Tyfu bwyd, hel fy nhamaid, a'r byd o nghwmpas i, 700 troedfedd uwchben lefel y môr.

28.10.20

Craig Nyth y Gigfran

Un o drysorau silffoedd llyfrau'n tŷ ni ydi 'Hanes Plwyf Ffestiniog o'r Cyfnod Boreuaf' gan G.J.Williams, yn enwedig am bod y mapiau atodol gennym ni hefyd. Mae'r rhain yn brin fel lili'r Wyddfa, ac yn eu mysg mae darlun mynyddoedd y plwyf. Roedd ein copi ni braidd yn doredig yn anffodus, ond yn waeth na hynny, roedd un cornel -ardal Yr Allt Fawr, Nyth y Gigfran, Iwerddon, ac ati, ar goll! 

Yn rhifyn Ebrill Llafar Bro (papur misol cylch Stiniog) , mi rois gais am sgan o'r darn coll a diolch nifer o garedigion y papur- mae fy nghopi yn gyflawn eto. 

Yr hyn sy'n syndod –ac yn dipyn o siom i mi- ydi sylwi nad yw'r darn oedd ar goll yn enwi Craig Nyth y Gigfran, a hitha mor amlwg i drigolion y Blaenau.


Am wyth munud wedi saith, yn wythnos olaf Ebrill, ar ôl diwrnod chwilboeth arall yn yr ardd, mae'r tymheredd yn gostwng wrth i'r haul suddo'n araf i Gwmorthin, dros ysgwydd garw Craig Nyth y Gigfran. Am yr wythnosau nesa, mi fydd y machlud yn symud dow-dow ar hyd y gorwel tua chraig gron Carreg Flaenllym, cyn troi'n ei ôl wedi diwrnod hira'r flwyddyn, i dynnu'r hydref amdanom eto.
 

Aros mae'r mynyddau mawr meddan' nhw, ac mae Nyth y Gigfran wedi bod yn gefndir sefydlog i mi ers plentyndod -pan oedd ei lethrau'n ffurfio terfyn gorllewinol fy myd. Wedi bod wrth fy nghefn ym mhob annibyniaeth barn. Dim y mwyaf trawiadol o greigiau Stiniog efallai, ac yn sicr dipyn is ei huchder na’r Moelwynion. Eto’i gyd mae rhywbeth amdani. Dwi wedi treulio oriau maith yn syllu ar ffurf a lliw y mynydd yma; ar ddylanwad natur ac ôl llaw dyn. Myfyrio, pan yn hogyn yn yr ardd gefn yn Jonsdryd, pa mor braf fyddai ffrwydro’r copa i gael mwy o haul gyda’r hwyr, heb sylwi bryd hynny bod yr Allt Fawr y tu ôl iddi yn uwch eto! Rhyfeddu o weld pobol yn ymddangos o geg lefal yng ngwynab y graig, wedi eu tywys yno gan weithwyr y Gloddfa Ganol trwy grombil y mynydd. A chofio meddwl fod y ceiliog gog yn medru taflu ei lais ailadroddus bob cam o lethrau serth y graig i’r ardd honno. Wrth gwrs, roedd y gog dipyn nes na hynny, yn y tir rhwng Fron Fawr a Dorfil. Dyma lle adeiladwyd tai Trem y Bwlch wedyn gan roi diwedd ar ein trem neu’n golygfa ni!
 

Cyn yr adeiladu digywilydd, byddwn yn craffu tua’r Moelwynion o ffenast y llofft a phendroni'n hir. Synfyfyrio ai Moelwyn Mawr oedd enw’r mynydd hwnnw i bobol Croesor hefyd? Mwy o fwydro nag athronyddu, rhaid cyfaddef, ond, os oedd pobl o wahanol ddyffrynoedd yn galw'r un enw ar y mynyddoedd rhyngddynt: Sut?! Ac ers pryd? Fyth ers y dyddiau diniwed yna, mae map wedi dal ryw gyfaredd rhyfeddol i mi. Ymgolli yn yr hen enwau; darnau hudolus o gof gwerin. Pob carreg, nant, a ffridd wedi golygu rhywbeth i rywun ryw dro.
 

Dwi'n darllen nôl a 'mlaen rhwng dau lyfr ar hyn o bryd: 'The Hills of Wales' Jim Perrin, a 'Bylchau' Ioan Bowen Rees, dau awdur all ddod a thirlun mynyddig yn fyw iawn efo’u sgwennu ffraeth, ac maen nhw’n rhoi hiraeth mawr i mi am gael crwydro'r ucheldir eto. 

A finna ddeugain mlynedd yn hŷn, cyfnod sy'n dalp da o fywyd meidrolyn ond yn ddim mwy na rhithyn o drwch blewyn yn oed Nyth y Gigfran, dwi'n gweld y Graig o’r ardd yma hefyd, ac yn mwynhau gwylio'r llethrau yn newid yn ddyddiol. Lliwiau tân yn haul isel y bore. Newid ar ddiwedd dydd wedyn, o lwydolau'r gwyll, a glas y cyfnos, cyn toddi i ddüwch y nos.
 

Yma, ar ôl diwrnod braf o blannu tatws, hau ffa, a chwynnu, caf eistedd efo diod bach, yn gwylio'r cysgodion yn tyfu'n hirach ar draws ein paradwys bach. Mae’r titws wedi arafu eu teithiau ‘nôl a ‘mlaen i’r blwch nythu ar y cwt, a’r ceiliog mwyalchen yn canu ei anthem hyfryd nosweithiol o’r helygen. Cyn t'wllu mae'r haul yn rhoi un ffarwél olaf trwy yrru pelydrau ar i fyny, o du ôl i ysgwydd chwith Nyth y Gigfran a thros Geseiliau'r Moelwyn; golygfa arall sydd wedi aros efo fi ers plentyndod. Daw eto haul ar fryn ydi dywediad mwyaf cyffredin y Cymry yn ystod y Gofid Mawr; dyma edrych ymlaen at haf o nosweithiau hwyr, braf, yn gwylio’r haul ar fryn annwyl iawn.
-------------------

Addasiad o erthygl a ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Mai 2020  Llafar Bro.

No comments:

Post a Comment

Diolch am eich sylwadau