Tyfu bwyd, hel fy nhamaid, a'r byd o nghwmpas i, 700 troedfedd uwchben lefel y môr.

22.2.24

Boda a Broga

Dim ond hanner esgus oeddwn i angen i adael clydwch y tŷ i grwydro ar un o weunydd mwyaf Meirionnydd ddechrau’r wythnos. Roedd llygedyn o awyr las rhwng haenau o gymylau yn ddigon i’m denu fi allan ar ôl dyddiau o dywydd gwael eto! Dwi’n hoff iawn o fynd i’r un lleoliad ynghanol ardal fawr wyllt a chorsiog, tua diwedd Chwefror, er mwyn gwrando ar gân hyfryd yr ehedydd a chael teimlo fod y gwanwyn ar ei ffordd eto. 

Mae digon o son wedi bod ar grwpiau facebook y naturiaethwyr Cymraeg -Cymuned Llên Natur a Galwad Cynnar- am grifft llyffant, ac mi welais i grifft mewn pwll gerllaw tua bythefnos yn ôl, ond yr ehedydd sy’n fy nghynhyrfu i fwyaf yr adeg yma o’r flwyddyn.

Wrth drafod efo cyfeillion mi ddois i sylwi nad ydi’r gair ‘grifft’ yn gyfarwydd i bawb; ‘jeli llyffant’ oeddan ni’n ddweud wrth dyfu i fyny, a dyna mae llawer yn dal i’w ddweud heddiw. Difyr ydi nodi fod y gair llyffant yn golygu toad mewn ambell ardal, ond frog ydi llyffant i mi. Mi wnaeth panel enwau Cymdeithas Edward Llwyd son am “yr enw a barodd y drafferth fwyaf”, wrth gyhoeddi ‘Creaduriaid Asgwrn-Cefn’ -y llyfr cyntaf yn y gyfres wych ar ‘Enwau Creaduriaid a Phlanhigion’ ym 1994. 

Cyfaddawdu wnaethon nhw trwy roi llyffant melyn yn enw safonol ar frog (Rana temporaria) a llyffant dafadennog fel enw safonol ar toad (Bufo bufo) ond derbyn fod dim angen gorfodi neb i newid eu harferiad lleol. Efallai eu bod nhw’n dal i ddadlau mewn ystafell fyglyd yn rhywle os ddyliwn ni i gyd alw milk yn llefrith ‘ta llaeth, ond stori arall ydi honna!

Ta waeth, mi ges i wledd o ganu’r ehedydd ar y waun. Does dim byd gwell i godi calon na sefyll yn gwrando ar drydar bywiog a di-ben-draw ceiliog ehedydd, dau ohonyn nhw yn yr achos yma, rhywle uwch eich pen, wrth glochdar tiriogaeth a chwilio am gymar. Roeddwn yn dilyn dau lwybr ar draws sgwaryn 1km yn fan hyn ar gyfer yr Arolwg Adar Magu (Breeding Bird Survey) yn y 1990au ond am ryw reswm rhoddwyd y sgwâr i rywun arall ar ôl pum mlynedd a chynnig lle newydd i mi; llyncu mul wnes i mae gen’ i ofn! Ond roeddwn wedi dod i adnabod yr ardal arbennig yma, ac mi fum yma bob blwyddyn yn mwynhau gwrando ers ymhell dros ugain mlynedd. Y cyfnod brafiaf mae’n siwr oedd y blynyddoedd hynny pan oedd y plant efo fi, a phawb am y gorau i fod y cyntaf i weld lle’n union oedd yr ehedydd; smotyn bach tywyll yn uchel, uchel yn yr wybren.

Er fod cwmwl ar y copaon i gyd, roedd bysedd yr haul yn torri trwodd yn achlysurol. Serch hynny roedd gwynt main yn chwipio ar draws y tir gwlyb, a’r brwyn a glaswellt y gweunydd yn chwifio fel tonnau yn symud ar draws y tirlun o’m blaen. Roedd llen o law yn y pellter yn bygwth dod tuag ataf, felly mi droiais i gychwyn yn ôl am adra, a gweld ceiliog boda tinwyn! Rhaid oedd aros ychydig eto felly i wylio’r aderyn ysglyfaethus trawiadol yma’n torri cyt yn ei blu llwyd, du a chlaer wyn. Am eiliad meddyliais mae gwylan y môr oedd o wedi colli ei ffordd, ond o graffu’n nes mae’n amhosib cam-gymryd hwn am aderyn arall. 

