weithiau a'r goes 14 gwaith, ym meddwl y cymeriad hoffus, yr un brwsh oedd o!

Mae llwyth o dywod yn y gwely yma felly moron a phanas fydd hi eleni.

Y bwriad ydi hau pys a ffa yn y gwely hirsgwar 'newydd' heddiw... felly allan a fi...


Cwbl sydd ei angen rwan ydi 'chydig o haul!

[Y mae'r haf yn hir yn dyfod -adnewyddu'r ddau wely arall]


24.6.15

Dilyn y Llwybr Llechog

Mae'r gwaith ar lwybrau'r ardd gefn bron a gorffen, diolch i'r drefn, ac mae gwell trefn yma o'r diwedd.


Mae'r gwely bach onglog tua top y llun yn wely newydd. Glaswellt oedd yn fanno tan wsos dwytha. Ardal flodau gwyllt i fod; ond weithiodd o ddim ar ôl y flwyddyn gynta.

Gwely i dyfu blodau i'w torri ar gyfer y tŷ fydd hwn, ond mae'n rhy hwyr i wneud hynny'n iawn eleni, felly 'dan ni wedi plannu cymysgedd o bethau oedd yma ac acw mewn potiau: blodau haul, blodau ŵy, lobelia, marigold, pys pêr.

Mae'r gwely uchaf yn y llun -gwely'r tŷ helyg- wedi cael coed newydd hefyd. Mae llawer i'w wneud eto, ond dwi'n hapus iawn efo be wnaed hyd yma. 'Dwn 'im be 'swn i'n neud heb gymorth y Pobydd a'r Fechan.

Elfen fawr o'r gwaith, cyn creu y llwybrau newydd, oedd llnau'r chwyn o'r ardal gorau fedrwn ni. Gwaith di-ddiwedd myn coblyn i.






Tri chwynnyn poenus: dail arian; blodyn menyn; pumnalen ymlusgol. Bob un yn lledu trwy bob peth arall, ac achosi gwaith diflas trwy'r gwanwyn a'r haf.


Dau fath arall o chwyn diflas ydi glaswellt a marchrawn. Mae'r llun yma'n dangos gwreiddiau gwydn y ddau yn ymledu rhwng brethyn gwrth-chwyn a llechen fawr dwi newydd ei chodi o lwybr, yn chwilio am le newydd i sefydlu, ac i ngwylltio i!

Ond OMB! Dwi ddim isio meddwl am y chwyn sydd ar y rhandir....

31.5.15

Y mae'r haf yn hir yn dyfod

Ar ôl deuddydd braf ar ddechrau'r wythnos hanner tymor, mae hi wedi bod yn ddifrifol yma. Dim ond ganol pnawn heddiw cododd y tymheredd yn ôl uwchben 11 gradd C.

Dwi ar ei hôl hi'n ddiawledig felly, ac yn dal i aros iddi gynhesu cyn hau pethau'n syth i'r ddaear.   Er bod llwyth o bethau'n aros yn y tŷ gwydr i'w plannu allan, go brin ga'i flwyddyn gynhyrchiol iawn  bellach.

Mi gymris fantais o'r cyfle i newid y coed ar ddau o'r gwelyau llysiau yn yr ardd gefn. Y bwriad yn wreiddiol oedd gwasgu blwyddyn arall o fywyd ohonynt, ond a deud y gwir roedd gwir angen newid y coed.


Preniau sgaffold oedden nhw. Wedi eu gosod bron union naw mlynedd yn ôl, ar y 1af o Fehefin 2006. Erbyn hyn, roedd darnau ohonynt wedi pydru nes bod twll trwyddynt, fel gwelwch chi yn y llun cynta'.



Dwi wedi newid y coed wrth ymyl ambell lwybr hefyd, a rhoi brethyn chwyn newydd a llechi glân dan draed.

Roeddwn wedi methu codi'r tatws i gyd o'r gwely llynedd yn amlwg a llwyth ohonynt wedi dechrau tyfu eto, ond dwi eisiau tyfu moron a betys ac ati yn y gwely yna, felly rhaid oedd eu codi a'u taflu.

tatws gwyllt...wedi methu llwyth o datws llynedd!

Roedd y gwely yma'n hawdd ei wneud, gan ei fod yn wag, ond y gwely canol yn fwy o strach gan fod tatws, sorel a garlleg ynddo. Ta waeth, maen nhw wedi eu gwneud rwan ac yn iawn am naw mlynedd arall gobeithio. Mae'r ddau wely arall yn iawn am flwyddyn.

Dim ond angen tywydd gwell rwan....





