Tyfu bwyd, hel fy nhamaid, a'r byd o nghwmpas i, 700 troedfedd uwchben lefel y môr.
Showing posts with label hanes. Show all posts
Showing posts with label hanes. Show all posts

5.9.24

Gwybodaeth ydi’r trysor pwysicaf!

"Gwybodaeth ydi’r trysor pwysicaf!" -Dyna ddywed Bil Jones, sy’n arwain y cloddio archeolegol ar safle Llys Dorfil yng Nghwmbowydd, pan soniodd rhywun mor braf fysa darganfod trysor ar y safle!

Ar ôl bwlch yn y cloddio yn 2023, mae mor braf cael ail-afael ynddi eleni, a’r criw o wirfoddolwyr lleol yn croesi bysedd bob wythnos y bydd Dydd Llun, Dydd Iau, a Dydd Gwener yn sych, er mwyn cael teithio i waelod y cwm, tynnu’r tarpolin glas yn ôl, a bwrw iddi eto efo’n tryweli bychain a’n brwsh a rhaw. 

Crafu canrifoedd o bridd a mawn, fesul haen yn ofalus, nes datgelu sylfeini adeiladau neu feddi posib. Y gobaith ydi ychwanegu at y cyfoeth o wybodaeth sydd eisoes wedi ei hel am y safle aml-gyfnod arbennig hwn. 

Cloddio yn Llys Dorfil, a thref y Blaenau yn y cefndir

Wrth gwrs, yn ddistaw bach, mae pawb yn breuddwydio am ganfod blaen saeth sy’n filoedd o flynyddoedd oed, neu geiniog arian o oes y tywysogion efallai. Nid am eu gwerth ariannol cofiwch, ond am eu gwerth fel tystiolaeth am weithgaredd y safle yn y gorffennol. Pawb yn awyddus i gyfrannu at ddysgu mwy am hanes ein bro.

Ein hanes ni sy’n cael ei ddatgelu yn Llys Dorfil; bywydau pobol Bro Ffestiniog fu yma o’n blaen ni. A’r gwaith yn gyfan gwbl yng ngofal pobl leol: enghraifft arall, fel gwelwn yn aml iawn ym Mro Stiniog -efo Antur Stiniog, Cwmni Bro, Seren, ac ati- o’r gymuned arbennig hon yn mynd ati i wneud rhywbeth dros ei hun, yn hytrach nag aros am gymorth gan y sir, neu lywodraeth neu asiantaeth o’r tu allan!  

Pleser llwyr ydi cael bod yn rhan o griw diwyd a difyr Cymdeithas Archeolegol Bro Ffestiniog. Mae tynnu coes a rhoi’r byd yn ei le yn rhan bwysig o’r gwaith, ac mae llawer iawn o hwyl i’w gael yno, y cwbl yn digwydd yn naturiol Gymraeg. Dim ond un diwrnod yr wythnos ydw i’n medru ymuno, ond mae nifer yn mynd dair gwaith yr wythnos os ydi’r tywydd yn caniatâu. 

Ar ddydd Gwener olaf Mehefin, roeddwn i a Dafydd yn archwilio beddi posib, hanner ganllath o’r prif safle; Alan yn torri tywyrch ar leoliad newydd a chwilio efo’r metal detector; Rhian, Linda, a Buddug yn datgelu waliau a llawr yr adeilad diweddaraf, a Bil a Mary yn cloddio a rhannu eu hamser yn cynghori a gofalu bod pawb yn iawn ac edrych yn fanwl a thrafod canfyddiadau posib. 

Er ei bod wedi ryw bigo bwrw’n achlysurol trwy’r dydd, roedd pawb yn falch o fod wedi cyfrannu at ddiwrnod o waith difyr eto. Ond fel dywed Dafydd, sydd ei hun wedi rhoi cannoedd o oriau o waith gwirfoddol yno dros y blynyddoedd, tydi gwaith Bil a Mary ddim yn gorffen pan rown y tarpolin yn ei ôl dros yr olion. Maen nhw wedyn yn didoli’r canfyddiadau, eu harchwilio ymhellach, cofnodi’r eitemau’n fanwl, gyrru samplau i ffwrdd ar gyfer eu dyddio, ac ysgrifennu adroddiadau ar y gwaith.
Diolch iddyn nhw a’r criw i gyd am eu hymroddiad. Am wella ein dealltwriaeth o’n gorffennol yn y cilcyn hwn o ddaear.
- - - - - - - - 

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Gorffennaf-Awst 2024 Llafar Bro

21.9.13

Bore glawog..

