Tyfu bwyd, hel fy nhamaid, a'r byd o nghwmpas i, 700 troedfedd uwchben lefel y môr.

16.12.21

Teg edrych tuag adref

Mae llawer o son y dyddiau hyn am warchod enwau Cymraeg ar nodweddion yn ein tirlun, ac ar ffermydd a thai. Tân ar groen ydi gweld Nameless Cwm ar fap yn hytrach na Cwm Cneifion, ac mae gweld lol fel Happy Donkey Hill ar giât fferm ger Llandysul, yn hytrach na’r Faerdre Fach gwreiddiol yn ddigon i’m gwylltio’n gacwn! 

Mae digon hefyd, ysywaeth, o enghreifftiau ym Mro Ffestiniog.

Codi stêm mae ymgyrch Cymdeithas Enwau Lleoedd Cymru i godi ymwybyddiaeth am yr aflwydd yma, a chynllun ‘Diolgelwn’ Cymdeithas yr Iaith yn caniatau i berchennog tŷ gyfamodi i warchod yr enw am byth. Diolch amdanynt.

Ond oes gen’ i hawl i gwyno? Fysa’n well i mi sbïo adra, fel petai? ‘Da chi’n gweld: fe newidwyd enw ein tŷ ni ar ôl i ni ei brynu ychydig dros ugain mlwynedd yn ôl. Gadewch i mi egluro.

Enw’r tŷ oedd Brookland, ac roedd Leisa a finna’n gytûn fod angen rhoi enw newydd Cymraeg ar y tŷ, cyn i ni symud i mewn efo’n teulu bach. Roedd gan un ohonom syniadau mawreddog fel Sycharth, neu Llys Glyndŵr, neu rywbeth dwys, difrifol felly. Ar y llaw arall, ffafrio enw hwyliog, ysgafn, fel Tŷ Ni, neu Caban Cariad oedd y llall. Methwyd yn glir a chytuno! Nes inni eistedd efo’r twrna i gwblhau’r pryniant, a gweld hen weithredoedd oedd yn dangos mae ym 1934 y rhoddwyd yr enw Brookland ar y tŷ. 

Yr enw cyn hynny oedd Neigwl.

Cytunwyd yn y man, ac ar amrantiad, y byddwn yn adfer Neigwl fel enw ein cartref newydd. Ond pam Neigwl yn wreiddiol meddech chi? Wnaethom ni ddim pendroni rhyw lawer ar ystyr na tharddiad yr enw, hyd nes inni bigo plastar o waliau un o’r llofftydd, a thynnu’r pren sgertin. Tu ôl i’r pren oedd cerdyn post, yn amlwg wedi disgyn yno ryw dro, ddegawdau yn ôl. Cerdyn oedd o wedi ei yrru o Lerpwl ym 1906, a’i gyfeirio at Dora Jones yn Neigwl Plas, Botwnnog, Llŷn.  

 

Nid oedd ein tŷ wedi’i adeiladu pan gynhaliwyd cyfrifiad 1901, ond erbyn 1911 cofnodwyd y preswylwyr fel hyn: Lewis Evans, 34 oed -un a aned yn Lerpwl- oedd y penteulu. Rhoddwyd ei swydd fel ‘Surveyor, Urban District Council’. Ei wraig oedd Dora a aned yn sir Gaernarfon, roedd hi’n 31. Roedd yno fab deufis (Richard Lewis Evans) yn ogystal ag ymwelydd, Ellis C. Evans o Lerpwl (31; brawd Lewis mi dybiwn) a morwyn, Jenny Ann Parry, 21 o Stiniog.

Rydym yn dyfalu felly fod Dora Jones o Lŷn wedi priodi Lewis Evans ac ymgartrefu yn y Blaenau (gan ddod a’r cerdyn post efo hi ymysg ei heiddo) ac mae’n debygol iawn mae nhw roddodd yr enw Neigwl i’w cartref newydd bryd hynny.

Dwi'n deall gan gyfeillion nad Jones ydi enw perchnogion Neigwl Plas, Llŷn erbyn hyn, ac ni wn i ble yr aeth teulu Evans, Stiniog, ond roedd ambell berson lleol, pan brynson ni’r tŷ -fel (y diweddar erbyn hyn) Catherine Jones neu Cit Coparet- yn cofio’r tŷ fel Neigwl, ac yn cymeradwyo mabwysiadu’r hen enw eto. 

