Tyfu bwyd, hel fy nhamaid, a'r byd o nghwmpas i, 700 troedfedd uwchben lefel y môr.
Showing posts with label storm. Show all posts
Showing posts with label storm. Show all posts

12.12.24

Hau'r Gwynt

Wyddoch chi y medrwch chi awgrymu enw ar gyfer stormydd?

Na finna’ chwaith; tan rwan. Eisau gwybod oeddwn pam bod nifer o enwau Gwyddelig ar y stormydd, ac enwau Cymraeg yn brin, felly mi drois at wefan y MetOffice. Yno mae’n egluro eu bod nhw -ar y cyd efo swyddfeydd tywydd Iwerddon a’r Iseldiroedd, yn rhoi rhestr at ei gilydd bob mis Medi.

Éowyn fydd enw’r ddrycin nesaf, a Floris, Gerben, a Hugo ddaw wedyn. Peidiwch a dal eich gwynt am enw Cymraeg yn y gyfres yma; ‘does yna ddim un. Wrth ateb y cwestiwn ‘Sut mae dewis enw?’ dywed y Met bod yr enwau yn ‘adlewyrchu amrywiaeth y deyrnas gyfunol, Iwerddon a’r Iseldiroedd’. A dyna ni: debyg mae rhywun yn Llundain sy’n penderfynu pa enwau sy’n adlewyrchu gwledydd Prydain! Ond, medden nhw, maen nhw’n croesawu awgrymiadau am enwau i stormydd y dyfodol, a ffurflen bwrpasol ar eu gwefan -chwiliwch am eu tudalen ‘UK Storm Centre’. Dwi’n pendroni ai doniol ynta’ poenus a rhwystredig fysa gweld gohebwyr tywydd yn ceisio dweud Storm Rhydderch neu Lleuwen, ond ewch ati i gynnig enwau ar gyfer y flwyddyn nesa beth bynnag!


 

Bron union flwyddyn yn ôl, daeth storm Elin a gwyntoedd o 81 milltir yr awr i Gapel Curig a thros 4” o law yn Eryri. Hi oedd yr unig storm efo enw Cymraeg yng nghyfres 2023-24. Mi oedd Owain ar restr 2022/23 ond dim ond dwy ddrycin gafwyd y tymor hwnnw, a dim ond stormydd A a B welodd olau dydd!

Enwyd saith storom y flwyddyn cyn hynny, ond pwy fedr anghofio’r cyntaf ohonyn nhw, sef Arwen, ddiwedd Tachwedd 2021?  Gwn am ambell lecyn lle mae’r coed a chwalwyd dros nos gan Arwen yn dal blith draphlith ar draws llwybrau cyhoeddus, cymaint oedd y llanast annisgwyl oherwydd fod y gwynt yn hyrddio o’r gogledd.

Yn anffodus wnaeth y stormydd ddim cyrraedd y llythyren H yn nhymor ‘20-21. Mi fyddai Storm Heulwen wedi swnio’n rhyfedd iawn i glustiau Cymraeg dwi’n siwr.

Wrth yrru hwn i’r wasg, mae rhai o drigolion a busnesau’r gogledd, a “degau o filoedd... yn Sir Gâr a Cheredigion” -yn ôl gwefan Newyddion S4C- yn dal i aros i gael eu trydan yn ôl yn dilyn gwyntoedd Darragh ar Ragfyr y 6ed. Gobeithio y bydd adfer buan i bawb.

Rhaid cyfaddef imi gysgu trwy’r cyfnod rhybudd coch, heb glywed dim. Welsom ni ddim llawer o ddifrod yn ein rhan ni o Stiniog trwy’r rhybudd oren ychwaith a dweud y gwir, ond mi barhaodd yr hyrddio yn hir trwy ddydd Sadwrn a’r Sul hefyd. Do, mi amharwyd ar drefniadau wrth gwrs. Canslwyd diwrnod allan hir-ddisgwyliedig efo cyfeillion, a bu’n rhaid danfon y ferch i Gaer ddydd Llun oherwydd diffyg trenau yn y gogledd, ond dwi’n cyfrif bendithion nad effeithwyd fi a’r teulu’n fwy na hynny.

