Tyfu bwyd, hel fy nhamaid, a'r byd o nghwmpas i, 700 troedfedd uwchben lefel y môr.

25.5.23

Dathlu'r haf a dynwared gog!

Oes yna unrhyw beth hyfrytach na chân ehedydd mewn awyr las? Go brin. Gall rhywun ymgolli’n llwyr yn y parablu byrlymus, hir. Dyma un o’r gwobrau dwi’n fwynhau ganol Mai wrth grwydro i’r mynydd. 

Ar gyrion y dre’ mi ges wylio mursennod cochion yn hedfan mewn tandem dros ffos, a’r un fanw yn rhoi ei chynffon i mewn ac allan o’r dŵr i ddodwy ŵyau ar ddail dan yr wyneb. Ymhen ychydig wythnosau bydd ambell un o’r gweision neidr mwy yn magu yma hefyd.

mursen fawr goch -large red damselfly. Llun PW

Wrth anelu am y ffridd mae ceiliog gog yn galw o ddraenen wen gyfagos, o’r golwg yn y trwch o flodau gwynion. Am fy mod yn dynwared ac ail-adrodd deunod y gog (mwy o “Ow-ŵ” na “Gw-cŵ”) mewn llais ffalseto, mae’n gadael ei gangen a hedfan tuag ataf er mwyn dod i weld pwy ydi’r ceiliog newydd digywilydd sydd wedi mentro i’w diriogaeth o! Buan mae’r cr’adur yn cael ei erlid gan ddau gorhedydd y waun er mwyn ceisio sicrhau na fydd y cogau yn dewis eu nyth nhw i ddodwy ynddo.
Rhwng adfeilion hen chwarel a’i thomen lechi mae siglen lwyd yn gwibio heibio mewn fflach o felyn a glanio ar lan nant gerllaw gan roi cyfle i mi edmygu’r lliw lemon llachar ar ei fol a’i ben ôl, a sylwi cymaint yn hirach ydi ei gynffon, na’i gefndryd du-a-gwyn ar lawr gwlad, y siglen fraith neu’r sigl-di-gwt cyffredin. Pen ac ysgwyddau’r siglen lwyd sy’n rhoi’r enw iddo a hwnnw’r un ffunud a lliw llechi enwog Stiniog.

Ymlaen, ac yn uwch a fi, wedi cyfarch pâr o gigfrain yn troelli ar yr awel uwchben gan grawcian wrth fynd, ac aros am gyfnod i wylio iar a cheiliog tinwen y garn yn dilyn a rasio’u gilydd o garreg i garreg, ac ymaflyd mewn dawns garwriaethol ar ôl eu taith ryfeddol i Gymru fach o ganol Affrica. Gwrandewais yn hir a breuddwydiol ar yr ehedydd yn fan hyn, yn diolch am y cyfle i ddathlu’r haf unwaith eto a hel atgofion am anwyliaid sydd wedi’n gadael. Yna symud ymlaen at gyrchfan y dydd, Llynnau Barlwyd.

Llyn Mawr Barlwyd yn wag. Llun PW

Bum yma yn rheolaidd efo ffrindiau ysgol, yn pysgota trwy’r dydd ac i’r nos, nes i’r gwybaid bach ein gyrru’n benwan. Dyddiau hirfelyn o nofio yn Llyn Fflags neu Llyn Foty ar ein ffordd i Barlwyd, y cyntaf yn gronfa fach ond dwfn at ddibenion y chwarel, a’r ail yn hen dwll chwarel wedi llenwi efo dŵr. “Nofio gwyllt” ydi’r eirfa ffasiynol heddiw, ond dim ond nofio oedd o i ni bryd hynny siwr iawn, er bod rhybuddion ein rhieni’n clochdar yn ein clustiau i beidio meiddio mentro i’r fath lefydd!

