Mae'r gwaith ar ail-ddylunio'r stryd fawr yn Stiniog yn dod yn ei flaen yn dda, efo nodweddion trawiadol iawn fel colofnau llechi ac ati.
Gallwch ddilyn hynt y gwaith ar dudalen Gweplyfr, neu ar wefan y siambr fasnach.
Ymysg y dwsinau o ddywediadau lleol a dyfyniadau o gerddi a chaneuon sydd wedi naddu yng ngherrig y palmentydd mae hwn:
Rhwng yr ail-ddatblygu, a'r cynllun llwybrau beicio, sydd eisoes wedi cael canmoliaeth uchel, mae'n gyfnod cyffrous iawn yma yn Stiniog. Mae'r hen dref wedi cael mwy na'i siar o ddirywiad dros y tri degawd d'wytha, ac yn haeddu ychydig o newyddion da.
Tyfu bwyd, hel fy nhamaid, a'r byd o nghwmpas i, 700 troedfedd uwchben lefel y môr.
31.7.12
29.7.12
Pys, Pwll, a Padrig
Mi lwyddais i ddenu’r ddwy fawr i lawr i’r rhandir o’r
diwedd... ond dim ond wrth addo pys cynta’r tymor iddynt!
Wedi mynd i gyfarfod Gwydion, un o swyddogion y Dref Werdd
oeddwn i yno, er mwyn trafod syniadau ar gyfer yr ardal wyllt, ac mi gafodd y
genod fynd i hel digon o bys iddyn nhw sglaffio yno, ac i’w cario adra i ginio
hefyd.
Mi fu’r Fechan lawr at y pwll efo fi i edrych am weision
neidr eto, tra oedd y ddwy arall yn aros ddigon pell rhag cael eu hembarasio
gan dad yn gwneud pethau sgwâr! Mi fuon nhw'n brysur yn plethu brwyn i wneud basged a phenwisg flodeuog hefyd.
Mi welson ni wäell gyffredin oedd newydd ddeor o’i phlisgyn. Dyna gadarnhau
dau wahanol fath o was neidr wedi magu yn y pwll yn ei flwyddyn gynta’. Llun digon sâl, oddi ar y ffôn ydi hwn, ond cliciwch arno i weld y pry' yn gafael yn ei blisgyn tra mae'i adenydd yn chwyddo a sychu...
Llongyfarchiadau mawr i Patrick sy'n cadw'r rhandir nesa
ond un i mi, ar ddod yn gydradd gynta' yn yr adran 'Gardd Lysiau' yng
nghystadleuaeth flynyddol Blaenau yn ei Blodau.
Trefnir y gystadleuaeth yma ar
y cyd gan bwyllgor Blaenau yn ei Blodau, a chynllun y Dref Werdd (Cymunedau'n
Gyntaf).
Rhandir ffrwythlon Padrig |
Mae rhandir Patrick yn werth ei weld. Y fo heb os sydd wedi gweithio
caletaf, a’i blot yn llawn i’r ymylon o lysiau. Mae’n bleser treulio deg munud
yn sgwrsio efo fo yno, ac mae o’n hael iawn efo’i hadau, felly’n enillydd
haeddiannol iawn. (Y tri llun gan Y Dref Werdd; llawer mwy ganddynt ar
Gweplyfr)
Dafydd a Marian Cae Clyd oedd yn gydradd gynta’ efo Patrick, a’u gardd
nhw’n enghraifft wych o sut i arddio ar safle serth, a chael y mwyaf allan o’r lle sydd ar gael.
27.7.12
Crwydro
Mi gymrais ddiwrnod off ddechrau'r wythnos, ac ar ôl blino aros i’r haul ddod
allan, mi aeth y Fechan a finne i grwydro ganol y pnawn. Penderfynu aros yn y tŷ i ddarlunio
a darllen wnaeth y ddwy fawr eto.
Wrth ddilyn ein trwynau mi aethom ni mor bell
â phen ucha’ Cwm Teigl, un o gorneli hyfrytaf plwy’ Stiniog, ac edrych drosodd
at chwarel Rhiwbach ym mhlwy’ Penmachno.
Roedd hi’n pigo bwrw, felly ddaru ni ddim mentro’n rhy bell.
Dyrchafaf fy llygaid... |
Galw yn nhŷ
Anti Nita wedyn i dorri cangen geirios a chlirio llwyn lelog iddi hi gael rhoi
mainc yng ngardd goffa Bobi Twm.
Mi fuon ni’n rhyfeddu at gawr o blanhigyn bysedd y cŵn yno, yn ddwywaith taldra’r
Fechan!
Erbyn amser cinio Dydd Mercher roedd yr haul wedi cyrraedd -am ryw hyd- ac
roeddwn i’n crwydro tir garw’r Rhinogydd. Un o wobrau’r daith galed ar hyd crib
Clogwyn Pot oedd cael mwynhau llus cynta’r flwyddyn.
Galla’i ddim aros rŵan
i drefnu helfa dda, a rhoi cynnig ar y grib hel aeron a ges i’n anrheg Dolig.