Boda tinwyn- llun gan lywodraeth Ynys Manaw CC BY 2.0

Son am wefr cael ei wylio mor agos, yn hwylio dros y grug, prin yn rhoi curiad i’w adenydd. A mwya’ sydyn, daeth iâr i ymuno â fo, a hithau hefyd yn hedfan yn isel dros y rhos, a’i phen ôl gwyn yn amlwg iawn yn erbyn gweddill ei phlu brown. Ymhen ychydig funudau, roedd y ddau wedi mynd dros orwel ac o’r golwg, a welais i mohonyn nhw wedyn. Er bod eu niferoedd wedi cynyddu yng Nghymru ers y nawdegau, dim ond 30-40 pâr sydd yma (Cymdeithas Adaryddol Cymru 2021) ond mae’n sefyllfa well o lawer nag yn Lloegr, lle mae erlid anghyfreithlon dal yn felltith yn anffodus.

Adref amdani am banad, yn fodlon fy myd, ac i synfyfyrio am wanwyn braf.

Ehedydd -skylark
Grifft llyffant -frogspawn
Brwyn -rushes
Glaswellt y gweunydd -purple moorgrass
Boda tinwyn -hen harrier
- - - - - - - - - - - 

Ymddangosodd yn wreiddiol yng ngholofn Byd Natur Yr Herald Cymraeg, yn y Daily Post, 22ain Chwefror 2024 (Dan y bennawd 'Llyffant ta Broga?').

 

Tra Bo Hedydd, mis Mawrth 2013

1.2.24

Crwydro'r Bannau

Hyd yn oed cyn cychwyn am y bwlch, roedd y gwynt yn rhuo a chymylau duon yn hel yn y pellter. Roeddwn i lawr ym Mynwy wythnos dwytha, rhwng stormydd Isha a Joslyn ac wedi trefnu crwydro dipyn ym mryniau dwyrain Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. 

Mi anelais yn gyntaf am Fynydd Llangatwg a Gwarchodfa Natur Craig y Cilau. Mae clogwyni’r Darren, Darren Cilau, Disgwylfa, a Chraig y Cilau yn drawiadol iawn, a dwi wedi eu hedmygu o’r A40 wrth yrru heibio sawl gwaith. Braf cael mynd yno o’r diwedd, gan barcio ar Ffordd yr Hafod; ffordd gul, serth, droellog uwchben pentref Llangatwg.


O fewn dau funud o gychwyn cerdded, mi oeddwn yn gwylio haid o socanod eira (fieldfares) yn gwledda ar yr aeron cochion sy’n dal yn amlwg iawn ar sgerbydau gaeafol y coed drain gwynion (hawthorn). Doniol oedd gwylio’r adar yn glanio ar frigyn a hwnnw’n symud yn y gwynt, gorfod sadio’u hunain cyn medru pigo’r ffrwythau; eu traed yn siglo ‘nôl-a-mlaen odditanynt a’u cyrff yn llonydd, gan fy atgoffa o rywun yn cerdded ar raff! 

Dyma aderyn prydferth. Daw i Gymru o Sgandinafia bob gaeaf i chwilio am fwyd. Mae’n rhannu rhai o nodweddion ei gefnder, y brych coed (mistle thrush): ei fol brith er enghraifft, ond yn sefyll allan yn drawiadol efo’i ben a’i ben-ôl llwydlas a mwy o goch yn ei blu brown. Wrth i mi nesáu mae pob un yn codi o’u canghennau a hedfan i ffwrdd gan ddweud y drefn yn swnllyd efo galwad sy’n swnio i mi fel cnociwr drws blin!