Da 'di Steve Eaves. *
Mae digon o ddeunydd penawdau yn ei ganeuon i gadw blogiwr yn hapus!

"Bore glawog. Cymylau uwchben.
Hel meddyliau: maen nhw'n troi yn fy mhen..."

Mae'n ddydd Sadwrn. Cyfle i ddal i fyny efo cant o jobsys sy'n aros am sylw ar y rhandir. Ond na;  wrth gwrs, mae'n bwrw glaw eto! Niwl at y llawr; a glaw, glaw, glaw.

Typical. Pan oedd yn braf ddydd Sadwrn dwytha, o'n i 'di mynd i Wrecsam i weld Mantell Aur yr Wyddgrug, cyn iddi orfod mynd yn ol i'r ogof lladron yn y Brijis Miwsiym.
Roedd yn syfrdanol o hardd, a dirgelion ei chreu a'i chladdu yn ychwanegu at y wefr o'i gweld.


O wel, gan ei bod yn bwrw, mae'n gyfle i wneud 'chydig o jam a phobi. Mwy ar hynny fory e'lla. Cyfle prin hefyd i roi traed i fyny efo panad a phapur, a syrffio rhywfaint ar y we, yn ogystal a mwydro'n fan hyn!

Braf ydi gweld blog newydd yn ymuno a'r blogfyd Cymraeg. Mae digon o'u hangen nhw.

Ewch draw i safle 'Cadw Rhandir' i weld sut hwyl mae Arfon a Marika'n gael wrth sefydlu rhandir newydd yn y Groeslon.+


Mae cael ail arddwr yn amlwg yn talu ar ei ganfed wrth glirio a thyllu. (Taro'r post i'r Pobydd glywed...)  Pob lwc iddyn nhw. Dwi'n edrych ymlaen yn arw i ddilyn eu hynt.

Gweld hefyd o flog Bethan Gwanas, bod S4C wedi claddu'r enw 'Byw yn yr Ardd', wrth i'r gyfres newydd ddilyn ymdrechion pobl dda Nyffryn Nantlle i dyfu bwyd. Mae datganiad y sianel ar arlwy'r hydref yn deud: "nid cyfres arddio gyffredin mo hon. Mae Tyfu Pobl yn gysyniad cwbl newydd ddylai apelio at gynulleidfa fodern a blaengar.' Hmm, iawn.. amser a ddengys, ond dwi'n edrych ymlaen yn arw beth bynnag.

Wnes i fwynhau cyfweliad Dewi Llwyd efo Medwyn Williams yn ddiweddar. Ar y cyfan. Mae'r garddwr o Fo^n yn siaradwr huawdl a hwyliog. Yn angerddol am ei lysiau, a dywediadau ac idiomau cyfoethog ein hiaith yn britho'i sgwrs. Biti ei fod o'n mynnu cyffwrdd ei gap i deulu brenhinol drws nesa..

Dwi'n dal i gario tomatos o'r ty gwydr, er bod nifer ohonyn nhw'n dangos ol cam-ddyfrio. Ew, maen nhw'n dda hefyd. Felly ar ol pwdu efo tomatos ddwy flynedd yn ol, dwi'n falch bod y Pobydd wedi dod a nhw eleni.

Digon o bys a ffa i ddod eto o'r rhandir, a thatws ac oca, a gyda lwc pwmpen neu ddwy. Os can nhw lonydd gan y slygs melltith!

Dyna ddigon o falu awyr! Mae'r sgons a'r jam yn galw.



Gan fod hwn yn ysgrif rhif 101, dwi'n meddwl y galla'i fentro i roi rhywbeth yn ystafell fondigrybwyll 101, sef y lle i yrru cas bethau.

Be' dwi'n ddewis felly? Tlodi? Rhyfel? UKIP?

Nage: ci Monty Don sy'n ei chael hi. Mae o'n da^n ar 'y nghroen i sut mae cyflwynydd Gardener's World yn siarad efo'i gi, Nigel, bob wythnos, fel petai o'n gyd-gyflwynydd. Hurt bost a diflas!
Hwyl am y tro.

* Un o amryw o ganeuon Steve Eaves ar Youtube efo'r lyrics ar y sgrin yn fan hyn.

