Tyfu bwyd, hel fy nhamaid, a'r byd o nghwmpas i, 700 troedfedd uwchben lefel y môr.

17.6.12

Hidlo gwybed

Astrantia major Moulin Rouge
Diwrnod sych o’r diwedd. Ond roedd yn Sul y Tadau yn ’d oedd, felly rhwng cael fy sbwylio gan y genod, a galw efo cerdyn i nhad innau, wnes i ddim byd yn yr ardd tan yn hwyr yn y bore. O, mam bach, mae ‘na gant-a-mil o bethau i’w gwneud...lle mae dechrau?

Roeddwn yn ysu i gael torri’r glaswellt ers tro, felly dyna fu raid wneud yn gynta. Roedd angen hefyd strimio llain yn y cae o dan derfyn isa’r ardd. Dwi wedi cael caniatâd i wneud hyn bob haf gan y ffarmwr sydd bia’r cae. Mae’r tir hwnnw wedi bod dan ddau gynllun amgylcheddol  (Tir Cymen gynta, wedyn Tir Gofal) ers ugain mlynedd i greu coedwig newydd yno, ac heb ei bori ers hynny. Y broblem ydi nad oes coed yno o gwbl bron...dim ond mieri, a hwnnw’n brasgamu at yr ardd yn gynt na fedra'i ei dorri bron.
Mi fues i wrthi am sbelan dda yn lladd a hel gwair; wedyn yn chwynnu a chlirio; clymu pys a ffa i’w cansenni, a chydig o hyn, llall, ac arall, heb wneud fawr ddim arall sylweddol.


Un o ngwendidau mawr i ym mhob maes o fywyd ydi symud o un peth i’r llall, wrth i wahanol bethau dynnu fy sylw. Dim ffocws; hwnna ydi o. Felly mae talpiau o amser yn diflannu wrth i mi dindroi ac ymhel â phethau sydd ddim yn cyfrannu at unrhyw restr o bethau sydd angen eu gwneud. Mae o fel trio cael trefn ar niwl y Migneint weithia’.

Darn pella'r ardd gefn sydd yn y llun yma. Cyn cael y rhandir roedd yn rhaid gwasgu pob cnwd i fan hyn: tri gwely hirsgwar ar gyfer llysiau blynyddol, ac un gwely drionglaidd efo llus mawr. 
Blodau gwyllt oedd i fod yn y darn glaswellt, ond gweiriach a marchrawn ydi'r unig bethau sy'n tyfu yno bellach, felly dwi am blannu dwy goeden gwsberins yno.
Y cymydog sydd bia'r mwg yn y cefndir.



 Asiffeta roedd y gwybed bach yn boen heddiw. Doedd yr haul na’r gwynt ddim yn ddigon cryf i gadw’r diawled i ffwrdd, ac roedd yn rhaid i mi redeg i’r tŷ bob hyn a hyn, efo clustiau coch, poeth, i chwilio’n ofer  am gŵyn gan rywun. Ond mae’r iPod, a Gweplyfr, a Sbwnj-Bob yn bwysicach na Sul y Tadau mae’n amlwg!

Roedd llwyth o bryfetach eraill o gwmpas hefyd ac roedd mwy o groeso i'r rheiny. Mae'n wych gwylio gwenyn yn hel neithdar a phaill o flodyn i flodyn -gweler 'Lun y Mis'. Welis i ddim un gloyn byw, dim ond ambell i wyfyn heddiw.



Troed y golomen
Pry' tail, ar ddail crib y ceiliog -Crocosmia





2 comments:

  1. Dwlu ar droed y golomen - mae rhai Asturias yn lasach (neu'n llai porffor) na'r un yn y llun.

    ReplyDelete
  2. Diolch Cath; mae 'na amrywiaeth o liwiau ar yr Aquilegias yn yr ardd, ond y piws cyfoethog yma ydi'r un oedd yma pan brynson ni'r ty. Maen nhw'n gallu bod yn boen wrth hadu ymhob man, ond mae'n hawdd maddau'r fath brydferthwch, ac mae llawer iawn ohonyn nhw'n cael llonydd i dyfu.

    ReplyDelete

Diolch am eich sylwadau