Tyfu bwyd, hel fy nhamaid, a'r byd o nghwmpas i, 700 troedfedd uwchben lefel y môr.
Showing posts with label ffos. Show all posts
Showing posts with label ffos. Show all posts

12.1.14

Tegan newydd

Mi ges i 'chydig o bres Dolig, felly mi brynis i degan newydd.
Hof dyllu. Mae o fel matog lydan hirgoes.



Gan fod bore ddoe mor arbennig o braf, mi es i lawr i'r rhandir i dyllu ffos.
'Nol a mlaen wedyn efo berfa, a gorchuddio'r beipan ddraen efo gro (un o'r deiliaid eraill wedi cael twmpath gan gwmni tarmacio).

Bore da iawn o waith.
Dwi'n chwilio am slabiau concrid rhad rwan i greu llwybr ac osgoi gweithio mewn mwd.


Gwyntoedd dechrau'r mis wedi gwneud llanast eto.


Mae'r callaf o'r deiliaid wedi angori a strapio'u cwt i'r ddaear!

Dal i bendroni ydi'n werth buddsoddi mewn cwt ydw i....


22.4.12

Ffa a fougasse


Y rhandir wedi boddi eto, felly heb wneud dim yno'r penwythnos hwn. Yr ateb dwi’n meddwl ydi defnyddio’r pridd a chompost ychwanegol mae’r gymdeithas wedi ei gael ar gyfer pob plot, er mwyn codi gwlâu uwchben y gors. Dwi ddim isio prynu coed i greu gwelyau os nad oes raid, gan geisio cynnal y plot heb fynd i gostau afresymol. Un peth dwi wedi’i brynu ydi rolyn 25m o beipan dyllog i’w rhoi yn y ffosydd i gario chydig o’r dŵr oddi ar y tir. Mi gynigiodd y siop ddeunyddiau adeiladu lleol ddisgownt arbennig i ddeiliaid rhandir, felly roedd yn werth buddsoddi. Mae'n wastad yn bosib cael y rhan fwya o anghenion bywyd yn lleol, a hynny yn rhad, heb ddilyn pawb fel lemming bob dydd Sadwrn i Landudno i wario, neu brynu popeth ar y we...
Gobeithio felly -rhwng  draenio a chodi’r tir- y bydd gen’ i le gweddol i blannu, neu mi fydd yn rhy hwyr i dyfu dim yno eleni. Dwi wedi cytuno i adael un cornel yn wlyb, a chreu pwll efo'r bychan, i ddenu llyffaint a gweision neidr.
Wedi treulio rhywfaint o amser yn y tŷ gwydr yn hau mwy o bys a ffa, a blodau hefyd.
 Yr heuad gynta’ (24ain o Fawrth) o bys (Serpette Guilloteau) a ffa melyn (Wizard) yn dod yn eu blaen yn dda. Dros hanner y ffa dringo (Czar) wedi methu, neu ar ei hôl hi, a phob un o’r ffa Ffrengig piws (Cosse Violette) wedi methu egino. Y pys melyn/india-corn (Double Bicolor) yn dechrau dangos rŵan, ond dim golwg hyd yma o’r pwmpenni (Burgess Buttercup). Dyma un o gyfnodau mwyaf cyffrous y flwyddyn i mi.
 Y pobydd wedi bod wrthi heddiw hefyd, gan gynhyrchu -ymysg pethau eraill- dorthau ‘fougasse’ deniadol a blasus fel hon, o rysáit yn llyfr ‘Dough’ y Llydäwr Richard Bertinet. Maen nhw wedi eu pobi ar garreg, ac yn dod allan efo crystyn arbennig a chanol meddal: can mil gwell na’r ‘bara’ giami sydd ar werth ymhobman y dyddia’ yma. Mi gawsom ni gacen siocled gyfoethog a hyfryd hefyd, ond ddaru honno ddim aros yn gyfa’ yn ddigon hir imi dynnu llun!

Cyn i mi ei chau hi am heno, dyma ddolen i ffilm fer am hanes Stiniog gan Gareth Jones, ar ran Cymdeithas Hanes Bro Ffestiniog. Mae gwirfoddolwyr y gymdeithas weithgar hon yn rhedeg arddangosfa ddyddiol ynghanol y dref bob haf, a bydd y ffilm yma’n ychwanegiad gwerthfawr i’r hyn sydd i’w weld yno eleni.

15.4.12

Pryfeta


Wedi bod wrthi'n adeiladu ac addurno 'gwesty pryfaid' efo'r Fechan. Roedd hi wedi gweld rhywbeth tebyg oedd ei nain a'i thaid wedi brynu, ac eisiau un. Gan 'mod i'n gyndyn i wario pres, mi aethom ni ati i wneud hwn o hen goed oedd yn y cwt, darn o hen raff sgipio i'w hongian, a stribedi o hen diwb olwyn beic i ddal y to yn ei le. Ei lenwi wedyn efo brigau, a darnau bambw, a choesynau gwag planhigion fel crib y pannwr a ffenel. Nid bod fawr o debygrwydd iddo fod yn werthfawr iawn i bryfetach, rhyngthoch chi a fi, ond roedd yn llawer o hwyl ei greu, ac mae’r ddau ohonom yn falch iawn ohono! Dros y blynyddoedd d'wytha, 'da ni wedi stwffio brigau a bonion i bob twll a chornel, yn y gobaith o gynnig cilfachau a llety i bryfetach buddiol fyddai’n ennill eu lle trwy fwyta plâu a pheillio ffa  a ffrwythau.
Dwi wedi methu’n glir a chael llun ar fformat ‘portrait’ yn y post yma; mae’n ymddangos ar ei ochr bob tro, felly rhaid bodloni ar y llun salach uchod mae gen’ i ofn. Wedi methu cael y rhain i ymddangos ochr wrth ochr hefyd, ond twpsyn cyfrifiadurol fues i erioed. (Gwerthfawrogir unrhyw gyngor!)


Wedi treulio awr ar y rhandir, efo’r fechan, yn carrega. Mi soniais yn y post ddwytha sut llenwyd y gors oedd yno’n wreiddiol, efo llechi. Mae hynny o bridd sydd yno rwan yn llawn o lechi, a llwyth o waith o mlaen i er mwyn clirio darn. Dwi’n rhoi’r cerrig wedyn yn y ffosydd dwi wedi’u tyllu i drio sychu’r tir. Dyfal donc..
Dim ond y Fechan sy’n fodlon helpu ei thad yn yr ardd bellach, a’r ddwy arall yn rhy cŵl i wneud peth mor ddiflas! Helpu eu mam fuon nhw, yn pobi bara blasus. Dwy blethan wen, a dwy blethan arall o flawd hadau, ac un dorth gron hanner-a-hanner. Mae dwy wedi cael clec efo menyn hallt a chaws Llŷn i de. Hyfryd.