Tyfu bwyd, hel fy nhamaid, a'r byd o nghwmpas i, 700 troedfedd uwchben lefel y môr.

10.10.20

O'i Walia Hoff ar Wely Hedd

Dwi'n ddigon bodlon efo 'nghwmni fy hun. Cael amser i hel meddylia' a chrwydro fel liciwn i.

Ar ein hail ddiwrnod llawn yn y Gaiman, roedd fy nghyd-deithiwr yn cynnal gweithdai celf -ac yn cael croeso cynnes iawn- yn Ysgol y Gaiman, gan roi'r rhyddid i mi ddilyn fy nhrwyn a phlesio neb ond fi fy hun.

I'r fynwent amdani felly! Pawb at y peth y bo.


Mae beddi rhai o arloeswyr y Wladfa yno, a beddi pobol Stiniog i ddenu'r sylw hefyd, wrth i'r haul ddisgleirio'n isel yn awyr y gogledd, gan ei gwneud yn anodd iawn tynnu lluniau da o'r cerrig. 

'Evan Williams. Gynt o Ffestiniog'

'William R.Jones, Gwaenydd. Ganwyd yn Pen Llwyn, Ffestiniog'

'Griffith Williams, Uwchlawrffynnon, Blaenau Festiniog'

A mwy...

Eraill wedyn efo englynion gan y bardd o Stiniog, Bryfdir ar eu cerrig, gan gynnwys Gutyn Ebrill:


A mwy -heb gysylltiad amlwg- efo llechi o Stiniog ar eu beddi. Tybed be' oedd cost comisiynu a mewnforio cofeb o'r henwlad bryd hynny? Anodd iawn dychmygu y byddai'n bosib i neb ond y mwyaf cyfoethog heddiw!

Marc y saer maen, ar gefn rhai o gerrig beddi'r Gaiman

Tydi mynwentydd y Wladfa -ar y cyfan- ddim ar safle capel neu eglwys, ac mae mynwent y Gaiman tua milltir o Bethel, capel mwya'r dyffryn, yn y tir sych y tu allan i'r dre'. Roedd y capel ar gau yn anffodus, felly ar ôl sbec sydyn, ymlaen a fi i chwilio am Sgwâr y Cymry a Chylch Gorsedd y Wladfa. 


Capel Bethel, Y Gaiman

Cynhaliwyd seremoni gyhoeddi Eisteddfod y Wladfa yno ychydig ddyddiau ynghynt, ond di-gyffro oedd hi pan fues i yno, a glaw trwm ddoe wedi troi'r llwybrau yn bwll mwd llithrig.

Maes yr Hen Wladfawyr a chylch yr orsedd yn y cefndir
 

Gutyn Ebrill (Griffith Griffiths) oedd sylfaenydd Gorsedd y Wladfa a'r Archdderwydd yno tan ei farwolaeth, ac er na fagwyd o yn Stiniog, o fanno gadawodd o Gymru am y Wladfa. Roedd yn adeiladwr ac arweinydd cymunedol uchel ei barch mae'n debyg ma'i angladd o oedd un o'r rhai mwyaf a welwyd yn y gymuned Gymraeg. 

Y Gaiman cyn y glaw...


 Y Gaiman ar ôl y glaw!

Ar y ffordd 'nôl i'r dre' am banad dwi'n sefyll ar y Puente Sobre el Rio ('Pont Dros yr Afon' -enw llawn dychymyg!) a gweld fod Afon Camwy wedi chwyddo ers ddoe hefyd, a'i dŵr yr un lliw a choffi-trwy-lefrith. Mae'r dair faner yn chwifio ar lan yr afon wrth i mi adael Y Gaiman. Tan tro nesa.

Baneri'r Mapuche-Tehuelche; Yr Ariannin; a Chymru


"Mae lle i bawb yn y Gaiman. Mae gwahaniaethau yn ein cyfoethogi". Neu rwbath felly! Nid dim ond enwau pontydd sy'n ddi-ddychymyg yno... yn yr achos yma 'Ysgol Rhif 125'


[Cerdyn post hwyr o'r Ariannin. #10. PW 29 Hydref 2018]

-------------------------

Mae llawer o hanes Gutyn Ebrill yn ymddangos mewn cyfres 'Stiniog a'r Wladfa' yn Rhamant Bro (cylchgrawn Cymdeithas Hanes Bro Ffestiniog) rh.35 2016 gan Vivian Parry Williams; mae erthygl fer (cyfres Stolpia gan Steffan ab Owain) hefyd ar wefan ein papur bro lleol Llafar Bro

 

 

1 comment:

  1. Difyr iawn eto Paul. Yn anffodus, ches i ddim cyfle i ymweld a mynweny y Gaiman tro rown i yno. Ond mi fum ym mynwent capel Bethel? ar y ffordd i Drelew, a chael fy siomi nad oedd gair o Gymraeg yno o gwbl, ond Sbaeneg, yn naturiol, a SAESNEG, o bob iaith. Pan gwynais gyda rhai oedd yn ein tywys am ddiffyg absenoldeb yr heniaith, yr ateb oedd mai am bod llawer o Americanwyr yn ymweld a'r capel oedd y rheswm. Diffyg parch i'r sefydlwyr y capel - a'r Wladfa, dybiwn i.

    ReplyDelete

Diolch am eich sylwadau