Tyfu bwyd, hel fy nhamaid, a'r byd o nghwmpas i, 700 troedfedd uwchben lefel y môr.

10.10.21

Drain ac ysgall, mall a'i medd

Mae gwaelod ein gardd ni yn ffinio efo tir fferm sydd wedi mynd yn wyllt. Yn llawn coed helyg ifanc a mieri. Dim ond hanner acer ydi o, rhwng y tai a choedwig dderw.

Pan brynsom ni'r tŷ ar droad y ganrif roedd defaid yn pori yno am y flwyddyn/ddwy gynta'.  

Aeth y defaid: daeth mieri.

 

Ac mae'r mieri hwnnw, a'r clymlys a'r dail poethion a'r helyg yn ymledu ar garlam o'r cae trwy'r gwrych, o dan y gwrych, a thros y gwrych i mewn i'n gardd ni! 

Mae'r perchennog yn ddigon bodlon, chwarae teg, inni glirio llain efo'r terfyn, a bob blwyddyn mae angen bustachu a stryffaglio trwy'r brwgaij pigog er mwyn dal y llanw'n ôl.

Yr unig gysur ydi medru hel mafon gwyllt a mwyar duon bob blwyddyn hefyd!

Fel pob garddwr, dwi'n euog o brynu planhigion heb le i'w plannu! Ymysg y coed sydd yma heb lawer o obaith o gael lle parhaol yn y ddaear, mae eirinen werdd (Reine Claude Vraie); afal cynnar Y Wyddeles (Irish Peach); clesin neu quince (Meeches Prolific). Pob un mewn pot mawr, sydd ddim yn ddelfrydol, ond yn well na dim.

Wrth gwrs mi fyswn wrth fy modd efo gardd fwy. Cael cadw iar neu dair; plannu perllan fechan efallai... Man gwyn, man draw.  Ond rydym yn lwcus iawn o'r lle sydd gennym ac mae'n bwysig gwneud y gorau ohono. Mae llawer wedi ei ddweud ar y cyfryngau am werth gardd yn ystod y cyfnodau clo. Mae hynny'n sicr wedi bod yn wir yn fan hyn. Gwerddon i ddianc iddi o'r tŷ. Paradwys hyd yn oed.

Mae'r haul yn tywynnu bore 'ma, a dail rhai o'r coed a'r llwyni yn disgleirio yn eu lliwiau hydrefol, felly allan amdani!