Tyfu bwyd, hel fy nhamaid, a'r byd o nghwmpas i, 700 troedfedd uwchben lefel y môr.

13.10.20

Gracias Trerawson

Os oedd lleoliad ein llety yn Y Gaiman yn syndod, bron i safle'r llety 'yn' Rawson dorri 'nghalon!

Disgrifwyd y lle fel caban glan môr yn Playa Unión, ac roedd yn swnio'n berffaith ar gyfer treulio ein hwythnos olaf ym Mhatagonia. Mae Playa Unión ar gyrion Rawson ac yn lle poblogaidd a phrysur yn yr haf; yno hefyd mae un o'r sefydliadau lle bydden ni'n treulio dipyn o amser yn ystod yr wythnos, felly'n gweddu i'r dim. Ond..!

Roedd perchennog y llety wedi ein codi o'r Gaiman i'n cludo ni yno, a buan iawn daeth hi'n amlwg nad ar draeth Unión oedd y llety -ond yn hytrach ar Draeth y Cranc -Playa Congrejales- tua 11km tua'r de ar hyd ffordd raeanog! (meddai'r gnawas ar y ffordd yno: "dwi wedi gorfod ei ddisgrifio yn Playa Unión oherwydd tydi lle mae o ddim ar y mapiau...").  O!

Traeth y cranc lawr ar y dde, a Rawson tua 6-7 milltir dros y gorwel!

Petaech chi yno ym misoedd cynnes y flwyddyn, eisiau dianc oddi-wrth y byd, ac wedi hurio car, mi fyddai'n leoliad hyfryd dwi'n siwr! Ar y llaw arall, os nad oes gennych gar; neu os ydych yn mynnu cael un neu fwy o'r canlynol mewn llety gwyliau: ffenestri cyfa', drws sy'n cloi, derbyniad ffôn neu wi-ffi... cadwch yn glir o'r twll lle!

Ta waeth. Penllanw ein taith ym Mhatagonia oedd gefeilldref Blaenau Ffestiniog. Ar ôl y cyfnod enwog yn ogofau Porth Madryn yn 1865, mi deithiodd y Cymry dros y meseta i sefydlu eu tref cyntaf -Trerawson- ar lan Afon Camwy. Ymysg teithwyr y fintai gyntaf ar y Mimosa oedd pedwar oedolyn a 3 phlentyn o Stiniog, John Moelwyn Roberts, James Berry Rhys, a John a Mary Roberts a'u plant. Dilynodd llawer mwy yn y degawdau wedyn, ac mae'r berthynas wedi closio eto ers pum mlynedd.

Fel rhan o ddathliadau canrif a hanner y glanio, yn 2015, gefeillwyd y Blaenau a Rawson, ac ers hynny, mae cyngor tref blaengar Stiniog wedi buddsoddi yn flynyddol yn y berthynas trwy roi arian i berson ifanc* o'r ardal deithio i'r Ariannin i feithrin cysylltiadau. 

Traeth hir, hyfryd Playa Unión

Mi ddywedais i rywbeth tebyg am Bariloche, ond fel Stiniog, mae'n ymddangos bod llawer o bobol yn edrych lawr eu trwynau ar Rawson, ac yn barod eu rhagfarn am brifddinas rhanbarth Chubut. Bu llawer o adeiladu yno ers y 1970au, ac mae'n wir bod llawer o adeiladau concrid wedi eu gadael ar eu hanner a golwg digon blêr a thlawd ar ambell ardal. Mae'n ymddangos bod y Cymry sy'n teithio i'r Wladfa yn y cyfnod modern yn osgoi Rawson ar y cyfan, ac yn sicr tydi'r lle ddim yn cael sylw teilwng yng Nghymru.

Mae'r dref yn llai Cymreig na'r Gaiman a Threfelin, heb os, ond dyma lle cawsom ni'r croeso cynhesaf trwy'r mis, ac mi fyswn yn mynd yn ôl yno eto ar amrantiad. Mi gawsom ni wahoddiadau i asados, i sioe gauchos, te bach Cymreig, ac am swper i gartrefi cyfeillion. Pobol Rawson ddaeth i'n hachub ni o'r twll ar draeth y cranc a chanfod caban gwych i ni ar safle gwersylla, ac mi fu pobol Rawson yn hael iawn efo ni trwy'r wythnos gan roi coron ar fis anhygoel yn yr Ariannin!

Muchas gracias amigos de la cultura Galesa en Rawson!

 

Caban braf yn Parque Rawson, ar lan Afon Camwy


[Cerdyn post hwyr o'r Ariannin. #11. PW 30-31 Hydref 2018]

------------------------------

 

*Diolch anferthol hefyd i Lleucu, enillydd Ysgoloriaeth Rawson Cyngor Tref Ffestiniog yn 2018 am ganiatâu i mi wireddu breuddwyd a chyd-deithio efo hi. Bu'r gr'adures yn amyneddgar iawn o'i thad chwarae teg!

1 comment:

  1. Hanes taith gwerth ei ddarllen eto Paul. Dwi am chwilio am dy haf yn y Gaiman, ac aros yno'n barhaol.

    ReplyDelete

Diolch am eich sylwadau