| Astrantia major Moulin Rouge |
Diwrnod sych o’r diwedd. Ond roedd yn Sul y Tadau yn ’d
oedd, felly rhwng cael fy sbwylio gan y genod, a galw efo cerdyn i nhad innau, wnes
i ddim byd yn yr ardd tan yn hwyr yn y bore. O, mam bach, mae ‘na gant-a-mil o
bethau i’w gwneud...lle mae dechrau?
Roeddwn yn ysu i gael torri’r glaswellt ers tro, felly
dyna fu raid wneud yn gynta. Roedd angen hefyd strimio llain yn y cae o dan
derfyn isa’r ardd. Dwi wedi cael caniatâd i wneud hyn bob haf gan y ffarmwr
sydd bia’r cae. Mae’r tir hwnnw wedi bod dan ddau gynllun amgylcheddol (Tir Cymen gynta, wedyn Tir Gofal) ers ugain
mlynedd i greu coedwig newydd yno, ac heb ei bori ers hynny. Y broblem ydi nad
oes coed yno o gwbl bron...dim ond mieri, a hwnnw’n brasgamu at yr ardd yn gynt na fedra'i ei dorri bron.
Mi fues i wrthi am sbelan dda yn lladd a hel gwair;
wedyn yn chwynnu a chlirio; clymu pys a ffa i’w cansenni, a chydig o hyn, llall, ac arall, heb wneud fawr ddim arall sylweddol.
Un o ngwendidau mawr i ym mhob maes o fywyd ydi symud o
un peth i’r llall, wrth i wahanol bethau dynnu fy sylw. Dim ffocws; hwnna ydi
o. Felly mae talpiau o amser yn diflannu wrth i mi dindroi ac ymhel â phethau
sydd ddim yn cyfrannu at unrhyw restr o bethau sydd angen eu gwneud. Mae o fel
trio cael trefn ar niwl y Migneint weithia’.
Darn pella'r ardd gefn sydd yn y llun yma. Cyn cael y rhandir roedd yn rhaid gwasgu pob cnwd i fan hyn: tri gwely hirsgwar ar gyfer llysiau blynyddol, ac un gwely drionglaidd efo llus mawr.
Blodau gwyllt oedd i fod yn y darn glaswellt, ond gweiriach a marchrawn ydi'r unig bethau sy'n tyfu yno bellach, felly dwi am blannu dwy goeden gwsberins yno.
Y cymydog sydd bia'r mwg yn y cefndir.
Asiffeta roedd y gwybed bach yn boen heddiw. Doedd yr
haul na’r gwynt ddim yn ddigon cryf i gadw’r diawled i ffwrdd, ac roedd yn
rhaid i mi redeg i’r tŷ bob
hyn a hyn, efo clustiau coch, poeth, i chwilio’n ofer am gŵyn
gan rywun. Ond mae’r iPod, a Gweplyfr, a Sbwnj-Bob yn bwysicach na Sul y Tadau
mae’n amlwg!
Roedd llwyth o bryfetach eraill o gwmpas hefyd ac roedd mwy o groeso i'r rheiny. Mae'n wych gwylio gwenyn yn hel neithdar a phaill o flodyn i flodyn -gweler 'Lun y Mis'. Welis i ddim un gloyn byw, dim ond ambell i wyfyn heddiw.
| Troed y golomen |
| Pry' tail, ar ddail crib y ceiliog -Crocosmia |
