Tyfu bwyd, hel fy nhamaid, a'r byd o nghwmpas i, 700 troedfedd uwchben lefel y môr.

27.7.23

Cerdyn Post o Fan Gwyn Man Draw

Dan haul tanbaid a gwres o 40°C, mewn dolydd blodeuog lliwgar iawn a channoedd lawer o wenyn a chacwn a glöynnod byw, allwn i ddim bod mewn lle mwy gwahanol i Gymru, ond eto’i gyd mae yna debygrwydd yn ambell i beth.

Ymysg y myrdd o blanhigion diarth, mae llawer o flodau sydd ar yr un pryd yn gyfarwydd. Nid o ddolydd a gweirgloddiau Cymru; mae’r rheiny -yn amlach na pheidio- yn brin iawn eu blodau erbyn hyn adref. Nage, yr hyn sy’n tynnu’r sylw ydi fod gen’ i flodau yn yr ardd acw yr ydw i wedi talu pres da amdanyn nhw, sy’n tyfu ‘fel chwyn’ yn fan hyn!

Ar lwyfandir Vitačevo, ychydig filltiroedd i’r gogledd o’r ffin fynyddig rhwng Groeg a Macedonia, mae llyn bychan bas Done Popov a’i lannau yn berwi efo llyffaint bychain sy’n neidio llathan i’r dŵr o’n blaenau wrth i ni agosáu, a gweision neidr bach a mawr yn codi o’r brwyn a’r hesg o’n cwmpas. Er ei fod ar uchder o 920 metr uwchben lefel y môr (tebyg iawn i uchder Crib Goch yr Wyddfa), mae cyfoeth y lle yma yn drawiadol. 

Gallwn dreulio oriau yn gwylio a cheisio adnabod y blodau gwyllt a’r pryfetach, ond rhaid ystyried diddordebau’r anwyliaid sydd efo fi yn y lle arbennig yma hefyd! Prif bwrpas yr ymweliad â rhan yma’r byd ydi dod i weld ein merch hynaf, sy’n byw yn un o drefi deheuol Macedonia, ac sydd, efo’i gŵr wedi trefnu teithiau ar ein cyfer i nifer o lefydd arbennig iawn yn y wlad.

O’r llwyfandir, rydan ni’n crwydro ymhellach i’r de, i Mihajlovo, rhyw fath o Lan-llyn neu Langrannog i genedlaethau o blant Macedonia, a cherdded ymhell i mewn i’r goedwig ucheldir o ffawydd a choed conwydd ar y llethrau serth er mwyn ‘mochel o’r haul. 

Hyd yn oed ar uchder o 1460m mae’r planhigion ‘gardd’ yn dal yn amlwg. Blodau fel bysedd y cŵn melyn (llun gyferbyn), lili martagon (uchod), lluglys gwridog (isod) a milddail melyn ymysg llawer mwy, a gwenyn mawr trawiadol o liw gwyrdd metalig, a du-las rhyfeddol yn gwledda ar eu neithdar.

Yn achlysurol mae’r llwybr yn cyrraedd ymyl ceunant a’r olygfa yn agor o’n blaenau i ddangos haen ar ôl haen o fryniau a chribau a mynyddoedd, pob un yn mynd yn llai eglur efo pellter oherwydd y tes a goleuni llachar haul y pnawn. Mae’r goedwig yn teneuo efo uchder, trwy ardal o brysgwydd ac yna glaswelltir a chreigiau ar y copaon. Collwyd y ‘tree-line’ naturiol yng Nghymru ganrifoedd yn ôl dan law dyn ond mae’n amlwg yma o hyd. Mae ambell awgrym o fwg yn y pellter hefyd; mi fu tanau gwyllt mawr yng nghoedwigoedd yr ardal y llynedd, ac maen nhw’n disgwyl mwy eleni eto. Wrth fynd i’r wasg, mae newyddion dychrynllyd yn dod o ynysoedd Groeg, ac eto mae rhai yn dal i wadu newid hinsawdd yn wyneb pob tystiolaeth.

