Tyfu bwyd, hel fy nhamaid, a'r byd o nghwmpas i, 700 troedfedd uwchben lefel y môr.
Showing posts with label Y Wladfa. Show all posts
Showing posts with label Y Wladfa. Show all posts

10.10.20

O'i Walia Hoff ar Wely Hedd

Dwi'n ddigon bodlon efo 'nghwmni fy hun. Cael amser i hel meddylia' a chrwydro fel liciwn i.

Ar ein hail ddiwrnod llawn yn y Gaiman, roedd fy nghyd-deithiwr yn cynnal gweithdai celf -ac yn cael croeso cynnes iawn- yn Ysgol y Gaiman, gan roi'r rhyddid i mi ddilyn fy nhrwyn a phlesio neb ond fi fy hun.

I'r fynwent amdani felly! Pawb at y peth y bo.


Mae beddi rhai o arloeswyr y Wladfa yno, a beddi pobol Stiniog i ddenu'r sylw hefyd, wrth i'r haul ddisgleirio'n isel yn awyr y gogledd, gan ei gwneud yn anodd iawn tynnu lluniau da o'r cerrig. 

'Evan Williams. Gynt o Ffestiniog'

'William R.Jones, Gwaenydd. Ganwyd yn Pen Llwyn, Ffestiniog'

'Griffith Williams, Uwchlawrffynnon, Blaenau Festiniog'

A mwy...

Eraill wedyn efo englynion gan y bardd o Stiniog, Bryfdir ar eu cerrig, gan gynnwys Gutyn Ebrill:


A mwy -heb gysylltiad amlwg- efo llechi o Stiniog ar eu beddi. Tybed be' oedd cost comisiynu a mewnforio cofeb o'r henwlad bryd hynny? Anodd iawn dychmygu y byddai'n bosib i neb ond y mwyaf cyfoethog heddiw!

Marc y saer maen, ar gefn rhai o gerrig beddi'r Gaiman

Tydi mynwentydd y Wladfa -ar y cyfan- ddim ar safle capel neu eglwys, ac mae mynwent y Gaiman tua milltir o Bethel, capel mwya'r dyffryn, yn y tir sych y tu allan i'r dre'. Roedd y capel ar gau yn anffodus, felly ar ôl sbec sydyn, ymlaen a fi i chwilio am Sgwâr y Cymry a Chylch Gorsedd y Wladfa. 


Capel Bethel, Y Gaiman

Cynhaliwyd seremoni gyhoeddi Eisteddfod y Wladfa yno ychydig ddyddiau ynghynt, ond di-gyffro oedd hi pan fues i yno, a glaw trwm ddoe wedi troi'r llwybrau yn bwll mwd llithrig.

Maes yr Hen Wladfawyr a chylch yr orsedd yn y cefndir
 

Gutyn Ebrill (Griffith Griffiths) oedd sylfaenydd Gorsedd y Wladfa a'r Archdderwydd yno tan ei farwolaeth, ac er na fagwyd o yn Stiniog, o fanno gadawodd o Gymru am y Wladfa. Roedd yn adeiladwr ac arweinydd cymunedol uchel ei barch mae'n debyg ma'i angladd o oedd un o'r rhai mwyaf a welwyd yn y gymuned Gymraeg. 

Y Gaiman cyn y glaw...


 Y Gaiman ar ôl y glaw!

Ar y ffordd 'nôl i'r dre' am banad dwi'n sefyll ar y Puente Sobre el Rio ('Pont Dros yr Afon' -enw llawn dychymyg!) a gweld fod Afon Camwy wedi chwyddo ers ddoe hefyd, a'i dŵr yr un lliw a choffi-trwy-lefrith. Mae'r dair faner yn chwifio ar lan yr afon wrth i mi adael Y Gaiman. Tan tro nesa.

Baneri'r Mapuche-Tehuelche; Yr Ariannin; a Chymru


"Mae lle i bawb yn y Gaiman. Mae gwahaniaethau yn ein cyfoethogi". Neu rwbath felly! Nid dim ond enwau pontydd sy'n ddi-ddychymyg yno... yn yr achos yma 'Ysgol Rhif 125'


[Cerdyn post hwyr o'r Ariannin. #10. PW 29 Hydref 2018]

-------------------------

Mae llawer o hanes Gutyn Ebrill yn ymddangos mewn cyfres 'Stiniog a'r Wladfa' yn Rhamant Bro (cylchgrawn Cymdeithas Hanes Bro Ffestiniog) rh.35 2016 gan Vivian Parry Williams; mae erthygl fer (cyfres Stolpia gan Steffan ab Owain) hefyd ar wefan ein papur bro lleol Llafar Bro

 

 

1.11.18

Troi am y Wladfa

"Ydech chi'n siæred Gymræg?" medd yr acen hyfryd tu ôl i mi. Roedd y bws o Bariloche i Esquel awr a thri chwarter yn hwyr, felly tîn-droi yn y Terminal Autobus oedden ni, ac mi welodd o'r ddraig goch ar y rycsac.

