Tyfu bwyd, hel fy nhamaid, a'r byd o nghwmpas i, 700 troedfedd uwchben lefel y môr.

13.4.14

Gwely lasagne

Cynhwysion:

  > cardbord
  > dwr
  > hops
  > gwellt
  > deilbridd
  > tail

Offer:

  > styllod pren 8" x 2"
  > rhaw a morthwyl a hoelion a ballu

 1. Tynnwch y gorchudd sydd wedi bod ar lawr i ladd rhywfaint o'r glaswellt ers Ionawr. Dim angen tyllu a phalu. Dim ond troi y tywyrch ben i lawr, a lefelu'r ardal yn fras iawn.


2. Rhowch haen ddwbl o gardbord gwlyb ar lawr i ladd y glaswellt a'r chwyn, yna adeiladu'r gwely pren. Os allwch chi gysgu'n dawel wedi joban rywsut-rhywsut, peidiwch a thrafferthu efo spirit-lefal a tha^p mesur ac ati: rhywle i dyfu llysiau ydi o, nid celf.
Wedyn taenwch hops ar ben y cardbord. Ar ol cyrraedd adra bydd angen perswadio'ch partnar na fuoch chi yn y dafarn trwy'r pnawn oherwydd yr ogla cwrw mawr.


3. Rhowch haen o leiaf dwy fodfedd o wellt dros bopeth, yna'i wlychu'n dda.


4. Ar ben y gwellt, mae haen o gachu ceffyl yn mynd, neu os ydych chi'n fwy posh na fi, gallwch chi roi tail ceffyl os liciwch chi...


5. Wedyn, ychwanegwch drwch o ddeilbridd neu gompost.


6. Gweinwch efo tatws. Wedyn ail gwrs o ddail salad neu frocoli piws.






2 comments:

  1. Anonymous17/4/14 13:47

    Mae'n edrych yn wych! Y gwely lasagne mwyaf cymhleth weles i erioed. Tybed faint o amser gymrith i bydru? Mae rhai syml (carbord a gwair glas newydd ei ladd) angen tri mis dros y gaeaf. Dim rhew yma ar arfordir Asturias, wrth gwrs.

    ReplyDelete
    Replies
    1. Chdi dynnodd fy sylw at y dull lasagne gynta, ac mae wedi cymryd dwy flynadd i mi ei drio! Dwi'n gobeithio y bydd yn setlo'n weddol gyflym er mwyn ychwanegu pridd a deilbridd am ei ben o eto. Dwi wedi rhoi tatws ynddo eisioes a gan bod rhai yn tyfu tatws dan wellt, heb bridd, dwi'n gobeithio y bydd y cyfuniad yma yn talu nol am yr ymdrech ychwanegol. Amser a ddengys!

      Delete

Diolch am eich sylwadau