Dwi wedi bod yn chwilio’n selog ers tua phythefnos, ac fel oeddwn yn
dechrau ymlacio a meiddio meddwl na welwn i mo’r diawled bach, dyma weld y
tyllau mân, nodweddiadol ar ddeilen gwsberan ddoe. Lindys y llifbryf ydi cas
beth heddiw. Goosberry sawfly -dyna sydd dan y lach.
Lindysyn (larfa i fod yn dechnegol gywir) llifbryf ym mhob un o'r tyllau... |
Hyd yma, un ddeilen gwsberan oedd wedi’i chael hi ddoe, a dwy ddeilen
heddiw ar yr un llwyn, efo’r llall yn glir ar hyn o bryd. Mi ges i siom heddiw
i weld eu bod ar un ddeilen cyrins coch.
Mi fydd yn frwydr ddyddiol rŵan, am nad ydw i’n fodlon defnyddio cemegau
i’w difa. Tydi dŵr a sebon yn dda i ddim yn fy mhrofiad i, felly’r unig ddewis
ydi eu tynnu a’u bwydo i’r titws, neu eu gwasgu rhwng bys a bawd! Mae’n bosib
mae’r pryf sydd yn y llun yma o’r 12fed ydi’r oedolyn.
Mae Derec Tywydd wedi deud heno y gallwn ddisgwyl “a taste of summer” am weddill yr
wythnos. Nosau braf y gwanwyn ydi fy hoff beth ar hyn o bryd. Medru eistedd
allan yn yr ardd gefn efo paned yn gwrando ar y gwenoliaid duon yn sgrechian
uwchben wrth hela gwybed, a chrwydro’r ardd yn sylwi ar y planhigion yn newid o
ddydd i ddydd. Mae’r rhesi o lysiau yn egino a dangos addewid –o’r diwedd.
Melys moes mwy.
Mae’r rhandir yn edrych yn well hefyd...
Yn y gwely pellaf, mae deg o goed mafon. Yn y nesa’ mae dwy goeden
gwsberins ac un goeden cyrins duon. Buddsoddiad at y flwyddyn nesa a’r
blynyddoedd i ddod ydi’r dair yma, ac maen nhw’n ddigon bach ar hyn o bryd imi
wasgu dwsin o blanhigion ffa melyn (broad) i mewn bob ochr iddynt. Hyn
yn sicrhau rhyw fath o gynnyrch o’r gwely eleni. Mwy o ffa melyn -un arall o fy
hoff bethau yn y byd i gyd- a dwy res o bys sydd yn y gwely nesa. Yn y gwely
olaf, i’r dde o’r lleill, mae tair wigwam o ffa dringo (runner), a digon
o le ar gyfer rhes o ffa Ffrengig, ac india corn, pan fydd y rheiny’n barod i’w
trosglwyddo o’r tŷ gwydr. Efallai y rho’i bwmpen yn eu canol hefyd.
Cyrins duon a gellyg daear sydd yn y twbiau gwyn a’r potiau pridd; tatws yn
y sach; origano yn y pot du; a mwy o doriadau cyrins duon ar gyfer creu gwrych
ohonynt ar hyd un o derfynau’r plot.
Hoff bethau eraill ar hyn o bryd:
1. Cywion mwyalchen. Mae'r iar a'r ceiliog yn cario bwyd i dri chyw ar hyn o bryd.
2. Cwrw! Wedi bod yng ngwyl Cwrw ar y Cledrau dydd Sadwrn, lle oedd ganddynt 64 gwahanol gwrw, fel 'Brenin Enlli'; 'Mwnci Nel'; 'Carmen Sutra'; a llawer iawn mwy. Rhai yn hyfryd a rhai yn uffernol. Cwrw Da, cwmni da, a'r Moniars...wel dau allan o dri ddim yn ddrwg nac'di.
3. Y tymor beicio wedi cyrraedd eto, a'r Giro d'Italia ar y bocs.
4. Rhiwbob. Llwythi ohono acw ar hyn o bryd, ond does byth digon i'w gael. Y Pobydd wedi gwneud pwdin blasus dydd Sul.
Saw swallows over the allotment yesterday evening. Eich rhandir yn edrych dda.
ReplyDeleteDiolch yn fawr am eich sylw Lynda. I photographed the swallows last summer, I'll post a photo soon.
ReplyDelete