Y tirlithriad uwchben Llyn Y Ffridd

Credaf i ni gael mwy o law yn Stiniog ychydig ddyddiau cyn Darragh, nag a fu yn ystod y rhybuddion tywydd garw. Roedd yn dymchwel glaw dros nos ar y 4ydd/5ed. Wedi stido bwrw cymaint nes bod y cadwyn mynyddoedd sy’n bedol am dref y Blaenau yn llawn ffrydiau a nentydd newydd, ac mi fu tirlithriad bychan ar lethrau Ffridd y Bwlch. Mi fum yn crwydro’r ffridd bnawn Sul er mwyn cael gwell golwg, ac mae’n ymddangos fod yr holl ddŵr wedi gwneud y dywarchen mor drwm fel bod y pridd tenau wedi llithro oddi ar y graig lefn oddi tano a chludo tunelli o fwd a cherrig i lawr efo fo. 

Mae prosesau daeareg yn dal i siapio’n tirlun ni ers miloedd o flynyddoedd, ond mae’n ymddangos fod tirlithriadau yn digwydd yn amlach ar hyn o bryd. 

Wrth achosi newid hinsawdd, rydym ni wedi hau’r gwynt ac rwan yn medi’r corwynt, yn llythrennol.

Mi ges i lyfr yn anrheg yn ddiweddar: ‘100 Words For Rain’ a difyr iawn ydi o hefyd, efo rhestr fer o eiriau Cymraeg fel brasfwrw, curlaw, sgrympiau ac ati. Ond prin gyffwrdd â’r eirfa ydi hynny. Mae Geiriadur Prifysgol Cymru yn cynnwys ‘Glaw Stiniog’ yn eu rhestr; cymysgedd o falchder a siom i mi fel un o’r trigolion sydd, yn ôl cerdd Gwyn Thomas ‘wedi eu tynghedu i fod yn wlyb’!
Cadwch yn sych a chynnes tan y tro nesa’ gyfeillion.
- - - - - - - 

Ymddangosodd yn wreiddiol yng ngholofn Cynefin Yr Herald Cymraeg (Daily Post), 12 Rhagfyr 2024 (Dan y bennawd 'Enwi'r Stormydd')

 

Ambell erthygl am y glaw yn Stiniog, yn Llafar Bro, papur misol Stiniog a'r cylch.

4.11.12

Drannoeth y storm

Mae gen' i atgofion melys o mhlentyndod, o nosweithiau di drydan, a 'mrawd a'm chwaer a finna, yn gwylio stormydd efo'n rhieni. Mi fues i a'r Pobydd a'r plant yn eistedd yn y ffenest neithiwr hefyd (Nos Sadwrn), yn gwylio mellt, ac wedyn cyfri'r eiliadau cyffrous tan y daran.

Fel y storm drydan ddwytha ar y 24ain o Awst, roedd mellt neithiwr yn wefreiddiol, ond y cenllysg oedd yn denu'r sylw mwyaf. Troiodd y tir yn wyn dan drwch o genllysg mewn cyfnod byr iawn.
 



Aeth y Fechan a finne allan ar ein pennau ben bore 'ma i chwarae, ond roedd y gorchudd gwyn wedi rhewi ar y llawr ac ar bopeth arall, ac roedd yn oer iawn cyn i'r haul gyrraedd yr ardd gefn.
 



Dyna ddiwedd ar y letys a'r deiliach salad eraill y tu allan, mwy na thebyg!

(Pwrpas y rhwyd ydi cadw'r cathod melltith rhag gadael anrhegion anghynnes yn y gwely salad!)











Y ganhri goch ydi hon, common centaury, wedi ffeindio'i ffordd rhywsut i'r lawnt. Tydi hi ddim wedi tyfu yma cyn eleni, ac efallai ei bod yn difaru dod i'r ffasiwn le!









Mi gawsom ni fore braf iawn pan gyrhaeddodd yr haul, ond mi oeddwn yn falch o gael mynd yn ol i'r ty am baned poeth hefyd!


Erbyn hyn (Nos Sul), mae'r awyr wedi cymylu, a'r glaw ar ei ffordd yfory o bosib, ond y cwmwl sydd drosta' i heno ydi fod y gwyliau hanner tymor ar ben a phawb yn ol i'r gwaith ac i'r ysgolion fory...