Tyfu bwyd, hel fy nhamaid, a'r byd o nghwmpas i, 700 troedfedd uwchben lefel y môr.

29.10.20

Nid yw nef ond mynd yn ôl hyd y mannau dymunol

Addasiad o erthygl a ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Medi Llafar Bro, papur misol cylch Stiniog

Mae Llyn Dubach wedi bod yn fy ngalw i ers blynyddoedd. Ddim yn llythrennol wrth reswm, does dim lleisiau yn fy mhen. Dim ond atgofion. Pan mae Cwmorthin mor wych, a'r haul yn oedi'n hir ar lethrau Cwm Teigl; pan mae dewis helaeth iawn o lwybrau braf a golygfeydd trawiadol yn fy milltir sgwâr i'm denu, mae'n hawdd anghofio rhywle fel Llyn Dubach.
 


A'r haf yn tynnu tua'i derfyn, roedd addewid am dywydd go lew ar benwythnos hir gŵyl banc Awst, a daeth rhyw awydd o rywle i daenu map ar fwrdd y gegin i drefnu taith. Gallaf dreulio oriau yn pori mewn map: ei 'ddarllen' a'i ddehongli. Ymgolli yn y cyfoeth rhyfeddol o wybodaeth, a threfnu neu ddychmygu mwy o deithiau nag sydd yna o ddyddiau rhydd mewn blwyddyn! Y tro hwn, penderfynu ei 'nelu hi am Lyn Dubach -o'r diwedd- a dilyn fy nhrwyn o fanno. Wrth adael y tarmac wrth dalcen rhes Tan-y-clogwyn roeddwn i'n ail-droedio llwybr na fues i ar ei hyd ers tri degawd a mwy. 

Doedd gen' i ddim co' o gwbl bod nant yn diflannu i dwll yn y ddaear wrth gefn y tai, a dyma'r cyntaf o lawer achlysur yn ystod y daith imi nodi fod rhaid chwilio be ydi enw nodwedd yn y tirlun. Croesi pen uchaf ffordd Hafod Ruffydd, ac i'r ffridd tu ôl i dŷ Bryn Egryn. Dringo hen ffordd y chwarelwyr (dwi’n cymryd mae dyna ydi hi) wedyn, gan ddilyn y nant, heibio Clogwyn Cefnlle, nes mae’n mynd dan bont garreg wrth fforch yn y llwybr. Mae un gangen yn mynd am y domen lechi ac at felin fawr Diffwys, ond ymlaen mae fy nod i heddiw, ac ar ôl croesi nant arall –Afon Dubach- buan daw llyn bach Dubach i’r golwg.

Mae’r dŵr yn disgleirio efo adlewyrchiad yr haul sydd dros gopa’r Graig-ddu, a phlanhigion fel ffa’r gors yn tyfu’n drwch yn y dyfroedd bas, yn union fel oedden nhw pan oeddwn i’n bysgotwr yn fy arddegau. Mae’r dŵr yn ddi-chwyn yn y llyn mawr, ac yn fan hyn daeth llif o atgofion am ddyddiau hirfelyn tesog o bysgota am oriau meithion yn fy hoff lyn a chadw reiat efo ffrindiau. Cof clir am edrych ymlaen at agor y tun bwyd un tro, roedd Mam wedi egluro wrth i mi gychwyn allan iddi greu amlen fach bapur i gadw halen ar gyfer ŵy ‘di ferwi’n galad -ond och a gwae- roedd yr halen wedi chwalu ar hyd y fechdan jam. Son am huddug i botas! 

Treulio mwy o amser yn aml yn hel llus nag oeddwn i’n sgota, a bwyta bron cymaint ag oedd yn cyrraedd adra i gael cacan blât i swpar. Rhyfedd bod rhai bobol ddim callach be ydi bwyta llus yn gynnes o’r llwyn ar ddiwrnod braf yn y mynydd. Nefoedd ar y ddaear! Un o fanteision mawr byw yn yr ucheldir. Heibio’u gorau, a braidd yn ddyfrllyd oedd y llus y tro hwn gwaetha’r modd, ond mi ges i gnwd da o le cyfrinachol yn gynharach yn y mis.

