Tyfu bwyd, hel fy nhamaid, a'r byd o nghwmpas i, 700 troedfedd uwchben lefel y môr.
Showing posts with label gwennol. Show all posts
Showing posts with label gwennol. Show all posts

30.11.23

Apus Dyrfa

Tua diwedd Gorffennaf eleni, fel can Gorffennaf o’r blaen, mentrodd cyw gwennol ddu (swift, Apus apus) i olau dydd, a gollwng ei hun o’i nyth uchel, dan do hen adeilad yn ‘Stiniog, ac ymestyn ei adenydd am y tro cyntaf i ymuno efo’i deulu uwchben y dref. Mae’r cyw hynnw dal yn yr awyr rwan, rywle yng Ngweriniaeth y Congo. Tydi o heb lanio o gwbl! Mae o’n bwyta, yfed a chysgu yn yr awyr, a chredwch neu beidio, mi fydd yn haf 2025 cyn iddo gyffwrdd â’r ddaear eto.

Mi fydd yn dychwelyd i Gymru ganol Mehefin -tua mis ar ôl ei rieni- ar ôl bod yn haf hemisffer y de trwy’n misoedd oer ni, ond bydd blwyddyn gron arall wedyn cyn glanio i fagu cywion ei hun.

Llun Ben Stammers

Er bod wythnosau ers i’r wenoliaid duon adael ar eu taith hir tua chanol Affrica, daeth llond ystafell o bobl i Blas Tan-y-bwlch wythnos diwethaf i glywed y diweddaraf am yr ymdrechion i warchod yr adar anhygoel yma. Clywsom gan Ben Stammers o Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru bod yr arolwg adar blynyddol ym Mhrydain yn dangos gostyngiad dychrynllyd yn eu niferoedd. Yng Nghymru bu dirywiad syfrdanol o 75% rhwng 1995 a 2021, ac maen nhw bellach ar y rhestr goch o adar dan fygythiad. Meddyliwch: collwyd tri chwarter y gwenoliaid duon mewn chwarter canrif!

Llun YGNC

Er yn weddol anodd eu cyfri’n fanwl, wrth wibio heibio ar frys a phlethu ymysg ei gilydd blith draphlith, mae’r niferoedd a welaf o’n gardd wedi gostwng o flwyddyn i flwyddyn. Bob mis Awst, mae diwrnod yn dod pan dwi’n sylweddoli -mwya’ sydyn- nad ydw i wedi eu gweld na’u clywed ers tro a dwi’n hiraethu’n syth am eu sgrechian byrlymus wrth hela pryfaid fel haid o grymanau neu bwmerangs tywyll yn hollti trwy’r awyr i bob cyfeiriad ar ddiwrnod braf.  Mae’n ddychrynllyd dychmygu y gallwn weld hafau yn y dyfodol heb eu tyrfa’n cadw twrw llon uwchben.

O edrych ar eu llun, mae’n amlwg fod pob gewyn a phluen wedi esblygu’n berffaith i fyw yn y gwynt, a’u traed cwta o’r golwg yn y plu tra’n hedfan, dim ond mewn defnydd wrth lanio yng ngheg y nyth. Ystyr yr enw gwyddonol Apus mae’n debyg ydi ‘heb draed’!

Difyr oedd clywed Ben yn dweud wrth y gynulleidfa:

“Yn wahanol i’r arfer, tydi enw Cymraeg yr aderyn yma ddim yn well na’r enw Saesneg, oherwydd tydi o ddim yn wennol, a tydi o ddim yn ddu ‘chwaith!”.
Er bod ganddo gynffon fforchog sy’n nodweddiadol o wenoliaid, mae’n perthyn yn agosach at y troellwr mawr (nightjar) ac hyd yn oed deulu’r sïednod (hummingbirds). Brown tywyll ydi lliw’r plu, ac mae ganddyn nhw ên goleuach hefyd.

