Tyfu bwyd, hel fy nhamaid, a'r byd o nghwmpas i, 700 troedfedd uwchben lefel y môr.
Showing posts with label glaswellt. Show all posts
Showing posts with label glaswellt. Show all posts

22.7.16

"Gwneis gymmysgdail i fy lawnt"

Nid pawb sy'n gwirioni 'run fath.
Lawnt anniddorol iawn ydi un berffaith os 'da chi'n gofyn i mi.

Na, dwi'n gwbod bo' chi ddim yn gofyn, ond pwy sydd isio treulio amser yn torri glaswellt yn rheolaidd? A chribinio; a fforchio; ac ychwanegu tywod bras; a dyfrio; a gwrteithio; a lladd chwyn a lladd mwsog; a dilyn streips hirsyth caeth?

Mae 'garddio ar gyfer bywyd gwyllt' yn rhoi rhwydd hynt i rywun ddiogi rhywfaint, ond yn sgîl diffyg sylw i lawnt, daw cyfoeth o liw a chreaduriaid, ac mae hynny'n ddigon da i mi.


y feddyges las
meillion gwyn
maglys du
Yn ogystal â'r uchod, mae blodyn menyn, dant y llew, a geraniums, mantell Fair, mefus gwyllt, ac oregano yn ein lawnt ddail cymysg ni.

O, ac ambell weiryn hefyd!


---------------------
Pennawd "Gwneis gymmysgdail i fy lawnt": William Owen Pughe, 1800 (cyf. Geiriadur Prifysgol Cymru)


18.8.15

Garddio guerilla a biwrocratiaeth dda!

Peidiwch a deud wrth neb, ond mae'r Fechan a fi wedi bod yn hau hadau ar verges y ffordd gefn acw. Rebals wîcend go iawn.

Erbyn eleni, roedd ein pabis melyn, pabis coch, pig-yr-aran, mantell y forwyn, llysiau milwr, ac ati yn addurno lleiniau o laswellt fan-hyn-fan-draw, ac er bod y Cyngor Sir yn eu torri'n achlysurol, roedden nhw'n edrych yn well na'r glaswellt bwrdeistrefol, unffurf arferol.


Pan brynson ni'r triongl er mwyn medru mynd a'r biniau allan i'r cefn, daeth llain o 'verge' ar ochr y ffordd efo fo, a dwi wedi bod yn 'helpu' dipyn o perennials dyfu wrth y giât. Maen nhw fel arfer yn edrych yn dda erbyn Awst, ac wedi cael llonydd golew bob blwyddyn gan gontractwyr glaswellt y Cyngor.

Tan eleni. Mewn cyfnod o doriadau ariannol, mae'r lladd gwair wedi cynyddu am ryw reswm!


Dwi'n dallt bod verge yn aml iawn yn ffurfio rhan allweddol o'r ffordd, ac ar gyffordd ac ati mae angen rheoli'r tyfiant er mwyn diogelwch defnyddwyr y ffordd. Ond yn yr achos yma, cul de sac ydi'r ffordd gefn; ac un ddistaw iawn o ran traffic.

Torrwyd yr ardal gyntaf ym mis Mai. Popeth yn iawn: mae'r selebs garddio ar BBC2 yn hyrwyddo'r "Chelsea chop" bob blwyddyn 'tydyn!

Oedd, roedd yn biti canfod y lle wedi'i droi'n llanast eto wedyn yn ystod Mehefin, ond roedd yn ddigon buan i gael arddangosfa o hyd... ac roedd yn dod yn ddigon del ddiwedd Gorffennaf...

Ond, daeth dyn y strimar eto fyth ar fore'r 5ed o Awst -o lech i lwyn heb i ni ei weld. Er mawr siom, torrodd y cwbl eto, er fy mod wedi marcio'r ardal efo cansenni crwn.