Wrth i mi godi o’r bwlch rhwng dau glogwyn i’r llwyfandir agored, fi oedd yn cael trafferth aros ar fy nhraed yn y gwynt, ond mi rois fy mhen i lawr a thynnu fy het yn dynnach dros fy nghlustia a gyrru ymlaen. Roedd croesi’r gweundir eang o dwmpathau glaswellt y gweunydd (purple moorgrass) yn waith caled ond yn werth yr ymdrech gan fod cymaint o nodweddion archeolegol difyr ar ben Tŵr Pen-cyrn. Yn ôl Ymddiriedolaeth Archeolegol Clwyd Powys, bu brwydr yno yn yr wythfed ganrif rhwng Rhodri Molwynog -brenin y Brythoniaid- a’r Sacsoniaid. Mae’r mynydd hefyd yn frith o garneddi claddu o’r oes efydd; a llawer o olion trin y cerrig calch o bob oes, yn llyncdyllau ac odynnau, cyn i’r chwareli mwy modern ddatblygu i ddwyn cerrig o’r clogwyni islaw. 


O’r copa mae’n bosib gweld dau wahanol fyd bron. Tua’r de mae cymoedd diwydiannol Gwent, ardal y glo a’r gwaith haearn, caledi cymdeithasol a sosialaeth. I’r gogledd, tir amaeth cyfoethog y tywodfaen coch, trefi marchnad llewyrchus Y Fenni a Chrughywel ac etholaethau ceidwadol Brycheiniog a Mynwy.

Ond roedd yn rhy oer i sefyllian, felly mi ddilynais lwybr arall i lawr, heibio cwt crwn o’r enw Hen Dŷ Aderyn, nes cyrraedd yn ôl at ymyl y tarenni, a’r gwynt o’r tu ôl i mi wedi bod yn gymorth i’r cerdded y tro hwn. Roedd yr haul dal yn weddol isel yn y de-ddwyrain, ac ar draws dyffryn Wysg i’r gogledd roedd enfys fendigedig yn ymestyn o Fynydd Troed i Ben-y-fâl. Uwch fy mhen, cigfran yn hongian ar y gwynt heb symud fawr ddim, ac oddi tanaf bwncath yn cylchu dros goedwig Cwm Onneu Fach.

Tydi Ionawr ddim yn fis da i gymryd maintais lawn o gyfoeth botanegol Craig y Cilau, lle mae clogwyni calchfaen mwyaf Cymru yn gartref i flodau Arctic-Alpaidd a rhedynnau prin. Mae yno hefyd nifer o fathau prin o goed cerddin (whitebeam), tair ohonyn nhw yn tyfu’n unlle arall ar y ddaear heblaw’r Bannau. Rhywle arall i’w ychwanegu i’r rhestr o lefydd i ddychwelyd iddyn nhw yn y gwanwyn felly!

 

Trwy lwc, mi gadwodd yn sych trwy’r dydd -nes cyrraedd ‘nôl i’r cerbyd, a phan ddaeth y glaw a’r cenllysg mi es am fy mywyd i lawr i Eglwys y Santes Fair yn Y Fenni, a rhyfeddu at y ffenest newydd hardd yno, uwchben eu prif drysor, cerflun derw canoloesol o Jesse, tad Dafydd Frenin. Gwledd o liw sy’n cynnwys lluniau hyfryd o fywyd gwyllt a phlanhigion llesol, fel y wermod wen ac eurinllys, cacynen a gwyfyn (feverfew, StJohn’s wort, bumblebee, moth). Lle hyfryd iawn i ymochel am ennyd cyn chwilio am baned cynnes yn y dref!
- - - - - - - - - - - - 

Ymddangosodd yn wreiddiol* yng ngholofn Byd Natur Yr Herald Cymraeg (Daily Post),1af Chwefror 2024.

*Heb y ddau lun gyntaf


11.1.24

Blwyddyn Newydd, Camerâu Newydd

A dyna ni. Daeth gwyliau’r nadolig i ben; rhestrwyd addunedau i’w torri eto; rhoddwyd y tinsel ‘nôl yn yr atig; a bu’n rhaid dychwelyd i’r gwaith. Ba hymbyg!

