Tyfu bwyd, hel fy nhamaid, a'r byd o nghwmpas i, 700 troedfedd uwchben lefel y môr.
Showing posts with label cost. Show all posts
Showing posts with label cost. Show all posts

27.4.12

Hela dail a gwario


Wedi bod yn hel dail craf y geifr –garlleg gwyllt- cyn cychwyn adra o’r gwaith am hanner diwrnod o wyliau. Maen nhw’n tyfu ar lan nant sy’n rhedeg heibio’r swyddfa; lle delfrydol i biciad allan amser cinio i nôl chydig o ddail i’w rhoi yn fy mrechdan gaws.
Gan ei bod yn bnawn sych mi fues i ar y rhandir. Dwi wedi ildio i’r hyn oedd yn amhosib ei osgoi mae gen i ofn...roedd y dŵr yn drech na fi felly dwi wedi prynu ‘chydig o goed i godi gwelyau llysiau. Mi fues i’n chwilio -yn aflwyddiannus- am goed sgaffaldiau ail-law, a gorfod prynu’n newydd yn y diwedd. Mi ges i bedair styllen 6”x1” a dwy 7”x1”, bob un yn 4.8 metr o hyd, a mynd ati i adeiladu pedwar gwely efo cymorth fy nhad. Fel arfer, mi fu’r ddau ohonom ni’n tynnu coes ein gilydd; fo’n fy nghyhuddo o fod yn rhy fanwl a ffyslyd, a finna’n diawlio am ei agwedd ‘mi wnaiff y tro’ fo!
Hyd yma felly mae'r rhandir wedi costio:
Rhent blynyddol- £25 
Aelodaeth o'r gymdeithas- £2
Goriad i’r giât- £5
Pibell ddraen- £18
Coed- £42
Bron i ganpunt. A does dim byd wedi ei blannu yno hyd yma. Fydda' hi'n rhatach -a llai o strach- imi gael bocs o lysiau organic i'r drws bob wythnos tybed? Dwi wedi anwybyddu costau'r hadau, a'r cansenni mafon aballu, oherwydd byswn i'n prynu'r rheiny beth bynnag, ar gyfer yr ardd gefn.
Beth bynnag, dwi’n mynd yn ôl ‘fory gan fod Derec “Henffych” Tywydd yn gaddo diwrnod sych, ac mi dynnaf lun tra dwi yno.
Ar ôl nôl y fechan o’r ysgol a mynd adra, mi rois i hanner y dail craf mewn gratin efo tatws, seleriac, nionod a hufen, a’i fwyta efo brocoli piws o’r ardd. Mi rois yr hanner arall mewn pesto. Un o ryseitiau River Cottage oedd y pesto. Cnau daear oedd yn y rysáit hwnnw, ond mae’n rhy gynnar i’r rheiny (a hefyd, dwi ddim yn meddwl fod 30 gram o gnau daear –sy’n golygu dadwreiddio tua 15 planhigyn efallai- yn gnwd cynaladwy yn y safleoedd dwi’n eu nabod). Mi ddefnyddiais gnau pîn felly, a blasus iawn ydi o hefyd. Mi gaiff ei ddefnyddio efo pasta, neu datws newydd o bosib, nos fory.
Dwi ‘di blino’n lân rŵan! Ychydig bach yn smyg efallai; ond nacyrd hefyd!

22.4.12

Ffa a fougasse


Y rhandir wedi boddi eto, felly heb wneud dim yno'r penwythnos hwn. Yr ateb dwi’n meddwl ydi defnyddio’r pridd a chompost ychwanegol mae’r gymdeithas wedi ei gael ar gyfer pob plot, er mwyn codi gwlâu uwchben y gors. Dwi ddim isio prynu coed i greu gwelyau os nad oes raid, gan geisio cynnal y plot heb fynd i gostau afresymol. Un peth dwi wedi’i brynu ydi rolyn 25m o beipan dyllog i’w rhoi yn y ffosydd i gario chydig o’r dŵr oddi ar y tir. Mi gynigiodd y siop ddeunyddiau adeiladu lleol ddisgownt arbennig i ddeiliaid rhandir, felly roedd yn werth buddsoddi. Mae'n wastad yn bosib cael y rhan fwya o anghenion bywyd yn lleol, a hynny yn rhad, heb ddilyn pawb fel lemming bob dydd Sadwrn i Landudno i wario, neu brynu popeth ar y we...
Gobeithio felly -rhwng  draenio a chodi’r tir- y bydd gen’ i le gweddol i blannu, neu mi fydd yn rhy hwyr i dyfu dim yno eleni. Dwi wedi cytuno i adael un cornel yn wlyb, a chreu pwll efo'r bychan, i ddenu llyffaint a gweision neidr.
Wedi treulio rhywfaint o amser yn y tŷ gwydr yn hau mwy o bys a ffa, a blodau hefyd.
 Yr heuad gynta’ (24ain o Fawrth) o bys (Serpette Guilloteau) a ffa melyn (Wizard) yn dod yn eu blaen yn dda. Dros hanner y ffa dringo (Czar) wedi methu, neu ar ei hôl hi, a phob un o’r ffa Ffrengig piws (Cosse Violette) wedi methu egino. Y pys melyn/india-corn (Double Bicolor) yn dechrau dangos rŵan, ond dim golwg hyd yma o’r pwmpenni (Burgess Buttercup). Dyma un o gyfnodau mwyaf cyffrous y flwyddyn i mi.
 Y pobydd wedi bod wrthi heddiw hefyd, gan gynhyrchu -ymysg pethau eraill- dorthau ‘fougasse’ deniadol a blasus fel hon, o rysáit yn llyfr ‘Dough’ y Llydäwr Richard Bertinet. Maen nhw wedi eu pobi ar garreg, ac yn dod allan efo crystyn arbennig a chanol meddal: can mil gwell na’r ‘bara’ giami sydd ar werth ymhobman y dyddia’ yma. Mi gawsom ni gacen siocled gyfoethog a hyfryd hefyd, ond ddaru honno ddim aros yn gyfa’ yn ddigon hir imi dynnu llun!

Cyn i mi ei chau hi am heno, dyma ddolen i ffilm fer am hanes Stiniog gan Gareth Jones, ar ran Cymdeithas Hanes Bro Ffestiniog. Mae gwirfoddolwyr y gymdeithas weithgar hon yn rhedeg arddangosfa ddyddiol ynghanol y dref bob haf, a bydd y ffilm yma’n ychwanegiad gwerthfawr i’r hyn sydd i’w weld yno eleni.