Ar un adeg, mae'n siwr gen' i y byswn wedi ffonio'n syth i gwyno a diawlio, ond dwi 'chydig callach yn fy mhedwardegau. ("Hyh!" fysa'r Pobydd yn ddeud ma' siwr tasa hi'n darllen hwn.)
O'n i rhwng dau feddwl oedd o'n werth cysylltu o gwbl, ond mi ddudodd y Fechan yn ddiniwad i gyd: "Dyliat ti sgwennu llythyr atyn nhw Dad i ofyn pam".

Gyrrais ebost hwyliog ar Awst y degfed yn gofyn yn gwrtais iddyn nhw egluro os oedd is-ddeddfau neu rwbath arall yn rhwystro tyfu blodau ar verges Stiniog? Doedd dim pwrpas dwrdio efo'r ymholiad cynta'; mae mil o bethau pwysicach mewn bywyd yn'does.

Os dwi'n onest, o'n i'n disgwyl ateb swyddoglyd a biwrocrataidd. Ond mi ges i siom o'r ochor orau go iawn.

Erbyn y 14eg, roedd arolygwr priffyrdd y Cyngor Sir wedi bod yn archwilio'r safle medden nhw, ac mi ges i ateb yn cadarnhau y gallwn annog blodau wrth y giât o hyn ymlaen! Beryg i adran briffyrdd Gwynedd roi enw da i fiwrocratiaeth. Diolch am eu hagwedd ymarferol; mae'n adfer hyder rhywun yn yr awdurdod lleol.


24.6.15

Dilyn y Llwybr Llechog

Mae'r gwaith ar lwybrau'r ardd gefn bron a gorffen, diolch i'r drefn, ac mae gwell trefn yma o'r diwedd.


Mae'r gwely bach onglog tua top y llun yn wely newydd. Glaswellt oedd yn fanno tan wsos dwytha. Ardal flodau gwyllt i fod; ond weithiodd o ddim ar ôl y flwyddyn gynta.

Gwely i dyfu blodau i'w torri ar gyfer y tŷ fydd hwn, ond mae'n rhy hwyr i wneud hynny'n iawn eleni, felly 'dan ni wedi plannu cymysgedd o bethau oedd yma ac acw mewn potiau: blodau haul, blodau ŵy, lobelia, marigold, pys pêr.

Mae'r gwely uchaf yn y llun -gwely'r tŷ helyg- wedi cael coed newydd hefyd. Mae llawer i'w wneud eto, ond dwi'n hapus iawn efo be wnaed hyd yma. 'Dwn 'im be 'swn i'n neud heb gymorth y Pobydd a'r Fechan.

Elfen fawr o'r gwaith, cyn creu y llwybrau newydd, oedd llnau'r chwyn o'r ardal gorau fedrwn ni. Gwaith di-ddiwedd myn coblyn i.






Tri chwynnyn poenus: dail arian; blodyn menyn; pumnalen ymlusgol. Bob un yn lledu trwy bob peth arall, ac achosi gwaith diflas trwy'r gwanwyn a'r haf.


Dau fath arall o chwyn diflas ydi glaswellt a marchrawn. Mae'r llun yma'n dangos gwreiddiau gwydn y ddau yn ymledu rhwng brethyn gwrth-chwyn a llechen fawr dwi newydd ei chodi o lwybr, yn chwilio am le newydd i sefydlu, ac i ngwylltio i!

Ond OMB! Dwi ddim isio meddwl am y chwyn sydd ar y rhandir....

25.3.15

Blew cae

Dant y llew cynta'r flwyddyn dynnodd fy sylw, a gwneud i mi chwerthin ar gyflwr truenus y lawnt acw. Nid fod y peth yn newyddion i ni, ond argian ulw, mae'r diffyg glaswellt yn destun cywilydd.

Neu mi fysa fo, taswn i'n malio botwm corn am drwch y gwair yno!