Llun Ben Stammers

Tybir fod llawer peth yn cyfrannu at eu trafferthion; newid ym mhatrymau tywydd a’r tymhorau oherwydd newid hinsawdd, neu golli cynefin yn Affrica er enghraifft. Roedd colli safleoedd nythu wrth i bobl adnewyddu tai yn bryder mawr ar un adeg, ond mae blychau nythu arbennig yn hawdd eu cael a chymharol hawdd eu gosod erbyn hyn -rhai yn allanol ar hen adeiladau, ac eraill i’w ymgorffori o fewn waliau adeiladau newydd- ac yn profi’n llwyddiant mawr mewn sawl ardal. Mae ymchwil yn dangos erbyn hyn fod diffyg bwyd yn bwysicach na diffyg safleoedd nythu, ac elfen allweddol ydi’r gostyngiad torcalonnus sydd wedi bod yn yr un cyfnod mewn niferoedd pryfetach o bob math- maes arall efo ystadegau brawychus. 

Hawdd ydi digalonni, ond be fedrwn ni wneud i helpu’r wennol ddu? Wel, os nad oes gennych wal uchel, addas, be am noddi blwch i’w osod ar adeilad cyhoeddus -mae cannoedd wedi eu gosod ar draws y gogledd eisoes. Gofalwch nad oes nythod cyn llenwi tyllau mewn waliau a dan eich bondo, neu holwch am gyngor. 

Un weithred hawdd iawn, ydi dechrau wrth ein traed a garddio heb bla-laddwyr a meithrin planhigion sydd o fudd i bryfed amrywiol, ac annog eich cyngor i wneud yr un peth yn eich parc lleol ac ar leiniau glaswellt eich cymuned a’ch priffyrdd. Pan ddaw’r wenoliad duon yn ôl ym mis Mai, gallwn i gyd fwynhau eu cri uwchben eto ac am flynyddoedd i ddod gobeithio, tra’n ymhyfrydu mewn gardd, neu barc llawn blodau a gwenyn a glöynnod.

- - - - - - - - - - - 

Gyda diolch i Ben Stammers a'r YGNC am gael defnyddio eu lluniau

Ymddangosodd yn wreiddiol* yng ngholofn Byd Natur Yr Herald Cymraeg (Daily Post), 30 Tachwedd 2023


*O dan y bennawd siomedig a di-ddychymyg 'Gwenoliaid Duon'..!

25.5.17

Mis Mai ar odrau'r mynydd

Mae wedi wyth o'r gloch. Bu'n ddiwrnod heulog, chwilboeth, ac mae'r awyr las di-gwmwl yn parhau, er i'r haul suddo dros orwel garw Craig Nyth y Gigfran hanner awr a mwy yn ôl.

Wrth fy ochr, yn yr ardd gefn, mae un o'r genod yn darllen, yn ôl ei harfer, ac un arall yn strymio alaw newydd ar hen iwcaleili. Mae teulu drws-nesa i'r chwith yn bwyta eu swper a sgwrsio am ddigwyddiadau'r dydd, a'r cymdogion ar y dde yn chwarae ar drampolîn, a chwerthin yn braf. A'r cwbl mewn Cymraeg naturiol a llafar. Rhywbeth yr ydym ni yma yn ucheldir Gwynedd yn ei gymryd yn ganiatáol. Rhywbeth dwi'n mawr obeithio fydd yn par'a am byth... 

Ar dalcen y cwt mae nythiad o gywion titw yn galw'n eiddgar am ddychweliad eu rhieni, a'r gwenoliaid duon yn sgrechian wrth blethu 'mysg ei gilydd ar ras, yn uchel uwch ein pennau. Bob hyn-a-hyn daw cacynen heibio a chreu cynnwrf am ychydig eiliadau, cyn symud yn ei blaen at flodyn arall. Mae'r siff-saff yn galw ei diwn gron yn y wernen, a'r ceiliog mwyalchen yn trydar ei weddi hir nosweithiol.

