Tyfu bwyd, hel fy nhamaid, a'r byd o nghwmpas i, 700 troedfedd uwchben lefel y môr.

12.5.12

O.M.B*


Wedi bod yn yr haul trwy’r dydd, ac yn teimlo’n wych, nes imi ddod i’r tŷ a ffeindio’r ddwy fawr yn gwylio diwedd Britain’s got talent ar y bocs. O, mam bach. Hanner miliwn o bunnau am hyfforddi ci i gerdded ar ei draed ôl!   Rho imi nerth...

Suran

Mae gwaelod yr ardd yn edrych fel shanty town ar hyn o bryd, efo dwsinau o botiau efo ffa amrywiol a phys ac ati, mewn cratiau a bocsys pysgod plastig, efo cloches a hen ffenestri drostyn nhw. Mae’r planhigion ifanc wedi bod yn dod allan o’r tŷ gwydr bob bore, a mynd yn ôl i mewn yn hwyr bob nos tan rŵan. Dwi am fynd â nhw i lawr i’r rhandir i’w plannu ‘fory. Mae’n siŵr y rhoddaf garthen fleece drostyn nhw am ychydig ddyddiau, nes maen nhw wedi caledu i nosweithiau oer Stiniog. Hefyd, mae un o’r deiliaid eraill wedi gweld sguthan yn codi ei ffa melyn o’r ddaear cyn iddynt wreiddio’n iawn, felly gwell fyddai eu gorchuddio dros dro.  Mae’r bocsys pysgod, gyda llaw,  ymysg y pethau mwyaf defnyddiol sydd gennyf ar gyfer cadw a chario amrywiol bethau; maen nhw’n golchi i’r lan ar draeth Harlech weithiau ar ôl tywydd mawr.
 
Gan ein bod yn cael diwrnod cyfa’ sych, bu’r Pobydd a fi (a’r Fechan hefyd am ddeg munud cyn mynd i wneud ‘cawl’ efo dŵr, tywod, a phetalau dant y llew -Mmm!) yn paentio’r ffens newydd o’r diwedd. Mae’r goeden afal, a’r goeden geirios yn llawn blodau ar hyn o bryd, ac roedd yn goblyn o job paentio rhwng y canghennau. Mi fues i’n rhegi mwy nag unwaith wrth dorri  blodau i ffwrdd! Ta waeth, mae o wedi’i wneud rŵan, ac yn un peth yn llai i boeni amdano.

Mae gennym ni ddwy fainc yn yr ardd a gawsom o un o gapeli’r dre’ ‘ma, ar ôl iddo gau. Mi fues i’n sandio’r ddwy heddiw, a’r Pobydd yn eu paentio wedyn. Cryn newid delwedd, o liw pîn clasurol yr addoldy, i wyrddlas golau. O’r Salmau Cân i Seagrass.

Nid y fi ydi’r unig un sy’n sgwennu am gadw rhandir ym Mro Ffestiniog ar hyn o bryd. Mae erthygl am safle arall ar wefan papur bro’r ardal, Llafar Bro.




*O.M.B.  Y ddwy fawr wedi bod yn dweud rwtsh fel O-M-G a LOL ac awesome, aballu, felly dwi wedi bod yn trio Cymreigio ‘chydig ar y rwtsh! OMB am O! Mam Bach, yn lle OMG am O! Mei God... ond waeth imi siarad efo carreg  â thwll ynddi,  oherwydd fydd rhywbeth Cymraeg fyth yn ddigon cŵl na’fydd. 
Gutted!


No comments:

Post a Comment

Diolch am eich sylwadau