Cynefin digon anodd i gerdded ynddo ydi rhostir gwlyb, neu weundir, yn enwedig ardal sydd heb ei phori ers cyfnod. Mae glaswellt y gweunydd (purple moor-grass neu Molinia) yn tyfu’n dwmpathau tal, trwchus, sy’n aml iawn yn cuddio rhwydwaith o hen ffosydd a thyllau corsiog, gan wneud cerdded yn heriol ar y gorau!
Dyma’r unig laswellt yng Nghymru sy’n gollddail, yn marw’n ôl yn y gaeaf a chrino nes ei fod bron yn wyn, ac mewn gwyntoedd gaeafol mae’r dail hirion yn hedfan a throelli yn yr awyr, ac yn addurno ffensys a choed drain fel hen rubannau gweddi. Mae ardaloedd eang iawn o laswelltir Molinia yng Nghymru, a phan mae o mewn cyflwr da mae’n werth ymweliad.
Mi ges i gyfle i grwydro yn yr haul wythnos d’wytha, ar warchodfa lle mae gwaith cadwraeth ar y gweill ers blwyddyn i geisio adfer ardal o’r cynefin hwn i dyfiant mwy amrywiol. Ar y cyrion, rhwng dau gae, cododd corhedydd y coed (tree pipit) o frig coeden afalau surion (crab apple) a chanu wrth hedfan yn hamddenol i’r ddaear rhwng y twmpathau gwellt.
Hyd yma dim ond un neu ddau o flodau sydd wedi ymddangos ar y goeden -un o’r rhai mwyaf y gwyddwn i amdanyn nhw, a hynny ar y canghennau sy’n wynebu’r haul. Cyn hir bydd hon yn wledd o flodau gwynion. Mae olion rhai o’r miloedd afalau bychain a dyfodd arni llynedd yn dal ar lawr, wedi eu hanwybyddu gan y merlod mynydd Cymreig sy’n pori yma, a phwy all eu beio am osgoi eu surni caled!
Un o sêr pori cadwriaethol ar diroedd gwlyb Meirionnydd |
Y merlod yma ydi’r prif arf wrth adfer y cynefin. Defaid fu’n pori yma gynt ac wrth reswm eu tuedd nhw oedd cadw at y lleiniau sych efo glaswellt mwy blasus. Ond mae’r ceffylau gwydn yma’n fodlon pori’r gweiriau bras yn yr ardaloedd gwlyb, a hynny, dros amser yn gwanhau y glaswellt a chaniatâu i flodau dyfu ymysg y twmpathau (ac yn creu llwybrau ffeindiach i mi eu dilyn!).
Roedd ceiliog gog (cuckoo) yn brysur iawn tra oeddwn yno, yn ddyfal alw am gymar efo’i ddau nodyn enwog. Gyferbyn, o’r golwg ynghanol tocyn o goed helyg a mieri, troellwr bach (grasshopper warbler) yn canu ei drydar hir rhyfedd. Tydw i ddim yn gyfarwydd efo sŵn tröell, pwy sydd erbyn hyn, felly mae’r enw Saesneg yn nes ati i ddisgrifio’r gân sy’n debyg i’r sŵn rhincian mae sioncyn y gwair (neu geiliog rhedyn) yn ei wneud.
Wrth fwrw ymlaen mi ges i fraw wrth i gïach (snipe) ffrwydro o’r tyfiant ac hedfan igam-ogam yn swnllyd ac ar frys oddi wrthyf. Braf meddwl y gallen nhw fod yn nythu yma gan eu bod nhw wedi prinhau.
Mae nifer o hen ffosydd ar y safle, yn dyst yn yr achos hwn mai ofer oedd ceisio sychu tir corsiog lle mae dros chwe troedfedd o fawn mewn ambell le! Erbyn hyn mae’r ffosydd wedi eu cau gan adael pyllau sy’n berwi efo penabyliaid, a’r dyddiau heulog wedi denu llawer o fursennod mawr* coch (large red damselfly) i ddringo’r brwyn o’r dŵr a deor yn bryfaid hardd iawn. Gyda lwc bydd mwy o weision neidr yn dilyn yn yr wythnosau nesa.
Mursen fawr goch, a'r phlisgyn gwag y larfa ar frwynen |
Er imi fwynhau gwylio glöynnod byw gwyn blaen oren (orange tip butterfly) yn dodwy ar y blodau llefrith (blodau’r gog, cuckoo flower), a rhyfeddu at deimlyddion mawr pluog a sgleiniog ar wyfyn y rhos (heath moth), y seren y tro hwn oedd y pili-pala bach ond godidog, brithribin werdd (green hairstreak).
Mae wyneb uchaf ei adenydd yn frown, a dyna sydd amlycaf wrth iddo wibio o le i le, ond pan mae’n glanio daw’r gwyrdd bendigedig sydd o dan yr adenydd i’r golwg. Mae ‘Butterflies of Gwynedd’ (Whalley, 1998) yn dweud eu bod yn "fairly common" ac yn nodi 28 cofnod ym Meirionnydd ar ôl 1975, ond mae adroddiad ‘The State of UK Butterflies’ (Butterfly Conservation, 2022) yn son am ddirywiad yn eu niferoedd ac yn y lleoliadau y confodwyd nhw rhwng 1976 a 2019 felly maen nhwythau angen cymorth i adfer cynefinoedd hefyd.
Dwi’n edrych ymlaen yn arw i ddilyn hynt a helynt y safle yma dros y blynyddoedd i ddod, a gyda lwc gallaf adrodd ar gyfres o lwyddiannau yn Yr Herald Cymraeg.
- - - - - - - - - - - -
Ymddangosodd yn wreiddiol yng ngholofn Byd Natur Yr Herald Cymraeg (Daily Post),16eg Mai 2024 (dan bennawd Bywyd y Rhostir).
*Cywiriad: roeddwn wedi rhoi mursennod bach coch yn yr erthygl. Llithriad di-ofal wrth deipio oedd hynny; mae'r rheiny'n brinnach o lawer ac mi fyddwn wedi gwneud llawer iawn mwy o ddathlu petawn wedi eu gweld nhw!!