Tyfu bwyd, hel fy nhamaid, a'r byd o nghwmpas i, 700 troedfedd uwchben lefel y môr.
Showing posts with label gwenyn meirch. Show all posts
Showing posts with label gwenyn meirch. Show all posts

11.5.23

Tynnu nyth cacwn

Maen nhw’n dod nôl bob gwanwyn yn selog. Erbyn hyn, dwi’n gwybod i chwilio am yr arwyddion yn ddigon buan, unwaith mae’r dyddiau’n cynhesu.  Bob yn ail diwrnod rwan, dwi’n mynd i’r cwt i weld os oes cylch nodweddiadol o bapur llwyd wedi ymddangos ym mrig y to. Dyma sylfaen nyth y wenynen feirch. Cacwn i rai, picwn i eraill; wasp yn Saesneg wrth gwrs.

Dwi’n gweld brenhinesau yn rheolaidd yn yr ardd ar dywydd braf yn y gwanwyn, ac er yn gwybod y bydden nhw’n boen yn achlysurol wrth i ni fwyta allan dros yr haf, dwi’n eu croesawu serch hynny. O fewn rheswm. Tydi mynd i mewn ac allan a gweithio yn y cwt ddim yn bosib os oes haid o wenyn meirch yn hawlio’r lle hefyd! Felly, bob blwyddyn, pan welaf egin nyth yn y cwt -hyd at faint pêl golff- dwi’n gwybod mae dim ond y frenhines sydd wrthi, ac mae modd ei pherswadio i symud ymlaen i sefydlu nyth yn rhywle arall. 


Hi yn unig sy’n adeiladu’r nyth ar y cychwyn, gan gnoi pren oddi ar bostyn cyfagos a gosod y stwnsh fesul cegiad mewn haenau i greu sylfaen, celloedd a chragen gron allanol. Dyma’r adeg orau i ddefnyddio coes brwsh llawr i daro’r belen fach oddi ar y to.

Y tro cyntaf i ni gael nyth yma, mae’n amlwg i mi fethu talu sylw digonol am wythnosau, a’r frenhines wedi cael llonydd i ddodwy dau ddwsin o wyau yn y celloedd meithrin cyntaf, oedd o fewn wythnos yn aeddfedu’n weithwyr. Y rheiny wedyn wedi mynd ati i hel pren i helaethu’r nyth fel bod y frenhines yn cael canolbwyntio ar ddodwy wyau a magu mwy o’i phlant. Buan iawn fydd nyth yn faint pêl-droed a miloedd o wenyn yn y boblogaeth! Mae’r strwythur papur yn werth ei weld erbyn hynny; y gweithwyr wedi hel pren o wahanol ffynonellau ac amrywiaeth o liwiau rwan yn gwahanu’r haenau. Mae’r patrymau yn fy atgoffa o haenau daearegol cymhleth creigiau hynafol arfordir Môn, neu’r poteli hynny o dywod amryliw sy’n cael eu gwerthu i ymwelwyr ar eu gwyliau mewn gwledydd poeth.
Er mor hardd a rhyfeddol, roedd yn rhaid cael dyn y cyngor sir i mewn i waredu’r nyth hwnnw, gan nad oedd y gwenyn yn fodlon rhannu’r cwt efo fi, na’r ardd efo’r teulu.


Trist, oherwydd yn wahanol i’r hen gred, mae lle gwerthfawr i wenyn meirch yn y byd ac mae’n well o lawer gen i gyd-fyw efo nhw cymaint a phosib. Yn ein gardd ni, y nhw sy’n bennaf gyfrifol dwi’n tybio, am beillio’r coed gwsberins. Hel neithdar maen nhw, ac yn sgîl hynny’n symud paill o flodyn i flodyn, o lwyn i lwyn. Eu cymwynas arall (er wrth reswm nid yma i wasanaethu dynol ryw maen nhw) ydi hela lindys a phryfed gwyrddion sy’n medru bod yn bla yn yr ardd. Cario’r rhain yn ôl i’r nyth maen nhw i fwydo’r larfâu sy’n datblygu.

Tua deunaw mlynedd yn ôl, mwy efallai, wrth baratoi i ail-agor arddangosfa un o warchodfeydd natur Meirionnydd ar ôl y gaeaf, mi ddois ar draws nythiad o wenyn meirch uwchben y drws. Fel elfen o fywyd gwyllt y lle mi benderfynais yn fy naïfrwydd i geisio cyd-fyw efo nhw a thynnu sylw at eu gweithgaredd. Ond wrth i’r haf dynnu ‘mlaen, mynd yn fyw a mwy blin wnaethon nhw a dechrau plagio’r pobol oedd yn ymweld, felly’n anffodus, rhaid oedd gwaredu’r nyth hwnnw hefyd.

Tynnodd rhywbeth fy sylw, ac ar ôl gyrru ambell un o’r gwenyn i arbenigwr, cael deall mae rhywogaeth ddiarth oedden nhw, gwenyn meirch Sacsoni. Yn wahanol i’r rhai cyffredin (Vespula vulgaris) a welir o ddydd i ddydd, Dolichovespula saxonica, oedd y rhain a dim ond unwaith oedden nhw wedi eu cofnodi o’r blaen yng ngogledd Cymru. Son am deimlo’n euog! Ond, oherwydd newid hinsawdd, mae’r ‘saxon wasp’ yn un o lu o rywogaethau sy’n ymledu o’r cyfandir. Cofnodwyd nhw gyntaf yng ngwledydd Prydain yn yr wythdegau ac fe’u gwelwyd mewn sawl rhan o Gymru erbyn hyn ac mor bell a’r Alban.
Mi gan nhwythau groeso yn yr ardd hefyd, cyn bellad a ‘mod i’n medru mynd a dod fel mynnwn i nghwt fy hun!
- - - - - - - - - -

Ymddangosodd yn wreiddiol yng ngholofn Byd Natur Yr Herald Cymraeg, yn y Daily Post, 4ydd Mai 2023

Unwaith eto, gwrthodwyd fy mhennawd i a defnyddio 'Croeso i Frenhines' yn y papur.




