Tyfu bwyd, hel fy nhamaid, a'r byd o nghwmpas i, 700 troedfedd uwchben lefel y môr.

14.10.20

Mor Fawr Wyt Ti

Yn hollol annisgwyl, mi ffeindis i fy hun yn y capel eto. Capel Berwyn, Rawson y tro hwn.

Rhai o gyfeillion Rawson, Capel Berwyn. Llun Patricia Harris

 

Wrth gwrs 'mod i wedi mynychu priodasau ac angladdau; ambell fedydd, a gwasanaeth nadolig y plant, ond - o bwyso a mesur- mae'n bosib iawn mae dyma'r ail dro yn fy mywyd i mi fynd o 'ngwirfodd  i wasanaeth Sul mewn capel.

Mewn Sbaeneg oedd y gwasanaeth y tro yma, ond rhaid cyfaddef bod rhywfeth syfrdanol am gyd-ganu'r emyn 'Mor fawr wyt ti' mor bell o Gapel Bowydd yn Stiniog!

Does dim angen bod yn grefyddol i fwynhau cân anthemig fel honno -gall fod yn emyn am y Fam Ddaear cymaint ag ydyw am Dduw, yn ôl eich anian- a'r ail bennill yn arbennig yn adlewyrchu'r profiadau anhygoel oeddwn i wedi eu dathlu yn y wlad hardd yma:

Wrth fynd am dro drwy'r glennydd teg a'r dolydd, a gwrando cân yr adar yn y gwŷdd,

A bwrw trem o gopa uchel fynydd, yn sŵn y nant neu falm yr awel rydd.

Braf iawn oedd cael sgwrs wedyn hefyd efo rhai o aelodau Cyfeillion y Diwylliant Cymreig yn Rawson, ac ymuno â nhw am de Cymreig hyfryd iawn yn nhŷ Patricia. 

Mi gawson ni gwmpeini Patricia yn rheolaidd trwy'r wythnos; hi oedd yn trefnu llawer o weithgareddau swyddogol y gefeilldrefi i'm cyd-deithiwr ar ran tref Rawson, ac hebddi hi, fydden ni heb weld hanner yr hyn wnaethon ni. Ar ôl y gwasanaeth yng nghapel Berwyn, tywyswyd ni ganddi hi a gyrrwr rhadlon y cyngor, Angel, i Fiesta Del Rebenque -Gŵyl y Chwip- arddangosfa o grefft trin ceffyl y gauchos a cherddoriaeth a thunnell o gig ar asado.

Yn ystod yr wythnos mi gawson ni daith hanesyddol o dref Rawson, gan gynnwys Puente del Poeta -pont y bardd- y bont gyntaf dros Afon Camwy, wedi'i hadeiladu gan Gutyn Ebrill o Stiniog; ardal amaethyddol Tair Helygen; yr amgueddfa ranbarthol sy'n dathlu hanes y brodorion yn ogystal â'r Cymry; y sgwâr canolog a'i gofebau; murluniau a cherfluniau modern; a mwy. 

Mi gawson ni gyfarfod cynrychiolwyr y gymuned frodorol hefyd, a phrofiad gwefreiddiol i mi oedd ysgwyd llaw a sgwrsio efo un o'r hoelion wyth wrth gael ein tywys o amgylch y senedd ranbarthol. Cerddor ac actor ydi Oscar Payaguala, un o ddisgynyddion y Tehuelche, fu'n ymgyrchu dros hawliau'r brodorion (mae'n canu caneuon fel 'Resistencia Tehuelche' a 'Galeses de la Porfía', y Cymry penderfynol) ac roedd o isio diolch i genedl y Cymry am y berthynas heddychlon a chydweithredol rhyngddynt. Mi oeddwn yn eitha' emosiynol am y peth, oherwydd bryd hynny, roedd nifer o daeogion yn yr hen wlad yn tagu pob dadl am Gymru fel 'coloni' cyntaf -ac olaf- Lloegr, gan fynnu'n ddi-ddeall fod y Cymry hefyd yn euog o orthrymu ym Mhatagonia...

Roedd y croeso a'r cymorth gawson ni trwy'r wythnos gan weithwyr y llyfrgell ar y traeth yn Playa Unión, yn enwedig Meli a Sole yn amhrisiadwy, a chyfeillgarwch Angel y gyrrwr -er nad oedd ganddo air o Gymraeg na Saesneg, a finna'n brin iawn fy Sbaeneg, yn wych hefyd. Mi ges i lawer o hwyl efo fo!

Wythnos prysur ar y cyfan, ond efo digon o amser i ymlacio ar y traeth a darllen yn y llyfrgell a'r caban hefyd.


[Cerdyn post hwyr o'r Ariannin. #12. PW, Rawson, 1 -7 Tachwedd 2018]


 

1 comment:

  1. Braf gweld dau o Gymry gwltgar o'r Blaenau'n cymysgu gyda rhai o Wladfawyr annwyl Trerawson. Ychydig iawn o amser gawsom ni yno ar ein taith yn 2006 yn anffodus.

    ReplyDelete

Diolch am eich sylwadau