Wrth ymlwybro’n ôl i lawr at y car, mewn tocyn o goed derw a helyg, dwi’n dal fy ngwynt a chynhyrfu wrth i un o’r criw ysu ar bawb i edrych ar löyn byw mawr hardd lle oedd pelydrau’r haul wedi treiddio i’r llawr: mantell borffor! Waw: y purple emperor cyntaf erioed i mi ei weld, ac am fraint! Mae niferoedd bach yn ne Lloegr ond yn anodd iawn ei weld gan ei fod yn treulio’i amser ym mrig y coed. Darfu’r eiliad megis seren wib felly ches i ddim llun, ond mae’n werth i chi edrych amdano ar y we os nad ydych yn gyfarwydd.  

O ffin Groeg, rydym yn teithio i’r gorllewin am ychydig ddyddiau ar lan Llyn Ohrid, sydd ar y ffin efo Albania. Mae’r llyn yma’n anferth yn ôl safonau Cymru, ac yn safle Treftadaeth y Byd Unesco oherwydd ei ecoleg unigryw. Fel mae colofnwyr eraill Yr Herald Cymraeg yn dweud o dro i dro: dwi’n ysu i gael mynd yn ôl yno! Ac os caf ddychwelyd ryw dro yn y flwyddyn neu ddwy nesa, mi sgwenna’i am fanno yng ngholofn Byd Natur hefyd efallai.
- - - - - - - - - - - -

Ymddangosodd yn wreiddiol yng ngholofn Byd Natur Yr Herald Cymraeg (Daily Post) 27ain Gorffennaf 2023.  

'Man gwyn tramor' oedd y bennawd a roddwyd gan y golygydd.

6.7.23

Rhyfeddod y Gweision Neidr

Mae llawer wedi’i ddweud yn ddiweddar am gyflwr dyfroedd Prydain, ond wrth eistedd ar garreg ynghanol un o afonydd Meirionnydd mae’n hawdd cael fy nhwyllo i feddwl fod popeth yn iawn yn y byd.

Dan haul braf rhwng cawodydd, mae’r awyr o nghwmpas yn llawn o weision neidr, clêr a gwybed. Ar wyneb y dŵr mae chwilod bach chwrligwgan (whirlygig beetle, un o rywogaethau Gyrinus) yn rhuthro mewn cylchoedd fel petaen nhw ddim yn cofio am be maen nhw’n chwilio, a rhiain ddŵr (pond-skater, rh. Gerris) yn troedio’n ysgafn ar flaenau ei thraed heb grych na thon ar wyneb y pwll.

Ddegllath i ffwrdd mae pysgodyn yn torri’r dŵr efo plop distaw wrth godi at damaid o ginio, a gadael dim ond cylch o gynnwrf byrhoedlog ar wyneb yr afon. Dyma baradwys!

Gwas neidr eurdorchog (golden-ringed dragongly, Cordulegaster boltonii) ydi’r amlycaf o’r pryfed sydd yma; yn hongliad mawr o beth dychrynllyd yr olwg efo’i gylchoedd melyn a du! Hwn ydi’r mwyaf o wesynod ucheldir Cymru (75mm), ac yn ôl yr ystadegau diweddaraf, i’w weld o ogledd Affrica hyd y cylch Arctig (Atlas of Dragonflies in Britain and Ireland, 2014 -campwaith sydd ar gael yn ail law bellach am rywbeth rhwng £30 a £270!). Maen nhw’n gyffredin yn nentydd Cymru ac yn hawdd iawn i’w hadnabod oherwydd eu lliw amlwg. Mynd a dod mae un o’r rhain o nghwmpas i, yn cymowta o bwll i bwll ar batrôl barhaol yn gwylio’i gynefin. Yn gwibio’n fygythiol at bob pry’ digywilydd sy’n crwydro i’w ddarn o o’r afon, cyn rhodio ‘nôl a ‘mlaen eto’n ddi-flino.