A dweud y gwir, dwi’n ffodus iawn i fedru dweud fy mod yn mwynhau fy ngwaith, ar y cyfan. Bysa rhai yn dadlau mai dim ond surbwch fyddai’n cael trafferth codi o’r gwely i fynd i reoli gwarchodfeydd natur! Mae’n fraint i fod yn onest, yn enwedig ar ddyddiau barugog, braf, fel yr wythnos yma.
Un o’r pethau sydd wedi fy nghynhyrfu yn barod eleni ydi canfod fod tylluan wedi bod yn clwydo yn un o’r adeiladau ar safle dwi’n reoli ym Meirionnydd. Nid fy mod i wedi gweld y dylluan, ond fod dyrnaid o bellenni ar lawr o dan y distyn lle mae’n amlwg yn eistedd i dreulio ei fwyd ar ôl hela. Dyma’r peli bach o ffwr ac esgyrn sy’n dod yn ôl i fyny ac yn cael eu poeri allan ychydig oriau ar ôl i’r dylluan lyncu llygoden yn gyfa. 

Yn ôl maint y pellenni, mae’n debyg iawn mae tylluan wen (barn owl, Tyto alba) sydd dan sylw yn hytrach na thylluan frech (tawny owl, Strix aluco), ac mi ydw i wedi hel rhai ohonyn nhw i’w datgymalu a’u harchwilio dros y penwythnos. Byddaf wedyn yn medru cymharu esgyrn, a phenglogau yn arbennig, a gweld pa lygod fu’r dylluan yn fwyta.

Mae’n bosib gweld tylluan wen yn hela yng ngolau dydd- ben bore neu wrth iddi fachlud, a dwi wedi llwyddo i wylio’r olygfa wefreiddiol hynny mewn llefydd eraill, ond mae’n amlwg nad ydw i wedi codi’n ddigon cynnar, nac aros yn ddigon hwyr i’w weld ar y warchodfa yma. Heb os mae yma ddigon o gynefin ar gyfer eu hoff fwyd, llygod pengrwn coch (bank vole, Clethrionomys glareolus), sef glaswellt bras a gweundir. 


Yr hyn dwi wedi ei wneud rwan ydi gosod camera maes yn yr adeilad er mwyn medru cadarnhau pa dylluan sydd yno. Bydd y camera yn tynnu lluniau, ddydd a nos, o unrhyw beth fydd yn symud o fewn ei olwg yn yr adeilad ac mi af yn ôl mewn ychydig ddyddiau i weld be ddaliwyd ar gof a chadw.

Mi rannaf newyddion am yr esgyrn ac -os ydi’r camera wedi gweithio- llun neu ddau efo chi y tro nesa.
Rhaid i mi bwysleisio’n fan hyn, petae hi’n dymor nythu (gall hynny fod mor gynnar a mis Mawrth), mi fyddai’n anghyfreithlon i mi darfu ar dylluanod gwyn heb drwydded, gan eu bod ar Gofrestr 1 o adar dan warchodaeth yn Neddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981. Fel mae’n digwydd, nid oes silff digon llydan yn yr adeilad hwn fyddai’n addas i dylluanod ddodwy a magu cywion arni, a gan fod blychau nythu pwrpasol mewn sawl sgubor a beudy yn y dyffryn, dwi ddim yn meddwl y byddaf yn gosod un yma heb yn gyntaf holi cydweithwyr sy’n arbenigo mewn ecoleg yr aderyn. Mae ein hadeilad ni yn le da i wenoliaid nythu bob haf a gan fod adeiladau amaethyddol yn aml yn cael eu haddasu’n gartrefi neu’n unedau gwyliau mae’n braf cael sicrhau safle parhaol i wenoliaid hefyd. 

Rhywbeth arall cyffrous o ddyddiau cynta’r flwyddyn ydi’r anrheg brynais i mi fy hun, sef blwch nythu efo camera mewnol, ar gyfer yr ardd acw. 

Bydd yn rhaid i mi fynd ati rwan i ddarllen y cyfarwyddiadau a’i roi at ei gilydd cyn y gwanwyn, er mwyn i mi gael rhannu lluniau a newyddion efo chi o dro i dro trwy’r tymor nythu! Titw tomos las (blue tit) sy’n nythu yn y bocs sydd ar ochr ein cwt fel rheol, efo un eithriad tua degawd yn ôl, pan gafodd titws mawr (great tit) eu traed dan y bwrdd gyntaf. Dro arall, bu cynnwrf mawr pan welais geiliog gwybedog brith (pied flycatcher) yn cymryd diddordeb yn y blwch, ond er mawr siom, troi ei gefn wnaeth o ac anelu am y goedwig dderw gyferbyn; welsom ni ddim un yn yr ardd wedyn. 