+ Blog Cadw Rhandir.

14.7.13

Ai da y gwnaethost?

Blodeuwedd sy'n gofyn, wrth y dewin Gwydion, yn chwilio am gysur ei bod hi'n hardd.
"Tydi yw campwaith fy hudoliaeth oll." meddai o'n ol.

Dyfynnu o ddrama Sauders Lewis ydw i oherwydd, mi fuodd y ddwy hyna' a fi i weld Blodeuwedd, gan Theatr Genedlaethol Cymru, ddydd Sadwrn.

Ai da y gwnaethon nhw felly? Roedd o'n gampwaith. Profiad gwefreiddiol, yn llygad yr haul, mewn lleoliad arbennig.

Mae yna fanylion ac adolygiad yn fan hyn, felly dwi ddim am draethu gormod, ond mi wnes i fwynhau bob eiliad o'r profiad, o'r baned hen ffasiwn yn y man cychwyn, i'r actio angerddol, safle hanesyddol, a'r diweddglo trawiadol.

Golygfa 1: Gwydion a Lleu dan Domen y Mur

Roeddwn i dan deimlad ar ddiwedd yr olygfa olaf, ac mi gafodd y genod a fi drafodaeth hir am elfennau o'r perfformiad ar y ffordd adra.

Golygfa 2: Gronw a Blodeuwedd yn dathlu lladd Lleu


Wnes i ddim astudio Saunders Lewis yn yr ysgol, felly dwi'n gwybod prin dim am ei ddramau. Dwi ddim yn deall pam fod chwedl Blodeuwedd wedi'i gosod yn y 40au, ac roedd yr ieithwedd braidd yn ddiarth ar y dechrau, ond hollti blew ydi hynna.



Roedd y profiad yn un arbennig iawn wir. Ewch i'w weld o cyn iddo orffen.








7.4.13

Tra bo hedydd

Un o ganeuon Dafydd Iwan ddaeth i'r cof ddoe.

Tra bo hedydd ar y mynydd;
tra bo ewyn ar y don;
tra bo glas yn nwfn dy lygaid,
mi wn mae ni pia hon.

Cytgan hyfryd. Cân sydd heb gael y sylw haeddianol.

Beth bynnag, roedd y Pobydd wedi'n gadael ni am ddiwrnod o hwyl mewn gwisg ffansi, ar noson iar yng Nghaernarfon, felly mi aeth y genod a finna am dro, efo 'nhad, i chwilio am yr haul ar Fryn Castell, rhwng Cwm Teigl a Chwm Cynfal.

Bryn Castell

Am saith y bore, roedd y tymheredd yn -0.8 gradd C, ond erbyn ganol y pnawn roedd hi'n 14 gradd, a'r mynydd yn galw.

O ffordd y Migneint, uwchben Pantllwyd, 'mond 'chydig o funudau o waith cerdded sydd at safle gwych Bryn Castell, heibio Beddau Gwyr Ardudwy, ffordd Rufeinig Sarn Helen, a chwarel lechi'r Drum. Digon o gyfle i drosglwyddo hanes a chwedlau'r fro i'r plant, yn union fel wnaeth eu taid i mi yn yr un lle, dri-deg mlynedd yn ôl.
 
Y Fechan a'i thaid, pennaeth y llwyth!
Nid castell sydd yno, er gwaetha'r enw, ond safle amddiffynol lle oedd ein cyn-dadau'n cynhyrchu haearn. Ta waeth am hynny, mae'n un o drysorau cudd Bro Ffestiniog*.
 


Copi o garreg Cantiorix, wedi'i gosod rhwng safle tybiedig
Beddau Gwyr Ardudwy a Bryn Castell.
(Mae'r gwreiddiol yn un o gasgliad o gerrig hynafol yn Eglwys Penmachno)





sorod haearn Bryn Castell



 





Ar y ffordd o'na, mi wnaethon ni aros am gyfnod i wrando ar drydar parablus hyfryd ehedydd, yn canu nerth esgyrn ei ben, yn uchel, uchel yn yr awyr las. Yn datgan hyd a lled ei diriogaeth, fel tasa fo'n dweud 'dwi yma o hyd'.

Efallai y bydd y genod yn gwneud yr un peth dri deg mlynedd o rwan...


                                    *gwybodaeth am Fryn Castell -yn Saesneg- ar wefan heneb gan Ymddiriedolaeth Archeoleg Gwynedd