Mae'r Pobydd yn gwneud bara cartra yn weddol reolaidd, ac eisiau datblygu'r diddordeb ymhellach, felly mi fuo'r ddau ohono' ni ar gwrs pobi bara y penwythnos dwytha'! Peth dosbarth canol iawn i'w wneud, dwi'n gwbod, ond roedd yn werth bob eiliad o ymdrech i gyrraedd Dinas Powys, sefyll ar ein traed am wyth awr yn cymysgu a thylino, a gyrru adra wedyn am dair awr ac ugain munud.
Gwaith reit galed ond pleserus iawn. Diolch i Geraint a'i amynedd, mi gawson ni bobi bara efo gwahanol does eples neu pre-ferment, a dod adra efo helfa dda iawn. Mae defnyddio eples neu surdoes (sourdough) yn cynhyrchu bara efo blas dyfnach ac sy'n haws i'r corff ei dreulio, na'r burum sych a chemegau a ddefnyddir mewn ffatrioedd. Mi wnaethon ni foccacia efo nionod a thomatos a feta i ginio hefyd, yn ogystal a byns cyrins a byns cnau-a-siocled!
Un o fy hoff lyfrau ydi 'Tomos o Enlli' gan Jennie Jones, a dwi'n dychwelyd yn aml at ddisgrifiadau Tomos Jones o'i fam yn pobi bara ar yr ynys. Dywed sut oedd yr ynyswyr yn pobi 'bara wedi ei godi hefo burum cartref', 'dyna ichwi fara, bois bach, bara gwerth ei fwyta'.Trwy gyd-ddigwyddiad, roedden ni wedi gaddo trip i Ynys Enlli fel anrheg penblwydd i dad y Pobydd eleni, ac er fod hynny 'nol ym mis Ebrill, chawson ni ddim mynd tan ddoe. Dyna be oedd dewis lwcus o ddiwrnod, gan i'r haul wenu arnom ni drwy'r dydd.
![]() |
|
Môr a mynydd. Cychwyn am adra: cafn Enlli y tu ôl i ni,
a’r
Moelwynion o’n blaen –y mynyddoedd pellaf
ynghanol y llun.
|
Mi fues i yno am wythnos ugain mlynedd yn ol, yn gwneud gwaith gwirfoddol i ymddiriedolaeth yr ynys, yn tyllu, sgwrio, paentio, a thrwsio, efo Gwydion y warden. Mi ddysgis i lawer am be sy'n bwysig yn y byd yr wythnos honno, gan sgwrsio yng ngolau cannwyll gyda'r nos, a mwynhau cwrw cartra Gwydion, heb drydan na theledu i dynnu'r sylw. "Yn y rhannu ma'r plesar 'sti" medda fo wrth imi drio gwrthod gwydriad arall o'i gwrw prin. Ia, gwir y gair.
Tydi o ddim yno bellach, ac mae'r bedair awr a hanner a gewch chi yno ar drip dydd, yn sobor o annigonol, ond roedden nhw'n oriau hyfryd serch hynny. Anodd curo brechdan ar greigiau Porth Nant, a'r tir mawr mor agos, ond y Swnt yn corddi'n fygythiol rhyngtho a'r ynys. Cerdded wedyn hyd yr arfordir a gloynod byw a gwenyn yn gwmni inni,
fel tasen nhw -fel ninnau- yn amau mai dyma'r cyfle olaf i fwynhau'r haul, ar ddiwedd haf na fu.
![]() |
| Nid gwaith medal aur yr artist Elfyn Lewis, ond celf naturiol cerrig a chen arfordir Enlli. |