Doedd Mervyn Melin Nant Fach, ddim yn hyderus yn iaith ei dad, felly cymysgedd o Gymraeg, Sbaeneg ac iaith ryngwladol y chwifio dwylo gafwyd ar y daith bump awr i'w filltir sgwâr o yn y Wladfa Gymraeg. Dyna ein profiad cyntaf o siarad Cymraeg efo brodor yn yr Ariannin, a hynny gannoedd o filltiroedd i'r gogledd o'r cymunedau Cymreig.


Roedd y bws yn foethus i gymharu â siarabangs budr a swnllyd bysus cyhoeddus Cymru, a'r siwrna braf yn y seti blaen ar y llawr ucha' ddim yn costio fawr mwy na thocyn o Stiniog i Gaernarfon ac yn ôl!

O fewn tri chwarter awr, ar ôl 5 diwrnod o gymylau a glaw, mae'r awyr yn clirio'n las a'r mynyddoedd yn cyrraedd eu huchder llawn. Mae'r angar wedi clirio o'r ffenest erbyn hyn hefyd, i ni fedru edmygu'r olygfa: llethrau claerwyn wedi'u torri gan greigiau duon, ac ambell gopa a chrib fel coron dywyll ar ben y mynydd. Dyma'r ucheldir trawiadol welson ni o'r awyren wrth gyrraedd wythnos ynghynt.

Bu dipyn o ddifyrwch o'n cwmpas ar y bws wrth i mi ymateb i gais Mervyn i ddysgu 'chydig o Gymraeg iddo, trwy ganu cân berthnasol Plethyn: 'Melinydd oedd fy nhaid', a 'nghyd-deithiwr yn cyfieithu iddo fo. Er canu hon fil o weithiau i'r plant pan oedden nhw fychain (pennill y chwarelwr yn benodol), wnes i erioed ei chanu hi'n gyhoeddus o'r blaen. Roedd o'n gwerthfawrogi'r geiriau fwy na'r llais dwi'n meddwl!

O ben y bwlch mae'r bws yn disgyn yn droellog i lawr i ddyffryn coediog, a'i ochrau'n codi'n serth a'r coed yn teneuo efo uchder, i haen sy'n frith o lwyni bychain, nes ei bod yn rhy uchel i blanhigion preniog, a'r tirwedd yn troi'n sgri llwm, neu'n graig noeth. Collodd Cymru ei 'treeline' naturiol ganrifoedd yn ôl, a dwi'n difaru na fedraf neidio oddi ar y bws i gerdded a dringo am y diwrnod, efo llond bag o lyfrau i nabod y planhigion a'r adar yma.


Daw'r bws i stop mewn man archwilio Gendarmería Nacional a'm deffro fi o'r synfyfyrio. Ai dyma'r ffin rhwng taleithiau Rio Negro a Chubut tybed? Roedd Mervyn yn chwyrnu felly doedd dim modd holi; ac wedi ychydig funudau yn unig o oedi, ymlaen â ni.

Mae'r tirlun yn drawiadol bob cam ar y daith, ac ambell lecyn arall yn dal y sylw, fel rhaeadrau Cascada de la Virgen a'r eglwys wen; dŵr Rio Foyel yn wyrdd; gwair pampas yn ei gynefin naturiol, yn hytrach na gardd yn suburbia; gwartheg yn y ffordd, fel defaid y Migneint (ond ddim digon call i symud pan ddaw cerbyd); a golwg cynta ar rai o'r estancias a'r ffermydd mawr, a'u rhesi o goed talsyth, cul, y poplys -alamo fel mae'n nhw'n cael eu  nabod yma.

Erbyn gyda'r nos, mae'r bagiau yn yr hostel yn Esquel, a chawn chwilio am gwrw oer a thamaid o fwyd.
---------------------------------------


[Cerdyn post hwyr o'r Ariannin. #5. PW 19 Hydref 2018]