30.8.14

Fel huddug i botas

Mae llwyth o bethau wedi digwydd yn yr ardd a'r rhandir, ond rhwng pob peth, ches i ddim cyfle i'w cofnodi. Yn bennaf oherwydd hyn:





Nid y fi, ond Y Pobydd druan: wedi torri ei choes ar ymweliad a cherrig llithrig Pistyll Rhaeadr.




Oherwydd gwario (cyndyn, ond angenrheidiol) ar ddwy ffenast fawr a tho newydd ar y cwt, gwyliau adra oedd y cynllun eleni. Diwrnod ar Ynys Llanddwyn, un arall yn Sw Gaer ac yn rinc sglefrio (!) Glannau Dyfrdwy, ymweliad a'r sinema, gerddi Bodnant, ac yn y blaen.


Ar y diwrnod y clywodd y Pobydd grac swnllyd yn ei fibula chwith, roedden ni wedi llwyddo i ymweld ag eglwys Pennant Melangell, ac ar ein ffordd i ddrysfa ger y Trallwng -maze y bu'r Fechan yn ysu i'w weld ers wythnosau.

Ond, ar ol yr ymweliad tyngedfennol a rhaeadr uchaf Cymru, dim ond ystaflelloedd aros a phelydr X yng Nghroesoswallt a Bangor welson ni wedyn. Que sera sera.

Mae o'n wyliau na fyddwn yn anghofio fyth!
Bodnant

Llanddwyn o'r gogledd, a'r tir mawr yn y cefndir

Yn ol ar y rhandir, roedd y gwely lasagne yn fethiant yn ei flwyddyn cynta'. Roedd y slygs yn amlwg wrth eu boddau efo'r gwellt yn y gwely, ac mi gawson nhw wledd o datws. Mwy mewn ffaith na'r tatws oedd yn werth eu cadw! Ta waeth, mi fydd y gwellt wedi pydru erbyn y flwyddyn nesa' gyda lwc.

Bwyd slygs


Dros yr ychydig ddyddiau na fedrwn i ymweld a'r rhandir, mi ffrwydrodd y tyfiant ar y ffa dringo, nes bod rhai ohonyn nhw wedi tyfu'n fwy na fyddwn fel arfer yn ganiatau.

Cael yr had wnes i gan gyfaill oedd wedi symud i dy newydd, efo polytunnel yn yr ardd, a ffa 2013 yn dal yno wedi sychu ar y planhigion. Dwi ddim yn gwybod be ydi'r variety felly, ond dwi'n siwr eu bod yn fath o ffa yr oedd y cyn-berchennog yn tyfu i'w dangos mewn sioeau. Beth bynnag am hynny, maen nhw'n ffa blasus iawn wedi eu hel yn ddigon bach.



13.4.14

Gwely lasagne

Cynhwysion:

  > cardbord
  > dwr
  > hops
  > gwellt
  > deilbridd
  > tail

Offer:

  > styllod pren 8" x 2"
  > rhaw a morthwyl a hoelion a ballu

 1. Tynnwch y gorchudd sydd wedi bod ar lawr i ladd rhywfaint o'r glaswellt ers Ionawr. Dim angen tyllu a phalu. Dim ond troi y tywyrch ben i lawr, a lefelu'r ardal yn fras iawn.


2. Rhowch haen ddwbl o gardbord gwlyb ar lawr i ladd y glaswellt a'r chwyn, yna adeiladu'r gwely pren. Os allwch chi gysgu'n dawel wedi joban rywsut-rhywsut, peidiwch a thrafferthu efo spirit-lefal a tha^p mesur ac ati: rhywle i dyfu llysiau ydi o, nid celf.
Wedyn taenwch hops ar ben y cardbord. Ar ol cyrraedd adra bydd angen perswadio'ch partnar na fuoch chi yn y dafarn trwy'r pnawn oherwydd yr ogla cwrw mawr.


3. Rhowch haen o leiaf dwy fodfedd o wellt dros bopeth, yna'i wlychu'n dda.


4. Ar ben y gwellt, mae haen o gachu ceffyl yn mynd, neu os ydych chi'n fwy posh na fi, gallwch chi roi tail ceffyl os liciwch chi...


5. Wedyn, ychwanegwch drwch o ddeilbridd neu gompost.


6. Gweinwch efo tatws. Wedyn ail gwrs o ddail salad neu frocoli piws.






29.4.12

Daw hyfryd fis...

Wedi manteisio'n llawn ar y diwrnod sych ddoe i orffen llenwi'r gwelyau newydd. Roedd gweddill y tylwyth wedi mynd i'r Port i wario, felly roedd gen i benrhyddid i wneud fel y mynnwn. Eistedd ar fy nhîn efo papur newydd a phaned fysa wedi plesio fwyaf, ond roedd y cydwybod yn pigo, felly cerdded draw i'r rhandir wnes i, efo rhaw a bwced yn llawn twls.

