Tyfu bwyd, hel fy nhamaid, a'r byd o nghwmpas i, 700 troedfedd uwchben lefel y môr.

22.4.12

Ffa a fougasse


Y rhandir wedi boddi eto, felly heb wneud dim yno'r penwythnos hwn. Yr ateb dwi’n meddwl ydi defnyddio’r pridd a chompost ychwanegol mae’r gymdeithas wedi ei gael ar gyfer pob plot, er mwyn codi gwlâu uwchben y gors. Dwi ddim isio prynu coed i greu gwelyau os nad oes raid, gan geisio cynnal y plot heb fynd i gostau afresymol. Un peth dwi wedi’i brynu ydi rolyn 25m o beipan dyllog i’w rhoi yn y ffosydd i gario chydig o’r dŵr oddi ar y tir. Mi gynigiodd y siop ddeunyddiau adeiladu lleol ddisgownt arbennig i ddeiliaid rhandir, felly roedd yn werth buddsoddi. Mae'n wastad yn bosib cael y rhan fwya o anghenion bywyd yn lleol, a hynny yn rhad, heb ddilyn pawb fel lemming bob dydd Sadwrn i Landudno i wario, neu brynu popeth ar y we...
Gobeithio felly -rhwng  draenio a chodi’r tir- y bydd gen’ i le gweddol i blannu, neu mi fydd yn rhy hwyr i dyfu dim yno eleni. Dwi wedi cytuno i adael un cornel yn wlyb, a chreu pwll efo'r bychan, i ddenu llyffaint a gweision neidr.
Wedi treulio rhywfaint o amser yn y tŷ gwydr yn hau mwy o bys a ffa, a blodau hefyd.
 Yr heuad gynta’ (24ain o Fawrth) o bys (Serpette Guilloteau) a ffa melyn (Wizard) yn dod yn eu blaen yn dda. Dros hanner y ffa dringo (Czar) wedi methu, neu ar ei hôl hi, a phob un o’r ffa Ffrengig piws (Cosse Violette) wedi methu egino. Y pys melyn/india-corn (Double Bicolor) yn dechrau dangos rŵan, ond dim golwg hyd yma o’r pwmpenni (Burgess Buttercup). Dyma un o gyfnodau mwyaf cyffrous y flwyddyn i mi.
 Y pobydd wedi bod wrthi heddiw hefyd, gan gynhyrchu -ymysg pethau eraill- dorthau ‘fougasse’ deniadol a blasus fel hon, o rysáit yn llyfr ‘Dough’ y Llydäwr Richard Bertinet. Maen nhw wedi eu pobi ar garreg, ac yn dod allan efo crystyn arbennig a chanol meddal: can mil gwell na’r ‘bara’ giami sydd ar werth ymhobman y dyddia’ yma. Mi gawsom ni gacen siocled gyfoethog a hyfryd hefyd, ond ddaru honno ddim aros yn gyfa’ yn ddigon hir imi dynnu llun!

Cyn i mi ei chau hi am heno, dyma ddolen i ffilm fer am hanes Stiniog gan Gareth Jones, ar ran Cymdeithas Hanes Bro Ffestiniog. Mae gwirfoddolwyr y gymdeithas weithgar hon yn rhedeg arddangosfa ddyddiol ynghanol y dref bob haf, a bydd y ffilm yma’n ychwanegiad gwerthfawr i’r hyn sydd i’w weld yno eleni.

No comments:

Post a Comment

Diolch am eich sylwadau