Tyfu bwyd, hel fy nhamaid, a'r byd o nghwmpas i, 700 troedfedd uwchben lefel y môr.

9.5.12

Diwrnod i’r brenin; wythnos yn yr ardd


Am y tro cynta erioed, dwi wedi ffeindio fy hun efo gormod o wyliau yn sbâr, ac yn gorfod eu cymryd cyn y 15fed o Fai, neu eu colli. Sefyllfa ddiarth iawn i mi: ‘does yna ddim digon o wyliau i’w cael fel arfer. Y broblem eleni oedd yr oriau hir, ychwanegol fu’n rhaid i mi eu gweithio ym misoedd cyntaf 2012, er mwyn gorffen joban benodol. Tydyn nhw ddim yn talu am oriau ychwanegol, felly rhaid cymryd yr oriau i ffwrdd pan fo’r pwysau gwaith yn llai. Mae’r dyddiau gwyliau wedi mynd heb eu cyffwrdd ers misoedd felly.
Mi ges i ddeuddydd i ffwrdd yr wythnos d’wytha, ac oherwydd yr ŵyl banc ddoe, a fy mod i ar streic (i warchod y pensiwn) ddydd Iau, dwi adra trwy’r wythnos! Cyfle da i weithio ar yr ardd a’r rhandir, ar gyfnod allweddol. Alla’i ddim cwyno!
blodau ceirios
Wedi bod i’r dre’ (neu “i’r stryd” fel ‘da ni’n ddeud yn Stiniog ‘ma) y bore ‘ma, i dalu biliau, nôl ‘chydig o neges, wedyn eistedd efo paned, gwrando rhywfaint o gerddoriaeth a darllen papur; a chyn troi rownd, roedd hi’n amser cinio, a finnau heb gyffwrdd y rhestr hir o bethau i’w gwneud yn yr ardd, a hithau’n sych! Oer uffernol: ond sych. Dim esgus.



Allan a fi felly ar ôl mwynhau wy wedi’i ferwi, bara cartra’, a phedwaredd baned y dydd...
Methu canolbwyntio rhyw lawer oedd yr hanes wedyn hefyd: twtio’r tŷ gwydr; codi Montbretia sy’n lledaenu i’r llwybrau; symud hwn a’r llall o un lle i le arall, a thindroi. Mi lwyddais i wneud ambell beth oeddwn i wedi bwriadu gwneud, fel rhoi rhwydi dros y gwelyau llysiau i gadw’r bali cathod oddi arnynt. Mae’r anifeiliaid anwes yma ar restr fer cas bethau'r mis. Yr eiliad mae rhywun yn chwynnu a phalu darn o dir, mae’r diawled yn dod, o lech i lwyn, i gachu ymysg y rhesi. 
Mi fues i’n rhoi haen o redyn crin ar y rhesi mefus hefyd. Mae hwn llawn cystal â gwellt fel ‘mulch’ ac i gadw’r ffrwyth oddi ar y pridd -ac wrth gwrs, mae o am ddim! Ma o’n creu compost da hefyd. Dwi’n hel sacheidiau ohono bob blwyddyn, ynghyd â llwyth o ddail yn yr hydref, i wneud deilbridd.
Roedd hi wedi dechrau t’wyllu erbyn i mi fynd ‘nôl allan i dynnu llun.
Deilbridd ydi gair J.E.Jones (‘Llyfr Garddio’, Llyfrau’r Dryw, 1969) am compost, ond mae’r gair yn gweddu orau ar gyfer leafmould dwi’n meddwl. Dwi’n hoff iawn o air arall sy’n ymddangos yn y llyfr hefyd, sef Lleuarth, neu Lluarth (y ddau sillafiad yn cael eu defnyddio). Dyma’r hen enw ar yr ardd lysiau, fel ceir perllan ar gyfer ffrwythau. Mae’r blog Asturias yn Gymraeg yn trafod hyn ymhellach yma.
Mae’r goeden afal Enlli a’r goeden geirios yn llawn blodau ar hyn o bryd, a finne’n glafoerio am yr hyn sydd i ddod. Cafodd y Pobydd goeden eirin Dinbych y llynedd i ddathlu pen-blwydd. Dau flodyn yn unig sydd wedi bod ar honno, ond tydi rhywun ddim i fod i adael i goeden ddod a ffrwyth yn y flwyddyn gyntaf mae’n debyg. Mae yna addewid am gnwd da o gyrins duon; cyrins coch a gwsberins, a dwi’n edrych ymlaen. 
 
Bydd yn rhaid iddi g'nesu gynta wrth gwrs, gan ei bod mor uffernol o oer o hyd. 'Da ni'n dal i gynnau tân gyda’r nos ar hyn o bryd. Un o’r pethau gorau wnaethom ni efo’r tŷ oedd gosod y stôf llosgi coed, ond fel arfer, mae o’n segur erbyn mis Mai. Mi fydda'  i’n sicr yn colli’r coffi ffresh o’r pot ar y tân pan ddaw tywydd gwell, ond galla' i fyw heb hwnnw achos mae’n hen bryd iddi gynhesu wir dduw er mwyn i bethau ddechrau tyfu -ac mae'r coed yn prinhau yn y cwt! 
Maen nhw'n gaddo iddi biso bwrw dydd Mercher, felly paned a phapur fydd hi beryg...

No comments:

Post a Comment

Diolch am eich sylwadau