O'r diwedd, mae gen' i le call i blannu rhywbeth! Mi fues i'n hel cerrig mân i'w rhoi o amgylch rhannau isaf y pibelli draen hefyd, ac yn cario llechi mwy er mwyn ceisio creu (pan ga'i gyfle) llwybrau ac ardaloedd sych i weithio arnynt. Mae wedi bod ychydig yn ddigalon gweithio mewn mwd, a cheisio gwthio berfa ar dir mor feddal. 
Mae yna dwmpath o bridd yn dal ar ôl, a dwi am wasgaru hwn yn rhan ucha'r llun gynta', a gwneud gwely uwch, ond heb ymylon o goed.


Pridd sâl uffernol ydi o:  y gymdeithas randiroedd wedi ei gael i mewn i'w rannu rhwng y deiliaid, ond mae o'n gleiog ofnadwy, sydd ddim yn ddelfrydol pan mae'r ddaear yn dal gormod o ddŵr yn barod! Maen nhw wedi cael compost gan y cyngor sir hefyd, o'u cynllun ailgylchu gwastraff bwyd a gardd. Mae hwn i'w weld yn stwff da, ond tydi'r hyn a gefais i heb fynd yn bell iawn. Mi ges i ddwy sach o gachu ceffyl hefyd, ond ei fod braidd yn ffresh, felly wedi rhoi'r rhan fwya ohono yn y gwely lle dwi am blannu ffa.

Hanner y rhandir sydd i'w weld yn y lluniau yma. Dyma'r hanner y byddai'n canolbwyntio arno eleni, mae'r gweddill yn ddigalon o wlyb, hyd yn oed ar ôl cyfnod cymharol sych...
Roeddwn wedi disgwyl gorfod buddsoddi oriau yn sefydlu'r lle cyn cael rhandir cynhyrchiol, ond 'rargian, dwi'n edrych ymlaen at yr haf -daw hyfryd fis Mehefin cyn bo hir...

Mae hi'n tywallt y glaw y bore 'ma, a'r gwynt yn ei yrru o'r dwyrain oer. Bydd yn rhaid i'r coed mafon aballu aros tan nos Fawrth neu ddydd Mercher felly, cyn y gallaf blannu dim.
Diwrnod yn y amdani heddiw felly. Dwi wedi cael rhestr o jobsys hollbwysig i 'ngadw i'n brysur...y Pobydd isio imi osod bachau dal llenni yn y gegin; yr Arlunydd a'r Pry' Llyfr isio silff cornel bob un; a'r Fechan isio hongian addurniadau calon dros ddrws ei llofft. S'nam llonydd i'w gael!

Fedra'i ddim cwyno, mae'r diwrnod wedi cychwyn yn dda gan fod y Pobydd wedi gwneud crempogau bach (drop sgons) i frecwas. Rwan, lle mae'r baned a'r papur newydd 'na...

27.4.12

Hela dail a gwario


Wedi bod yn hel dail craf y geifr –garlleg gwyllt- cyn cychwyn adra o’r gwaith am hanner diwrnod o wyliau. Maen nhw’n tyfu ar lan nant sy’n rhedeg heibio’r swyddfa; lle delfrydol i biciad allan amser cinio i nôl chydig o ddail i’w rhoi yn fy mrechdan gaws.
Gan ei bod yn bnawn sych mi fues i ar y rhandir. Dwi wedi ildio i’r hyn oedd yn amhosib ei osgoi mae gen i ofn...roedd y dŵr yn drech na fi felly dwi wedi prynu ‘chydig o goed i godi gwelyau llysiau. Mi fues i’n chwilio -yn aflwyddiannus- am goed sgaffaldiau ail-law, a gorfod prynu’n newydd yn y diwedd. Mi ges i bedair styllen 6”x1” a dwy 7”x1”, bob un yn 4.8 metr o hyd, a mynd ati i adeiladu pedwar gwely efo cymorth fy nhad. Fel arfer, mi fu’r ddau ohonom ni’n tynnu coes ein gilydd; fo’n fy nghyhuddo o fod yn rhy fanwl a ffyslyd, a finna’n diawlio am ei agwedd ‘mi wnaiff y tro’ fo!
Hyd yma felly mae'r rhandir wedi costio:
Rhent blynyddol- £25 
Aelodaeth o'r gymdeithas- £2
Goriad i’r giât- £5
Pibell ddraen- £18
Coed- £42
Bron i ganpunt. A does dim byd wedi ei blannu yno hyd yma. Fydda' hi'n rhatach -a llai o strach- imi gael bocs o lysiau organic i'r drws bob wythnos tybed? Dwi wedi anwybyddu costau'r hadau, a'r cansenni mafon aballu, oherwydd byswn i'n prynu'r rheiny beth bynnag, ar gyfer yr ardd gefn.
Beth bynnag, dwi’n mynd yn ôl ‘fory gan fod Derec “Henffych” Tywydd yn gaddo diwrnod sych, ac mi dynnaf lun tra dwi yno.
Ar ôl nôl y fechan o’r ysgol a mynd adra, mi rois i hanner y dail craf mewn gratin efo tatws, seleriac, nionod a hufen, a’i fwyta efo brocoli piws o’r ardd. Mi rois yr hanner arall mewn pesto. Un o ryseitiau River Cottage oedd y pesto. Cnau daear oedd yn y rysáit hwnnw, ond mae’n rhy gynnar i’r rheiny (a hefyd, dwi ddim yn meddwl fod 30 gram o gnau daear –sy’n golygu dadwreiddio tua 15 planhigyn efallai- yn gnwd cynaladwy yn y safleoedd dwi’n eu nabod). Mi ddefnyddiais gnau pîn felly, a blasus iawn ydi o hefyd. Mi gaiff ei ddefnyddio efo pasta, neu datws newydd o bosib, nos fory.
Dwi ‘di blino’n lân rŵan! Ychydig bach yn smyg efallai; ond nacyrd hefyd!