Does dim dŵr yn Llyn Mawr Barlwyd erbyn hyn; canlyniad efallai i’r angen cyfreithiol am gynnal a chadw costus ar bob argae sy’n dal dros 10,000 metr ciwb o ddŵr. Er bod twll yn argae’r Llyn Bach hefyd, mae yno serch hynny lyn o hyd, a hwnnw’n disgleirio dan yr awyr las a’r heulwen heddiw. Sgrechiodd Wil Dŵr arnaf yn bigog am darfu ar ei heddwch, a hedfan ar frys i’r lan bellaf. Dyma enw’r sgotwrs lleol ar bibydd y dorlan, aderyn sy’n symud o’r arfordir i nythu ar y mynydd bob gwanwyn. Mae dau wydd Canada yn nofio i’m cyfeiriad yn hamddenol a dau gyw melyn yn eu canlyn. O’u cwmpas ymhob man mae pryfaid yn deor a physgod yn codi i’w hela; y naid pnawn fel oedden ni’n ddweud tra’n pysgota llynnoedd ucheldir Stiniog ‘stalwm.

Llyn Bach Barlwyd. Llun PW

Wrth droi’n ôl tuag adra’ mae’r gwcw’n galw eto a dwi’n chwerthin yn ddistaw wrth fy hun wrth gofio fel oedd y plant wrth eu boddau efo’r gamp o ddynwared a denu gog i’r agored pan oedden nhw’n ifanc. Ond wrth dyfu’n hŷn, roedd y fath gastiau yn fwy o embaras nac o ryfeddod iddyn nhw a bu’n rhaid ymatal! Rwan fod fy nghywion i wedi gadael y nyth, a llai o awydd ganddynt i grwydro efo’u tad, mae’n braf peidio poeni am wneud ffŵl ohonof fy hun yn dynwared adar ar ochr y mynydd a chanu tiwn gron fy hun wrth fynd, ‘Daw hyfryd fis Mehefin cyn bo hir...
- - - - - - - - - - - -

Ymddangosodd yn wreiddiol yng ngholofn Byd Natur Yr Herald Cymraeg (Daily Post) 25ain Mai 2023 dan y bennawd 'Yr haf ar ei ffordd'.

Yn dilyn cais, dwi'n cynnwys enwau Saesneg isod ar gyfer y creaduriaid dwi'n son amdanynt yn yr ysgrif:

ehedydd   skylark
mursen goch   large red damselfly
gog   cuckoo
corhedydd y waun   meadow pipit
siglen lwyd   grey wagtail
siglen fraith   common wagtail
cigfran   raven
tinwen y garn   wheatear
bibydd y dorlan   common sandpiper
gwydd Canada   Canada goose
 


11.5.23

Tynnu nyth cacwn

Maen nhw’n dod nôl bob gwanwyn yn selog. Erbyn hyn, dwi’n gwybod i chwilio am yr arwyddion yn ddigon buan, unwaith mae’r dyddiau’n cynhesu.  Bob yn ail diwrnod rwan, dwi’n mynd i’r cwt i weld os oes cylch nodweddiadol o bapur llwyd wedi ymddangos ym mrig y to. Dyma sylfaen nyth y wenynen feirch. Cacwn i rai, picwn i eraill; wasp yn Saesneg wrth gwrs.

Dwi’n gweld brenhinesau yn rheolaidd yn yr ardd ar dywydd braf yn y gwanwyn, ac er yn gwybod y bydden nhw’n boen yn achlysurol wrth i ni fwyta allan dros yr haf, dwi’n eu croesawu serch hynny. O fewn rheswm. Tydi mynd i mewn ac allan a gweithio yn y cwt ddim yn bosib os oes haid o wenyn meirch yn hawlio’r lle hefyd! Felly, bob blwyddyn, pan welaf egin nyth yn y cwt -hyd at faint pêl golff- dwi’n gwybod mae dim ond y frenhines sydd wrthi, ac mae modd ei pherswadio i symud ymlaen i sefydlu nyth yn rhywle arall. 


Hi yn unig sy’n adeiladu’r nyth ar y cychwyn, gan gnoi pren oddi ar bostyn cyfagos a gosod y stwnsh fesul cegiad mewn haenau i greu sylfaen, celloedd a chragen gron allanol. Dyma’r adeg orau i ddefnyddio coes brwsh llawr i daro’r belen fach oddi ar y to.