Pa bynnag adar fydd yn dewis nythu yn y blwch newydd, edrychaf ymlaen yn arw am dymor nythu  2024. Blwyddyn newydd dda a gwyllt a chyffrous i bob un o ddarllenwyr Yr Herald Cymraeg hefyd!

- - - - - - - - - - - - 

Ymddangosodd yn wreiddiol* yng ngholofn Byd Natur Yr Herald Cymraeg (Daily Post),11eg Ionawr 2024. (Dan y bennawd 'Edrych Ymlaen')

*Dan y bennawd 'Edrych Ymlaen'

21.12.23

Rhestr Nadolig

Annwyl Sion Corn, tybed fyddech chi’n ystyried danfon ambell un o’r rhain i mi eleni?

Haul ydi fy nghais gynta’. Yn ôl gwefan Omniglot, mae dros 40 ffordd o ddisgrifio glaw yn Gymraeg, a ‘Glaw Stiniog’ yn un ohonyn nhw. Glaw trwm ydi’r ystyr yn ôl y wefan, a phwy ydw’i i daeru efo’r ‘online encyclopedia of writing systems and languages’?  Fel un o drigolion y Blaenau mae’n anodd dadlau efo hynny a’r wythnos hon wedi bod yn sobor o wlyb!

Byddai diwrnod neu ddau o haul gaeafol yn dderbyniol iawn, er mwyn cael mynd i grwydro’r ffriddoedd, a llosgi ychydig o galorïau cyn dechrau’r gor-fwyta nadoligaidd. 

 

 

Tydi partridge in a pear tree ddim yn apelio ata’ i!  

Heblaw efallai ym Môn, mae’n anhebygol y gwelwch betrisen wyllt yn y gogledd; mae’n aderyn sy’n llawer mwy cyffredin fel un a ollyngir gan dirfeddianwyr, efo petris coesgoch a ffesantod, ar gyfer eu saethu. 

A’r goeden gellyg? Tydi’r un sydd yn yr ardd acw’n ddim byd ond sgerbwd noeth, di-ffrwyth a di-ddail yn y gaeaf, felly diolch, ond dim diolch!


 

O ran ail ddiwrnod y Nadolig, mi fyddwn wrth fy modd yn cael gweld dau durtur, y two turtle doves sydd yn y gân. Ond hyd yn oed pan oedd y rheini’n fwy cyffredin, yma i fagu yn yr haf oedden nhw, ac wedi hen adael am lefydd cynhesach cyn y nadolig, felly yn yr achos yma, dwi’n hapus i gymryd IOU tan yr haf! Yn ôl Cymdeithas Adaryddol Cymru, aderyn prin fu’r durtur yng Nghymru erioed, heb unrhyw gofnodion o nythu ers 2011 (2009 yn y gogledd, yn sir Ddinbych). Bu gostyngiad o 99% -do mi welsoch hwnna’n gywir, naw-deg-naw y cant, yn eu niferoedd ar ynysoedd Prydain ers 1960 ac mae’r IUCN -yr Undeb Rhyngwladol dros Gadwraeth Natur- yn rhestru’r durtur fel aderyn dan fygythiad trwy’r byd. Mi fyddai gweld adferiad yn eu niferoedd yn anrheg werth chweil.

Does gen’ i ddim lle i gadw’r three French hens sydd yn y gân, ond mi fyddai mwy o ieir bach yr haf, glöynod byw, yn werth eu gweld yma yn y gwanwyn a’r haf. Mae rhai yn awgrymu fod yr ieir Ffrengig yn y gân yn cynrychioli ffydd, gobaith, cariad, felly ia, mi gymrai hynny hefyd. Byddai’n braf cael ffydd a gobaith fod arweinwyr y byd yn ddidwyll yn eu hymrwymiad i gytundeb diweddaraf COP28...

O ran y four calling birds, mae teulu o ditws cynffon hir yn dod heibio’r ardd acw yn achlysurol, ac mae eu parablu prysur wrth chwilio am bryfaid o gangen i gangen yn llenwi’r aer ac yn llonni calon. Hir oes i’r pompoms bach hyfryd pinc a llwyd. 

