Fel hen ystrydeb, dwi'n teimlo 'chydig bach fel gyrrwr tacsi y dyddia' yma. Ond mae 'na fanteision weithia'.
Wrth i'r Arlunydd orffen ei blwyddyn gynta yng Nghaerdydd, roedd rhaid i rywun fynd i lawr i'w nôl hi, a chario llond car o sgidia', clustoga', a brwshys paent adra. Felly, er nad ydi Llanarthne nunlla agos i'r A470, mi es i i'r
Ardd Fotaneg Genedlaethol 'ar y ffordd' i lawr.
Dwi wedi bod yn feirniadol o'r Ardd yn y gorffennol, yn bennaf am eu diffyg parch i iaith Shir Gâr a Chymru. Erbyn hyn, mae'r
wefan, fwy neu lai, yn ddwyieithog (ond ddim yn berffaith o bell ffordd), a phrif weithredwr newydd yn ei le, yn gaddo denu mwy o bobl leol ac ymwelwyr o Gymru.
Ac mae digon o angen hynny. Roedd y lle yn wag!
Biti 'mod i ar ben fy hun, ond mi ges i ddiwrnod wrth fy modd yno, yn crwydro dow-dow.
Doedd y camera ddim gen i ar y diwrnod, 'mond y ffôn, felly ches i ddim lluniau da o blanhigion.
Yr ardd gerrig ydi fo hoff ran i o'r gerddi.
Dwi isio i'r Ardd Fotaneg Genedlaethol lwyddo. Mae cenedl aeddfed angen pob math o sefydliadau. Ac mae sefydliadau angen cefnogwyr. Felly dwi wedi ymaelodi. Ond bydd yn rhaid i'r lle gadw'n berthnasol i Gymro bach cyffredin fel fi.
Ew, dwi isio gardd furiog! Ga'i un Dolig plîs Mrs Wilias? Oherwydd mae'n hawdd iawn i ymweliad â gardd furiog rhywun arall dorri calon garddwr drama fel fi, efo coed tomatos a phys pêr a ffa ac ati sy'n pathetig o fach a tua mis ar ei hôl hi mewn cymhariaeth!
Peth mawr 'di cenfigen 'de...
Tua tair awr ydi'r daith o Stiniog i Lanarthne, felly go brin y caf fynd yn rheolaidd, ond dwi'n sicr yn edrych ymlaen i fynd eto.
Rwan ta, be o'n i ar ganol ei wneud? O ia, nôl y ferch o Gaerdydd...