Tyfu bwyd, hel fy nhamaid, a'r byd o nghwmpas i, 700 troedfedd uwchben lefel y môr.

30.3.14

Penwythnos troi'r cloc

Steddfod Sir ddoe, a throi'r clociau dros nos: mae'n rhaid ei bod hi'n amser clirio a pharatoi go iawn yn yr ardd. Ac yn amser edmygu be sy'n tyfu yno.

Fydd dim esgus o hyn ymlaen i beidio bwrw iddi a thyfu pethau!

Llysiau 'sgyfaint glas. Pulmonaria  'blue ensign'.
Y Pobydd- pencampwraig chwynu

Ailgylchu bonion crib y pannwr a ffenel, fel cynefin i bryfaid a chwilod

Blodyn gwynt glas. Anemone

Blodau hardd clustiau eliffant, Bergenia: wedi cael arddangosfa well nac erioed yma eleni.


20 gradd celsius yng nghysgod y cwt coed ta^n. Diwrnod heulog hyfryd i godi'r galon.





19.3.14

Bore Cothi

Diolch i Shan Cothi a'r criw am roi plyg da iawn i'r blog ar Radio Cymru.
Roedd y sgwrs wedi'i ricordio ben bore, cyn i mi fynd i ngwaith, ac erbyn i'r darn gael ei ddarlledu tua chwarter i unarddeg, roedd Shan yn dweud 'mod i'n trin llwyth o randiroedd ar hyd a lled Blaenau!
Argian; mae un yn ormod ar hyn o bryd.

Dwi'n rhy swil i fwynhau cyfrannu at raglenni os alla'i osgoi hynny, ond roedd y broses yn ddi-boen, ac yn lot o hwyl.

Ac mae niferoedd ymwelwyr i'r dudalen am riwbob wedi saethu i fyny!



Mae clip o'r sgwrs ar wefan y rhaglen, a dwi wed'i blannu isod.

Bydd o yno am ryw hyd. Os gwyddoch chi sut alla'i ei gadw'n hirach (ond peidiwch son wrth y BBC) gadewch imi wybod plis!

Roedd darn difyr iawn ar y rhaglen wythnos yn ol hefyd wedi'i ricordio yn rhandir Ysgol Cwm Gwyddon yn Abercarn. Braf clywed plantos y cwm y parablu'n frwdfrydig yn Gymraeg am dyfu a choginio'u bwyd eu hunain, a'r idiom ddeheuol ryfeddol 'mas tu fas' gan un o'r athrawon yn codi gwe^n 'run pryd.

Yn ol ymchwilydd y rhaglen, bydd slot rheolaidd am arddio ar y rhaglen. Gorau po fwyaf. Gwych gweld Radio Cymru'n ychwanegu podlediad arall i'w harlwy hefyd.