Os ga’i fod yn ddigywilydd am eiliad Santa, tydw i heb gael cyfle i fynd i Lysfaen hyd yma i edrych am aderyn harddaf y gaeaf, cynffon sidan (waxwing). Mae mwy na’r arfer ohonyn nhw wedi mudo yma o Sgandinafia a Rwsia eleni: tybed fedri di yrru rhai ohonyn nhw i lawr ffordd hyn am ddiwrnod neu ddau i mi gael cipolwg ar eu plu trawiadol? Yn y cyfamser, dwi’n gaddo plannu mwy o goed criafol ac aeron eraill ar gyfer y gaeafau i ddod gan obeithio am fewnlifiadau mawr eto, fel yr un dros aeaf 1989/90 welodd yr adar ymhob un o hen siroedd Cymru heblaw tair, gan gynnwys ia, Meirionnydd!

Dwi’n weddol hawdd fy mhlesio, felly byddai’r uchod yn ddigon i gadw’r ba hymbyg rhag dod i’r wyneb. Efallai y cawn drafod y flwyddyn nesa sut mae cael chwe gwydd i ddodwy ganol gaeaf, ac mi awn ryw dro arall i weld saith alarch yn nofio. A dweud y gwir, efallai yr a’i yfory -os bydd gosteg yn y glaw- i weld yr haid o elyrch y gogledd (whooper swans) sy’n pori caeau Pont Croesor bob gaeaf.

Ond am y 5 modrwy, y morwynion sy’n godro, a’r dawnswyr a’r neidwyr, a’r drymwyr aballu: mi gewch chi rannu’r rheini efo plant da eraill Cymru.

Diolch Sion Corn. Diwrnod byrra’r flwyddyn hapus i chi a phawb arall gyda llaw. Mae’r 21ain o Ragfyr yn drobwynt pwysig yn y gaeaf; ac mi gawn edrych ymlaen at ychydig funudau yn fwy o olau dydd bob wythnos nes y bydd hi’n wanwyn eto!
- - - - - - - - - - - - - 

Ymddangosodd yn wreiddiol* yng ngholofn Byd Natur Yr Herald Cymraeg (Daily Post), 21ain Rhagfyr 2023.

*Dan y bennawd "Rhestr i Sion Corn".

LLUN- 12 Diwrnod gan Xavier Romero-Frias, oddi ar Comin Wici dan drwydded by-sa 3.0


30.11.23

Apus Dyrfa

Tua diwedd Gorffennaf eleni, fel can Gorffennaf o’r blaen, mentrodd cyw gwennol ddu (swift, Apus apus) i olau dydd, a gollwng ei hun o’i nyth uchel, dan do hen adeilad yn ‘Stiniog, ac ymestyn ei adenydd am y tro cyntaf i ymuno efo’i deulu uwchben y dref. Mae’r cyw hynnw dal yn yr awyr rwan, rywle yng Ngweriniaeth y Congo. Tydi o heb lanio o gwbl! Mae o’n bwyta, yfed a chysgu yn yr awyr, a chredwch neu beidio, mi fydd yn haf 2025 cyn iddo gyffwrdd â’r ddaear eto.

Mi fydd yn dychwelyd i Gymru ganol Mehefin -tua mis ar ôl ei rieni- ar ôl bod yn haf hemisffer y de trwy’n misoedd oer ni, ond bydd blwyddyn gron arall wedyn cyn glanio i fagu cywion ei hun.

Llun Ben Stammers

Er bod wythnosau ers i’r wenoliaid duon adael ar eu taith hir tua chanol Affrica, daeth llond ystafell o bobl i Blas Tan-y-bwlch wythnos diwethaf i glywed y diweddaraf am yr ymdrechion i warchod yr adar anhygoel yma. Clywsom gan Ben Stammers o Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru bod yr arolwg adar blynyddol ym Mhrydain yn dangos gostyngiad dychrynllyd yn eu niferoedd. Yng Nghymru bu dirywiad syfrdanol o 75% rhwng 1995 a 2021, ac maen nhw bellach ar y rhestr goch o adar dan fygythiad. Meddyliwch: collwyd tri chwarter y gwenoliaid duon mewn chwarter canrif!

