Tyfu bwyd, hel fy nhamaid, a'r byd o nghwmpas i, 700 troedfedd uwchben lefel y môr.

12.1.14

Tegan newydd

Mi ges i 'chydig o bres Dolig, felly mi brynis i degan newydd.
Hof dyllu. Mae o fel matog lydan hirgoes.



Gan fod bore ddoe mor arbennig o braf, mi es i lawr i'r rhandir i dyllu ffos.
'Nol a mlaen wedyn efo berfa, a gorchuddio'r beipan ddraen efo gro (un o'r deiliaid eraill wedi cael twmpath gan gwmni tarmacio).

Bore da iawn o waith.
Dwi'n chwilio am slabiau concrid rhad rwan i greu llwybr ac osgoi gweithio mewn mwd.


Gwyntoedd dechrau'r mis wedi gwneud llanast eto.


Mae'r callaf o'r deiliaid wedi angori a strapio'u cwt i'r ddaear!

Dal i bendroni ydi'n werth buddsoddi mewn cwt ydw i....


2 comments:

  1. Dyna pan ges i wahoddiad i fynd i'r rhandir ddoe felly - angen rhywun i wthio'r ferfa?

    Dad

    ReplyDelete
    Replies
    1. Ia! Neu i adeiladu cwt i mi...
      Dydd Sadwrn nesa amdani? Ond cofiwch: wneith job rhywsut rhywsut mo'r tro....

      Delete

Diolch am eich sylwadau