Tyfu bwyd, hel fy nhamaid, a'r byd o nghwmpas i, 700 troedfedd uwchben lefel y môr.

10.7.12

Ffrwyth Llafur


Mi gymerais i ddwyawr i ffwrdd bnawn Llun am ei bod yn sych, er mwyn piciad i’r rhandir.
(Mi dynnis i ambell i lun sâl ar y ffôn tra oeddwn yno).
 

Roeddwn isio codi rhyw fath o gysgod rownd y swîtcorn, oherwydd tydyn nhw dal heb dyfu modfedd ers eu plannu allan ddiwedd Mai! 
Dwi’n gobeithio y cân nhw well chwarae teg os roddaf  'chydig o loches iddynt rhag y gwynt sy’n chwipio dros y safle. Y drwg ydi, mae'r tymor yn rhuthro heibio ac efallai nad oes digon o amser ar ôl bellach iddyn' nhw dyfu, blodeuo, cnapio, a chwyddo...


Daeth llond dwrn o fafon ar un o’r llwyni, felly mi ges fwynhau dau ohonynt yn y fan a’r lle. Cynnyrch cynta’r rhandir! Roedd adar wedi bwyta’r rhan fwya’ o’r ddau arall, felly mae’n amlwg y bydd yn rhaid imi warchod y ffrwythau meddal i gyd y flwyddyn nesa.
Mae’r pys a’r ffa melyn (broad) yn dod yn dda rŵan; digonedd o flodau ac addewid am lwyth o bods. Mae ambell boden wedi datblygu ar y pys, ond mae ffa Padrig ar randir 4 wedi altro dipyn mwy na fy rhai i yn y mis dwytha ‘ma. Mi fues i’n clymu’r pys i’w cansenni ac yn tynnu’r planhigyn gwanaf os oedd dau hadyn wedi egino efo'i gilydd. Roedd hyn yn rhoi cnwd bach o ddail blaen ifanc, melys i mi eu cnoi wrth fy ngwaith...dim cystal â’r pys cynta’ pan ddôn nhw, ond blasus iawn serch hynny. Mi ges flas ar ddail blaen ambell i ffeuen hefyd, ond mae’r rhain yn well wedi’u trin fel sbinaij mewn pryd poeth dwi’n meddwl.
 
Roedd gen i rhyw chydig o ddarnau o gardbord eto, i'w rhoi ar lawr i greu gwely 'lasagne' eto. Hynny ydi rhoi haen o gardbord ar lawr i ladd y tyfiant; haen o doriadau gwair wedyn; mwy o gardfwrdd...a'r bwriad ydi adeiladu'r gwely efo pridd, compost, toriadau, ...ayb nes cael gwely uchel arall at y flwyddyn nesa.


Chwynnu oedd yr unig beth arall fues i’n wneud yno, er, dwi ddim yn helpu fy hun weithiau...Mi fues i yno ganol wythnos dwytha, yn strimio’r glaswellt oedd wedi tyfu’n gryf mewn un cornel a rhwng y gw’lau. Wrth strimio, roeddwn yn chwalu hadau’r gwair ar hyd bob man, felly mwy o waith o mlaen i mae’n siŵr!

2 comments:

  1. Am flwyddyn i ddechrau rhandir! Efalla dy fod ti'm iawn am y switcorn yn anffodus, mae o yn hoffi dipyn o haul. Hyd yn oed yn Lloegr, ar dir sydd yn bell o fod yn fynyddig, dydi'r llysiau ddim yn gwneud mor dda eleni. Felly pob lwc i chdi a diolch am y blog difyr

    ReplyDelete
  2. Diolch Ann.
    Dwi'n falch iawn o fy milltir sgwar, ond mae tywydd Stiniog yn draul ar bawb weithiau! Ara' deg mae dal iar medden nhw; gyda lwc mi ddaw pethau'n well ar y rhandir erbyn y flwyddyn nesa'...

    ReplyDelete

Diolch am eich sylwadau