Chwyn a mwsog, mall a'i medd... y 'lawnt' honedig yn foel iawn o ran gweiriau

Pawb at y peth y bo, ond 'sgen i ddim diddordeb treulio oriau yn torri, rowlio a thendio i gael ardal streipiog i'w hedmygu. Yma dros dro mae'r lawnt -fel y trampolîn mewn rhan arall o'r ardd gefn- er mwyn cadw'r plant yn ddiddan. Lle gwastad i daro pêl tenis ar bolyn, a gosod pabell neu'r pwll padlo pan ddaw'r haul.

Pan fydd y Fechan yn ei harddegau ac yn rhy cŵl i gicio pêl a bownsio mwyach, mae'r lawnt a'r trampolîn yn mynd.

Wedyn yr oedolion fydd pia'r ardd i gyd! Mae'r ddwy ardal yma wedi llenwi ambell funud o synfyfyrio a breuddwydio'n barod: coed ffrwythau, a gwely blodau cymysg efallai.

Fydd dim lle ar gyfer blew cae, glaswellt, gwelltglas, na gwair!

Mae dant y llew yn flodyn hardd iawn. Wrthi'n cau oedd hwn ar ôl i'r haul suddo tu ôl i'r Moelwynion.

11.11.12

Chwyn!

Mae Manon Steffan Ros yn canu ('Pan o'n i'n fach') fod:
"..dant y llew yn chwyn medden nhw, ond welis i'm byd mor dlws".
Gwir y gair. Dim ond planhigyn yn y lle anghywir ydi chwyn wedi'r cwbl, ac mae rhai ohonynt gystal bob tamaid a blodau gardd am edrych yn ddel a denu pryfaid ac adar aballu.

10.7.12

Ffrwyth Llafur


Mi gymerais i ddwyawr i ffwrdd bnawn Llun am ei bod yn sych, er mwyn piciad i’r rhandir.
(Mi dynnis i ambell i lun sâl ar y ffôn tra oeddwn yno).
 

Roeddwn isio codi rhyw fath o gysgod rownd y swîtcorn, oherwydd tydyn nhw dal heb dyfu modfedd ers eu plannu allan ddiwedd Mai! 
Dwi’n gobeithio y cân nhw well chwarae teg os roddaf  'chydig o loches iddynt rhag y gwynt sy’n chwipio dros y safle. Y drwg ydi, mae'r tymor yn rhuthro heibio ac efallai nad oes digon o amser ar ôl bellach iddyn' nhw dyfu, blodeuo, cnapio, a chwyddo...


Daeth llond dwrn o fafon ar un o’r llwyni, felly mi ges fwynhau dau ohonynt yn y fan a’r lle. Cynnyrch cynta’r rhandir! Roedd adar wedi bwyta’r rhan fwya’ o’r ddau arall, felly mae’n amlwg y bydd yn rhaid imi warchod y ffrwythau meddal i gyd y flwyddyn nesa.
Mae’r pys a’r ffa melyn (broad) yn dod yn dda rŵan; digonedd o flodau ac addewid am lwyth o bods. Mae ambell boden wedi datblygu ar y pys, ond mae ffa Padrig ar randir 4 wedi altro dipyn mwy na fy rhai i yn y mis dwytha ‘ma. Mi fues i’n clymu’r pys i’w cansenni ac yn tynnu’r planhigyn gwanaf os oedd dau hadyn wedi egino efo'i gilydd. Roedd hyn yn rhoi cnwd bach o ddail blaen ifanc, melys i mi eu cnoi wrth fy ngwaith...dim cystal â’r pys cynta’ pan ddôn nhw, ond blasus iawn serch hynny. Mi ges flas ar ddail blaen ambell i ffeuen hefyd, ond mae’r rhain yn well wedi’u trin fel sbinaij mewn pryd poeth dwi’n meddwl.
 
Roedd gen i rhyw chydig o ddarnau o gardbord eto, i'w rhoi ar lawr i greu gwely 'lasagne' eto. Hynny ydi rhoi haen o gardbord ar lawr i ladd y tyfiant; haen o doriadau gwair wedyn; mwy o gardfwrdd...a'r bwriad ydi adeiladu'r gwely efo pridd, compost, toriadau, ...ayb nes cael gwely uchel arall at y flwyddyn nesa.