Mae Mrs Nita Thomas, Pengelli, yn cofio iddi gael ei henwi ar ôl Nita Neigwl, oedd yn ferch i swyddog blaenllaw efo Cyngor Dinesig Stiniog, a hwnnw’n gyfaill i’w thad, yn y tridegau (ac yn meddwl siwr taw Evans oedd eu cyfenw). Efallai y gawn ni gadarnhau y flwyddyn nesa, pan gyhoeddir fanylion cyfrifiad 1921, os oedd Nita Neigwl yn chwaer fach i’r baban deufis uchod...

Yn y cyfamser, mae’n foddhaol iawn cael rhoi darnau’r jigsô at eu gilydd, a dwi’n gobeithio bod yr uchod yn mynd rhywfaint o leiaf, tuag at gyfiawnhau ei bod yn iawn -weithiau- i ail-enwi tŷ!
- - - - -

Ymddangosodd yn wreiddiol yn Rhamant Bro, cylchgrawn Cymdeithas Hanes Bro Ffestiniog (rh.30, 2021).

Ar gael yn lleol am £4, neu drwy'r post am £6 gan Gareth; hanes.stiniog[AT]gmail.com


 

12.12.21

Cythraul Cystadlu

'Mond 'chydig o hwyl ydi o; cystadleuaeth arddio flynyddol y teulu estynedig.

Ond mae rhai yn cymryd y gystadleuaeth yn fwy difrifol nac eraill!

Er na soniais am y cystadlu ers pum mlynedd, cafwyd brwydro bob haf dros ffa hir, y moron hyllaf, a'r blodau haul talaf, a mwy.

Eleni, y nod oedd cael triawd o datws twt, a beirniad gwadd er mwyn cadw'r ddesgl yn wastad.

Och, mi ges i gam!

Dyma'r tatws buddugol: ddim yn ofnadwy o dwt... ond llongyfarchiadau i Taid Manod!


A dyma'r ddwy ymgais arall:

Triawd sobor o anghyfartal gan Taid Blaenau.

 

A thriawd yr o'n i'n sicr oedd yn mynd i ddod a'r wobr acw eto, ond och a gwae; dyna gam!


Dal i aros dyfarniad yr ymchwiliad annibynol ydan ni, yn arbennig i'r honiad fod tatws Taid Blaenau wedi dod o'r archfarchnad leol!

Ta waeth, does yna ddim byd gwaeth na chollwr sâl nag'oes! O leia does dim raid i ni roi'r wobr 'hyfryd' ar y silff be tân eleni!



Cystadlaethau'r gorffennol

11.12.21

Dros Gadair Idris Gwedy

Erthygl gen' i a ymddangosodd yn wreiddiol ym mwletin Cymdeithas Enwau Lleoedd Cymru

Fel rheolwr Gwarchodfa Natur Genedlaethol Cadair Idris, mae gen i gyfrifoldeb dros warchod rhywogaethau a chynefinoedd y mynydd arbennig hwnnw, ond yn fy ll’gada i, mae gwarchod treftadaeth yn estyniad cwbl naturiol o hynny. Gall gyfrannu at nod fy nghyflogwr, Cyfoeth Naturiol Cymru o reolaeth cynaliadwy ym mhob agwedd o’n gwaith.

Un elfen o hynny sydd o ddiddordeb i mi erioed ydi enwau llefydd, felly pan ddechreuais i yn y swydd, ugain mlynedd yn ôl, roedd Wood’s Corner; Cascades; Pencoed Pillar yn boenus i’w clywed a’u gweld. O ‘mhrofiad i ar y safle, rhai o’r canolfannau gweithgareddau agored ac ambell unigolyn oedd yn defnyddio’r cyntaf o’r enwau newydd yma, a chredaf mae dringwyr oedd wedi bathu’r olaf -ac mae hwnnw’n ymddangos ers tro mewn llawlyfrau dringo.

Yr Arolwg Ordnans sy’n (anuniongyrchol) gyfrifol am y canol o be’ wela’ i. Label oedd y gair cascades ar y map, dwi’n tybio, i ddangos bod ffrydiau a mân-raeadrau ar y llethr hwnnw. Yn anffodus, mae rhai wedi mabwysiadu’r label fel enw ar y fangre.

