Annwyl Sion Corn, tybed fyddech chi’n ystyried danfon ambell un o’r rhain i mi eleni?
Haul ydi fy nghais gynta’. Yn ôl gwefan Omniglot, mae dros 40 ffordd o ddisgrifio glaw yn Gymraeg, a ‘Glaw Stiniog’ yn un ohonyn nhw. Glaw trwm ydi’r ystyr yn ôl y wefan, a phwy ydw’i i daeru efo’r ‘online encyclopedia of writing systems and languages’? Fel un o drigolion y Blaenau mae’n anodd dadlau efo hynny a’r wythnos hon wedi bod yn sobor o wlyb!
Byddai diwrnod neu ddau o haul gaeafol yn dderbyniol iawn, er mwyn cael mynd i grwydro’r ffriddoedd, a llosgi ychydig o galorïau cyn dechrau’r gor-fwyta nadoligaidd.
Tydi partridge in a pear tree ddim yn apelio ata’ i!
Heblaw efallai ym Môn, mae’n anhebygol y gwelwch betrisen wyllt yn y gogledd; mae’n aderyn sy’n llawer mwy cyffredin fel un a ollyngir gan dirfeddianwyr, efo petris coesgoch a ffesantod, ar gyfer eu saethu.
A’r goeden gellyg? Tydi’r un sydd yn yr ardd acw’n ddim byd ond sgerbwd noeth, di-ffrwyth a di-ddail yn y gaeaf, felly diolch, ond dim diolch!
O ran ail ddiwrnod y Nadolig, mi fyddwn wrth fy modd yn cael gweld dau durtur, y two turtle doves sydd yn y gân. Ond hyd yn oed pan oedd y rheini’n fwy cyffredin, yma i fagu yn yr haf oedden nhw, ac wedi hen adael am lefydd cynhesach cyn y nadolig, felly yn yr achos yma, dwi’n hapus i gymryd IOU tan yr haf! Yn ôl Cymdeithas Adaryddol Cymru, aderyn prin fu’r durtur yng Nghymru erioed, heb unrhyw gofnodion o nythu ers 2011 (2009 yn y gogledd, yn sir Ddinbych). Bu gostyngiad o 99% -do mi welsoch hwnna’n gywir, naw-deg-naw y cant, yn eu niferoedd ar ynysoedd Prydain ers 1960 ac mae’r IUCN -yr Undeb Rhyngwladol dros Gadwraeth Natur- yn rhestru’r durtur fel aderyn dan fygythiad trwy’r byd. Mi fyddai gweld adferiad yn eu niferoedd yn anrheg werth chweil.
Does gen’ i ddim lle i gadw’r three French hens sydd yn y gân, ond mi fyddai mwy o ieir bach yr haf, glöynod byw, yn werth eu gweld yma yn y gwanwyn a’r haf. Mae rhai yn awgrymu fod yr ieir Ffrengig yn y gân yn cynrychioli ffydd, gobaith, cariad, felly ia, mi gymrai hynny hefyd. Byddai’n braf cael ffydd a gobaith fod arweinwyr y byd yn ddidwyll yn eu hymrwymiad i gytundeb diweddaraf COP28...
O ran y four calling birds, mae teulu o ditws cynffon hir yn dod heibio’r ardd acw yn achlysurol, ac mae eu parablu prysur wrth chwilio am bryfaid o gangen i gangen yn llenwi’r aer ac yn llonni calon. Hir oes i’r pompoms bach hyfryd pinc a llwyd.
Os ga’i fod yn ddigywilydd am eiliad Santa, tydw i heb gael cyfle i fynd i Lysfaen hyd yma i edrych am aderyn harddaf y gaeaf, cynffon sidan (waxwing). Mae mwy na’r arfer ohonyn nhw wedi mudo yma o Sgandinafia a Rwsia eleni: tybed fedri di yrru rhai ohonyn nhw i lawr ffordd hyn am ddiwrnod neu ddau i mi gael cipolwg ar eu plu trawiadol? Yn y cyfamser, dwi’n gaddo plannu mwy o goed criafol ac aeron eraill ar gyfer y gaeafau i ddod gan obeithio am fewnlifiadau mawr eto, fel yr un dros aeaf 1989/90 welodd yr adar ymhob un o hen siroedd Cymru heblaw tair, gan gynnwys ia, Meirionnydd!
Dwi’n weddol hawdd fy mhlesio, felly byddai’r uchod yn ddigon i gadw’r ba hymbyg rhag dod i’r wyneb. Efallai y cawn drafod y flwyddyn nesa sut mae cael chwe gwydd i ddodwy ganol gaeaf, ac mi awn ryw dro arall i weld saith alarch yn nofio. A dweud y gwir, efallai yr a’i yfory -os bydd gosteg yn y glaw- i weld yr haid o elyrch y gogledd (whooper swans) sy’n pori caeau Pont Croesor bob gaeaf.
Ond am y 5 modrwy, y morwynion sy’n godro, a’r dawnswyr a’r neidwyr, a’r drymwyr aballu: mi gewch chi rannu’r rheini efo plant da eraill Cymru.
Diolch Sion Corn. Diwrnod byrra’r flwyddyn hapus i chi a phawb arall gyda llaw. Mae’r 21ain o Ragfyr yn drobwynt pwysig yn y gaeaf; ac mi gawn edrych ymlaen at ychydig funudau yn fwy o olau dydd bob wythnos nes y bydd hi’n wanwyn eto!
- - - - - - - - - - - - -
Ymddangosodd yn wreiddiol* yng ngholofn Byd Natur Yr Herald Cymraeg (Daily Post), 21ain Rhagfyr 2023.
*Dan y bennawd "Rhestr i Sion Corn".
LLUN- 12 Diwrnod gan Xavier Romero-Frias, oddi ar Comin Wici dan drwydded by-sa 3.0
Eitem hynod o ddifyr. Sawl un wedi canmol y golofn Byd Natur 21 Rhagfyr yn fawr. Da iawn Paul - rhoi Blaenau ar y map.
ReplyDeleteErthygl ardderchog a difyr yn y golofn Gymraeg ddoe. Melys moes mwy.
ReplyDeleteDiolch am eich geiriau caredig!
ReplyDelete