Mi roddaf lun o’r teclyn ar y blog ar ôl bod, ac adolygiad o’i lwyddiant wrth
hel. Mi gafodd ‘Nhad un mewn da bryd at dymor hel y llynedd ac mi heliodd o
gnwd da yn hanner yr amser arferol. Mae unrhyw beth sy’n lleihau cyfle gwybed
bach i boeni rhywun yn werth y byd... gawn ni weld.
Ar hyd y daith, mi ges fwynhau mefus gwyllt hefyd. Mi fyswn i wedi gorfod talu crocbris taswn i ym mwyty Portmeirion am y fath ddanteithion! Hyfryd.
Llus coch oedd yr olaf o'r triawd bwytadwy i mi weld y diwrnod hwnnw. Chwerw braidd ydyn nhw i'w bwyta efo bys a bawd, ond mae Ikea yn gwerthu jam digon blasus ohono! Efallai eu bod yn tyfu'n drwch yn Sweden, ond mae nhw'n rhy wasgaredig o lawer ym Meirionnydd i hel digon ohonynt i wneud jam fy hun. Cowberry, neu lingonberry yn yr iaith fain, mae hwn -fel llus (bilberries)- yn perthyn i'r blueberries dwi'n gyfeirio atynt yn y darn dwytha'.
23.7.12
Gwreiddyn bach gan hwn-a-hon...
Efallai ei bod yn amlwg bellach fy mod i'n gwneud fy ngorau glas i gadw
gardd heb wario gormod arni! Dwi'n garddio yn ôl yr egwyddor fod y rhelyw o
blanhigion yma ‘am eu lles yn fwy na’u llun’, ond yn wahanol i’r ‘Border Bach’
yng ngherdd Crwys, byswn i ddim yn galw'r ardd acw yn 'Eden fach'. Yn sicr yn
wahanol i fam y bardd, mae hanner yr hyn dwi'n blannu yn methu!
Llus mawr |
Mae’r llus mawr (blueberries) yn dechrau magu lliw rŵan, felly bydd angen
eu gwarchod efo rhwyd eto. Doedd y llwyni yma ddim yn gwneud yn dda yng ngardd Nain
a Taid, felly mi ddaethon nhw yma i fyw. A dweud y gwir, mi gymrodd ddwy/dair
blynedd iddyn nhw ddechrau talu am eu lle. Dwi wedi bod yn rhoi nodwyddau coed
conwydd ar wyneb eu gwely, i gynyddu asidedd y pridd, ac mae hynny’n eu plesio.
Wrth gwrs, mae’n amhosib curo’r llus gwyllt sy’n tyfu ar y llethrau sy’n
amgylchynu Stiniog, ond peidiwch â gofyn lle mae’r cnydau gorau i’w cael; mae
hynny’n gyfrinach deuluol!
Mae’r coed mafon sydd yma wedi dod o ardd cyfaill, pan oedd
hwnnw’n clirio darn ar gyfer llysiau.
Aeron hefinwydden -Amelanchier |
Codi’r hefinwydden o goedwig (yn y gwaith), lle mae’n lledaenu o had wnes
i, a’i drawsblannu yma.
Ar ôl blodeuo’n addawol, dim ond llond dwrn o ffrwyth
sydd ar hwn hefyd, fel y coed ffrwyth y soniais amdanynt ar yr 22ain. Dwi wedi
son sut ddaeth y rhoswydden yma eisoes. Ddaru ddim un o’r blodau gnapio’n
ffrwyth damia nhw –dwi’n cymryd fod y tywydd wedi rhwystro’r peillio.
To'r cwt coed tân ydi hwn, a phopeth arno wedi dod un ai o doriadau gan
bobl eraill a mannau eraill yn yr ardd, fel mefus Alpaidd a sedums amrywiol, neu o had blodau gwyllt.
Mae o’n fwy o
do brown yn hytrach na tho gwyrdd, ond denu pryfetach ydi’r prif bwrpas, yn
hytrach nag edrych yn ddel. Graean ydi’r prif ddeunydd ar y to, mwy na phridd,
ac mae ‘na lympiau mawr o bren yno hefyd i bydru a chynnig cilfachau i
greaduriaid.
Mae mefus yn tyfu
yn yr hen jwg dŵr yn y cefndir, a phot mesur glaw sydd wrth ei ymyl; mae hwnna
wedi bod yn brysur eleni!
Y peth pwysica’ sydd ar gael am ddim yma ydi compost. Mae
gen i ddau dwmpath- un yn doriadau o’r ardd, a’r llall ar gyfer y deiliach a
rhedyn coch fyddai’n hel bob hydref.
Ar ôl tynnu’r llun yma mi dynnais y dail oddi ar y
canghennau afal oeddwn wedi’u torri ddoe. Efallai mai dim ond llond llwy bwdin
o ddeilbridd a ddaw o lond bwced o ddail ymhen y flwyddyn, ond mae'n fy nghadw i oddi ar y stryd tydi.
Yn y byd garddio mae ‘nialwch un person yn werthfawr i
rywun arall bob tro.
Subscribe to:
Posts (Atom)