Mae’n piso bwrw. Diwrnod budr go iawn.
Dwi ar streic swyddogol undeb PCS i warchod pensiynau, ond
hyd yn oed pe bai gen’ i gar, fyddwn i ddim yn sefyll yn y glaw efo placard
heddiw! Mae llywodraeth San Steffan yn gorfodi newidiadau fydd yn golygu ein bod
yn talu mwy i mewn i’r pensiwn; gweithio (ac felly talu) am dair blynedd yn
hirach; ac wedyn derbyn LLAI o bensiwn ar ôl ymddeol. *#%!! Dyna’r rant
drosodd... a dyma lun deniadol tra dwi'n cyfri' i ddeg...
Cacynen ar lysiau'r ysgyfaint |
Mae hi’n rhy fudr hefyd i fynd i’r ardd. Paned amdani felly, a dal i fyny
efo trydedd bennod ‘Byw yn yr Ardd’ oedd ar y bocs neithiwr. Rhaid imi ddweud,
dwi’n mwynhau’r gyfres hyd yma. Tydi hi ddim yn trio efelychu Gardener’s World
y BBC. Wedi dweud hyn, byddai ddim yn ddrwg i S4C ddarlledu rhaglen sy’n
debycach i GW yn ogystal â Byw yn yr Ardd. Neu ymestyn hyd y rhaglen i awr yn
hytrach na hanner awr. Gallen nhw wedyn gadw’r elfennau ysgafn, a gosod blodau a
rhyw lol felly, ond hefyd ychwanegu eitem gan arddwr profiadol; un sy’n adnabod
y planhigion, ac yn eu henwi nhw!
Mae eitemau Russel Jones o’r ‘Patsh’ yn ddifyr iawn, ond bob tro’n rhy fyr
o lawer. Er, roedd eitem neithiwr ar ruddugl/radish yn eitha’ arwynebol. Ar ôl
ei wylio, mi es i ar wefan y ‘link-a-bords’ yr oedd o’n frolio i weld faint
gostiodd iddo fo adeiladu gwely cynnes ar gyfer radish. Os oedd ei fframiau yn
1m x 1m, roedd pob un yn costio £16. Roedd ganddo chwech ohonynt! Mi fedri di
brynu radish bob wythnos am ddwy flynedd am £96! Bethan Gwanas wedyn yn gwario
“rhyw ganpunt” am gafn i dyfu llysiau... Nid oedd gwylio’r broses drwsgl o
adeiladu’r cafn yn ddefnydd da o amser prin y rhaglen ar ôl yr holl wario, mae
gen’ i ofn. Dwi’n hoff o’r eitemau ar gadw gwenyn, ac o Bethan yn dangos yn
achlysurol be’ sy’n digwydd yn ei gardd hi, gan gynnwys pethau aflwyddiannus
-mae hynny’n braf iawn i’w weld.
Mae ymweliadau Sioned Rowlands â gerddi Cymreig yn well defnydd o amser
na’r gosod blodau, ond mae diffyg manylion am blanhigion yn dân ar fy nghroen i
weithiau. Does gen’ i ddim llawer o ddiddordeb gwybod faint mae mewnfudwyr wedi
gwario ar ddadwneud esgeulustra blaenorol y natives. Rhowch fanylion y
planhigion da chi.
Ar ôl i un o’r cyflwynwyr ein hannog yn y bennod gynta’
(bedair wythnos yn ôl, gan gynnwys ildio slot yn amserlen un wythnos i ddangos
gêm rygbi rhwng dau goleg. Asiffeta!) i chwilio am fwy o fanylion ar eu gwefan,
dwi dal ddim wedi gweld unrhyw ddiweddaru yno ers hynny. Cymharwch hyn â gwefan
ardderchog rhaglen arddio BBC2 Yr Alban, sef ‘Beechgrove Garden’ (cwmni cynhyrchu
Tern), sydd efo ‘factsheet’ yn ymdrin â manylion pob eitem ar bob rhaglen, a
llawer mwy.
Dwi’n edrych ymlaen at weld llyfr newydd Bethan Wyn Jones ac Iolo Williams
‘Cynefin yr Ardd’ (Gwasg Carreg Gwalch). Bywyd gwyllt yr ardd sydd dan sylw,
nid garddio ond os fydd o gystal â ‘Llyfr Natur Iolo’ gan y ddau awdur o’r un
wasg (2007), mi fydd yn werth ei gael.
Onid ydi’n hen bryd cael llyfr garddio newydd?! Mae ‘Llyfr Natur Iolo’ yn
addasiad ardderchog o lyfr Saesneg, felly hefyd ‘Llyfr Adar Iolo’. Dwi’n siŵr y
gall Gerallt Pennant, er enghraifft, wneud joban benigamp o addasu un (neu fwy
yn wir) o’r miliwn o lyfrau garddio sydd ar gael yn Saesneg, ac fel y ddau
addasiad uchod, roi sbin Cymreig a Chymraeg i’r manylion. Addasu: hwnna ydi’o.
Dylid osgoi cyfieithu plaen yn bendant.
Mae colofn wythnosol ‘Gardd Gerallt’ yn Y Cymro yn un o’r
erthyglau (efo ‘Llên Natur’ Duncan Brown; ‘O gysgod y Foel’ Arthur Thomas; ‘Byd y Bêl’
Glyn Griffiths) sy’n gwneud y papur yn werth pob dimai o 50c bob wythnos, er ei
fod yn deneuach o lawer nag a fu yn y gorffennol.
Llwyni a choed ydi prif ddiddordeb Gerallt yn amlwg, ac mae
ei straeon am gefndir y planhigion a chysylltiadau Cymreig eu darganfod a’u
datblygu, a lleoliadau, yn rhoi diddordeb dyfnach na dim ond disgrifiad moel o
blanhigyn.
Dwi wedi son o’r blaen am ‘Llyfr Garddio’ J.E.Jones, 1969.
Mae hwnnw’n werth y byd, ond ychydig yn hen ffasiwn. Mae’n hen bryd cael
llyfrau newydd. Beth amdani weisg Cymru?
Briallen polyanthus victoriana |
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich sylwadau