Mi lwyddais i blannu’r coed cyrins duon, a’r pys a’r ffa, a throsglwyddo’r
gellyg daear (Jerusalem artichokes) i botiau mwy, felly mae’r rhandir yn
debycach i ardd gynhyrchiol o’r diwedd. Wel, mae dwy ran o dair o’r plot yn dal i
edrych fel cors, ond dwi'n anwyddybu hynny ar hyn o bryd!
Dim ond y bore ges i yno, ac roedd yn rhaid imi ruthro adra am ginio, felly
mi anghofiais i dynnu llun cyn gadael.
Mi wnes i gofio mynd â’r camera efo fi yn y pnawn i Dal-y-cafn (Dyffryn Conwy) ar y llaw arall, i sesiwn
olaf cwrs cadw gwenyn Cymdeithas Wenynwyr Conwy.
Gan fod y tywydd yn eithaf braf,
roedd y gwenyn yn weddol ddof ar y cyfan. Roeddem ni’n agor pedwar cwch i weld faint o fêl a
phaill oedd ganddynt wedi’i storio, ac i weld os oedd y frenhines ym mhob un yn dodwy. Profiad arbennig ydi cael mynd i’r wenynfa efo pobl mor brofiadol, ac
mae’r cwrs wedi bod yn hynod ddifyr.
Dwi ddim yn mynd i fedru cadw gwenyn fy hun eleni, gan nad
oes gen’ i le i roi cwch yn anffodus. Hefyd am fod angen cymaint o waith ar y
rhandir yn y flwyddyn cynta’ ‘ma, mae’n well gen’ i ganolbwyntio ar hynny’n
gyntaf. Gyda lwc bydd mwy o amser, a lle addas ar gael y flwyddyn nesa’. Gawn
ni weld.
Mae'r planhigyn yma'n tyfu yng ngwenynfa Tal-y-cafn: garlleg y berth, Alliaria
petiolata. Blas garlleg a mwstard arno. Dwi ddim yn hoffi hwn rhyw
lawer, ond mae tair neu bedair o’r dail bach ifanc yn flasus mewn salad.
Dwi’n mynd yn ôl i ‘ngwaith fory (dydd Llun), felly dyma’r olaf o’r darnau
dyddiol. Mae’n siŵr yr af yn ôl i flogio ar nos Wener a Dydd Sul eto.
Hwyl am y
tro.
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich sylwadau