Ddaeth y glaw ddim tan hwyr yn y bore, felly mi ges i ddwyawr
dda ar y rhandir.
Mae heddiw’n ddiwrnod mawr! O’r diwedd, dwi wedi plannu’r
planhigion gyntaf yno! Roeddwn i wedi mynd a choed gwsberins (Hinnomaki coch,
Hinnomaki gwyrdd), mafon (Polka), a’r cansenni newydd i lawr yno efo’r car echnos,
ac wedi cerdded yno heddiw efo rhaw, llinyn, a chyllell boced!
Ar ôl plannu’r ffrwythau, a gosod ffrâm o gansenni yn barod ar gyfer pys, a
wigwam ar gyfer y ffa dringo, mi fues i’n cario ychydig o gompost ychwanegol
o’r twmpath sydd wrth giât y safle. Dyma’r llwybr fu’n rhaid gwthio’r ferfa ar
ei hyd: mae o fel pwdin, ac yn waith diangen o galed. (Ar y
dde ar ôl y cortyn gwyn mae fy lluarth i). Hwn ydi un o brif
lwybrau’r safle. Yn llwybr ar gyfer naw rhandir.
Cyn rhuthro adra o’r glaw, mi es i am dro o amgylch y safle
i fusnesu be’ sy’n digwydd. Mae 23 rhandir ar y safle, (pob un wedi’i osod, a
rhestr aros hefyd). O’r 23 plot, roedd naw neu ddeg ohonynt heb -neu brin wedi- eu cyffwrdd, ac rydym
wedi cael goriad i’r safle ers wythnosau bellach. Roedd dau arall wedi cael
diwrnod o sylw efallai. Mae hynna’n hanner y rhandiroedd yn segur! O’r plots
yma, mae pump neu chwech ohonynt ar hyd y llwybr difrifol uchod. Mae’n anodd beio pobl am
ddigalonni. Mae
prynhawn o weithgareddau yno ddydd Sul, er mwyn ceisio annog y deiliaid i
weithio’r plots. Dyn a’n helpo os bydd y glaw ‘ma yn para’ tan hynny!
Wrth docio cyrins
duon ddwy flynedd yn ôl, mi stwffiais ddwsin o’r toriadau mewn potiau efo
deilbridd, ac mi gydiodd bob un ohonynt. Byddaf yn plannu pedwar o’r rheiny efo’r
gwsberins os caf ddychwelyd yno cyn diwedd yr wythnos. Erbyn hynny, bydd y pys
a’r ffa wedi caledu digon i’w plannu allan efallai.
Llun o'r ardd gefn i orffen:
Llun o'r ardd gefn i orffen:
Hefinwydden, Amelanchier. Y Moelwynion yn y cefndir. Gobeithio cael aeron o'r llwyn yma am y tro cyntaf eleni. |
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich sylwadau