Tyfu bwyd, hel fy nhamaid, a'r byd o nghwmpas i, 700 troedfedd uwchben lefel y môr.

9.2.23

Crwydro Ffridd y Bwlch

Gydag anogaeth a geiriau caredig Bethan Wyn Jones, colofnydd Byd Natur Yr Herald Cymraeg hyd at Ragfyr 2022, dwi wedi cytuno i yrru erthyglau i'r papur bob mis. Dyma'r cyntaf, a ymddangosodd ar dudalennau'r Herald yn y Daily Post, 8fed Chwefror 2023. 

Dim pawb sy’n gwirioni ‘run fath wrth reswm, ond dwi wrth fy modd efo dyddiau caled glas yn y gaeaf.

Felly mae hi wrth i mi grwydro ardal Ffridd y Bwlch uwchben Stiniog ar fore braf ganol Ionawr. Mae’r eira glan sych yn clecian wrth gael ei wasgu dan draed ar y llwybr o amgylch Llyn Ffridd, a neb wedi bod o ‘mlaen i. Ôl traed ambell ddafad fan hyn fan draw yn unig sy’n awgrymu nad ydw i ar fy mhen fy hun yn llwyr. Er bod yr awyr yn las a’r haul yn gynnes ar fy nghefn mae gorchudd o rew ar wyneb y dŵr a’i batrymau cywrain yn hardd iawn.

Gallwch groesi argae’r gronfa a adeiladwyd i wasanaethu’r chwareli, ond dwi’n dewis dilyn glan ddwyreiniol y llyn ar llwybr llydan wedi’i greu gan aelodau lleol Cymdeithas Bysgota’r Cambrian. Ar y ddwy ochr, mae dafnau gloyw dirifedi o wlith ar flaenau dail glaswellt y gweunydd a brwyn yn disgleirio fel goleuadau nadolig hwyr, neu oleuadau tylwyth teg. 

Dwi’n oedi am gyfnod yng ngogledd y llyn i dynnu ambell lun o’r haul ar wyneb y gronfa a chofio dyddiau hirfelyn yma efo’r plant, yn dal crethyll a mwynhau picnic ar y gro. Does dim rhew yn fan hyn, ac mae’r dŵr bas yn drwch o dyfiant dyfrllys (un o rywogaethau’r Potamogeton- casgliad dyrys o blanhigion dŵr). 

 

Yma mae pont bren yn cario’r llwybr at lan orllewinol y llyn, ac ychydig lathenni i fyny’r ffrwd sy’n llifo dani mae’r swch lle ymuna Afon Fach Job Elis efo Nant Llyn Iwerddon. 

Pwy bynnag oedd Job, mae’r afon sy’n cofio amdano yn codi ar lethrau gogleddol y Cribau, lle mae llwybrau beicio enwog Antur Stiniog yn cychwyn. Llifo heibio Tomen Sgidia’r Meirwon (y soniodd Rhys Mwyn amdani yn ei golofn yn Yr Herald dro yn ôl) ac wedyn o dan yr A470 dan gopa Bwlch y Gorddinan, neu’r Crimea i chi a fi. Llifa’r ail nant o geseiliau Iwerddon a’r Allt Fawr ar ochr orllewinol y bwlch, lle codwyd dwy argae arall i greu Llyn Iwerddon a chroni dŵr ar gyfer chwarel yr Oclis neu’r Gloddfa Ganol.

Mae’n bosib gwneud cylchdaith fer ddifyr ar grib Iwerddon, rhwng Bwlch y Moch a Bwlch y Cŵn, a galw heibio Llyn Dyrnogydd, sydd -yn wahanol i’r ddau arall- yn lyn naturiol ac yn werth ymweliad. Yn ôl map cyfres cyntaf 1953 yr Arolwg Ordnans, mae’r ffin rhwng hen siroedd Meirionnydd a Chaernarfon, yn ogystal â phlwyfi Ffestiniog a Dolwyddelan yn dilyn crib Iwerddon; dyma hefyd ffin bondigrwybwyll y parc cenedlaethol a adawodd Stiniog (a chymunedau llechi eraill Eryri) allan fel plant drwg nad oedd yn haeddu sylw! 

Erbyn hyn mae mapiau diweddarach yr OS yn rhoi’r ffin rhwng Gwynedd a Chonwy ar hyd dwy nant Llyn y Ffridd, a dwi’n croesi’r terfyn hwnnw er mwyn dilyn llwybr defaid o’r bompren i fyny at Simnai Llyn Ffridd. Y ganol, a’r ddyfnaf, o dair siafft y Tynal Mawr ydi’r simdda yma, yn cysylltu Blaenau Ffestiniog efo Blaenau Dolwyddelan ar reilffordd Dyffryn Conwy (Gweler ‘Hanes y Twnnel Mawr 1872-1881’ gan Steffan ab Owain, ac ‘Owen Gethin Jones’ gan Vivian Parry Williams, am hanes rhyfeddol y twnnel a’r rheilffordd). 

Wrth ddringo’r domen wastraff ddaeth allan o’r siafft, mae dryw bach yn fy nychryn efo’i gân mawr staccato mwya’ sydyn, ac mae’n debyg ei fod yntau wedi cael braw o ngweld innau ar fore mor ddistaw. Wrth ddilyn y ffordd drol o’r simdda i gyfeiriad y briffordd, wrth droed clogwyni’r Garnedd Wen, mae dwy gigfran yn chwarae ar yr awel uwchben y creigiau gan grawcian yn ddwfn wrth fynd. 

Mae mwy o ôl cerdded ar y llwybr gwastad, poblogaidd yma, a chaf gyfarch cydnabod efo’u cŵn cyn dychwelyd yn ôl i’r dre, ac er cymaint dwi’n hoffi crwydro yn yr eira, mae’n dda cael panad wrth y tân wedyn!

- - - - - - - -

 

Diolch Bethan. Diolch hefyd i Dion ac Iolo o griw yr Herald/Dail y Post am ymddiried ynof fel colofnydd newydd.

Ac i Bethan Gwanas -un o golofnwyr rheolaidd yr Herald- am fy nghroesawu ar Twitter, a chodi gwên trwy dynnu sylw at y cysodi diddorol a olygodd fod fy mygshot wedi'i roi ar ei ochr a thorri fy mhen i ffwrdd!

 

Ymddangosodd yr erthygl dan y bennawd 'Mwynhau'r Gaeaf'- Mi ddyliwn bwysleisio nad y fi sy'n dewis pennawd ar gyfer y golofn, ac maen nhw'n siomi yn achlysurol!

 

Yn dilyn cais, dwi am ychwanegu enwau Saesneg a gwyddonol y planhigion dwi'n gyfeirio atyn nhw, ac enwau Saesneg yr anifeiliaid sy'n cael sylw. Y tro hwn:

glaswellt y gweunydd   purple moor-grass   Molinia caerulea
brwyn   rushes   Juncus sp.
dyfrllys   pondweed   Potamogeton sp.
dryw bach   wren
cigfran   raven