Mae’n wir bod mynyddoedd de Eryri wedi denu llai o sylw ar y cyfan na’r cyrchfannau mwy poblogaidd yn y gogledd, o ran bathu enwau newydd, ond roeddwn yn sicr fod hen enwau Cymraeg wedi bod ar y tri lleoliad uchod ar Gadair Idris. Felly, yn gynnar ar ôl i mi gychwyn gweithio yno, mi holais gymydog - y diweddar Mr Tom Nutting, Cwmrhwyddfor- a fyddai o’n fodlon eistedd i lawr ac edrych ar fap a lluniau efo mi.

Dros banad yn fuan wedyn, mi fuon ni’n trafod y traddodiad o hel defaid o’r mynydd, a’r llwybrau oedd bugeiliaid a gweision y gwahanol ffermydd yn ddilyn; bu’n adrodd rhai o chwedlau’r mynydd wrth reswm; ac mi ges i hanesion difyr a gwybodaeth werthfawr am bob math o destunau ganddo.

Ond roeddwn fwyaf balch y bore hwnnw o’i frwdfrydedd wrth iddo rannu rhai o enwau ei gynefin o. Onid ydi Banc Foty; Waun Bistyll; a Thŵr Maen yn well, yn hyfrytach, ac yn fwy addas na’r tri cyntaf?

 

Un o fanteision byw mewn ardal lawog ydi’r esgus i aros dan do yn achlysurol er mwyn ymchwilio pwnc a dilyn diddordebau, ac ar un o’r dyddiau hynny dros y gaeaf mi fûm yn chwilota ar wefan ardderchog Enwau Lleoedd Hanesyddol y Comisiwn Henebion. Roeddwn yn synnu braidd i weld yr ‘enw’ Cascades yn cael lle, ac mi es i ati i roi rhai o enwau Gwarchodfa Cadair Idris ar lun oeddwn wedi’i dynnu yn gynharach. Mi ddenodd y llun hwnnw gryn ymateb wedi i mi ei rannu ar Twitter ddiwedd Ionawr, a phob clod i’r Comisiwn, mi aethon nhw ati’n syth i ychwanegu nifer o’r enwau oedd ar y llun hwnnw i’r wefan, Waun Bistyll yn eu mysg, gan nodi ‘Mae'n debyg bod yr enw hwn yn sylweddol hŷn na'r enw Saesneg’.

Un enw nad ydw i’n sicr ohono ar Gadair Idris ydi Clogwyn Du ac mae ‘nghydwybod yn fy ngyrru i roi nodyn o rybudd efo hwnnw. Mi welais yr enw mewn gohebiaeth rhwng y naturiaethwr Edward Llwyd a gŵr lleol oedd yn casglu planhigion i’w gyrru ato ar droad y ddeunawfed ganrif. Mae Llwyd yn ei gyfeirio mewn un llythyr at gefn Cwm Cau i chwilota ar Glogwyn Du, ond nid yw’n amlwg yn union lle mae’r clogwyn hwnnw: fel awgrymir yn yr enw Cau, mae’r cwm bron wedi’i amgylchynu gan glogwyni! Serch hynny, y mae clogwyn yng nghefn y cwm, sydd a’i greigiau yn dywyll oherwydd lleithder parhaol; mae’n ardal sydd hefyd - yn wahanol i nifer o glogwyni eraill y cwm - yn gyfoethog ei amrywiaeth o blanhigion mynyddig. Felly nes daw tystiolaeth ychwanegol i’r fei, dwi wedi rhoi yr enw Clogwyn Du ar y lleoliad hwnnw am rwan.

Mae gosod enwau ar ffotograff o’r tirlun yn ddull mor hawdd ac effeithiol o’u harddangos. Dwi’n mawr obeithio cael cyfle i wneud mwy o enghreifftiau, ac yn eich annog chithau i fynd ati i holi aelodau’r teulu neu gymdogion a chwilota hen fapiau a dogfennau er mwyn gwneud yr un peth.

Lewys Glyn Cothi sydd pia’r pennawd gyda llaw. Un o’r cofnodion cynharaf o enw’r mynydd am wn i. Mi fyddai’n braf dilyn y sgwarnog hwnnw rywbryd hefyd... yn sicr mae digon o ddyddiau gwlyb addas yma yn ucheldir Meirionnydd! 

Paul Williams. Gwanwyn 2021