23.8.21

Eirin Peryglus

Mi gaiff yr eirin fynd y chwythu!

A dyna'n llythrennol y maen nhw wedi'i wneud: wedi chwyddo a chwalu yn y glaw wythnos dwytha.



Erbyn hyn maen nhw'n berwi efo gwenyn meirch blin, ac yn ddi-werth!

Felly dyna ni, ar ôl optimistiaeth ffôl yr haf, does yna ddim eirin eto eleni. Mae'r goeden yma wedi bod yn y last chance saloon ers blynyddoedd... dwi wedi ei bygwth efo'r lli' gadwyn sawl tro, ond beryg mae rhoi 'un cyfle arall' iddi hi y gwnawn eto.

Dyma ddolen at gân o'r gorffennol, gan Eirin Peryglus, oedd yn ddim byd ond pennawd cyfleus yn yr achos yma. Mwynhewch!



6.7.15

Pry' da, pry' drwg...

Mae'n amlwg i bawb sydd wedi bod yma o'r blaen fy mod i'n dipyn o anorac am bryfetach. Ond, mae rhai pethau'n cael llai o groeso yma.

Gwenyn meirch er enghraifft. Roedd brenhines wedi dechrau adeiladu nyth yn y bocs nythu titws sydd yn yr ardd gefn acw. Mi welais i hi wrthi digon buan i roi diwedd ar hynny. Be na welis i oedd ei bod hi wedyn wedi troi ei sylw at y cwt!


Mae'r nyth dros wsos oed rwan a dwsinau o wenyn yn dod 'nôl a mlaen trwy'r amser efo pren wedi'i gnoi, er mwyn adeiladu haenau newydd ar y nyth, ar nenfwd y cwt uwchben y fainc weithio. Ond hyd yn oed rwan, tydyn nhw ddim yn cynhyrfu o gwbl wrthi mi fynd i mewn ac allan i ystyn a chadw celfi ac ati.

Yn anffodus, dim ond tyfu'n fwy blin wnaiff y boblogaeth wrth i'r haf fynd yn ei flaen, ac maen nhw'n mynd i mewn ac allan trwy dwll yn y bondo uwchben y bwrdd lle rydym yn bwyta ar ddyddiau a nosweithiau braf (ychydig iawn sydd wedi bod hyd yma eleni, ond mae pawb yn dal i obeithio!). Mae gen i ofn bod yn rhaid iddyn nhw fynd felly, a dwi'n aros i ddyn o'r cyngor sir ddod efo'i fwgwd a'i asesiad risg.

Dwi ddim yn hoff iawn o lyslau -aphids- chwaith. Mae'r goeden afal Enlli dan warchae difrifol eleni, efo pry' gwyrdd a phry' du yn bla ar bob milimedr o'r blaen dyfiant newydd. Cyrliodd y dail a disgynodd llwyth o'r afalau bach. Tlawd fydd y cnwd eto eleni felly.

O be' wela' i yn y cyfryngau garddio, mae anghytuno mawr am ddylanwad morgrug yn y broblem yma. Mae'r mater yn glir i mi; mae morgrug yn symud llyslau o blanhigyn i blanhigyn er mwyn iddyn nhw gael eu godro nhw. Mae rhes o forgrug weithiau'n mynd i fyny ac i lawr boncyff yr afal Enlli. Diawlad!

Dwi'n gyndyn iawn o ddefnyddio cemegau i'w trin nhw. Mae hynny'n lladd y 'pryfaid da' -sef buchod coch cota a phryfaid hofran- sy'n dod yma i fwyta'r 'pryfaid drwg'.

Dwi wedi trio eu chwalu nhw oddi ar y goeden efo peipen ddŵr; wedi chwistrellu sebon arnyn nhw ddwywaith, ac wedi bod yn gwasgu rhwng bys a bawd- joban sy' ddim yn neis, ond yn medru bod yn effeithiol iawn. (Ches i DDIM larfau llifbryf ar y coed gwsberins a chyrins cochion eleni ar ôl sgwashio blynyddol, felly mae'n werth yr ymdrech! Ffemys lasd wyrds..)

Mae'r sefyllfa yn gwella'n raddol ar y goeden afal, ond rhaid dal ati. Ac wrth gwrs, mae'r morgrug dal yma! Wedi meddwl, efallai bod gwraidd y broblem yn ddyfnach: mae'r goeden geirios sydd wrth ymyl yr afal heb ei chyffwrdd gan y ffernols bach. Dwi wedi son o'r blaen bod y goeden afal Enlli wedi disgyn mewn gwynt a chael difrod i'w gwreiddiau, a dyna sy'n bod efallai -y planhigion gwanaf sy'n dioddef ymosodiadau amlaf gan bryfaid a slygs yn'de. Ella bod angen ystyried dyfodol y goeden cyn swnian am bryfaid...

Ta waeth, dyma un creadur sy'n cael croeso mawr yma bob tro. Gen i a'r Fechan beth bynnag. Mae'r dair arall yn gwyro o'r llwybr i'w osgoi bob tro. Pam dwad?

Llyffant melyn a mefus alpaidd. 3ydd Gorffennaf 2015