Tyfu bwyd, hel fy nhamaid, a'r byd o nghwmpas i, 700 troedfedd uwchben lefel y môr.

19.4.12

Cas bethau, hoff bethau, rhif 1

Roedd yr hynaf o’r plant yn gwneud gwaith cartref neithiwr ac eisiau creu rhestr o fanteision ac anfanteision rhywbeth, ac mi ddywedodd ei mam -y pobydd- fy mod i’n un da am weld ochr negyddol pethau….Os mêts: mêts ‘de! Mae hi’n berffaith gywir deud y gwir, ac mae rhywbeth bach yn poeni pawb ‘does, ond byddai’n brafiach bod yn berson sydd â’i wydr yn hanner llawn. Felly dyma feddwl, oes yna fwy o bethau yn fy mhlesio nac sydd yn ‘y mhoeni heddiw hyn? Mi wnes i stopio cyfri ar ôl cyrraedd dau gant o bryderon! 

Cas beth heddiw: marchrawn (Equisetum).
Planhigyn i’w edmygu ydi hwn mewn gwirionedd, wedi goroesi pob math o amodau byw ers oes y deinosoriaid, ond asiffeta, mae o’n boen tîn! Dwn i ddim pam fod hwn yn fy mhoeni. Tydi dant y llew a llygad y dydd yn poeni dim arna’i. Iawn, mae angen clirio pob math o chwyn o dro i dro, ond dim ond hwn sy’n cythruddo. Mae’n tyfu trwy bopeth, ac os dorri di ei ben o, mi dyfith o ddau yn ei le! Torra’r gwreiddyn yn ddarnau ac mi gei di ddwsinau o blanhigion yn lle un. Ac am wraidd! Does dim gobaith ei gael allan i gyd am fod y mochyn yn codi o ddyfnder mawr, trwy’r cerrig a’r rwbal sydd o dan yr ardd. Y genhedlaeth gynta’, sy’n cynhyrchu sbôrs ydi hwn yn y llun, yn tyfu mewn ardal o laswellt a blodau gwyllt. Ymhen mis neu ddau arall daw’r pla i ganol y rhesi llysiau. Defnyddid hwnnw -y genhedlaeth ganghennog- i sgwrio sosbenni erstalwm meddan nhw. Rhaid dysgu byw efo fo mae’n siŵr.

Hoff beth heddiw: hen, hen grysau.
Yn wahanol i’r pobydd a’r epil benywaidd sy’n f’amgylchynu, dwi fawr o siopwr. Bysa’n well gen’ roi fy nhrwyn mewn nyth cacwn na threulio’r diwrnod yn crwydro o siop i siop; ac yn ôl. Ta waeth, dwi’n hoff iawn o’r crysau t Canys Rufus sydd gen’ i, wedi eu prynu fesul eisteddfod, hyd nes rhoddodd yr arlunydd Ruth Jên y gorau i’w cynhyrchu. Mi wisgai’r un â phrint trawiadol o sgwarnog nes mae o’n dwll. Ond nid dyma’r hoff beth: yn hytrach hen grys gwaith ydi hwnnw. Dwi hyd yn oed yn cofio ei brynu yn siop gydweithredol Cymdeithas Meirion yn Llanbedr, Ardudwy, ym mis Medi 1996, am mae ei brynu ar gyfer swydd newydd wnes i. Crys trwchus, cynnes. Dau groen o gotwm praff, a stwffin rhyngddynt. Mi fu’r crys yma efo fi yn gosod camfa ger copa’r Rhinog Fach; yn ffensio ar Gadair Idris; torri a llosgi helyg ar dwyni tywod Morfa Harlech; a chwistrellu Rydi-dendrons yng Nghoedydd Maentwrog. Pan brynsom ni’r tŷ yma yn 2000, y crys yma gadwodd fi’n gynnes wrth bigo plastar a thyllu lloriau tan yr oriau mân, a hwn sydd ar fy nghefn dros y blynyddoedd wrth arddio hefyd. Mae dwsin math o baent, farnish a staen arno; dwi wedi trwsio rhwygiadau weiran bigog sawl gwaith; a symud y botymau o’r pocedi i’w gosod yn lle rhai eraill a gollwyd. Er bod golwg y diawl arno, mae’n werth y byd, a gyda lwc, mi welith o welliannau i’r rhandir efo fi dros y blynyddoedd nesa’.

Mae digon o bethau i godi calon i fod yn onest, a’r gwydr yn eitha’ llawn.
Ar ochr y gwely ar hyn o bryd: 1. ‘Twrw Jarman’. Gwasg Gomer 2011. Cofiant a llyfr lloffion arbennig, ac yn edrych yn wych hefyd. 2. ‘I’m a stranger here myself’. Faber & Faber 1978. Dilyniant i ‘Fat of the Land’, John Seymour, am ei ymdrechion i fod yn hunangynhaliol yn Sir Benfro. Difyr iawn hyd yma, er yn rhamantu braidd am yr hen ffordd o hel gwair, yfed cwrw cartref a chyd-ganu yn y sgubor..
Ar yr ipod: 1. Ffoaduriaid. Casgliad amhrisiadwy Steve Eaves. Sain 2011. Absenoldeb ‘Y felan a finna’ o’i dâp cyntaf ‘¡Viva la revolución Galesa!’ ydi’r unig fân-beth sy’n tynnu oddi ar berffeithrwydd y casgliad. 2. Podlediad misol ‘Tales from Terry’s Allotment’, gan Terry Walton yn y Rhondda. Doniol a difyr. A phodlediad ‘Mwydro ym Mangor’, cymysgedd o beldroed ac ieir!
Ar y radio: 1. Dewi Llwyd. Trin y gwrandawyr fel oedolion efo ymennydd. 2. Mark Kermode. Trafodaeth gall a doniol am ffilmiau.
Ar y wal: llun newydd ohona' i, efo'r label 'swpyr dat', gan y Fechan.
Ar y plât: brocoli piws a rhiwbob o’r ardd, ond ddim efo’u gilydd!
Ar y bocs: 1. Gwaith/Cartref. 2. Pethe. 3. 10 o’clock live.
Mae’r teclyn teledu wedi methu recordio ‘Byw yn yr Ardd’ neithiwr, felly bydd yn rhaid aros cyn medru rhoi dyfarniad ar hwnnw eleni: mwy o ‘arddio’, a llai o ‘fyw’ a malu-cachu fysa’n dda… allwn ni ond gobeithio.

 DIWEDDARIAD- wedi gorffen y llyfr 'I'm a stranger here myself'. Siom garw oedd o yn y diwedd. 'The story of a Welsh farm' ydi is-deitl y llyfr ond ar ol y pennodau cyntaf, mae'r awdur yn anghofio hynny. Mae'n crwydro'n anobeithiol i gors o ragfarnau. Gwaeth na hynny, mae o'n rhannu ei farddoniaeth. Och a gwae! Mae'r llyfr wedi mynd yn ol i hel llwch yn storfa gwasanaeth llyfgrell Gwynedd am ddegawd arall.


No comments:

Post a Comment

Diolch am eich sylwadau