Cyn symud ymlaen o lannau Dubach, aros am funud i gofio ffrind ysgol –Wayne- sydd wedi’n gadael ni yn ystod y mis. Atgofion melys o dynnu coes ein gilydd am sgotwrs drama a thimau pêl-droed, yn yr union leoliad. Dyddiau diniwed, dyddiau da.
 


Er sgota Llyn Dubach ddwsinau o weithiau yn fy ieuenctid, fues i erioed yn Chwarel Newydd Diffwys, sydd dim ond dafliad carreg i fyny’r gefnen i gyfeiriad Drum Boeth, ond wedyn, mae’n anhebygol fod gen’ i fawr o ddiddordeb yn hanes y chwareli yn bymtheg oed. O ben y grib yma mae’r olygfa yn eang iawn a’r awyr yn glir, a thra oeddwn i yn y lleoliad hudolus, distaw, a diarffordd yma, roedd posib gweld (efo cymorth sbinglas) rhes o bobl yn ciwio i gyrraedd copa’r Wyddfa. Waeth imi un gair mwy na chant ddim: twpsod!

Roedd yr haul yn codi’n uwch a hithau’n tynnu am ganol dydd, ac roeddwn i wedi bod yn cadw golwg ar glogwyni’r Greigddu i weld pa rai oedd yn aros yn y cysgod. Fel pwt o ecolegydd mae gen’ i ddiddordeb mewn planhigion arctic-alpaidd, y blodau hynny sy’n fodlon tyfu ar glogwyni di-haul er mwyn cael mantais dros blanhigion mwy cyffredin. Mae creigiau Stiniog ar y cyfan yn rhy sur ar gyfer y prinnaf ohonynt, ond mae’n werth cymryd sbec rhag ofn, felly anelu am fanno wnes i nesa. 

Mae plateau gwastad naturiol yn rhedeg ar draws llethr gorllewinol y Graig-ddu, ac mae cyfres o glogwyni bach addawol a’u creigiau’n wynebu’r gogledd. Ar y rhain gwelais blanhigion pren y ddannoedd a theim gwyllt, arwyddion o dyfiant mwy cyfoethog na’r arfer. Ar hyd y llwyfandir cul yma mae corsydd a phyllau bach o ddŵr gloyw, fu mwy na thebyg yn lynnoedd mwy cyn llenwi efo migwyn. Fan hyn fan draw, mae cerrig dyfod mawrion a ollyngwyd gan y rhewlif dwytha wrth gilio. 

 


Lle difyr iawn sy’n werth dychwelyd iddo yn y gwanwyn i chwilota’n fanylach, ond am rwan, rhaid gyrru ymlaen heibio’r Graig Las, i lawr inclên y Graig-ddu: inclên enwog y car gwyllt. O adael yr inclên lle mae’r adeiladwaith ar ei dalaf a mwyaf trawiadol, gellir croesi’r llethr creigiog at lan Llyn Manod, heb orfod cerdded lawr at Lyn Dŵr Oer. Yn ôl y disgwyl, mae mwy o bobol ar lan y llyn yma, ond er imi dreulio llawer diwrnod yn sgota fan hyn hefyd, does gen’ i ddim amser i din-droi, a dwi’n dilyn y llwybr ar fy mhen i lawr at furddun Bryn Eithin, ymlaen i Gae Clyd, ac yn ôl adra’ i’r Blaenau.
Hyfryd oedd cael ‘mynd yn ôl i’r mannau dymunol’ a chanfod llefydd newydd difyr hefyd. Diwrnod i’w gofio yn wir.

--------------


(Benthycwyd y bennawd o Ddarlith Flynyddol Llyfrgell Y Blaenau, Moses J. Jones, 1988).



No comments:

Post a Comment

Diolch am eich sylwadau