Chwynnu oedd yr unig beth arall fues i’n wneud yno, er, dwi ddim yn helpu fy hun weithiau...Mi fues i yno ganol wythnos dwytha, yn strimio’r glaswellt oedd wedi tyfu’n gryf mewn un cornel a rhwng y gw’lau. Wrth strimio, roeddwn yn chwalu hadau’r gwair ar hyd bob man, felly mwy o waith o mlaen i mae’n siŵr!

17.6.12

Hidlo gwybed

Astrantia major Moulin Rouge
Diwrnod sych o’r diwedd. Ond roedd yn Sul y Tadau yn ’d oedd, felly rhwng cael fy sbwylio gan y genod, a galw efo cerdyn i nhad innau, wnes i ddim byd yn yr ardd tan yn hwyr yn y bore. O, mam bach, mae ‘na gant-a-mil o bethau i’w gwneud...lle mae dechrau?

Roeddwn yn ysu i gael torri’r glaswellt ers tro, felly dyna fu raid wneud yn gynta. Roedd angen hefyd strimio llain yn y cae o dan derfyn isa’r ardd. Dwi wedi cael caniatâd i wneud hyn bob haf gan y ffarmwr sydd bia’r cae. Mae’r tir hwnnw wedi bod dan ddau gynllun amgylcheddol  (Tir Cymen gynta, wedyn Tir Gofal) ers ugain mlynedd i greu coedwig newydd yno, ac heb ei bori ers hynny. Y broblem ydi nad oes coed yno o gwbl bron...dim ond mieri, a hwnnw’n brasgamu at yr ardd yn gynt na fedra'i ei dorri bron.
Mi fues i wrthi am sbelan dda yn lladd a hel gwair; wedyn yn chwynnu a chlirio; clymu pys a ffa i’w cansenni, a chydig o hyn, llall, ac arall, heb wneud fawr ddim arall sylweddol.


Un o ngwendidau mawr i ym mhob maes o fywyd ydi symud o un peth i’r llall, wrth i wahanol bethau dynnu fy sylw. Dim ffocws; hwnna ydi o. Felly mae talpiau o amser yn diflannu wrth i mi dindroi ac ymhel â phethau sydd ddim yn cyfrannu at unrhyw restr o bethau sydd angen eu gwneud. Mae o fel trio cael trefn ar niwl y Migneint weithia’.

Darn pella'r ardd gefn sydd yn y llun yma. Cyn cael y rhandir roedd yn rhaid gwasgu pob cnwd i fan hyn: tri gwely hirsgwar ar gyfer llysiau blynyddol, ac un gwely drionglaidd efo llus mawr. 
Blodau gwyllt oedd i fod yn y darn glaswellt, ond gweiriach a marchrawn ydi'r unig bethau sy'n tyfu yno bellach, felly dwi am blannu dwy goeden gwsberins yno.
Y cymydog sydd bia'r mwg yn y cefndir.



 Asiffeta roedd y gwybed bach yn boen heddiw. Doedd yr haul na’r gwynt ddim yn ddigon cryf i gadw’r diawled i ffwrdd, ac roedd yn rhaid i mi redeg i’r tŷ bob hyn a hyn, efo clustiau coch, poeth, i chwilio’n ofer  am gŵyn gan rywun. Ond mae’r iPod, a Gweplyfr, a Sbwnj-Bob yn bwysicach na Sul y Tadau mae’n amlwg!

Roedd llwyth o bryfetach eraill o gwmpas hefyd ac roedd mwy o groeso i'r rheiny. Mae'n wych gwylio gwenyn yn hel neithdar a phaill o flodyn i flodyn -gweler 'Lun y Mis'. Welis i ddim un gloyn byw, dim ond ambell i wyfyn heddiw.



Troed y golomen
Pry' tail, ar ddail crib y ceiliog -Crocosmia