Tyfu bwyd, hel fy nhamaid, a'r byd o nghwmpas i, 700 troedfedd uwchben lefel y môr.

10.10.24

Glannau Brenig ac Eirin Dinbych

Mae’r gwynt yn chwythu’n oer ar draws wyneb y llyn wrth inni gerdded i lawr o Nant Criafolen, a’r haul yn wan ac isel mewn awyr lwydlas denau. Ond mae’n sych, a hynny’n hen ddigon i’n denu o’r car cynnes i fynydd agored Hiraethog ar ddechrau mis Hydref. 

Fferm wynt sydd amlycaf yma; a chronfa ddŵr enfawr Llyn Brenig. Ar y gorwel, planhigfeydd o goed conwydd. I gyfeiriad arall, rhostir eang a reolwyd ar gyfer saethu adar. Ar dir is, ambell gae glas o borfa rhygwellt, wedi’i hawlio o dir gwyllt trwy aredig, hadu, a gwrtheithio. ‘Does yna ddim byd yn naturiol am y tirlun hwn. 

Bu pobl yn dylanwadu ar dirlun Hiraethog ers miloedd o flynyddoedd. Lle mae’r llyn rwan -yn ôl gwefan ardderchog Archwilio ("Cronfa ddata o wybodaeth archaeolegol a hanesyddol")- cofnodwyd cyllyll fflint o’r oes efydd; blaen saeth; beddi, carneddi, a mwy. Ac mae digonedd o henebion ar y glannau hefyd, a Dŵr Cymru yn hyrwyddo’r llwybr yng ngogledd ddwyrain y llyn fel Llwybr Archeolegol, efo paneli gwybodaeth da ar ei hyd.

Dafliad bwyell o’r maes parcio mae Boncyn Arian, twmpath amlwg ar lan y llyn: bedd o’r oes efydd (tua 4,000 o flynyddoedd yn ôl) a thystiolaeth o ddefnydd 2,000 o flynyddoedd cyn hynny yno hefyd. Gerllaw mae carnedd gylchog -cylch o gerrig- ac olion cylch arall o fonion coed yn ei amgylchynu.

A’r gwynt yn chwipio o’r de-orllewin, mae tonnau gwynion yn corddi wyneb y llyn ac yn bwyta’r dorlan o dan y safleoedd hanesyddol yma. Er fod y cwmni dŵr yn amlwg wedi ymdrechu i warchod y lan efo rhes o feini mawrion, mae’r erydiad i’w weld yn parhau i fygwth yr archeoleg yn y tymor hir.
Gyferbyn, ar lan bellaf y llyn mae sgwariau yn rhostir Gwarchodfa Gors Maen Llwyd yn dyst i’r gwaith torri grug gan Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru er mwyn cael lleiniau o dyfiant o wahanol oedran ar gyfer grugieir.

Wrth droi cornel daw Hafoty Sion Llwyd i’r golwg, mewn pant braf allan o afael y gwaethaf o’r gwynt. Yn gefnlen i’r hen dyddyn mae llechwedd llawn rhedyn. Hanner y planhigion wedi crino’n goch a’r gweddill dal yn wyrdd am y tro, a’r cwbl yn siglo’n donnau sychion yn yr awel, fel ton Fecsicanaidd yn symud trwy dorf mewn stadiwm. Uwchben y llethr mae cudull coch yn hongian ar y gwynt; ei gorff yn gwbl llonydd a’i ben ar i lawr yn llygadu tamaid, tra bod ei adenydd main yn brysur gadw fo yn ei unfan i aros am yr eiliad perffaith i daro. A thu ôl iddo: llafnau hirion y melinau gwynt yn troi’n ddistaw a di-stŵr, dim ond swn gwynt trwy ddail melyn sycamorwydden wrth dalcen yr hafod i’w clywed yma.

Yn ôl ar lan y llyn mae clamp o gacynen dinwen hwyr yn mynnu hedfan sawl gwaith at gôt las fy nghyd-gerddwr, er mawr digrifwch i ni. Yn ôl ei maint, brenhines newydd ydi hon, naill ai yn chwilio am gymar, neu’n manteisio ar yr ychydig haul i hel neithdar cyn gaeafu.

Uwchben mae deg neu fwy o wenoliaid y bondo yn hedfan ar wib am y de, ac mae’n amser i minnau droi am adra hefyd. Fues i erioed ar lannau Llyn Brenig o’r blaen, ond efo canolfan ymwelwyr, caffi, a nyth gweilch y pysgod ar ochr ddeheuol y llyn, mae digon yma i’m denu fi’n ôl yn yr haf.

Wedi bod yng Ngŵyl Eirin Dinbych oedden ni. Marchnad grefftau a bwyd digon difyr, ond heb lawer o son am y coed eirin enwog, a dim ond ychydig o gynnyrch eirin lleol ar gael, oherwydd tymor tyfu sâl mae’n debyg. Mae fy nghoeden Eirin Ddinbych i yn yr ardd acw, yn 13 oed eleni. Tri haf ar ddeg heb yr un ffrwyth. Dim un cofiwch! Dwi wedi bygth ei llifio sawl gwaith ac wedi dadlau efo’r feithrinfa nad ydi hi, fel maen nhw’n honni, yn hunan-ffrwythlon ar safle 700 troedfedd uwch y môr! Ta waeth, rwy’n dal i gredu; dal i aros, efallai y caf eirin y flwyddyn nesa a theithio’n ôl dros fynydd Hiraethog i ddathlu.

grugiar, grouse
rhedynen ungoes, bracken. Pteridium aquilinum
cudull coch, kestrel. Falco tinnunculus
cacynen dinwen, white-tailed bumblebee. Bombus lucorum
gwennol y bondo, house martin. Delichon urbica
- - - - - - - - - - - - 

Ymddangosodd yn wreiddiol yng ngholofn Cynefin Yr Herald Cymraeg (Daily Post), 10fed Hydref 2024 (Dan y bennawd 'Glannau Brenig')

 

No comments:

Post a Comment

Diolch am eich sylwadau