Er mor hardd ydi’r eurdorchog, mae un arall o deulu’r odonata -y gweision neidr- sy’n hedfan o nghwmpas i yn rhagori yn fy marn i. 

 

Un tipyn llai (45mm), ond llawn mor drawiadol, sef y forwyn dywyll (beautiful demoiselle, Calopteryx virgo). Anodd ydi disgrifio lliwiau gwych y rhain, a phrin maen nhw’n aros yn llonydd mewn un lle imi fedru craffu’n ddigon hir... corff gwyrddlas gloyw sydd gan y gwryw, a’i adenydd naill ai’n las neu’n borffor, yn dibynnu sut mae’r goleuni yn eu taro. Mae adenydd yr iar fel copor yn disgleirio yn yr haul, a dwi yn fy elfen ymysg ugain a mwy ohonyn nhw: pencampwyr acrobateg, yn medru hofran yn eu hunfan, a hedfan am yn ôl hefyd gan droi eu pedair adain i wahanol gyfeiriadau. Magu mewn nentydd ac afonydd carregog mae’r rhain, o gymharu efo’r rhywogaeth arall yng Nghymru, y forwyn wych (banded demoiselle, C.splendens) a geir mewn dyfroedd arafach efo mwd neu raean mân yn wely.

Tri arall sy’n cadw cwmpeini i mi ar yr afon ydi’r picellwr pedwar nod (four-spotted chaser, Libellula quadrimaculata), mursen fawr goch (large red damselfly, Pyrrhosoma nymphula) a mursen asur (azure damselfly, Coenagrion puella). Cyfoeth yn wir, ond er mor hyfryd ydi’r lleoliad, tydi popeth ddim yn iawn. Sythwydd rhannau o’r afon; carthwyd meini a cherrig allan ohoni; cyfyngwyd ambell ddarn rhwng dau arglawdd i gadw’r dŵr o’r caeau; rhoddwyd carthion, sbwriel, gwrtaith ynddi. Ond mae’n araf adfer, diolch i’r drefn.

Tua deunaw mlynedd yn ôl mewn drama ysgytwol -DW2416- gan Dewi Prysor, mae’n son am y Gwyddelod yn canu ‘Only our rivers run free’, ond nad oedd hynny’n wir yng Nghymru:

“Mae na dair afon yn tarddu o’r un mynydd a fi... Afon Prysor yn llifo i Llyn Traws, i gael ei hatal gan argae ac i hongian yn ddu dros hen ffermydd a wagiwyd. Wedyn ma Afon Cain yn llifo drwy ranges Traws. Heibio olion aelwydydd gwag hen deuluoedd yrrwyd o’u ffermydd i neud lle i Brydain Fawr ymarfar ei chrefft o ladd a dinistrio. Yn ola', mae dŵr Tryweryn yn gorwadd fel carrag fedd uwchben pentra Capel Celyn”.

Yn ardal Traws gallwch ychwanegu Afon Gau, Nant y Graigddu, ac afonydd Crawcwellt a’r Eden: Dwynwyd cyfran sylweddol o’u llif ers y 1960au gan gamlas goncrid sy’n cludo dŵr ers pan ehangwyd Llyn Traws ar gyfer yr atomfa. Erbyn hyn mae’n dda deall bod ymchwil ar y gweill i weld sut gellid gwella’r llif naturiol. Mae’n hafonydd yn haeddu cael eu gwarchod.

Mae’n Wythnos Gwas y Neidr fel mae’n digwydd bod, felly ewch allan i chwilio -os gawn ni haul eto! Dilynwch y nod #DragonflyWeek23 ar y we am newyddion a dolenni, a chofiwch yrru eich cofnodion i’r Ganolfan Gofnodi Biolegol lleol, Cofnod.

- - - - - - - - - - - -

Ymddangosodd yn wreiddiol yng ngholofn Byd Natur Yr Herald Cymraeg (Daily Post) 6ed Gorffennaf 2023 dan y bennawd 'Gweision y neidr'.