Tyfu bwyd, hel fy nhamaid, a'r byd o nghwmpas i, 700 troedfedd uwchben lefel y môr.

27.10.20

Llygad Newydd

Addasiad o erthygl a ymddangosodd yn Llafar Bro, papur misol cylch Stiniog, Ebrill 2020

Ar ôl paldaruo am flynyddoedd am ddianc i Enlli ar fy mhen fy hun, efo dim byd ond llyfrau a hen sét radio, er mwyn cael llonydd i ddarllen a gwrando, mae’r cyfyngu ar symudiadau pawb rwan yn rhoi rhyw fath o gyfle i wneud hynny adra.

Roedd “darllen mwy” ar y rhestr o addunedau gen i eto eleni. Dyma’r tro cynta’ -dwi’n meddwl- imi fedru gwireddu addewid dydd calan. Er, mae’n ddigon buan i mi fethu eto...
Yn ystod Mawrth, mi fues i’n darllen llyfrau hen a newydd, a gwrando mwy ar y radio er mwyn osgoi newyddion drwg y teledu. Dwi ddim yn adolygydd o bell ffordd, ond dyma wib-drafod ambell beth oedd o ddiddordeb.

 


Anaml fydda’ i’n troi at ffuglen, ond mi ges i fy nhemtio gan nofel Llwyd Owen, ‘Iaith y Nefoedd’ (Y Lolfa 2019) am iddo gydweithio efo grŵp Yr Ods, oedd yn rhyddhau albwm o ganeuon am yr un stori, yr un pryd. Stori apocalyptaidd lle mae’r Cymry Cymraeg yn gorfod cuddio’u hunaniaeth ddegawd ar ôl ‘Y Bleidlais’ yn 2016; a stori iasol am gymdeithas yn mynd i’r gwellt, a bwyd yn prinhau... brexit a corona yn canu cloch? Peidiwch a son! Syniad ardderchog am stori, ac mi ddarllenais yn frwdfrydig ac awchu iddi fod yn nofel fwy swmpus, er mwyn llenwi ambell ofod yn y manylion. Ta waeth, mae’n nofel sy’n werth ei darllen. Ewch i’r llyfrgell neu i Siop yr Hen Bost i chwilio am gopi.

Mi fydd y rhai sy’n fy nabod yn synnu i glywed fod Iaith y Nefoedd wedi gwneud i mi droi at y Beibl! Ond dim ond i edrych be oedd Lefiticws yn ddweud am fwyta pryfed, am fod cymeriadau’r nofel yn trafod hynny, a’r naturiaethwr ynof fi yn pendroni pa fath o bryfed sydd yna efo dim ond pedair coes? Dwi dal ddim callach!

Mi es yn ôl i ail-ddarllen hen lyfr ail-law sydd acw wedyn, ar ôl sgwrs efo cyfaill lle cyfeiriodd o at gastiau Moi Plas yn Y Rhedegydd yn y 1950au cynnar. Bu’r golygydd, John Ellis Williams a Moi yn sgwennu bob math o straeon ffug yng ngholofnau’r papur wythnosol am bentref dychmygol Llanfrangoch, er mawr dryswch i’r darllenwyr! Un o nifer o hanesion hynod yn llyfr ‘Moi Plas’ gan JE (Dryw 1969), “Llyfr gan gyfaill am gyfaill” yn ôl Merêd yn y rhagair. Difyr iawn; llyfr i godi gwên yn sicr.

Roeddwn yn mynd ‘nôl-a-mlaen at lyfr Saesneg trwy’r mis, sef ‘Ladders to Heaven’ (Mike Shanahan, Unbound 2018). Llyfr am ‘hanes cyfrinachol coed ffigys’; llyfr sy’n hawdd iawn i’w ddarllen, yn llawn ffeithiau rhyfeddol am gyd-berthynas anhygoel pob coeden ffigys efo cacynen fach, a rôl allweddol y ffigysen yng ngwe fwyd cannoedd o adar ac anifeiliaid mewn coedwigoedd trofannol, a’i lle hi yn nhraddodiadau a diwylliant pobloedd y byd, ac yn fwy diweddar ei phwysigrwydd yn ystod rhyfel annibyniaeth Kenya, ac fel ffynhonell fwyd hyd heddiw. Wedi mwynhau hwn yn arw. Ges i fodd i fyw hefyd yn gwylio rhaglen ddogfen ar yr un testun. Os ydych yn chwilio am dri chwarter awr o ryfeddod a ffotograffiaeth wych, chwiliwch ar you-tube am ‘The Queen of Trees’ (2005).

Mae’r radio wedi cynnig nifer o raglenni da yn ddiweddar hefyd, a chyfres newydd Radio Cymru Dros Ginio wedi plesio’n arw (cyn i’r feirws gymryd monopoli ar y trafodaethau).Yn nyddiau ola’r mis, daeth rhaglen wych Jazz gyda Tomos Williams yn ei hôl, ac mae’r cyfweliadau ar Recordiau Rhys Mwyn, ac Awr Werin Lisa Gwilym yn werth eu clywed bob tro.

Trwy ddamwain y dois i ar draws cyfraniadau’r awdur Jon Gower i gyfres The Essay ar Radio 3 yn hwyr un noson, a dilyn wedyn ar Ap Sounds y BBC. Cyfres am ystyr ein mynyddoedd i bobl Cymru. Yn ei iaith huawdl ffraeth, mae ei ddisgrifiad yn cymharu symudiadau bronwen y dŵr i ddefod cicio Dan Biggar yn glasur! Cyfres hyfryd o ysgrifau teyrnged i dirlun, chwedlau a phobl ein cenedl. Efo dim ond un o’r pum pennod yn y gogledd, byddai’n dda cael ail gyfres yn rhoi sylw i’r Moelwynion a’r Rhinogydd.


Cyfeiriodd Gower yn un o’r rhaglenni at gerdd gan Waldo Williams.

“Dyma’r mynyddoedd. Ni fedr ond un iaith eu codi
A’u rhoi yn eu rhyddid yn erbyn wybren can.”
Dyna esgus felly –ar Ddiwrnod Barddoniaeth y Byd, ar Ebrill y 21ain- i droi at hen gopi carpiog o ‘Dail Pren’ (Aberystwyth 1957). Mae yna gwpledi a llinellau gan Waldo sy’n berlau. Rhai sy’n adnabyddus iawn, ac yn cael eu dyfynnu’n aml, ond er gwneud fy ngorau glas, dwi’n ei chael hi’n anodd mwynhau unrhyw un o’i gerddi o’i dechrau drwyddi mae gen’ i ofn. Nid y fi sydd wedi bodio’r gyfrol yn dwll; fel’na brynis i hi am bunt o’r Hen Bost, ac heb roi fawr o sylw iddi hi ers blynyddoedd.

 

No comments:

Post a Comment

Diolch am eich sylwadau