Y tro cyntaf i ni gael nyth yma, mae’n amlwg i mi fethu talu sylw digonol am wythnosau, a’r frenhines wedi cael llonydd i ddodwy dau ddwsin o wyau yn y celloedd meithrin cyntaf, oedd o fewn wythnos yn aeddfedu’n weithwyr. Y rheiny wedyn wedi mynd ati i hel pren i helaethu’r nyth fel bod y frenhines yn cael canolbwyntio ar ddodwy wyau a magu mwy o’i phlant. Buan iawn fydd nyth yn faint pêl-droed a miloedd o wenyn yn y boblogaeth! Mae’r strwythur papur yn werth ei weld erbyn hynny; y gweithwyr wedi hel pren o wahanol ffynonellau ac amrywiaeth o liwiau rwan yn gwahanu’r haenau. Mae’r patrymau yn fy atgoffa o haenau daearegol cymhleth creigiau hynafol arfordir Môn, neu’r poteli hynny o dywod amryliw sy’n cael eu gwerthu i ymwelwyr ar eu gwyliau mewn gwledydd poeth.
Er mor hardd a rhyfeddol, roedd yn rhaid cael dyn y cyngor sir i mewn i waredu’r nyth hwnnw, gan nad oedd y gwenyn yn fodlon rhannu’r cwt efo fi, na’r ardd efo’r teulu.


Trist, oherwydd yn wahanol i’r hen gred, mae lle gwerthfawr i wenyn meirch yn y byd ac mae’n well o lawer gen i gyd-fyw efo nhw cymaint a phosib. Yn ein gardd ni, y nhw sy’n bennaf gyfrifol dwi’n tybio, am beillio’r coed gwsberins. Hel neithdar maen nhw, ac yn sgîl hynny’n symud paill o flodyn i flodyn, o lwyn i lwyn. Eu cymwynas arall (er wrth reswm nid yma i wasanaethu dynol ryw maen nhw) ydi hela lindys a phryfed gwyrddion sy’n medru bod yn bla yn yr ardd. Cario’r rhain yn ôl i’r nyth maen nhw i fwydo’r larfâu sy’n datblygu.

Tua deunaw mlynedd yn ôl, mwy efallai, wrth baratoi i ail-agor arddangosfa un o warchodfeydd natur Meirionnydd ar ôl y gaeaf, mi ddois ar draws nythiad o wenyn meirch uwchben y drws. Fel elfen o fywyd gwyllt y lle mi benderfynais yn fy naïfrwydd i geisio cyd-fyw efo nhw a thynnu sylw at eu gweithgaredd. Ond wrth i’r haf dynnu ‘mlaen, mynd yn fyw a mwy blin wnaethon nhw a dechrau plagio’r pobol oedd yn ymweld, felly’n anffodus, rhaid oedd gwaredu’r nyth hwnnw hefyd.

Tynnodd rhywbeth fy sylw, ac ar ôl gyrru ambell un o’r gwenyn i arbenigwr, cael deall mae rhywogaeth ddiarth oedden nhw, gwenyn meirch Sacsoni. Yn wahanol i’r rhai cyffredin (Vespula vulgaris) a welir o ddydd i ddydd, Dolichovespula saxonica, oedd y rhain a dim ond unwaith oedden nhw wedi eu cofnodi o’r blaen yng ngogledd Cymru. Son am deimlo’n euog! Ond, oherwydd newid hinsawdd, mae’r ‘saxon wasp’ yn un o lu o rywogaethau sy’n ymledu o’r cyfandir. Cofnodwyd nhw gyntaf yng ngwledydd Prydain yn yr wythdegau ac fe’u gwelwyd mewn sawl rhan o Gymru erbyn hyn ac mor bell a’r Alban.
Mi gan nhwythau groeso yn yr ardd hefyd, cyn bellad a ‘mod i’n medru mynd a dod fel mynnwn i nghwt fy hun!
- - - - - - - - - -

Ymddangosodd yn wreiddiol yng ngholofn Byd Natur Yr Herald Cymraeg, yn y Daily Post, 4ydd Mai 2023

Unwaith eto, gwrthodwyd fy mhennawd i a defnyddio 'Croeso i Frenhines' yn y papur.