Llun YGNC

Er yn weddol anodd eu cyfri’n fanwl, wrth wibio heibio ar frys a phlethu ymysg ei gilydd blith draphlith, mae’r niferoedd a welaf o’n gardd wedi gostwng o flwyddyn i flwyddyn. Bob mis Awst, mae diwrnod yn dod pan dwi’n sylweddoli -mwya’ sydyn- nad ydw i wedi eu gweld na’u clywed ers tro a dwi’n hiraethu’n syth am eu sgrechian byrlymus wrth hela pryfaid fel haid o grymanau neu bwmerangs tywyll yn hollti trwy’r awyr i bob cyfeiriad ar ddiwrnod braf.  Mae’n ddychrynllyd dychmygu y gallwn weld hafau yn y dyfodol heb eu tyrfa’n cadw twrw llon uwchben.

O edrych ar eu llun, mae’n amlwg fod pob gewyn a phluen wedi esblygu’n berffaith i fyw yn y gwynt, a’u traed cwta o’r golwg yn y plu tra’n hedfan, dim ond mewn defnydd wrth lanio yng ngheg y nyth. Ystyr yr enw gwyddonol Apus mae’n debyg ydi ‘heb draed’!

Difyr oedd clywed Ben yn dweud wrth y gynulleidfa:

“Yn wahanol i’r arfer, tydi enw Cymraeg yr aderyn yma ddim yn well na’r enw Saesneg, oherwydd tydi o ddim yn wennol, a tydi o ddim yn ddu ‘chwaith!”.
Er bod ganddo gynffon fforchog sy’n nodweddiadol o wenoliaid, mae’n perthyn yn agosach at y troellwr mawr (nightjar) ac hyd yn oed deulu’r sïednod (hummingbirds). Brown tywyll ydi lliw’r plu, ac mae ganddyn nhw ên goleuach hefyd.

Llun Ben Stammers

Tybir fod llawer peth yn cyfrannu at eu trafferthion; newid ym mhatrymau tywydd a’r tymhorau oherwydd newid hinsawdd, neu golli cynefin yn Affrica er enghraifft. Roedd colli safleoedd nythu wrth i bobl adnewyddu tai yn bryder mawr ar un adeg, ond mae blychau nythu arbennig yn hawdd eu cael a chymharol hawdd eu gosod erbyn hyn -rhai yn allanol ar hen adeiladau, ac eraill i’w ymgorffori o fewn waliau adeiladau newydd- ac yn profi’n llwyddiant mawr mewn sawl ardal. Mae ymchwil yn dangos erbyn hyn fod diffyg bwyd yn bwysicach na diffyg safleoedd nythu, ac elfen allweddol ydi’r gostyngiad torcalonnus sydd wedi bod yn yr un cyfnod mewn niferoedd pryfetach o bob math- maes arall efo ystadegau brawychus. 

Hawdd ydi digalonni, ond be fedrwn ni wneud i helpu’r wennol ddu? Wel, os nad oes gennych wal uchel, addas, be am noddi blwch i’w osod ar adeilad cyhoeddus -mae cannoedd wedi eu gosod ar draws y gogledd eisoes. Gofalwch nad oes nythod cyn llenwi tyllau mewn waliau a dan eich bondo, neu holwch am gyngor. 

Un weithred hawdd iawn, ydi dechrau wrth ein traed a garddio heb bla-laddwyr a meithrin planhigion sydd o fudd i bryfed amrywiol, ac annog eich cyngor i wneud yr un peth yn eich parc lleol ac ar leiniau glaswellt eich cymuned a’ch priffyrdd. Pan ddaw’r wenoliad duon yn ôl ym mis Mai, gallwn i gyd fwynhau eu cri uwchben eto ac am flynyddoedd i ddod gobeithio, tra’n ymhyfrydu mewn gardd, neu barc llawn blodau a gwenyn a glöynnod.

- - - - - - - - - - - 

Gyda diolch i Ben Stammers a'r YGNC am gael defnyddio eu lluniau

Ymddangosodd yn wreiddiol* yng ngholofn Byd Natur Yr Herald Cymraeg (Daily Post), 30 Tachwedd 2023


*O dan y bennawd siomedig a di-ddychymyg 'Gwenoliaid Duon'..!