Ac mae'r awyr yn un lluwch o hadau helyg; peli bychain o wadin pluog gwyn, yn hongian ar yr awel ysgafna', a chyrraedd pob twll a chornel, ymhell o'r cywion gwyddau a'u gollyngodd.


Dyma'r cyfnod euraidd pryd mae hi'n ddigon cynnes i eistedd allan yn yr ardd am ddwyawr hamddenol wedi'r machlud. A mwy weithiau. Dwy neu dair wythnos hyfryd cyn i'r gwybaid mân ddod i'n poeni a'n cosi! Adeg i eistedd 'nôl a mwynhau'r ardd. Ei synau a'i harogleuon. A gwerthfawrogi be' sy'n bwysig mewn bywyd.

Dwi'n caru mis Mai. Dwi' caru 'Stiniog!


26.5.12

Gwennoliaid

Wedi eistedd allan yn yr ardd tan unarddeg nos Wener, yn sgwrsio efo'r Pobydd a'r Arlunydd. Diwedd perffaith i ddiwrnod hyfryd. Y gwenoliaid duon wedi bod yn hynod brysur heddiw yn hela uwchben. Mae'n ddiawledig o anodd cyfri faint ohonyn' nhw sydd yma yn Stiniog, gan eu bod yn gwibio heibio mor sydyn, ac yn plethu ymysg eu gilydd; yn hollti'n griwiau gwahanol, wedyn cyfuno'n un criw bob yn ail. Tua dwsin i bymtheg ohonyn nhw sy' 'na dwi'n meddwl, efo'r ceiliog a'r iar yn rhannu'r gwaith ar y nyth am wn i -yr unig amser mewn blwyddyn gron y mae'r adar rhyfeddol yma'n glanio.
Mae'n gywilydd gen' i ddweud nad oes gen' i syniad yn lle maen nhw'n nythu yn y dref: yr eglwys neu'r ganolfan gymdeithasol efallai.

Mae'r pedwar math o 'wennol' yn dod i Gymru a Bro Ffestiniog, ond nid ydynt yn aelodau o'r un teulu o gwbl. Swift ydi'r wennol ddu yn Saesneg. Rhaid mynd i'r cyrion i weld gwennol y bondo* (house martin), ac i Faentwrog i weld gwennol y glennydd (sand martin) ar Afon Dwyryd. Ar y llaw arall, dwi yn gwybod lle mae gwennoliaid (swallows) yn nythu yn y dref -adar sy'n gysylltiedig fel arfer efo adeiladau fferm a thirlun llawer mwy gwledig nac ardal drefol fel hon.

Diolch i Lynda, sydd hefyd yn blogio am randiroedd Stiniog, am yrru sylw am wennoliaid i'r post ddwytha' (dolen i'w blog hi isod), a 'ngyrru i chwilio trwy'r ffeils.

Mi ges i'r fraint yn haf 2010 i guddio dan ganfas mewn adeilad diwydiannol sydd tua 400 llath o safle'r rhandiroedd, er mwyn tynnu nifer o luniau.



Ail nythiad y wennoliaid oedd hwn, ac roedd yr iar a'r ceiliog i mewn ac allan yn rheolaidd efo bwyd ar ol haf hir o lafurio dros eu tylwyth.

Mi ollyngais lens hir da o gryn uchder, i fownsio sawl gwaith ar lawr caled y diwrnod hwnnw. Mi fues i'n rhegi'n groch am sbelan, fel sy'n dod i ni gyd o dro i dro, ond roedd yn anodd iawn bod yn flin wrth aros i wylio'r cywion yn gwthio'u tinau dros ymyl y nyth a saethu eu baw ar draws y cwt ar gyflymder rhyfeddol! Diwrnod arbennig a doniol iawn.

DOLEN -Blog 'Lynda's Organic Garden' #

* Diweddariad: gwennoliaid y bondo yn nythu ar dalcen y Ganolfan Gymdeithasol yng nghanol y dref! 17 Mehefin 2012

#  Diweddariad 2: blog Lynda wedi'i ddileu bellach. 2 Medi 2012