22.4.12

Ffa a fougasse


Y rhandir wedi boddi eto, felly heb wneud dim yno'r penwythnos hwn. Yr ateb dwi’n meddwl ydi defnyddio’r pridd a chompost ychwanegol mae’r gymdeithas wedi ei gael ar gyfer pob plot, er mwyn codi gwlâu uwchben y gors. Dwi ddim isio prynu coed i greu gwelyau os nad oes raid, gan geisio cynnal y plot heb fynd i gostau afresymol. Un peth dwi wedi’i brynu ydi rolyn 25m o beipan dyllog i’w rhoi yn y ffosydd i gario chydig o’r dŵr oddi ar y tir. Mi gynigiodd y siop ddeunyddiau adeiladu lleol ddisgownt arbennig i ddeiliaid rhandir, felly roedd yn werth buddsoddi. Mae'n wastad yn bosib cael y rhan fwya o anghenion bywyd yn lleol, a hynny yn rhad, heb ddilyn pawb fel lemming bob dydd Sadwrn i Landudno i wario, neu brynu popeth ar y we...
Gobeithio felly -rhwng  draenio a chodi’r tir- y bydd gen’ i le gweddol i blannu, neu mi fydd yn rhy hwyr i dyfu dim yno eleni. Dwi wedi cytuno i adael un cornel yn wlyb, a chreu pwll efo'r bychan, i ddenu llyffaint a gweision neidr.
Wedi treulio rhywfaint o amser yn y tŷ gwydr yn hau mwy o bys a ffa, a blodau hefyd.
 Yr heuad gynta’ (24ain o Fawrth) o bys (Serpette Guilloteau) a ffa melyn (Wizard) yn dod yn eu blaen yn dda. Dros hanner y ffa dringo (Czar) wedi methu, neu ar ei hôl hi, a phob un o’r ffa Ffrengig piws (Cosse Violette) wedi methu egino. Y pys melyn/india-corn (Double Bicolor) yn dechrau dangos rŵan, ond dim golwg hyd yma o’r pwmpenni (Burgess Buttercup). Dyma un o gyfnodau mwyaf cyffrous y flwyddyn i mi.
 Y pobydd wedi bod wrthi heddiw hefyd, gan gynhyrchu -ymysg pethau eraill- dorthau ‘fougasse’ deniadol a blasus fel hon, o rysáit yn llyfr ‘Dough’ y Llydäwr Richard Bertinet. Maen nhw wedi eu pobi ar garreg, ac yn dod allan efo crystyn arbennig a chanol meddal: can mil gwell na’r ‘bara’ giami sydd ar werth ymhobman y dyddia’ yma. Mi gawsom ni gacen siocled gyfoethog a hyfryd hefyd, ond ddaru honno ddim aros yn gyfa’ yn ddigon hir imi dynnu llun!

Cyn i mi ei chau hi am heno, dyma ddolen i ffilm fer am hanes Stiniog gan Gareth Jones, ar ran Cymdeithas Hanes Bro Ffestiniog. Mae gwirfoddolwyr y gymdeithas weithgar hon yn rhedeg arddangosfa ddyddiol ynghanol y dref bob haf, a bydd y ffilm yma’n ychwanegiad gwerthfawr i’r hyn sydd i’w weld yno eleni.